Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

59.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Bernie Attridge gysylltiad personol ag Eitem 8 ar y Rhaglen – Costau Byw a Diwygio Lles gan fod ei ferch yn cael Taliad Disgresiwn at Gostau Tai.

 

Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol fel Tenant y Cyngor.

60.

Cofnodion pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd a 13 Rhagfyr, 2023 fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd a 13 Rhagfyr, 2023 i’w cymeradwyo. 

 

13 Rhagfyr 2023

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin, cytunwyd bod copi o ganlyniad yr adolygiad o safle’r garej fesul ward yn cael ei ddosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor o fewn y mis nesaf.

 

Cafodd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd a 13 Rhagfyr 2023 eu cymeradwyo fel cofnod cywir, a’u cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans a’r Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd fel cofnodion cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

61.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried gan sôn am y diwygiadau canlynol a oedd wedi’u gwneud ers y cyfarfod diwethaf:-

 

  • Byddai’r adroddiad am yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol, a oedd i fod i gael ei gyflwyno ym mis Chwefror yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Mawrth bellach; a
  • Byddai adroddiad y Gyllideb 2024/25 yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yng nghyfarfod mis Chwefror.

 

O ran y ddogfen olrhain camau gweithredu, a ddangosir fel Atodiad 2 yr adroddiad, dywedodd yr Hwylusydd fod y llythyr a oedd i’w anfon at Lywodraeth Cymru (LlC) am bwysau o ran cyllid ar gyfer digartrefedd wedi’i gymeradwyo gan y Cadeirydd ond roedd yn cael ei adolygu yn dilyn cyhoeddiad cyllideb diweddar LlC a byddai’n cael ei anfon cyn y cyfarfod nesaf. 

 

Dywedodd yr Hwylusydd hefyd ei bod yn dal i ofyn am y wybodaeth ariannol a ofynnwyd amdani am Leoliadau y Tu Allan i’r Sir, a allai gael ei chynnwys yn adroddiad y gyllideb sydd i gael ystyriaeth yn y cyfarfod nesaf. 

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu gofynnol.

62.

Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023 pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad am Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023 a rhwymedigaethau’r Cyngor sy’n ymwneud â darparu’r safonau newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai, adroddiad i roi diweddariad am Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC 2 2023) newydd a rhwymedigaethau’r Cyngor sy’n ymwneud â darparu’r safonau newydd.  

 

Llwyddodd y Cyngor i gwblhau’r rhaglen waith SATC flaenorol fel bod holl stoc y Cyngor yn bodloni’r Safon, ac roedd y rhaglen bellach yn y cam cynnal a chadw o’r rhaglen, gan ddarparu gwaith buddsoddi pellach i’r cydrannau hynny o fewn eiddo lle bod angen.  O ganlyniad i’r safonau newydd, byddai gofyn i’r Cyngor ddiweddaru ei fanylebau, briffiau gwaith a rhaglenni gwaith er mwyn cydymffurfio a’r canllawiau newydd.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth y prif Safonau a nodwyd ar gyfer yr holl dai cymdeithasol fel a ganlyn:-

 

·         Mewn cyflwr da.

·         Bod yn saff a diogel.

·         Yn fforddiadwy i’w gwresogi a chael yr effaith leiaf bosibl ar yr amgylchedd.

·         Yn cynnwys ardal gyfleustodau a chegin fodern.

·         Yn cynnwys ystafell ymolchi fodern.

·         Yn gyfforddus ac yn hybu lles.

·         Yn cynnwys gardd addas ac

·         Yn cynnwys lle deniadol y tu allan.

 

Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth am themâu newydd SATC 2 a’r amserlen ar gyfer cyrraedd y safon, fel a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ted Palmer ei fod yn pryderu nad oedd wedi cael holiadur fel Deiliaid Contract a gofynnodd a fyddai SATC 2 yn welliant ar y gwaith a wnaed fel rhan o SATC.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr holiaduron yr oedd yn cyfeirio atynt yn ei gyflwyniad yn cyfeirio at yr holiaduron gwreiddiol a anfonwyd at Ddeiliaid Contract yn 2014.  Byddai holiaduron pellach yn cael eu hanfon fel rhan o’r broses ymgynghori ar gyfer SATC 2.  Dywedodd hefyd y byddai SATC 2 yn welliant ar safon SATC, yn benodol mannau agored cymunedol a mynediad. 

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Geoff Collett am ‘Sero Net’, eglurodd y Rheolwr Gwaith Cyfalaf beth oedd ystyr ‘Sero Net’ fel rhan o SATC 2, gan amlinellu bioamrywiaeth fel sbardun tuag at sero net a lleihau allyriadau carbon.  Eglurodd hefyd fod angen edrych ar bob man gwyrdd a mannau a allai gael eu defnyddio i helpu i hyrwyddo bywyd gwyllt. 

 

Soniodd y Cynghorydd Bernie Attridge am y posibilrwydd i weithredu cynlluniau adfywio ar rai o’r ystadau a gofynnodd a fyddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r buddion i ardaloedd lle’r oedd nifer o eiddo’r Cyngor wedi’u prynu fel rhan o’r cynllun hawl i brynu.  Roedd y Rheolwr Gwasanaeth yn cytuno y byddai’n haws adfywio ardal lle’r oedd yr holl eiddo’r Cyngor yn dal i fod dan berchnogaeth y Cyngor a bod angen i’r Cyngor fod yn ofalus sut yr oedd arian y Cyfrif Refeniw Tai yn cael ei wario.  Dywedodd y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal gydag Aelodau a deiliaid contract wrth i’r Cyngor symud ymlaen â’i gynlluniau buddsoddi.  

 

Gan ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Pam Banks ynghylch difrod a achosir mewn eiddo, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod pob contractwr yn cael eu briffio ac y gofynnir iddynt ddarparu gofal priodol er mwyn diogelu eiddo rhag niwed diangen.  Gofynnodd yr  ...  view the full Cofnodion text for item 62.

63.

Darpariaeth Meysydd Parcio - Eiddo’r Cyngor pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Rhoi trosolwg o Raglen Amgylcheddol y Cyngor sy’n cynnwys darparu meysydd parcio yn eiddo’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai adroddiad a oedd yn canolbwyntio ar y gwaith a oedd wedi’i gwblhau ac a oedd yn parhau i gael ei gyflwyno trwy Raglen Amgylcheddol y Cyngor, a oedd yn cynnwys darpariaeth meysydd parcio. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth wrth y Pwyllgor sut yr oedd y cynlluniau’n cael eu hasesu a thrafodwyd y matrics sgorio ar gyfer sut byddent yn penderfynu lle byddai gwaith yn cael ei flaenoriaethu a’i gwblhau.  Defnyddiwyd y matrics meysydd parcio i sgorio pob un a oedd yn ddichonadwy ac a allai fynd yn eu blaenau yn unol â’r gyllideb.

 

Dywedodd fod nifer o Aelodau wedi cyflwyno sawl cais am gynlluniau, gan gynnwys prosiectau yr oedd angen trwyddedau er mwyn parcio ynddynt.  Dywedodd hefyd fod sawl cymhlethdod wedi’u nodi, a’u bod yn cael eu hystyried, ond dywedodd fod rhaid iddynt gydymffurfio â’r Polisi Gwasanaethau Stryd hefyd.  Roedd bwriad i ymgynghori gyda phob Aelod o ran pa gynlluniau allai gael eu symud ymlaen. 

 

Fe amlinellodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol a’r Aelod Cabinet Tai ac Adfywio yr angen i roi ystyriaeth ofalus i weithredu cynlluniau trwyddedau parcio oherwydd y pwysau presennol ar y Tîm Gorfodaeth. 

 

Gan ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin ynghylch ymgynghoriad ag Aelodau, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y rhan fwyaf o geisiadau am gynlluniau parcio wedi’u gwneud gan Aelodau a byddai ymgynghori’n digwydd gydag Aelodau Lleol cyn i benderfyniad gael ei wneud am gynllun. 

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Linda Thew am gynlluniau parcio’n cysylltu â dymchwel safleoedd garejys, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod cynllun tebyg ar waith ar gyfer safleoedd o’r fath, sy’n ffurfio rhan o raglen ar wahân.  Roedd safleoedd o’r fath yn cael eu hystyried ar gyfer mannau parcio/adeiladau newydd/ardaloedd dad-ddofi.  Gofynnodd i’r Cynghorydd Thew rannu gwybodaeth am safleoedd yr oedd wedi’u nodi. 

 

Soniodd y Cynghorydd David Evans am yr angen am ragor o fannau parcio oddi ar y ffordd i breswylwyr ond mynegodd bryder am drwyddedau parcio a’r tegwch o ran sut y byddent yn cael eu dyrannu gan y byddai o fudd i rai ac nid eraill, a gallai olygu bod cymdogion yn cystadlu am le parcio.  Dywedodd y byddai anghydraddoldeb bob amser o ran y rhai oedd â dreif er mwyn parcio am ddim, a’r rhai nad oedd ganddynt ddreif ac a oedd yn gord talu am drwydded.  Dywedodd nad oedd yn cefnogi cynllun trwyddedau parcio, am y rhesymau a nododd.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai trwyddedau parcio ar gyfer eiddo’r Cyngor yn unig, a bod llety tai gwarchod yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd.  Ni fyddai’r cynllun yn cynnwys preswylwyr preifat.  Soniodd yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio am yr heriau o ran darparu digon o fannau parcio gan fod gan rai teuluoedd fwy nag un cerbyd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Rush am wybodaeth am gost cyfartalog darparu dreif.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth mai’r gost gyfartalog oedd tua £2,000-£3,000 fesul dreif.  Y gyllideb fyddai’n  ...  view the full Cofnodion text for item 63.

64.

Adolygu Ffioedd Gwasanaeth Larwm pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        I amlinellu’r cynnig i adennill y costau llawn ar gyfer gwasanaeth larymau’r Cyfrif Refeniw Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai, Lles a Chymunedau) adroddiad a oedd yn darparu manylion am gynnig i gynyddu’r ffi gwasanaeth i bob preswylydd llety gwarchod a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth larwm ar hyn o bryd a byddai’r ffi gwasanaeth yn berthnasol i bob eiddo gwarchod o’r dyddiad gosod yn y dyfodol. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y Cyngor yn darparu ystod o wasanaethau i drigolion, i’r gymuned ac i ymwelwyr y gall godi ffi neu dâl amdanynt a chynhyrchu incwm o ganlyniad.  Roedd 2,592 o unedau llety tai gwarchod yn stoc tai’r Cyngor (Cyfrif Refeniw Tai) ac ar ôl adolygiad o’r gwasanaeth warden yn 2009, daeth y gwasanaeth hwn i ben, a chrëwyd y Gwasanaeth Cefnogi Llety yn y Gymuned.  Roedd y gwasanaeth yn darparu gwasanaeth daliadaeth niwtral i unrhyw berson h?n yn Sir y Fflint allai fod angen cefnogaeth sy’n ymwneud â thai.

 

Yn ogystal, roedd y gwasanaeth yn darparu gwasanaeth ymateb ar gyfer achosion o ganu larwm.  Ar gyfer preswylwyr y Cyfrif Refeniw Tai, roedd hwn yn wasanaeth 24 awr, gan weithredu gwasanaeth y tu allan i oriau swyddfa o’rtu mewn i’r tîm (gyda’r nos, dros nos a phenwythnosau).  Y cynnig a amlinellwyd yn yr adroddiad oedd gweithredu’r ffi gwasanaeth uwch i bob preswylydd llety gwarchod a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth larwm ar hyn o bryd.  Byddai’r ffi yn cael ei gweithredu ar gyfer pob preswylydd newydd mewn cynlluniau llety gwarchod lle’r oedd larwm wedi’i gosod, yn unol â’r broses bresennol ar ddechrau eu contract newydd.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ganmoliaeth i’r gwasanaeth larwm gan ddweud ei fod yn wasanaeth ardderchog i ddeiliaid contract mewn llety gwarchod a bod y deiliaid contract hynny’n ei werthfawrogi’n fawr.

 

Roedd y Cynghorydd Ted Palmer yn pryderu bod y ffi gwasanaeth yn cael ei gweithredu i bob llety gwarchod o’r dyddiad gosod yn y dyfodol, o ystyried bod rhai deiliaid contract mewn llety gwarchod tua 55 oed, ac na fyddai angen y gwasanaeth arnynt o bosibl.  Rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai deiliaid contract yn cael gwybod am y ffi gwasanaeth cyn cytuno i osod llety gwarchod yn y dyfodol.

 

Gan ymateb i gwestiwn am ôl-ddyddio’r cynnydd, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai’r cynnydd yn cael ei weithredu o 1 Ebrill, 2024, felly ni fyddai unrhyw gostau wedi’u hôl-ddyddio yn cael eu hychwanegu.

 

Cytunwyd bod y sylwadau a’r argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet. 

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’i eilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi a chymeradwyo’r cynnig i adennill cost lawn gwasanaeth larwm y cyfrif refeniw tai.

65.

Costau Byw a Diwygio’r Gyfundrefn Les pdf icon PDF 189 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r gwaith sy’n cael ei wneud i liniaru’r effeithiau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai, Lles a Chymunedau) adroddiad i ddarparu diweddariad gweithredol cyfun ar effaith ymateb y diwygiadau lles diweddaraf a chynlluniau costau byw i gefnogi preswylwyr.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar yr effaith y mae diwygiadau lles yn parhau i’w chael ar breswylwyr Sir y Fflint a’r gwaith sy’n digwydd i’w lliniaru ac i gefnogi aelwydydd sy’n cael eu heffeithio.  Roedd yr argyfwng costau byw yn effeithio ar aelwydydd diamddiffyn bellach hefyd ac roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am amrywiaeth o fesurau a gaiff eu gweithredu i helpu’r rhai y mae’r argyfwng costau byw yn effeithio arnynt a’r gefnogaeth a ddarperir i breswylwyr i helpu i liniaru’r effaith negyddol hon.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth ddiweddariad manwl ar y meysydd canlynol a amlinellwyd yn yr adroddiad:-

 

·         Cymhorthdal Ystafell Sbâr

·         Effaith yn Sir y Fflint

·         Uchafswm Budd-daliadau

·         Effaith yn Sir y Fflint

·         Cynllun Cymorth Biliau Ynni – Cyllid Amgen

·         Taliad Tanwydd Amgen – Cronfa Amgen

·         Prydau Ysgol Am Ddim i’r holl Ddisgyblion Cynradd a Hawl i Brydau Ysgol Am Ddim

·         Grant Hanfodion Ysgol (Grantiau Gwisg Ysgol)

·         Cymorth Lles

·         Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai

·         Newidiadau yn y Dyfodol

 

Soniodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin am yr anawsterau o ran annog rhieni i gofrestru ar gyfer y cynlluniau a gofynnodd a oedd unrhyw wybodaeth y gellid ei darparu i rieni i roi gwybod iddynt y gallent wneud cais am gymorth ariannol arall pe baent yn gwneud cais am gymorth ariannol penodol.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai’r Cyngor yn parhau i weithio gydag ysgolion i hyrwyddo Prydau Ysgol Am Ddim i’r holl Ddisgyblion Cynradd.

 

            Yn dilyn cais bod y wybodaeth yn yr adroddiad yn cael ei dosbarthu i’r holl Aelodau er gwybodaeth, awgrymwyd bod taflen wybodaeth yn cael ei chynhyrchu a’i dosbarthu i bob Aelod o’r Cyngor. 

 

            Yn dilyn sylwadau pellach am annog rhieni i wneud cais am Brydau Ysgol Am Ddim i’r holl Ddisgyblion Cynradd, awgrymwyd bod llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru (LlC) i ofyn eu bod yn annog rhieni ar lefel genedlaethol i barhau i wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim.

 

Fe gafodd yr argymhellion, fel a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys argymhelliad ychwanegol, sef fod y Pwyllgor yn ysgrifennu at LlC i ofyn eu bod yn annog rhieni ar lefel genedlaethol i barhau i wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim, eu cynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus i reoli’r effaith y mae diwygio’r gyfundrefn les yn ei chael, ac y byddai’n parhau i’w chael, ar rai o’r preswylwyr mwyaf diamddiffyn;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi'r mesurau cymorth a roddwyd ar waith drwy Lywodraeth Cymru i liniaru'r argyfwng costau byw; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn eu bod yn annog rhieni ar lefel genedlaethol i barhau i wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim.

66.

Polisi Rheoli Tai ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol pdf icon PDF 128 KB

Pwrpas:        Rhoi trosolwg o’r newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i Bolisi Rheoli Tai a Pholisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol er mwyn ymateb i Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai, Lles a Chymunedau) adroddiad i roi trosolwg o'r newidiadau a wnaed i'r Polisi Rheoli Tai a’r Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth mai Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr 2022, oedd y newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ersdegawdau.  Roedd y ddeddfwriaeth newydd wedi newid y ffordd y mae pob landlord yngNghymru yn rhentu eu heiddo, a byddai’n parhau i’w newid.  Nod y Ddeddf yw symleiddio’r broses o rentu cartref yng Nghymru a rhoi mwy o wybodaeth i bartïon am eu hawliau a’u rhwymedigaethau.   Roedd y Ddeddf mewn grym yn rhannol bellach, at ddibenion gwneud rheoliadau a chyhoeddi canllawiau.

 

O ran y Polisi Rheoli Tai, roedd crynodeb o’r prif newidiadau wedi’i roi yn yr adroddiad. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth hefyd fod y Cyngor yn ymrwymedig i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gan ei fod yn cael effaith andwyol ar fywydau cwsmeriaid y Cyngor.  Roedd angen i’r Polisi adlewyrchu arfer gorau a diogelu hawliau deiliaid contract yn ogystal â lleihau'r risg i'r Cyngor am beidio â chydymffurfio â deddfwriaeth briodol.  Nod y polisi oedd sicrhau bod systemau effeithiol yn cael eu mabwysiadu i atal a lleihau nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a’u datrys cyn gynted â phosib’ drwy ymyraethau priodol ac amserol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge fod gweithdrefnau ar gyfer storio Sgwteri yn cael eu cynnwys yn y Polisi Rheoli Tai.  Dywedodd yr Uwch Reolwr na allai’r Polisi Rheoli Tai gynnwys popeth, gan fod polisïau ar wahân a oedd yn ymdrin â phethau fel sgwteri ac anifeiliaid anwes yn dod dan y Polisi Rheoli Tai.

 

Mynegwyd pryder am gryfder y Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o ran delio gydag achosion o ymosodiadau gan g?n.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol wedi’i ddatblygu mewn modd a oedd yn sicrhau y byddai pob agwedd ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn cael eu cynnwys, ac atgoffwyd Aelodau y gallai achosion o’r fath arwain at gyhuddiadau troseddol.  Awgrymwyd bod copi o’r Polisi Anifeiliaid Anwes yn cael ei ddosbarth i bob Aelod o’r Cyngor fel eu bod yn glir o ran rhwymedigaethau’r Deiliaid Contract yn hyn o beth.

 

Roedd y Cynghorydd David Evans yn croesawu cynnwys Crwydro o Amgylch Ystadau yn y Polisi, ond holodd sut oedd canlyniad camau/materion a godwyd yn cael ei rannu.  Cytunwyd i swyddogion drin hwn fel mater gweithdrefnol er mwyn gwella cyfathrebu.

 

Cytunwyd bod y sylwadau a’r argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd David Evans yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Ted Palmer y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r polisïau Rheoli Tai ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

 

67.

Aelodau'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol.