Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

44.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol fel tenant y Cyngor.

45.

Cofnodion pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 13 Medi a 11 Hydref 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Medi a 11 Hydref i’w cymeradwyo. 

 

13.09.2023

 

            Awgrymwyd bod y gair ‘properties’ yn cael ei ddiwygio i ‘prioritised’ ym mhedwerydd paragraff tudalen 12 y cofnodion Saesneg.

 

            Yn amodol ar y diwygiad a awgrymwyd, cafodd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Medi ac 11 Hydref 2023 eu cymeradwyo fel cofnod cywir, a’u cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans a’r Cynghorydd Kevin Rush. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad a awgrymwyd, cymeradwyo’r cofnodion a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.

46.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried a dywedodd fod y Rhaglen wedi’i diweddaru gydag adroddiadau ychwanegol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, yn dilyn cyfarfod gyda’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd ar ôl y cyfarfod blaenorol. 

 

O ran y gweithdy arfaethedig i’r holl Aelodau ar adsefydlu a cheisio lloches, dywedodd yr Hwylusydd fod gweithdy wedi’i drefnu ar gyfer 23 Tachwedd, 2023. 

 

Rhoddodd yr Hwylusydd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol hefyd, a dywedodd fod mwyafrif y camau gweithredu wedi’u cwblhau. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ted Palmer dderbyn yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd David Evans y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu gofynnol.

47.

Cynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai pdf icon PDF 180 KB

Pwrpas:        Ystyried Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2024/25 a’r Achos Busnes ar gyfer y CRT.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) a’r Rheolwr Cyllid Strategol - Masnachol a Thai Gynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd drafft y Cyfrif Refeniw Tai a Chyllideb arfaethedig y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25.

 

Cafwyd cyflwyniad manwl yn amlinellu’r meysydd canlynol:-

 

  • Targed carbon sero net Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer tai cymdeithasol;
  • Cynllun peilot CSFf i gyflawni carbon sero net ar gyfer tai cymdeithasol;
  • Tai cymdeithasol carbon sero net - Amcangyfrif achos busnes;
  • Rhenti;
  • Cynllun Busnes CRT - Pwysau ac Arbedion Effeithlonrwydd;
  • Fforddiadwyedd;
  • Rhenti – effaith gosod rhenti is na chap rhenti Llywodraeth Cymru;
  • Taliadau Gwasanaeth;
  • Cronfeydd wrth gefn;
  • Crynodeb

 

Dywedodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin, er ei bod yn deall bod angen cynyddu lefelau rhent, roedd hi’n pryderu am y cynnydd arfaethedig o ran costau erialau, amlinellodd y gost bresennol a dywedodd nad oedd gan ddeiliaid contract ganiatâd i gaffael eu herialau eu hunain er mwyn dod â’r costau i lawr.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Asedau nad oedd gan ddeiliaid contract ganiatâd i osod eu herialau eu hunain oherwydd bod angen cydymffurfio â rheolau iechyd a diogelwch.  Roedd cost yr erial yn cynnwys pecyn eang a oedd yn cynnwys Sky, radio FM ac ati.  Lluniwyd cytundeb rhwng y Cyngor a chwmni sawl blwyddyn yn ôl, a hwn oedd y mwyaf cost-effeithiol ar y bryd ar gyfer hurbwrcasu ar rent.  Byddai’r contract yn dod i ben dros y blynyddoedd nesaf a byddai dewisiadau eraill yn cael eu hystyried i helpu i leihau costau.  Gellid adolygu costau erialau ar wahân.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am y wybodaeth a restrir yn yr adran am Safon Ansawdd Tai Cymru 2 (SATC2) a gofynnodd a oedd nifer o’r gwelliannau wedi’u cyfrif fel rhan o’r gwaith a wnaed dan Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).  Soniodd am y taliadau gwasanaeth a gofynnodd a oedd swyddogion yn teimlo bod tenantiaid yn cael gwerth am arian a rhoddodd enghraifft lle’r oedd pobl nad oeddent yn denantiaid yn defnyddio gwasanaethau mewn lleoliad yn ei ward.  Mynegodd bryder am y cynnydd o ran rhent a oedd yn ormodol yn ei farn ef yn ystod yr argyfwng costau byw presennol ac a fyddai’n effeithio ar denantiaid sy’n gweithio’n galed nad oeddent yn gymwys i gael cymorth â budd-daliadau.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Asedau fod nifer o’r gwelliannau ar gyfer SATC2 wedi’u cynnwys yn rhaglen gynnal a chadw bresennol SATC.  Byddai SATC yn canolbwyntio ar fesurau datgarboneiddio i leihau costau rhedeg i denantiaid, a byddai hyn yn cael ei ariannu trwy incwm rhent.  Bu llawer iawn o fuddsoddiad mewn stoc tai dros y blynyddoedd blaenorol ond roedd LlC yn gofyn i Awdurdodau Lleol symud at waith effeithlonrwydd ynni bellach a chynhyrchu cynllun busnes i fodloni eu rhaglen datgarboneiddio.  O ran taliadau gwasanaeth, cynigiwyd bod adolygiad yn cael ei gynnal ar bob ardal golchi cymunedol ar draws y Sir. 

 

O ran y sylwadau am y cynnydd arfaethedig i renti, dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) fod angen cydbwyso buddsoddiad a fforddiadwyedd a dyma un o’r  ...  view the full Cofnodion text for item 47.

48.

Pwysau ar y Gyllideb Digartrefedd - Papur Opsiynau pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Cyflwyno mesurau lliniaru arfaethedig sy’n cael eu harchwilio gyda’r golwg i leihau’r pwysau cyllidebol mewn perthynas â llety brys.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal adroddiad i amlinellu dewisiadau a oedd wedi’u datblygu i’w hystyried i reoli’r gorwariant ar y gyllideb digartrefedd. 

 

Roedd cyllidebau penodol yn y gwasanaeth Datrysiadau Tai ar gyfer lleoliadau

llety i bobl ddigartref ar gyfer ‘tai dros dro’.  Yn ogystal â’r ddarpariaeth hon yn y gyllideb ar gyfer y lleoliadau hyn, gan gynnwys y Canolbwynt Digartrefedd, roedd cyllideb benodol arall ar gyfer llety brys.  Byddai’r gyllideb hon yn cael ei defnyddio pan nad oedd capasiti ar ôl mewn llety dros dro arall oedd yn y gyllideb.  Roedd y llety brys a ddefnyddiwyd yn bennaf mewn ystafelloedd gwesty o fewn ffiniau Sir y Fflint a thu hwnt, ynghyd â rhywfaint o ddefnydd o ffurfiau eraill o lety gwyliau, fel carafanau a rhandai.

 

            Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, yn Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 4) a gyflwynwyd i’r Cabinet ym mis Medi 2023, argymhellwyd bod adroddiad ar wahân yn cael ei baratoi yn ôl gofynion Rheolau Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor, i ymhelaethu ar y rhesymau dros y gorwariant sylweddol ar y gyllideb digartrefedd

a’r mesurau lliniaru a oedd yn cael eu rhoi ar waith.

 

Roedd cyllidebau penodol yn y gwasanaeth Datrysiadau Tai ar gyfer lleoliadau

llety i bobl ddigartref ar gyfer ‘tai dros dro’. Yn ogystal â’r ddarpariaeth hon yn y gyllideb ar gyfer y lleoliadau hyn, gan gynnwys y Canolbwynt Digartrefedd, roedd cyllideb benodol arall ar gyfer llety brys. Byddai’r gyllideb hon yn cael ei defnyddio pan nad oedd capasiti ar ôl mewn llety dros dro arall oedd yn y gyllideb. Roedd y llety brys a ddefnyddiwyd yn bennaf mewn ystafelloedd gwesty o fewn ffiniau Sir y Fflint a thu hwnt, ynghyd â rhywfaint o ddefnydd o ffurfiau eraill o lety gwyliau, fel carafanau a rhandai.

 

            Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod dewisiadau wedi’u datblygu i’w hystyried i reoli’r gorwariant ar y gyllideb digartrefedd, fel a ganlyn:-

 

  1. Cyflymu adolygiad o dai gwarchod – yn cynnwys llety i grwpiau dros 55 oed a grwpiau llai i rai 50 oed a h?n a’r posibilrwydd o ostwng y trothwy oedran.

 

  1. Cynnydd o ran llety i bobl ddigartref ac adolygu model tebyg i ganolbwynt Queensferry.

 

  1. Newidiadau i bolisi dyrannu – newidiadau Un Llwybr Mynediad at Dai (ULlMaD) i eiddo mynediad sengl.  (Mae cafeat ar y dull hwn oherwydd newidiadau mawr sydd i ddod i ddeddfwriaeth).

 

  1. Defnydd amgen o stoc CSFf – cymryd mwy o Dai o’r CRT i’w defnyddio fel llety dros dro a chreu cyfleoedd rhannu t? ar gyfer eiddo deiliadaeth sengl.

 

  1. Adolygu cynigion i landlordiaid preifat – cynyddu faint o arian gaiff landlordiaid am brydlesu, a/neu gynnig mwy o gymhellion.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried a darparu adborth am bob un o’r dewisiadau, fel a amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Dewis 1

 

            Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal am y cynigion dan ddewis 1, a oedd yn ymwneud â’r dewisiadau ar gyfer cyflymu’r adolygiad o dai gwarchod.

 

Codwyd nifer o bryderon am yr effaith bosibl y gallai lleihau’r trothwy oedran ei chael ar bobl  ...  view the full Cofnodion text for item 48.

49.

Incwm Rhent Tai pdf icon PDF 127 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r diweddariad gweithredol diweddaraf ar gasglu rhent tai ac amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r Polisi Adennill Dyled Corfforaethol i gryfhau’r broses orfodi rhent.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Refeniw a Chaffael y diweddariad gweithredol diweddaraf ar gasglu rhent tai, dadansoddiad o ôl-ddyledion o fwy na £5,000 a chynigion i gryfhau'r broses adennill dyled trwy ddiwygio’r Polisi Adennill Dyledion Corfforaethol a chymryd camau trwy’r llys yn awtomatig yn erbyn deiliaid contract y mae arnynt gyfwerth â 12 wythnos o rhent heb ei dalu a/neu £1,500, ac nad oeddent yn rhoi sylw i’w taliadau rhent wythnosol a’u hôl-ddyledion.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod casglu rhent tai yn dal i fod yn faes sy’n peri risg, ond roedd cyfanswm ôl-ddyledion rhent hyd at wythnos 27 yn dod i £2.6 miliwn o’i gymharu â £2.7 miliwn yr un wythnos yn y flwyddyn flaenorol, sy’n welliant o £100,000.  

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y cytunwyd yn ystod cyfarfod Pwyllgor mis Gorffennaf 2023 i ddarparu dadansoddiad manwl i Aelodau o’r deiliaid contract yr oedd arnynt fwy na £5,000 o rhent heb ei dalu i’r Cyngor.  Dangoswyd y wybodaeth hon ym mhwynt 1.04 yr adroddiad.

 

O ran y Polisi Dyledion Corfforaethol, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, er bod camau trwy’r llys yn cael eu cymryd fel dewis olaf, roedd angen cynyddol i fabwysiadu dull mwy masnachol i gasglu ôl-ddyledion rhent er mwyn sicrhau bod colledion wrth gasglu yn cael eu lleihau ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).  Roedd Atodiad 1 yr adroddiad yn nodi newidiadau arfaethedig i rannau o’r Polisi Dyledion Corfforaethol o ran casglu rhent tai.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’r Polisi o ran y trothwy ar gyfer camau cyfreithiol ar gyfer rhent tai. 

 

Cwestiynodd y Cadeirydd nifer y tenantiaid a oedd mewn ôl-ddyledion o rhwng £200 a £500 a gofynnodd a oedd hyn yn cynnwys tenantiaid a oedd yn talu trwy Ddebyd Uniongyrchol.  Eglurodd Swyddogion, os oedd tenantiaid yn talu bob mis trwy Ddebyd Uniongyrchol, y gallai hyn ddangos fel bod arnynt £250 ond ni fyddent mewn ôl-ddyledion, a siarad yn fras, gellid diystyru'r golofn gyntaf ar gyfer tenantiaid yr oedd arnynt rhwng £200 a £500.

 

Gofynnwyd cwestiynau am gostau ychwanegol cymryd camau trwy’r llys ac a ellid adennill y costau ychwanegol.  Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai’n darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor am yr atodlen o ffioedd llys ar ôl y cyfarfod.  

 

Gwnaed sylwadau o ran a oedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r ffaith fod tenantiaid a gaiff eu troi allan yn dod yn ddigartref, ac yna bod rhaid darparu llety dros dro iddynt, ynghyd â’r goblygiad o ran cost sydd ynghlwm â hynny.  Eglurodd Swyddogion waith y Panel Adolygu Achosion sy’n mynd trwy broses drylwyr a dim ond pan fyddai pob dewis wedi cael ystyriaeth y byddai’r Cyngor yn symud ymlaen i droi tenantiaid allan.  Roedd trefniadau diogelu y tu hwnt i’r Polisi Dyledion Corfforaethol.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth hefyd nad oedd unrhyw un o’r tenantiaid a gafodd eu troi allan wedi’u hailgartrefu gan y Cyngor. 

 

Cafodd argymhelliad (a), fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Geoff Collett a’i eilio gan y Cynghorydd Antony Wren.  Cafodd argymhelliad (b) fel y’i hamlinellwyd  ...  view the full Cofnodion text for item 49.

50.

Rheoli Eiddo Gwag pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad manwl i’r Pwyllgor ar Eiddo Gwag a’r gwaith sy’n cael ei wneud er mwyn gallu dechrau defnyddio eiddo o’r fath unwaith eto.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai’r ffigyrau a’r gweithgareddau allweddol wrth gyflawni’r cynllun gweithredu ar gartrefi gwag, fel y nodwyd yn y nodyn briffio.

 

Soniodd am nifer y tai gwag newydd a’r rhai a gwblhawyd, a dywedodd fod 29 eiddo wedi eu cwblhau yn barod i’w dyrannu. Amlinellodd hefyd y wybodaeth ganlynol, fel a gyflwynwyd yn y nodyn briffio:-

 

  • Nifer yr eiddo mawr gwag
  • Cyfanswm nifer yr eiddo gwag a oedd wedi gostwng i 229
  • Perfformiad y contractwyr presennol
  • Y prif resymau dros derfynu contractau

 

Fel a ofynnwyd mewn cyfarfodydd blaenorol, darparodd y Rheolwr Gwasanaeth wybodaeth am nifer yr eiddo gwag newydd a faint a oedd wedi’u cwblhau yn ôl ardal dosbarth cyfalaf, fel a amlinellwyd yn y nodyn briffio.

 

Gan ymateb i gwestiwn am fath o eiddo, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod 5 eiddo 4 ystafell wely ar hyn o bryd, ond bod angen gwaith buddsoddi mawr, a oedd wedi achosi oedi wrth iddynt gael eu dychwelyd i’w dyrannu.  Dywedodd hefyd eu bod yn parhau i gynyddu dyraniad cyflenwyr trwy reolaeth ofalus a monitro cyson.

 

            Gan ymateb i gwestiwn o ran cynyddu nifer y contractwyr, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y fframwaith wedi’i ddatblygu ar gyfer 6 chontractwr felly ni fyddai’n bosibl cynyddu’r nifer ar hyn o bryd.  Dywedodd wrth y Pwyllgor hefyd fod y Sefydliad Llafur Uniongyrchol mewnol yn parhau i weithio ar 25–30 eiddo.  Roedd contractwyr allanol wedi cynyddu eu llwyth gwaith o 50 eiddo gwag i 60 eiddo gwag ar gyfartaledd. 

  

Mynegodd y Cynghorydd David Evans bryderon am nifer yr eiddo gwag heb ymyrraeth ddigon cyflym.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Geoff Collett fod y Pwyllgor yn symud oddi wrth drefn o gael y nodyn briffio bob mis ac awgrymodd fod y Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf bob chwarter.  Roedd y Cadeirydd yn teimlo bod angen parhau i fonitro nifer yr eiddo gwag bob mis, ac roedd y Pwyllgor yn cefnogi hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.

51.

Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol.