Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

7.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dim.

8.

Cofnodion pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 16 Tachwedd 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022 eu cymeradwyo fel cofnod cywir, a’u cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’r Cynghorydd Dale Selvester.   

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

9.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas         Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried.

 

Rhoddodd y Rheolwr Budd-daliadau'r wybodaeth ddiweddaraf ar y camau gweithredu sy’n ymwneud â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.  Dywedodd fod Gwasanaethau Pwyllgorau ar hyn o bryd yn adolygu adroddiadau blaenorol i Aelodau ar Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ac y byddai diweddariad yn cael ei roi i Aelodau ar ôl y cyfarfod. 

 

            Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Dale Selvester.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 - YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD:

 

Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan fod yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried yn wybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 15 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

10.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Gosod Cyllideb 2023-24 (Cam 2)

Pwrpas:        Bod y Pwyllgor yn adolygu a rhoi sylw ar bwysau cost a’r strategaeth gyffredinol ar gyfer y gyllideb, a chynghori ar unrhyw feysydd o effeithlonrwydd cost yr hoffent edrych arnynt ymhellach.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2022/23 wrth aros am Setliad Llywodraeth Leol Cymru Dros Dro a’r broses pennu cyllideb ffurfiol.

 

Cafwyd cyflwyniad manwl gan y Rheolwr Gwasanaeth – Tai, Lles a Chymunedau, Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Atal a Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol a oedd yn ymdrin â’r meysydd canlynol:

 

·           Nodyn i’ch atgoffa o Sefyllfa Gyllideb y Cyngor

·           Pwysau o ran Costau / Gostyngiadau Cyllideb / Effeithlonrwydd y Gorffennol:

·           Trefn y Gyllideb – Cam 2

·           Trefn y Gyllideb – Cam 3 (Terfynol)

·           Y Camau Nesaf

 

Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd swyddogion ac Aelodau Cabinet i gwestiynau a sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon ynghylch y wybodaeth a ddarparwyd i'r Pwyllgor nad oedd yn teimlo ei bod yn ddigonol er mwyn i graffu priodol gael ei wneud. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod gwybodaeth wedi'i rhannu gyda'r holl Aelodau yn ystod y sesiynau gweithdy a bod y wybodaeth a ddarparwyd fel rhan o'r Rhaglen yn manylu ar yr holl wybodaeth berthnasol o ran y gyllideb a phwysau o ran costau.

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd David Evans a’u heilio gan y Cynghorydd Geoff Collett. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cael eu casglu a'u rhannu â'r Cabinet cyn ei gyfarfod ar 20 Rhagfyr, 2022.

11.

Cynllun Busnes Ariannol 30 Blynedd y Cyfrif Refeniw Tai pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Ystyried Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2023/24 a’r Achos Busnes ar gyfer y CRT.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Gyfrifydd gyflwyniad manwl a oedd yn trafod y meysydd canlynol:-

 

·         Sut rydym yn cymharu ag awdurdodau eraill sy'n dal stoc.

·         Gwerth am Arian   

·         Polisi Rhenti Llywodraeth Cymru

·         Modelu Incwm.

·         Chwyddiant Rhent Arfaethedig o 5% i bob tenant.

·         Effaith Codiad Rhent a garejys.

·         Effaith gosod rhenti yn is na'r hyn a ganiateir

·         Taliadau gwasanaeth

·         Pwysau Afreolus

·         Pwysau rheoledig wedi'u cynnwys yn y cynllun gwasanaeth

·         Yr arbedion effeithlonrwydd a nodwyd

·         Benthyca darbodus a thalu'n ôl dros 50 mlynedd

·         Lefel y gronfa wrth gefn arfaethedig o 7%

 

Mynegodd y Cynghorwyr Rosetta Dolphin a Bernie Attridge eu pryderon bod cronfeydd wrth gefn yn cael eu pennu ar 7% pan oedd y cyfartaledd yn 3%.

 

Ychwanegodd y Prif Gyfrifydd ei bod yn ofyniad cyfreithiol iddynt gadw cronfeydd wrth gefn ar 3%, ond eu bod wedi’u pennu ar 7% i ddiogelu’r cyngor rhag pwysau o ran costau yn y dyfodol, h.y. dyfarniadau cyflog. 

 

Gan ymateb i awgrym gan y Cynghorydd Attridge, cytunodd y Cynghorydd Sean Bibby, yr Aelod Cabinet Tai ac Adfywio, y gellid ystyried, yn ystod y flwyddyn, defnyddio unrhyw gronfeydd wrth gefn sydd ar gael er mwyn defnyddio eiddo gwag ychwanegol ledled Sir y Fflint.  

 

Cynigiwyd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ynghyd ag argymhelliad ychwanegol i ofyn i'r Cabinet ystyried defnyddio'r arian wrth gefn sydd ar gael yn ystod y flwyddyn os yw’n bosibl, gan y Cynghorydd Bernie Attridge a'i eilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Bod y Pwyllgor yn cefnogi Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai a'r gyllideb ar gyfer 2023/24, fel y nodir yn yr adroddiad a'r atodiadau; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn argymell i'r Cabinet y dylid ystyried, yn ystod y flwyddyn, defnyddio unrhyw gronfeydd wrth gefn sydd ar gael er mwyn defnyddio eiddo gwag ychwanegol ledled Sir y Fflint. 

12.

Y Strategaeth Dai pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Dai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol y wybodaeth ddiweddaraf flynyddol ar gynnydd tuag at gyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn Strategaeth Tai Lleol 2019-24. Roedd cynllun gweithredu ar gyfer y Strategaeth Dai a oedd yn nodi 3 blaenoriaeth gyda meysydd allweddol i weithredu arnynt o dan bob blaenoriaeth, fel a ganlyn:- 

 

·         Cynyddu’r cyflenwad i ddarparu’r math cywir o gartrefi yn y lleoliad cywir

·         Darparu cymorth a sicrhau bod pobl yn byw ac yn aros yn y math cywir o gartref

·         Gwella ansawdd a chynaliadwyedd cartrefi

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bernie Attridge ynghylch y gostyngiad yn y targed ar gyfer nifer yr eiddo i'w hadeiladu, eglurodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol fod y galw yn cael ei lywio gan faint o dir oedd ym mherchnogaeth y Cyngor a'i bod yn bosib i'r Cyngor gaffael rhagor o eiddo a chynyddu'r targed pan fo hynny'n bosibl. 

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal hefyd nad oedd yn credu bod Un Llwybr Mynediad at Dai yn rhwystr i'r Cyngor allu rhentu eiddo yn gyflym.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y’i hamlinellwyd o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge, a’i eilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Dai mis Hydref 2022.

13.

Prosbectws Anghenion Tai Sir y Fflint pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Prosbectws Anghenion Tai sy’n llywio’r Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyn ystyried yr eitem, roedd y Cynghorydd Bernie Attridge wedi gofyn am gyngor cyfreithiol ynghylch a ddylid ystyried yr adroddiad mewn sesiwn agored. Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wedi ceisio cyngor cyfreithiol gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) a oedd wedi cadarnhau na ddylai unrhyw wybodaeth yn yr adroddiad gael ei heithrio rhag trafodaeth mewn sesiwn agored. Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad wedi'i ystyried gan y Pwyllgor ym mis Hydref 2021 a'i fod yn fras yr un adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Attridge, er ei fod yn diolch i'r swyddogion am y cyngor, nad oedd yn derbyn y dylai'r wybodaeth yn yr adroddiad fod wedi'i chyhoeddi cyn ymgynghori ag Aelodau lleol.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol Brosbectws Anghenion Tai Sir y Fflint a oedd wedi'i adolygu a'i ddiweddaru. Nid oedd y fformat a'r cynnwys wedi newid yn sylweddol i newid y cyfeiriad a nodwyd yn ei iteriad cyntaf. Roedd y newidiadau a nodwyd yn yr adroddiad yn adlewyrchu'r galw cynyddol am Dai Cymdeithasol o'r gofrestr tai a dyletswyddau digartrefedd.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryderon ynghylch y datblygiad a restrwyd ar gyfer Penarlâg/Aston a oedd y tu allan i ffin yr anheddiad ac a oedd wedi wynebu agwedd negyddol yn y gorffennol gan drigolion yn ystod cyngor cyn gwneud cais. Siaradodd y Cynghorydd Attridge o blaid y pryderon a dywedodd y dylai Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) fod yn gweithio ochr yn ochr â'r Cyngor a deall yr hyn y mae'r Cyngor yn ei ddisgwyl ganddynt fel partneriaid.

 

Gan ymateb, gofynnodd y Cynghorydd Sean Bibby, Aelod Cabinet Tai ac Adfywio, i gyfarfod gael ei drefnu rhyngddo ef a’r holl Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i sicrhau bod blaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer datblygu yn cyd-fynd â’r Prosbectws Tai a’r CDLl.    

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y’i hamlinellwyd o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’i eilio gan y Cynghorydd Geoff Collett. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys Prosbectws Anghenion Tai Sir y Fflint.

14.

Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.