Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305 E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau. |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr, 2024 fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2024 i’w cymeradwyo.
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir a chawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Geoff Collett a Kevin Rush.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir ac y byddai’r Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred PDF 82 KB Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Waith bresennol i’w hystyried, gan sôn am y diwygiad canlynol a wnaed ers y cyfarfod diwethaf:-
Mewn perthynas â’r ddogfen olrhain camau gweithredu, sydd i’w gweld yn Atodiad 2 yr adroddiad, adroddodd yr Hwylusydd fod llythyr yn amlinellu pryderon y Pwyllgor am bwysau o ran cyllid ar gyfer digartrefedd wedi cael ei gymeradwyo gan y Cadeirydd a’i anfon at Lywodraeth Cymru (LlC), ac y byddai copi o’r ymateb yn cael ei rannu pan ddaw. Roedd y wybodaeth ariannol a geisiwyd yngl?n â Lleoliadau Tu Allan i’r Sir hefyd wedi dod i law ac wedi’i dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor.
Mewn perthynas â chamau gweithredu heb eu cwblhau, dywedodd yr Hwylusydd fod llythyr i LlC yngl?n â hyrwyddo Prydau Ysgol am Ddim wedi cael ei ddrafftio, ac y byddai’n cael ei rannu â’r Cadeirydd ar ôl y cyfarfod. Hefyd, roedd copi o’r Polisi Anifeiliaid Anwes wedi dod i law a bydd yn cael ei ddosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.
Cafodd yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Kevin Rush a’u heilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith.
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac
(c) Y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu heb eu cwblhau. |
|
Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2024/25 PDF 101 KB Pwrpas: Adolygu a rhoi sylwadau ar y pwysau cost, y gostyngiadau arfaethedig mewn costau, a'r risgiau cysylltiedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad yn cynnwys manylion cynigion ychwanegol ar gyfer y portffolio Tai a Chymunedau.
Yn dilyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol siomedig, rhoddwyd y dasg i bob portffolio adolygu eu costau sylfaenol er mwyn canfod ffyrdd posib o leihau cyllidebau neu ddileu’r pwysau o ran costau, er mwyn cyfrannu mwy tuag at lenwi’r bwlch sy’n weddill. Bydd sylwadau’r pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yngl?n â’u meysydd penodol yn cael eu casglu ar gyfer yr adroddiadau pennu cyllideb terfynol ar gyfer y Cabinet a’r Cyngor Sir ar 20 Chwefror.
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) y gostyngiadau arfaethedig i’r gyllideb ar gyfer y Portffolio Tai a Chymunedau, fel y nodir yn yr adroddiad, a gwahoddwyd y pwyllgor i adolygu a gwneud sylwadau ar ddewisiadau’r Portffolio i leihau cyllidebau.
Gofynnodd y Cynghorydd Geoff Collett tybed a oedd cymryd arian o’r cronfeydd wrth gefn yn beth synhwyrol i’w wneud o ystyried bod y Swyddogion a’r Aelodau’n gwybod y bydd cyllideb y flwyddyn nesaf gryn dipyn yn waeth, gan holi tybed a oedd y cynigion yn gwneud pethau’n waeth ar gyfer y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol bod y dewisiadau i fynd i’r afael â digartrefedd wedi cael eu cymeradwyo, ac yr awgrymwyd y dylid clustnodi swm o’r cronfeydd wrth gefn i roi amser i rai o’r dewisiadau hynny ddwyn ffrwyth a mynd i’r afael â’r mater. Byddai hyn yn fwy o bryder pe na bai atebion wedi’u nodi.
Gofynnodd y Cadeirydd pa mor hyderus oedd y Swyddogion y byddai’r atebion a nodwyd i fynd i’r afael â digartrefedd yn gweithio. Dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) y gellid prisio rhai o’r dewisiadau a ystyriwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor, er enghraifft, adnewyddu eiddo er mwyn rhannu tai, ac roedd yn hyderus y byddai’r dewisiadau’n cael effaith, ond roedd y galw’n parhau i gynyddu. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal y datblygwyd amcanestyniadau, ond bod nifer o’r bobl a oedd yn datgan eu bod yn ddigartref yn bobl a oedd yn ddigartref ar y diwrnod. Yr unig beth y gellid ei wneud fel gwasanaeth rheoli argyfwng yw ymateb i’r hyn sy’n digwydd o ddydd i ddydd.
Cafodd yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson a’u heilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin.
PENDERFYNWYD:
Nodi dewisiadau’r portffolio Tai a Chymunedau ar gyfer lleihau’r cyllidebau. |
|
Cofrestr Tai Cyffredin (Un Llwybr Mynediad at Dai) PDF 175 KB Pwrpas: Darparu diweddariad blynyddol am Gofrestr Tai Cyffredin. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) adroddiad i amlinellu lefelau presennol yr angen am dai ledled y Sir a’r gwahaniaeth rhwng hynny a faint o dai cymdeithasol sydd ar gael, nad oedd yn cynyddu ar yr un raddfa â lefel yr angen am dai sy’n gyffredin yn ein cymunedau.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal bod yr Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) yn bartneriaeth rhwng yr holl brif ddarparwyr tai cymdeithasol yng Ngogledd Cymru, sy’n gwasanaethu ardaloedd awdurdodau lleol Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Roedd y gwasanaeth i ymgeiswyr yn cynnwys asesiad brysbennu tai, brysbennu atebion tai ar gyfer unigolion sy'n datgan eu bod yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, ac amrywiaeth eang o gyngor am ddewisiadau tai. Roedd y gwasanaeth hefyd yn rheoli’r holl ymgeiswyr a dderbynnir ar y Gofrestr Tai Cyffredin ar ôl nodi angen â thystiolaeth amlwg o ran tai. Dim ond yr ymgeiswyr hynny ag angen o ran tai oedd yn cael eu derbyn ar y Gofrestr Tai, ond elwodd yr holl ymgeiswyr ar gyngor am ddewisiadau tai.
Amlinellodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal y cyfeiriad Polisi ar gyfer dyraniadau Tai Cymdeithasol yn y dyfodol, fel y gwelir yn yr adroddiad, gan ddweud bod Ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru wedi cau yn ddiweddar. Wrth edrych yn benodol ar ddyraniadau a chymhwysiad tai cymdeithasol, roedd y Papur Gwyn yn ystyried darn o waith ymchwil, sef ‘Dyraniadau:Deall mwy, yng nghyd-destun digartrefedd yng Nghymru’, a oedd yn ceisio deall perfformiad dyraniadau tai cymdeithasol mewn perthynas ag atal a lliniaru digartrefedd.
Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaeth Tai ac Atal at Anghenion o ran Tai, fel y nodir yn yr adroddiad, gan ddweud bod y gofrestr tai cymdeithasol yn cynyddu ac yn sgil hynny, bod amseroedd aros am eiddo yn mynd yn hirach. Ar ddiwedd Chwarter Cyntaf cyfnod 2020/21, roedd 1,816 o aelwydydd ar y Gofrestr Tai Cyffredin. Fel y dengys y siart yn yr adroddiad, roedd y galw wedi tyfu yn y blynyddoedd dilynol, a’r nifer presennol o aelwydydd cymwys ar y Gofrestr Tai Cyffredin ar ddiwedd Trydydd Chwarter 2023/2024 oedd 1,983, a hynny ym mis Rhagfyr 2023. Roedd dadansoddiad o’r data i’w weld yn atodiad 1 yr adroddiad.
Roedd arolwg boddhad blynyddol bellach wedi’i gwblhau ar gyfer y Gwasanaeth Tai Cyffredin, ac roedd prif ganfyddiadau’r arolwg i’w gweld ynghlwm yn Atodiad 2 yr adroddiad. Gwahoddwyd yr holl ymgeiswyr i gymryd rhan yn yr arolwg, a chafwyd cyfanswm o 210 o ymatebion. Cadarnhaodd y prif ddata boddhad bod 51% o ymgeiswyr, wrth gysylltu gyntaf â’r Tîm Cofrestr Tai a Chyngor, yn teimlo bod y gwasanaeth a gynigiwyd yn rhagorol (17%) neu’n dda (34%).
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin am y stoc tai oedd ar gael ar draws y Cyngor, gan gynnwys gan bartneriaid Cymdeithasau Tai, cytunodd yr Uwch Reolwr Atal i ddosbarthu’r wybodaeth hon ar ôl y cyfarfod.
Gofynnodd y Cynghorydd Dale Selvester, mewn perthynas â glanhau’r gofrestr, pa mor aml ... view the full Cofnodion text for item 72. |
|
Pwrpas: Rhoi diweddariad manwl i’r Pwyllgor ar Eiddo Gwag a’r gwaith sy’n cael ei wneud er mwyn gallu dechrau defnyddio eiddo o’r fath unwaith eto. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Asedau Tai) y ffigyrau a’r gweithgareddau allweddol wrth gyflawni’r cynllun gweithredu ar gartrefi gwag, fel y nodwyd yn y nodyn briffio.
Soniodd am nifer y tai gwag newydd a’r rhai a gwblhawyd, a dywedodd fod 33 eiddo wedi eu cwblhau yn barod i’w dyrannu. Soniodd hefyd am y wybodaeth ganlynol a gyflwynwyd yn y nodyn briffio:-
· Nifer yr eiddo mawr gwag · Cyfanswm nifer yr eiddo gwag a oedd wedi cynyddu ychydig i 237 · Perfformiad y contractwyr presennol · Y prif resymau dros derfynu contractau
Gwnaeth y Cynghorydd David Evans sylw am y rhesymau dros derfynu contractau a restrir yn y nodyn briffio, gan awgrymu y dylid rhestru’r rhesymau dros derfynu mewn trefn i gyd-fynd â’r nifer a ddangosir yn y tabl. Dywedodd fod y sylwadau am y contractwr ychwanegol wedi tawelu ei feddwl ond nad oedd yn teimlo’n gadarnhaol am nifer yr eiddo gwag, a dywedodd ei fod eisiau gweld y ffigwr hwn yn gostwng i’r bôn dros y misoedd nesaf.
Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin pa mor gyflym yr oedd eiddo gwag nad oedd angen gwaith gwella yn cael eu hail-ddyrannu i denant newydd. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth gan ddweud y byddai’r eiddo hynny’n cael eu pennu’n eiddo sydd angen mân welliannau, ac y byddent yn cael eu neilltuo i dîm mewnol y Cyngor. Y targed ar gyfer mân welliannau oedd 20 diwrnod gwaith ac roedd y targed hwn yn cael ei gyrraedd. Ychwanegodd fod 70% o’r eiddo angen cryn dipyn o waith ac mai dyma’r prif reswm y tu ôl i’r oedi oherwydd materion etifeddol.
Cefnogodd y Cynghorydd Kevin Rush sylwadau’r Cynghorydd Evans, gan godi pryder y byddai’n cymryd nifer o flynyddoedd i ddod â nifer yr eiddo gwag i lawr i lefel y gellir ei rheoli pe bai nifer yr eiddo gwag a ddychwelir yn dilyn y cyfartaledd dros yr 8 mis diwethaf. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y Cyngor yn gweithio gyda chwmni i ailgylchu dodrefn, ac yn unol â Pholisi’r Cyngor, y dylid dychwelyd eiddo gwag mewn cyflwr glân a thaclus, ac y gallai unrhyw beth a adawir yn yr eiddo fod yn gost daladwy i'r Cyngor. Dywedodd y byddai’n ailafael ym mhryder penodol y Cynghorydd Hutchinson ar ôl y cyfarfod.
Cafodd yr argymhelliad i nodi’r diweddariad ei gynnig gan y Cynghorydd Geoff Collett a’i eilio gan y Cynghorydd David Evans.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r diweddariad. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: |
|
Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru Pwrpas: Ystyried Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth Rhaglenni Tai Gynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru, a oedd yn nodi elfennau allweddol strategaeth ddatblygu arfaethedig y cwmni. Cymeradwywyd y Cynllun Busnes gan Fwrdd Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru fel dogfen gynllunio strategol yn ei gyfarfod ar 11 Ionawr 2024.
Ymatebodd Rheolwr y Gwasanaeth Rhaglenni Tai i gwestiynau gan yr Aelodau am safle Depo Canton a chyllid a grantiau Llywodraeth Cymru.
Cynigiodd y Cynghorydd Kevin Rush yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad, ac eiliodd y Cynghorydd David Evans y cynnig hwnnw.
PENDERFYNWYD:
Y byddai’r Pwyllgor yn cymeradwyo Cynllun Busnes Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru 2024/2053. |
|
Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol. |