Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@siryfflint.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

25.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol fel tenant y Cyngor.

26.

Cofnodion pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        I Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Medi, 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad, bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Medi 2024 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

27.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad (eitem rhif 4 ar y rhaglen) ar gyfer ystyried y Rhaglen Waith bresennol a’r cynnydd o ran Olrhain Camau Gweithredu.

 

Dywedodd yr Hwylusydd y byddai’r diweddariad ar Dlodi Bwyd yn cael ei symud i gyfarfod mis Ionawr, a byddai’r adolygiad o Safle’r Garej yn cael ei symud i gyfarfod mis Rhagfyr er mwyn creu lle yng nghyfarfod mis Tachwedd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Helen Brown at ei chais yn y cyfarfod diwethaf am adroddiad ar ddewisiadau ar ail-ddylunio eiddo Tai Gwarchod, a oedd wedi’i gynnwys ar y Rhaglen Waith fel rhan o’r adroddiad diweddaru ar yr Adolygiad o Dai Gwarchod a oedd wedi’i drefnu ar gyfer mis Mehefin 2025 a gofynnodd a ellid cyflwyno’r wybodaeth hon yn gynharach.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Waith;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu oedd i’w cwblhau.

28.

Adolygiad Annibynnol o Ddigartrefedd pdf icon PDF 135 KB

Pwrpas:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y canfyddiadau a’r argymhellion yn dilyn adolygiad annibynnol o wasanaethau digartrefedd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal yr adroddiad (eitem 5 ar y rhaglen) ar yr Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Digartrefedd Sir y Fflint a oedd yn nodi’r gwaith a oedd yn mynd rhagddo mewn ymateb i gapasiti gwasanaeth er mwyn bodloni galw cynyddol.   

 

Awgrymodd y Cynghorydd Helen Brown fod llythyr o ddiolch yn cael ei anfon ar ran y Pwyllgor at y Gwasanaeth Tai ac Atal, i ddiolch iddynt am eu gwaith parhaus yn y Gwasanaeth a chanfyddiadau cadarnhaol y gefnogaeth maen nhw’n ei darparu, fel a amlinellir yn yr adroddiad.

 

O roi ystyriaeth iddo, nid oedd y Pwyllgor yn cefnogi’r trydydd argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad.  Cefnogwyd argymhelliad un a dau.    

 

PENDERFYNWYD:

           

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r canfyddiadau a’r argymhellion gan Neil Morland & Co a chefnogi bod yr adroddiad yn symud trwy gylch y Pwyllgor a bod diweddariadau rheolaidd yn cael eu rhannu gydag Aelodau o ran cynnydd yn erbyn argymhellion; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi egwyddor arbedion osgoi cost a gwario i arbed

er mwyn ariannu capasiti staffio ychwanegol yn y Gwasanaeth Tai ac Atal trwy arallgyfeirio’r portffolio llety digartrefedd, er mwyn cynyddu cyfleoedd ar gyfer lleihau gwariant ar lety i bobl ddigartref yn llwyddiannus.

29.

Rheoli Cartrefi Gwag pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar nifer cartrefi gwag a’r gwaith sy’n cael ei wneud i allu defnyddio’r cartrefi hyn eto.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Asedau y ffigyrau allweddol a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y cynllun gweithredu ar unedau gwag, fel yr amlinellir yn y nodyn briffio (eitem rhif 6 ar y rhaglen).

 

Awgrymwyd gwahodd Aelodau’r Pwyllgor i weld eiddo gwag cyn i waith gael ei wneud a hefyd eiddo gwag ar ôl i waith gael ei wneud.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Ted Palmer, awgrymodd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr eiddo gwag newydd, eiddo sy’n barod i gael eu dyrannu a meysydd cyfanswm yn cael eu symud i frig y nodyn briffio.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bernie Attridge o ran faint o gyllid ychwanegol oedd wedi’i drosglwyddo o’r Cyfrif Refeniw Tai i Eiddo Gwag, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i ddarparu’r wybodaeth hon ar ôl y cyfarfod.

 

Gan ymateb i gais gan y Cynghorydd Kevin Rush, awgrymodd y Rheolwr Gwasanaeth fod gwybodaeth am y Safonau Gosod Eiddo Gwag a chostau diffyg atgyweirio yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor yn y dyfodol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad.

30.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.