Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305 E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 17 Mai 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mai 2023 fel rhai cywir.
Cafodd y cofnodion eu cynnig a'u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Pam Banks.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried, gan ychwanegu bod dyddiadau cyfarfodydd o fis Medi 2023 wedi cael eu hychwanegu yn dilyn cymeradwyaeth yng nghyfarfod Blynyddol y Cyngor. Roedd pob adroddiad rheolaidd i’r Pwyllgor hefyd wedi cael eu hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
Ychwanegodd yr Hwylusydd y byddai hi’n cyfarfod â’r Prif Swyddog a’r Uwch Dîm Rheoli dros yr haf i drafod adroddiadau’r dyfodol ac yn cysylltu gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadierydd i gyflwyno Rhaglen Gwaith fwy cyflawn i’w hystyried gan y Pwyllgor ym mis Medi.
Fe wnaeth yr Hwylusydd hefyd nodi statws y camau gweithredu a oedd yn deillio o’r cyfarfodydd blaenorol, a oedd i’w gweld yn Atodiad 2 yr adroddiad.
Nododd y Cynghorydd Bernie Attridge bod y cyfarfod hwn wedi dechrau am 2pm a gofynnodd a fyddai modd i’r Hwylusydd gadarnhau y byddai cyfarfodydd yn y dyfodol yn cael eu cynnal am 10am fel y gofynnwyd yn flaenorol. Roedd y Cynghorwyr Dennis Hutchinson a Linda Thew yn cytuno â’r cynnig i ddechrau cyfarfodydd y Pwyllgor am 10am. Cadarnhaodd yr Hwylusydd y byddai pob cyfarfod yn y dyfodol yn dechrau am 10am.
Soniodd y Cynghorydd Linda Thew am gyflwyniad ffurfiol cais cynllunio i symud ceiswyr lloches i hen westy yn Sir y Fflint a gofynnodd a fyddai mor darparu adroddiad i’r Pwyllgor yngl?n â’r math o lety a gynigir. Nododd bryderon mewn perthynas â chydraddoldeb a hawliau dynol a diogelwch yn y llety arfaethedig.
Nododd y Cynghorydd Bernie Attridge y byddai’n rhaid iddo ddatgan diddordeb personol fel Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio os oeddent am drafod y cais cynllunio.
Ymatebodd yr Hwylusydd gan ddweud nad oedd hi’n credu y byddai’n briodol i’r Pwyllgor ystyried adroddiad yn ystod y broses gynllunio, ond nododd y byddai hi’n ceisio cyngor ffurfiol ac yn rhannu’r ymateb gyda’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.
Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Pam Banks.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau. |
|
Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2023/24 PDF 129 KB Pwrpas: Ystyried y ffioedd gwresogi arfaethedig mewn eiddo’r cyngor gyda systemau gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2023/24 cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) drosolwg o sefyllfa gyfredol y Cyngor mewn perthynas â Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol, gan nodi bod y portffolio’n gweithredu wyth cynllun gwresogi ardaloedd cymunedol o fewn Sir y Fflint ar hyn o bryd, gyda 417 eiddo’n defnyddio systemau gwresogi ardaloedd cymunedol. Roedd y Cyngor wedi ail-drafod y tariff tanwydd ar gyfer 2023/24 gan fod y contract blaenorol wedi dod i ben ym mis Mawrth 2023.
Roedd y ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol newydd yn seiliedig ar ddefnydd ynni'r flwyddyn flaenorol gan sicrhau asesiad cywir o gostau ac effeithiau ar y gronfa wresogi wrth gefn. Er mwyn adennill y ffioedd gwresogi a ragwelir yn llawn, roedd angen cynyddu ffioedd gwresogi ardaloedd cymunedol yn unol â’r cynyddiadau i’r tariff. Roedd y taliadau arfaethedig i'w hailgodi yn 2023/24 wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad.
Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol - Masnachol a Thai wybod, os bydd y Cyngor yn parhau i gyfrifo’r ffioedd yn yr un modd ag y maent wedi’i wneud yn y blynyddoedd blaenorol, y byddai tenantiaid a oedd yn defnyddio’r systemau Gwresogi Ardaloedd Cymunedol yn destun cynyddiadau o 515% yn seiliedig ar y tariff nwy cytunedig newydd. Roedd hyn yn uwch na’r cynnydd tariff cyffredinol o 420% wrth i’r ffioedd ardaloedd cymunedol newydd ddod i rym i denantiaid o 31 Gorffennaf 2023. Roedd gwaith wedi cael ei gwblhau i warchod tenantiaid rhag y cynnydd posibl ac felly’r cynnydd cyfartalog arfaethedig i denantiaid oedd 197%. Byddai hyn yn golygu y byddai diffyg yn y gronfa wresogi wrth gefn o oddeutu £0.080 miliwn ar ddiwedd 2023/24 y byddai’n rhaid ei adennill yn y dyfodol wrth i brisiau cyfleustodau adfer a sefydlogi.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge ei fod ef, ac Arweinydd y Cyngor, wedi anfon cwestiynau cyn y cyfarfod at swyddogion, gan ei fod yn bryderus am y cynnydd arfaethedig, a dywedodd na allai gefnogi cynnydd o’r fath i denantiaid ar hyn o bryd. Cyfeiriodd at sylwadau’r swyddogion am ecwiti i bob tenant, ond dywedodd y gellid dadlau bod tenantiaid yn sybsideiddio’r rheiny nad ydynt yn talu rhent neu’n difrodi eu heidio cyn iddynt ddod yn wag. Dywedodd yr hoffai weld y costau’n cael eu hadennill dros gyfnod hirach fel yr oeddent wedi’i wneud yn y gorffennol a dywedodd bod y mwyafrif o’r tenantiaid yr oedd yn eu cynrychioli yn y ddau gynllun a restrir yn yr adroddiad hwn yn ddiamddiffyn ac yn methu hawlio cymorth ariannol gan eu bod ychydig yn uwch na’r trothwy. Roedd yn gobeithio y byddai’r Pwyllgor yn cefnogi ei gynnig i beidio â chefnogi’r cynnydd.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y drafodaeth e-bost gyda’r Cynghorydd Attridge a dywedodd bod y Cyngor yn anelu at adennill y costau llawn mewn perthynas â rhent, a’u bod yn rhagweithiol iawn o ran hyn, ac fe fyddai hynny’n amlwg i aelodau yn yr adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. Eglurodd bod y Cyngor yn derbyn ffioedd gan gwmnïau cyfleustodau ac yn ceisio lliniaru graddfa’r cynnydd i denantiaid fel y gwelir ... view the full Cofnodion text for item 11. |
|
Rheoli Cartrefi Gwag PDF 138 KB Pwrpas: Rhoi diweddariad pellach ar ddarparu a rheoli cartrefi gwag. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai y ffigyrau allweddol a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y Cynllun Gweithredu ar Unedau Gwag, fel yr amlinellir yn y nodyn briffio.
Amlinellodd nifer y cartrefi gwag newydd a’r rheiny a oedd wedi’u cwblhau, ac roedd yn falch o ddweud bod nifer yr eiddo gwag wedi gostwng rhywfaint. Amlinellodd hefyd nifer yr eiddo a oedd angen gwaith mawr a’r rheiny a oedd angen mân waith, ynghyd â’r galw am yr eiddo. Ychwanegodd bod y tîm yn brysur yn archwilio eiddo gwag bach a mawr er mwyn paratoi ar gyfer y contractwyr, i sicrhau fod yr atodlen waith yn parhau i fod yn gadarn.
O ran y gweithgareddau allweddol a oedd yn cael eu cwblhau yn erbyn y cynllun gweithredu ar unedau gwag a’r camau nesaf, amlinellwyd y canlynol gan y Rheolwr Gwasanaeth:-
· Parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â ffrydiau ariannu pellach ar gyfer 2023/24; Roedd y Gwasanaeth wedi cyfarfod â phob contractwr newydd a gomisiynwyd; · Roedd y Cydlynydd Hyfforddiant yn trefnu’r holl hyfforddiant craidd angenrheidiol am y 12 mis nesaf. · Ymgymryd â gwaith meincnodi yn erbyn awdurdodau lleol eraill.
Tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth sylw’r Pwyllgor at y wybodaeth a ddarparwyd ar y nifer o weithwyr o fewn y tîm SLlU a nifer yr Arweinwyr Tîm a oedd yn rheoli’r SLlU, yn unol â chais gan y Pwyllgor mewn cyfarfod blaenorol.
Gofynnodd y Cadeirydd a oedd gwybodaeth ar gael ar berfformiad contractwyr allanol. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth wybod bod yr adborth ar ansawdd y gwaith ar eiddo a oedd wedi cael eu dychwelyd gan gontractwyr allanol yn rhagorol.
Dywedodd y Cynghorydd David Evans ei fod yn falch o weld bod nifer yr eiddo gwag wedi gostwng, roedd angen iddynt ostwng yn gynt er mwyn bodloni’r targedau disgwyliedig. Mynegodd bryder hefyd mewn perthynas â’r data ynghylch yr ardaloedd dosbarth cyfalaf o gartrefi gwag, roedd yn teimlo y gellid eu dehongli fel bod cartrefi gwag mewn rhai ardaloedd yn cael eu cwblhau’n gynt nag eraill.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth wybod bod gwaith cynnal a chadw ar gartrefi gwag yn cael ei rannu’n gyfartal ar draws y Sir. Soniodd hefyd y byddai nifer yr eiddo gwag a gaiff eu cwblhau’n cynyddu unwaith y byddai eiddo ychwanegol wedi cael eu trosglwyddo i gontractwyr allanol. Ychwanegodd ei fod yn hyderus y byddai nifer cyffredinol y cartrefi gwag yn gostwng dros y 12 mis nesaf.
Cynigiodd y Cynghorydd David Evans fod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei nodi. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Rush.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Aelodau'r Wasg Yn Bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol. |