Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305
E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk
Media
Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
Penodi Cadeirydd
Pwrpas:
Yn ystod y cyfarfod
blynyddol penderfynodd y Cyngor y bydd y Gr?p Annibynnol yn
cadeirio’r cyfarfod Hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor
mai’r Cynghorydd Marion Bateman yw Cadeirydd y Pwyllgor ar
gyfer blwyddyn y cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD:
Nodi
penodiad y Cynghorydd Marion Bateman yn Gadeirydd y Pwyllgor ar
gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25.
|
2. |
Penodi is-Gadeirydd
Pwrpas:
Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Tina Claydon yn Is-gadeirydd ar
gyfer blwyddyn y Cyngor 2024/25.
|
3. |
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)
Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r
Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD:
Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad
personol fel Tenant i’r Cyngor.
|
4. |
Cofnodion PDF 110 KB
Pwrpas:
I
Cadarnhau cofnodion y
cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 7 Chwefror, 6 Mawrth a 22 Ebrill,
2024.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cymeradwywyd cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Chwefror, 6 Mawrth a 22 Ebrill fel
cofnod cywir.
|
PENDERFYNWYD:
|
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar
7 Chwefror (cofnodion), 6 Mawrth (cofnodion) a 22 Ebrill, 2024 (cofnodion) fel cofnod cywir.
|
|
5. |
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred PDF 82 KB
Pwrpas: Ystyried Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a
rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau
gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd
Trosolwg a Chraffu y
Rhaglen Waith gyfredol i’w hystyried, a oedd yn
cynnwys diweddariad ar gamau gweithredu oedd i’w
cwblhau.
Cafodd yr
argymhellion yn yr adroddiad eu cefnogi.
|
PENDERFYNWYD:
|
(a)
Nodi’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi
awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y
Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn
ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn
nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu oedd i’w
cwblhau.
|
|
6. |
Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2024/25 PDF 124 KB
Pwrpas: Ystyried y
ffioedd gwresogi arfaethedig mewn eiddo’r Cyngor sydd â
systemau gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2024/25 cyn cael
cymeradwyaeth y Cabinet.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
|
7. |
‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau PDF 108 KB
Pwrpas: Darparu
trosolwg o adroddiad Archwilio Cymru ac amlinellu’r cynnwys
a’r argymhellion. Mae ymateb
arfaethedig i’r argymhellion wedi’i gyflwyno i’w
ystyried.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau)
adroddiadoedd yn rhoi
trosolwg o adroddiad Archwilio Cymru “‘Gyda’n
gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth
cymunedol”, oedd yn trafod sut y gallai meithrin cydnerthedd
a hunanddibyniaeth cymunedol helpu i leihau’r ddibyniaeth ar
wasanaethau awdurdodau lleol yn y dyfodol, pe bai awdurdodau lleol
yn newid o fod yn ‘ddarparwr uniongyrchol’ i fod yn
‘alluogwr’.
Eglurwyd y byddai
sylwadau’r Pwyllgor yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet yn
ei gyfarfod ar 18 Mehefin 2024.
Cefnogwyd yr argymhellion yn
yr adroddiad ynghyd â chynnig ychwanegol.
|
PENDERFYNWYD:
|
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi canfyddiadau ac
argymhellion adroddiad Archwilio Cymru “‘Gyda’n
gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth
cymunedol”;
(b) Bod y Pwyllgor yn
nodi’r ymateb oedd yn cael ei argymell mewn perthynas ag
argymhellion Archwilio Cymru; a
(c) Bod y Pwyllgor yn
cydnabod gwaith nifer o sefydliadau gwirfoddol ac unigolion ar hyd
a lled y Sir ac yn cyfleu hyn i’r Cabinet wrth ystyried yr
adroddiad yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin.
|
|
8. |
Diweddariad Perfformiad Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Dai PDF 136 KB
Pwrpas: Darparu
diweddariad blynyddol ar y Strategaeth gyfredol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog
(Tai a Chymunedau) a Rheolwr Strategol Tai a’r Rhaglen
Gyflawni
adroddiad i roi diweddariad ar gyflawni Cynllun
Gweithredu’r Strategaeth Tai 2019–2024 gyda phwyslais
penodol ar flwyddyn ariannol 2023/24.
Ar gais y Cynghorydd Helen
Brown, byddai nodyn briffio am y risgiau yn y dyfodol yn cael ei
rannu ag Aelodau’r Pwyllgor cyn gweithdai’r Strategaeth
Tai.
Cafodd yr argymhellion yn yr
adroddiad eu cefnogi.
|
PENDERFYNWYD:
|
(a) Bod y Pwyllgor yn
nodi’r cynnydd ar gyflawni Cynllun Gweithredu’r
Strategaeth Tai 2019–2024; a
(b) Bod y Pwyllgor yn
nodi’r newidiadau a amlinellwyd yn yr adroddiad i’r
canlynol:
·
Alinio safonau a’r
gyfradd ymyrryd ar gyfer caffaeliadau o dan y Grant Tai
Cymdeithasol gyda’r rhai o’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer
Llety Dros Dro (TACP).
·
Yr amserlen ddiweddaraf i
adnewyddu’r Strategaeth Tai gyfredol.
|
|
9. |
Rheoli Cartrefi Gwag PDF 129 KB
Pwrpas: Rhoi
diweddariad i’r Pwyllgor ar nifer cartrefi gwag a’r
gwaith sy’n cael ei wneud i allu defnyddio’r cartrefi
hyn eto.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai’r ffigyrau
a’r gweithgareddau allweddol wrth gyflawni’r cynllun
gweithredu ar eiddo gwag, fel y nodwyd yn y
nodyn briffio.
Yn dilyn sylwadau a wnaed
gan y Cynghorydd Helen Brown yngl?n â gweithredoedd
cadarnhaol gweithiwr tai, cytunwyd ar anfon llythyr diolch at y
gweithiwr gan y Pwyllgor.
|
PENDERFYNWYD:
|
Nodi’r
diweddariad.
|
|
10. |
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
|