Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

9.

Datgan Cysylltiad

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim

10.

Cofnodion pdf icon PDF 70 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mai 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 23 Mai 2023, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Rob Davies a Carolyn Preece.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

 

11.

Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu y Rhaglen Newid Hinsawdd pdf icon PDF 99 KB

Mabwysiadu’r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu ar gyfer y Rhaglen Newid Hinsawdd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Diolchodd y Rheolwr Rhaglen i’r aelodau am eu hadborth yn y cyfarfod blaenorol, gan gadarnhau bod eu hawgrymiadau wedi cael eu cynnwys yn y ddogfen atodiad. Roedd ffocws penodol wedi bod ar ymgysylltu gyda’r cyhoedd, ac adnabod unrhyw gyfyngiadau roedd ganddynt ynghylch rhai o newidiadau oedd rhaid eu gwneud o ran datgarboneiddio.  Cyfeiriwyd yr Aelodau at dudalen 28 o’r pecyn adroddiad a oedd yn cynnwys sgrinlun o ddwy dudalen o’r Cynllun Gweithredu, ac a oedd yn rhoi enghreifftiau o’r mathau o weithgaredd, sut cafodd pynciau eu hadnabod, pwy oedd y rhanddeiliaid a beth oedd y canlyniadau disgwyliedig i sicrhau bod y cyngor yn cyflawni beth sydd wedi’i osod yn y cynllun.

 

            Cynigiwyd yr argymhelliad gan Allan Marshall ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Carolyn Preece. Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhelliad ei dderbyn.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Mabwysiadu’r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu ar gyfer y Rhaglen Newid Hinsawdd

12.

Diweddariad Cynllun Ynni Ardal Leol pdf icon PDF 2 MB

Cael diweddariad ar ddatblygiad ‘Cynllun Ynni Sir y Fflint’ a chyfrannu at yr ymgysylltu â budd-ddeiliaid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno diweddariad, rhoddodd y Rheolwr Rhaglen wybodaeth am y gweithdy ymgysylltu cyntaf a gynhaliwyd ym mis Mai 2022 gyda Swyddogion mewnol, a chyfeiriodd at yr ail weithdy gyda ARUP a gynhaliwyd pythefnos yn ôl. Cafodd ARUP eu contractio i ddatblygu Cynllun Ynni Ardal Leol a rhoddodd y Rheolwr Rhaglen ddiweddariad a oedd yn teimlo ei bod yn bwysig i’r pwyllgor ei ystyried a chynnwys unrhyw awgrymiadau.

 

            Roedd y sleidiau ynghlwm i’r rhaglen ond amlygodd y Rheolwr Rhaglen y sleidiau penodol i gael eu hystyried a darparodd wybodaeth fanwl ar y canlynol:-

 

  • Beth yw Cynllunio Ynni Ardal Leol? 
  • Beth yw eich system ynni lleol?
  • Gwaelodlin allyriadau carbon ar gyfer Sir y Fflint
  • Gwaelodlin defnydd o ynni - Diagram Sankey
  • Trafod ar Alw - opsiynau strategol posibl

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Allan Marshall at ddefnydd ynni mewn cartrefi a gofynnodd a oedd unrhyw astudiaethau wedi eu cyflawni i amlygu os oedd yn fwy effeithlon i aelwydydd i gael y gwres ymlaen drwy’r amser ar dymhered cyson, yn hytrach na defnyddio’r thermostat fel switsh i roi ymlaen a’i ddiffodd.

 

            Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen ei fod wedi ei arddangos bod cael gwers ymlaen drwy’r amser gan osod y thermostat ar dymheredd is yn fwy darbodus na defnyddio hwb mwy o ynni i wresogi ardal ar adegau penodol o’r dydd. Dyma oedd yr egwyddor a fabwysiadwyd gyda’r system pwmp gwres a oedd yn gwresogi ardal at dymheredd penodol i gynnal cydbwysedd yn hytrach na gostwng a chodi ynni. Roedd hwn yn dechneg brofedig a ddefnyddiwyd gyda thechnolegau mwy newydd.

 

            Rhoddodd y Cynghorydd Marshall sylw ei fod yn hanfodol bod hwn yn cael ei gyhoeddi i breswylwyr, a bod yr astudiaethau profedig yn cael eu cynnwys fel tystiolaeth.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Roz Mansell os oedd hyn yn berthnasol i swyddfeydd ac adeiladau mawr Cyngor Sir y Fflint.  Soniodd am gyfarfodydd yr oedd wedi eu mynychu yn yr Wyddgrug ac Ewloe lle’r oedd yr ystafelloedd yn boeth iawn. A fyddai modd gwneud arbediad os yw’r gwres yn cael ei droi i lawr neu ei ddiffodd yn ystod yr haf, ac a oedd newid y system wresogi wedi cael ei ystyried. Roedd yn teimlo bod hyn yn broblem mewn fflatiau’r cyngor hefyd. Cytunodd y Rheolwr Rhaglen i archwilio i mewn i hyn.

 

            Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bos y systemau gwresogi yn Neuadd y Sir ac Ewloe wedi cael eu diffodd ers nifer o fisoedd. Roedd rheoli tymheredd mewn gwahanol ardaloedd yn Neuadd y Sir yn anodd gan fod pob un o’r ystafelloedd gyfarfod wedi eu lleoli ar flaen yr adeilad, ac yn boeth oherwydd y gwydr a’r ffaith eu bod yn wynebu tua’r de. Roedd system awyru yn yr ystafelloedd ond nid oedd modd troi hwn ymlaen pan roedd pobl yn dod i mewn i’r ystafell, nid oedd yn caniatáu amser i’r ystafell oeri yn arbennig os oedd y ffenestri yn cael eu hagor. Nid oedd yn meddwl ei fod gwerth ail osod unrhyw beth yn Neuadd y Sir. Gan gyfeirio  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

Dichonolrwydd adweithyddion bio ar gyfer sgil-gynhyrchion glaswellt/gwastraff bwyd a gynigiwyd gan y Cyng. Rose pdf icon PDF 128 KB

Cael adroddiad ar y cyfleoedd a’r cyfyngiadau gyda’r defnydd o dreulio anaerobig ar gyfer sgil-gynhyrchion glaswellt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd argymhellion ynghlwm â’r adroddiad hwn a gofynnwyd i’r Aelodau i anfon unrhyw gwestiynau dros e-bost at Sarah Slater, Swyddog Bioamrywiaeth Sir y Fflint.

 

14.

Newidiadau cynllunio i gynnwys gofynion ar gyfer gwefru Passivhaus/solar/EV a gynigiwyd gan y Cyng. Rose a'r Cyng. Mansell pdf icon PDF 731 KB

Cael adroddiad ar y cyfleoedd a’r cyfyngiadau mewn polisi cynllunio cyfredol mewn perthynas ag ymgorffori dulliau gostwng carbon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Adrian Walters, Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio yr adroddiad a nododd y cyd-destun polisi cenedlaethol a lleol a nodwyd y polisïau perthnasol o fewn y Cynllun Datblygu Lleol o ran datblygiad cynaliadwy ac ystyriaethau Newid Hinsawdd.

 

            O ran Passivhaus, dywedodd nad oedd deddfwriaeth na chanllaw cynllunio cenedlaethol a oedd yn gofyn i dai newydd fod yn ddyluniad Passivhaus. Darparodd wybodaeth ar sut mae’r eiddo hyn wedi cael eu hadeiladu a’r gost uchel ynghlwm o’i gymharu ag adeiladu tai traddodiadol, a theimlodd y byddai datblygwyr yn amharod i dderbyn gan ei fod yn syniad eithaf newydd. Hefyd gallai hyn ddylanwadu prynwyr oherwydd y pris prynu uwch a diffydd dealltwriaeth o beth sydd yn rhan o adeiladu’r cartrefi hyn, a dyma pam bod y rhain yn dueddol o fod yn ddatblygiadau unigol. Soniodd am enghreifftiau o gyrff cyhoeddus neu gynghorau a oedd wedi rhoi tir oedd ar gael ar gyfer adeiladu tai a werthwyd ar gyfradd lai neu gyfradd tocyn i gymdeithas dai, ac arweiniodd at gyfleoedd ar gyfer datblygiadau Passivhaus. Ar hyn o bryd roedd y rhain yn brin iawn o ran maint.

            Gan gyfeirio at baneli solar, eglurodd nad oedd gofyniad dan ddeddfwriaeth na chanllaw cenedlaethol ar gyfer paneli solar gael eu cynnwys o fewn datblygiadau tai newydd. Cafodd hyn ei gynnwys o fewn y Rheoliadau Adeiladau dan Ran L gyda Chynllunio wedi’i roi yn flaenorol fel ynni adnewyddadwy fel rhan o ddatblygiad tai, cod ar gyfer tai cynaliadwy, ac roedd gwybodaeth am hyn wedi’i gynnwys yn yr adroddiad. Roedd hyn yn arafu’r system gynllunio felly symudodd Llywodraeth Cymru hyn i Reoliadau Adeiladau, lle’r oeddynt yn teimlo ei fod yn gweddu yn well. Roedd CDLl wedi edrych ar ynni adnewyddadwy drwy gyflawni Asesiad Ynni Adnewyddadwy yn dilyn canllaw gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio Adnodd Ynni Adnewyddadwy. Roedd hyn wedi adnabod cwmpas ar draws y sir ar gyfer ffermydd solar, ac adnabuwyd tair ar ddeg o ardaloedd ynghyd â chynigion am ddatblygiadau ynni o wastraff. Roedd gan y Cynllun bolisi ar sail meini prawf a fyddai’n ei ganiatáu i asesu unrhyw gynigion math o ynni adnewyddadwy a oedd yn dod gerbron y Cyngor.

 

            Gan gyfeirio at bwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan, dywedodd bod angen i Lywodraeth Cymru fel rhan o ddatblygiadau masnachol bod â 10% o fannau parcio ceir sy’n cael eu cadw ar gyfer gwefru cerbydau trydan. Doedd dim gofyniad ar ddatblygiadau tai ac roedd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y CDLl. Gan gyfeirio at gapasiti grid trydan a phwyntiau cysylltiad, dywedodd byddai broblemau petai bob un cartref ar ddatblygiad tai ar raddfa bwyntiau gwefru cerbyd a allai gael goblygiadau ar yr is-orsafoedd a diweddariadau i’r Grid.

 

            Roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod nod bod datblygiadau newydd yn garbon niwtral erbyn 2025, ac roedd wedi nodi cwmpas ar gyfer y cyngor, adeiladau cyhoeddus a thai cymdeithasol i arwain y ffordd. Dim ond yn ddiweddar roedd yr Arolygiaeth Gynllunio Annibynnol wedi archwilio’r CDLl, ac ni wnaethpwyd unrhyw argymhellion gan Lywodraeth Cymru nad oedd y Cynllun yn alinio gyda’r Canllaw Cenedlaethol. Roedd y  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Diweddariad ar yr Hwb Hydrogen a gynigiwyd gan y Cyng. Eastwood pdf icon PDF 56 KB

Cael diweddariad ar ddatblygiad yr ‘Hwb Hydrogen’ wrth ddarparu ffynhonnell o hydrogen ar gyfer anghenion ynni Sir y Fflint yn y dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Darparwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) a fyddai’n hapus i unrhyw gwestiynau gael eu hanfon dros e-bost at y Rheolwr Rhaglen i gael ymateb ysgrifenedig.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Mared Eastwood ei fod yn wych gweld y Cyngor yn symud tuag at ddatblygu Hwb Hydrogen yng Ngogledd Cymru. Bydd yn cysylltu gyda’r Prif Swyddog ynghylch adnewyddu fflyd y Cyngor, ac a byddai datrysiad dros dro yn hwyluso prynu fflyd newydd nad oedd yn barod ar gyfer y cyflenwad Hydrogen pan fydd yn dod i Ogledd Cymru.  Nid oedd yn ddelfrydol defnyddio Hydrogen Glas, ond dylai fod yn garreg camu pwysig i’w ystyried hyd yn oed os yw’n dod o rywle arall.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Dan Rose at yr adolygiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi, a chododd bryderon ynghylch cread y farchnad i greu Hwb Hydrogen Glas gan ddweud y dylai fynd yn syth i Wyrdd os yw arian yn cael ei wario arno. Cododd gwestiynau a oedd yn berthnasol i’r pot cyllid, amodau ac awgrymiadau o hynny. Cytunwyd i ddarparu ymateb iddo.

 

            Roedd gan y Cynghorydd Roz Mansell gwestiynau ynghylch blodau gwyllt a chytunodd i’w hanfon ymlaen i’r Rheolwr Rhaglen. Dywedodd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi pan roedd yr hadau yn disgyn, roedd rhaid torri’r blodau a chasglu’r tyfiant, a chadarnhaodd Sarah Slater (Swyddog Bioamrywiaeth) bod buddsoddiad yn cael ei wneud mewn peirianneg i gyflawni’r gwaith hwn.

 

16.

Diweddariad ar Ymchwiliadau

Cael diweddariad ar yr ymchwiliadau cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen bod Ymchwiliadau Llifogydd a Phensiwn Clwyd yn fyw bellach ac wedi eu cyhoeddi. Y dyddiad cau ar gyfer yr Ymchwiliad Llifogydd oedd 18 Awst, a’r dyddiad cau ar gyfer Ymchwiliad Pensiwn Clwyd 4 Awst 2023.  Roedd cyflwyniadau wedi dod i law cyfeiriad e-bost climatechange@flintshire.gov.uk Bydd yr ymatebion yn cael eu casglu i ddwy ddogfen ar wahân ar gyfer y Pwyllgor eu dadansoddi ac adolygu ar ôl y dyddiad cau.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Roz Mansell i’r deg wagen a oedd wedi’i lanhau yn flaenorol ac wedi gwagio’r rhwyll, ac roedd yn deall bod y rhain wedi’u lleihau i ddau. Soniodd am y llifogydd yn Celtic Street yr wythnos ddiwethaf a theimlodd petai’r rhwylli yn cael eu gwagio’n fwy aml yna byddai’n atal y llifogydd. Os na ellir gwneud hyn, gofynnodd a allai’r Cyngor ddarparu bagiau tywod i breswylwyr i atal d?r rhag mynd i’w cartrefi. Awgrymodd y Cadeirydd bod hwn yn cael ei roi mewn e-bost a’i anfon at gyfeiriad e-bost Newid Hinsawdd i sicrhau ei fod wedi cael ei gynnwys yn yr Ymchwiliad.

 

            Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi at natur sensitif y wybodaeth a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd. Teimlai y byddai preswylwyr yn bryderus os yw eu strydoedd yn cael eu hamlygu yn ardal sydd yn cael llifogydd, a theimlai y dylai cyflwyniadau gael eu rhoi yn ddienw heb gynnwys enwau’r strydoedd.

 

            Cadarnhaodd y Cadeirydd na fyddai cyflwyniadau ysgrifenedig i’r Ymchwiliad yn cael eu cyhoeddi o fewn yr adroddiad. Byddai’r ardaloedd sy’n cael eu cynnwys yn ardaloedd sydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan breswylwyr a oedd wedi cysylltu â’r Cyngor, ac i’r mapiau llifogydd a gyhoeddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru a oedd yn amlygu graddfa’r llifogydd.   

17.

Eitemau a Phwrpas Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 89 KB

Cwblhau’r Rhaglen Her yr Hinsawdd ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau os oedd ganddynt unrhyw beth i ychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

            Argymhellodd y Cynghorydd Allan Marshall bod y Pwyllgor yn gwylio rhaglen Earth ar BBC2 am yr wythnosau nesaf.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd bod gwahoddiad yn cael ei roi i gynrychiolydd ar gyfer y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru i fynychu cyfarfod i drafod cynllunio at raid i wres eithafol gael ei gynnwys.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Carolyn Preece a’i eilio gan y Cynghorydd Dan Rose.

 

 

18.

Aelodau'r wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 2pm a daeth i ben am 2.58 pm).

 

 

…………………………

Y Cadeirydd