Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

51.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

52.

Cofnodion pdf icon PDF 135 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 4 Tachwedd 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2021, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Joe Johnson a’r Cynghorydd Marion Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

53.

Amcanion Adferiad Corfforaethol pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        Nodi cynnydd sydd wedi’i wneud yn erbyn yr Amcanion Adferiad Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd â’r amcanion corfforaethol yn yr ail gam hwn o’r adferiad o bandemig Covid-19, lle’r oedd amrywiolyn Omicron yn dechrau effeithio ar wasanaethau.  Er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar adferiad, roedd y pwyslais yn y dyfodol yn debygol o gael ei effeithio’n sylweddol gan yr angen i weithredu camau gweithredu ymateb trwy gydol mis Ionawr a mis Chwefror 2022.

 

Roedd nodau cyffredinol y Cyngor o ran adfer fel a gytunwyd o’r blaen, a rhoddodd uwch swyddogion y wybodaeth ddiweddaraf am bob un o’r amcanion adfer corfforaethol yn eu meysydd cyfrifoldeb, fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cyllid

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai adroddiad am oblygiadau Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol cyn i’r Cabinet gyflwyno cynigion cyllideb manwl i’r Cyngor ym mis Chwefror.  Er gwaetha’r Setliad cadarnhaol, byddai angen cynnydd yn y gofyniad cyllidebol ychwanegol er mwyn bodloni effaith dyfarniadau cyflog a’r Cyflog Byw Gwirioneddol ynghyd â chostau ychwanegol parhaus ac incwm a gollwyd yn sgil y pandemig ar ôl diwedd Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru (LlC) ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.  Byddai cynnal lefelau cronfeydd wrth gefn yn ystyriaeth allweddol ar gyfer gosod cyllideb 2022/23 a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Healey a oedd LlC wedi cytuno i ariannu penderfyniadau cenedlaethol, fel yr ymgodiad arfaethedig o ran cyflogau athrawon.  Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod LlC wedi bod yn glir wrth ddweud y byddai angen i effaith pob dyfarniad cyflog gael ei lliniaru’n llawn o’r Setliad.  Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts fod argymhellion wedi’u cyflwyno i’r Gweinidog gan gorff adolygu cyflogau annibynnol a byddai’r sefyllfa’n cael ei monitro’n ofalus wrth drafod â Chymdeithasol Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

Ar ôl cwestiynau gan y Cynghorydd Marion Bateman a’r Cadeirydd, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y gofyniad cyllidebol ychwanegol o £20.696 miliwn a adroddwyd ym mis Rhagfyr yn cael ei adolygu, er mwyn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf.

 

Gweithlu

 

Siaradodd y Prif Weithredwr am effaith y rheoliadau newidiol a rhoddodd enghreifftiau o fesurau a gyflwynwyd i barhau i gefnogi a sicrhau diogelwch a lles y gweithlu, yn enwedig wrth addasu i weithio gartref.  Roedd datblygu protocol drafft i gefnogi egwyddorion gweithio hybrid yn debygol o ragori ar darged LlC i ymgyrraedd ato o ran gweithio o bell.  Er bod ail-ddylunio sefydliadol yn cael ei ddylanwadu’n drwm gan ddatrysiadau technegol, roedd yn bwysig cynyddu hyblygrwydd i sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i weithredu'n effeithiol.

 

Cydnabu’r Prif Swyddog (Llywodraethu) yr her weithio gartref a rhoddodd sicrwydd o ran hyblygrwydd i ddiwallu anghenion gweithwyr wrth sicrhau eu diogelwch.

 

Wrth ddiolch i’r holl staff, rhoddodd y Cynghorydd Ian Roberts deyrnged benodol i’r rhai yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaethau Stryd, Tai a safleoedd amwynder dinesig am eu gwaith dros gyfnod y Nadolig.  Ailadroddwyd hyn gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Christine Jones, a roddodd deyrnged i dimau yn ei phortffolio.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd athrawon a staff cefnogi wedi’u cynnwys yn y  ...  view the full Cofnodion text for item 53.

54.

Proffil Risg Adferiad Corfforaethol pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Adolygu’r Gofrestr Risg ddiweddaraf ar gyfer Adferiad Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad am y Gofrestr Risg Adferiad Corfforaethol a Mesurau Lliniaru a oedd yn dangos bod risgiau’n parhau i gael eu rheoli’n dda trwy gydol y sefyllfa frys.

 

Roedd yr wyth risg a oedd yn cynyddu o ran tueddiadau risg yn ymwneud yn bennaf ag absenoldebau staff a galw ychwanegol ar wasanaethau, a oedd yn adlewyrchu cam presennol y pandemig.  Yn dilyn sylwadau’r Cadeirydd ar argaeledd gweithwyr allweddol a throsiant y gweithlu, cydnabu'r Prif Weithredwr effaith y pandemig ar ddewisiadau bywyd unigolion, nad oedd yn unigryw i Sir y Fflint.  Cyfeiriodd at y fframwaith mwy a oedd wedi’i roi ar waith i gefnogi gweithwyr.

 

Cynigiodd y Cadeirydd argymhelliad ychwanegol, sef bod gohebiaeth yn cael ei hanfon at bob gweithiwr i fynegi gwerthfawrogiad am eu gwaith ar draws y sefydliad a’r effaith gadarnhaol ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Hilary McGuill.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r gofrestr risg ddiweddaraf a chamau lliniaru risg o fewn y portffolios corfforaethol; a

 

(b)       Bod gohebiaeth yn cael ei hanfon at bob gweithiwr i ddiolch iddynt am eu gwaith caled yn ystod y pandemig ac i amlinellu pa mor werthfawr yw eu swyddi i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynnal.

55.

Risgiau a Materion o fewn Portffolios ac Adborth o Drosolwg a Chraffu pdf icon PDF 145 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar y risgiau pennaf/cyfredol o fewn y pum portffolio ac adborth ar y risgiau hynny a ystyriwyd gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd gyda meysydd risg ar gyfer pob un o’r pum portffolio gwasanaeth ac adborth am y materion hynny gan Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu, fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Addysg ac Ieuenctid

 

Wrth grynhoi’r prif feysydd risg, rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wybodaeth am ddull gweithredu a ddilynwyd i nodi lefelau cadernid ysgolion wrth iddynt nesáu at wyliau’r Nadolig a bod newid i ddysgu o bell - gan ymgynghori â Llywodraeth Cymru (LlC) - wedi’i groesawu gan Benaethiaid a’r rhan fwyaf o rieni.  Roedd gofyniad parhaus am gyllid grant ychwanegol i ddarparu cefnogaeth angenrheidiol i fynd i’r afael ag effaith hirdymor y pandemig ar ddisgyblion o bob oed.  Risg uchel arall oedd gallu ysgolion i ddelio â heriau fel absenoldebau staff ynghyd â newidiadau deddfwriaethol a pharatoadau ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm newydd.  Roedd sefyllfa LlC o ran arholiadau ysgol yn cael ei monitro’n agos.  Roedd paratoadau ar y gweill i ysgolion gynnal asesiadau risg yn barod ar gyfer ailagor ym mis Ionawr.  Byddai’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa pob ysgol yn cael ei rhannu gyda phob Aelod pan fyddai’r data wedi’i gasglu yn ddiweddarach yn y dydd.

 

Diolchodd y Cynghorydd David Healey i’r Prif Swyddog a’i thîm am eu cefnogaeth i ysgolion a Phenaethiaid.  Gan ymateb i gwestiwn am wella awyriad mewn ysgolion, dywedodd y byddai cyllid ychwanegol gan LlC yn galluogi’r Cyngor i asesu lle ddylai gwaith adfer gael ei flaenoriaethu.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cadeirydd, dywedodd y Prif Swyddog fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid wedi trafod y nifer gynyddol o blant sy’n cael eu haddysgu gartref ac effaith hynny ar gyfrifoldebau’r Awdurdod Lleol.  O ran yr heriau wrth gyrchu staff cyflenwi, a oedd wedi cynyddu’n genedlaethol yn ystod y pandemig, byddai’n rhannu’r awgrym i LlC gysylltu â’r sefydliadau hynny i ailadrodd eu gwerth o ran darparu gwasanaeth.

 

Tai ac Asedau

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr effaith y pandemig ar incwm rhenti unwaith eto, a’r gefnogaeth sydd ar gael i denantiaid sy’n cael anhawster, a oedd yn barod i ymgysylltu â’r Cyngor.  Roedd y sefyllfa o ran pobl a oedd yn datgan eu bod yn ddigartref yn parhau i gael ei monitro, a byddai cyllid ychwanegol gan LlC yn helpu i gynyddu capasiti staff a gwasanaethau cefnogi eraill a gomisiynir.  Roedd risgiau parhaus o ran adnoddau deunydd crai a chostau yn cael eu hadlewyrchu’n genedlaethol.

 

Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod cadernid y tîm wedi elwa o ymgyrch recriwtio lwyddiannus, ac eithrio swydd wag heb ei llenwi yn y tîm Draenio a Diogelu rhag Llifogydd.  O ran y Cynllun Datblygu Lleol, disgwyliwyd ymateb gan yr Arolygiaeth Gynllunio cyn cam nesaf yr ymgynghori o ran y newidiadau.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant fod prif feysydd galw ar wasanaethau o ganlyniad i bwysau ar y tri ysbyty lleol a bod gwaith amddiffyn plant wedi cynyddu’n sylweddol o ganlyniad i achosion cenedlaethol yn codi ymwybyddiaeth.  Eglurodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 55.

56.

Diweddariad Economi Sir y Fflint pdf icon PDF 148 KB

Pwrpas:        I ddarparu crynodeb o'r amodau economaidd cyfredol yn y rhanbarth a'r Sir gan dynnu o nifer o ffynonellau. Ac i ddarparu crynodeb o'r strwythurau llywodraethu sydd ar waith i ymateb i adferiad economaidd a'r rhaglenni gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad am amodau economaidd presennol yn Sir y Fflint ac ar draws y rhanbarth, yng nghyd-destun sefyllfa’r DU.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r strwythurau llywodraethu a oedd ar waith i ymateb i adferiad economaidd a rhaglenni gwaith hefyd.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio fod yr adroddiad yn adlewyrchu’r cam trawsnewid presennol gan atgyfnerthu sefyllfa Sir y Fflint fel un o’r economïau cryfaf yng Nghymru.  Er bod llai o achosion o ddileu swyddi ar raddfa fawr nag a ragwelwyd, roedd yr heriau o ran recriwtio a chadw staff wedi cynyddu trwy gydol y pandemig.  Dau fater sylweddol oedd diffyg safleoedd ac eiddo addas ar gyfer buddsoddi a recriwtio i sectorau allweddol.  Nodwyd y gwaith rhanbarthol i gefnogi adferiad economaidd gan gynnwys y pecynnau o fesurau cefnogi a ddatblygwyd ac a oedd yn aros am benderfyniadau cyllid.  Byddai’r gr?p lleol yn sicrhau bod ffrydiau gwaith yn cael eu cydlynu’n effeithiol er mwyn darparu’r effaith orau i Sir y Fflint.  Yn ystod trosolwg o’r cynlluniau allweddol, nodwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i wella data ar ganol trefi ac roeddent yn aros am ganlyniad cynllun peilot Llywodraeth Cymru (LlC) ar Fenthyciadau Entrepreneuriaeth Canol Trefi.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am yr adroddiad manwl. Galwodd y Cynghorydd David Healey ar y Llywodraeth i ddarparu mwy o gymhelliant i fusnesau gymryd prentisiaid.  Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth am waith lleol a rhanbarthol i wella llif gwybodaeth i annog dysgwyr, ac o ganlyniad i’r pandemig, roedd llawer o fusnesau yn croesawu cyfleoedd am brentisiaethau.

 

Gan ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Clive Carver am raddau’r gwelliannau digidol ar draws y Sir gan gynnwys ei ward ef, cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at ffrydiau gwaith dan y Strategaeth Ddigidol a Bargen Dwf Gogledd Cymru, a byddai’n trafod pryderon y Cynghorydd Carver ymhellach y tu allan i’r cyfarfod.

 

Croesawodd y Cynghorydd Derek Butler yr adroddiad a oedd yn amlygu’r economi gadarn yn Sir y Fflint a nodi materion ar gyfer gwelliant pellach.  Dywedodd fod prinder sgiliau a heriau recriwtio yn amlwg cyn y pandemig a Brexit, a dylai’r Cyngor barhau i gyflwyno sylwadau i LlC i gynyddu cyfleoedd am brentisiaethau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hilary McGuill a’r Cynghorydd Marion Bateman nad oedd y diffyg unedau masnachol oedd ar gael yn annog busnesau i ehangu.  Gan ymateb i gwestiwn, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth eglurder ar ddyrannu’r rownd ddiweddaraf o gyllid grant i fusnesau a byddai’n gwirio a oedd cymhellion cyllid newydd i annog cyflogwyr i dderbyn prentisiaid.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Derek Butler deyrnged i waith y Rheolwr Gwasanaeth a’r Rheolwr Refeniw a’u timau wrth reoli cyllid grant i fusnesau.  Cytunodd â phryderon am ddiffyg unedau diwydiannol ac awgrymodd efallai byddai’r Cyngor am roi ystyriaeth i lunio rhaglen i fodloni’r galw.

 

O ran unedau diwydiannol, eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) rôl y Cyngor o ran argaeledd tir a rhoddodd enghreifftiau o geisiadau ar amryw o safleoedd.  Cyfeiriodd Aelodau at adroddiad Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi  ...  view the full Cofnodion text for item 56.

57.

Diweddariad Adferiad Cymunedol (Ar lafar/Cyflwyniad)

Pwrpas:        Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar Adferiad Cymunedol gan gynnwys camau blaenoriaeth y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus ar y cyd o ran adferiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) drosolwg o’r sleidiau cyflwyno a rannwyd o’r blaen gyda’r Pwyllgor ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y Cyd a chynnydd ar y pedwar blaenoriaeth:

 

·         Iechyd meddwl

·         Gwella ein hamgylchedd

·         Plant a phobl ifanc

·         Tlodi a chynhwysiant

 

Byddai diweddariad pellach yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Ar y sail honno, cafodd yr adroddiad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Patrick Heesom a’r Cynghorydd Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cyflwyniad.

Item 8 - Community Recovery slides pdf icon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

58.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a'r Rhestr o Gyfarfodydd (ar lafar)

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer y Pwyllgor Adferiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan mai dyddiad dros dro oedd cyfarfod mis Chwefror a neilltuwyd ar gyfer unrhyw fater brys, yr eitemau a gytunwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf a oedd wedi’i drefnu ar 3 Mawrth 2022 oedd:

 

·         Amcanion Adferiad Corfforaethol

·         Proffil Risg Adferiad Corfforaethol

·         Datganiad sefyllfa wedi’i ddiweddaru ar risgiau ar gyfer pob portffolio

·         Diweddariad Adferiad Cymunedol

·         Yr eitem a ofynnwyd amdani ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, yn dibynnu a fydd y cynrychiolwyr hynny ar gael

 

Cafodd hyn ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Patrick Heesom a’r Cynghorydd Marion Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Yn amodol ar yr angen i ystyried unrhyw fater brys, bod cyfarfod mis Chwefror yn cael ei ganslo; a

 

(b)       Bod yr eitemau a awgrymwyd ar gyfer cyfarfod mis Mawrth yn cael eu cefnogi.

59.

PRESENOLDEB AELODAU O'R WASG

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.