Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

28.

Dirprwyon

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu i’r Cynghorydd Allan Marshall (a oedd wedi gwneud yr hyfforddiant gofynnol) ddirprwyo ar ran y Cynghorydd Andy Hughes.

 

PENDERFYNWYD:

 

Caniatáu’r Cynghorydd Allan Marshall i ddirprwyo yn y cyfarfod.

29.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar gofnod rhif 37, (Cronfeydd Wrth Gefn Ysgolion), datganodd y Cadeirydd a’r Cynghorwyr Teresa Carberry, Allan Marshall a Linda Thew gysylltiad personol fel llywodraethwyr ysgol.  Datganodd Sally Ellis gysylltiad personol â’r un eitem oherwydd bod ei mab yn cael ei gyflogi gan ysgol yn Sir y Fflint.

30.

Cofnodion pdf icon PDF 103 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 24 Gorffennaf 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad yng nghofnod 23, bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2024 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

31.

Hunanasesiad Corfforaethol 2023/24 pdf icon PDF 142 KB

Derbyn a chymeradwyo canfyddiadau Hunanasesiad Corfforaethol 2023/24 a chymeradwyo’r cyfleoedd ar gyfer gwella a nodir yn Hunanasesiad Corfforaethol 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar ganfyddiadau Hunanasesiad Corfforaethol 2023/24 a chyfleoedd a nodwyd i wella.

 

Yn ystod y ddadl, codwyd pryderon y gallai fod angen ‘gwiriad synnwyr’ ar gyfer rhai ymatebion, er enghraifft ar gyfer cwestiwn B15.  Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor godi unrhyw feysydd pryder eraill gyda swyddogion erbyn 11 Hydref fel bod adroddiad wedi’i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf.

 

Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)   Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd ynghylch canfyddiadau Hunanasesiad Corfforaethol 2023/24;

 

(b)   Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd ynghylch y cyfleoedd ar gyfer gwella a nodwyd yn Hunanasesiad Corfforaethol 2023/24; a

 

(c)   Bod Aelodau yn anfon unrhyw feysydd i’w hadolygu i’r Rheolwr Archwilio Mewnol erbyn 11 Hydref 2024 fel bod adroddiad arall yn cael ei gyflwyno ym mis Tachwedd.

32.

Gosod Amcanion Lles pdf icon PDF 111 KB

Adolygu’r argymhellion ar gyfer gwella a gynghorwyd gan Archwilio Cymru, ynghyd ag ymateb y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiadi adolygu ymateb y Cyngor i’r pedwar argymhelliad ar gyfer gwella a gafwyd gan Archwilio Cymru, yn dilyn ystyriaeth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Cabinet.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd ynghylch yr argymhellion ar gyfer gwella.

33.

Enwebu Aelodau i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyd-bwyllgor Corfforedig pdf icon PDF 83 KB

Mae gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig ei Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ei hun, ac mae angen i ni enwebu un Cynghorydd ac yn Aelod Lleyg i’r pwyllgor hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i enwebu Aelodau i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyd-Bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru.  Cytunodd y byddai’n canfod a oes gofyn i’r rheiny sy’n gwasanaethu ar y cyd-bwyllgor ymgymryd â hyfforddiant gorfodol.

 

Cafodd yr enwebiadau a gyflwynwyd gan y Pwyllgor eu derbyn gan y ddau Aelod hynny.  Dywedodd y Cadeirydd fod trafodaeth cyn y cyfarfod wedi canfod nad oedd yr un o'r aelodau cyfetholedig yn dymuno cael eu henwebu ar gyfer y cydbwyllgor.  Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)   Bod y Pwyllgor yn enwebu’r Cynghorydd Andrew Parkhurst i wasanaethu ar Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru a’r Cynghorydd Ted Palmer yn ddirprwy;

 

(b) Nad yw’r Pwyllgor yn dymuno enwebu Aelod Lleyg yn aelod o Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru; a

 

(c)   Bod y Prif Swyddog (Llywodraethu) yn canfod a oes gofyniad hyfforddi gorfodol ar gyfer yr enwebeion i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyd-bwyllgor Corfforedig.

34.

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol pdf icon PDF 132 KB

Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad i roi diweddariad ar gynnydd i’r Pwyllgor yn erbyn y Cynllun Archwilio, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.

 

O ran yr ymateb i holiaduron cleientiaid, cytunodd y Rheolwr Archwilio Mewnol adolygu’r cwestiynau i geisio gwella cyfraddau ymateb.

 

Cefnogwyd cynnig ychwanegol mewn ymateb i bryderon ynghylch nifer y camau gweithredu sydd heb eu cyflawni, yn enwedig y rhai a nodwyd fel blaenoriaeth uchel mewn meysydd megis Digartrefedd a Llety Dros Dro.

 

Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)   Derbyn yr adroddiad; a

 

(b)   Gofyn am adroddiad gan y Prif Weithredwr, yn crynhoi ei safbwynt ynghylch y prif resymau dros oedi cyn gweithredu, ar wahân i ddiffyg adnoddau, a chynigion ar gyfer gwella prydlondeb a chywirdeb wrth gyflawni cynlluniau gweithredu o fewn y chwe mis nesaf.  Yn ogystal, bod yr uwch swyddog cyfrifol a'r Aelod Cabinet yn mynychu'r Pwyllgor i ddarparu esboniad lle nad oes digon o resymau dros yr oedi mewn cyflawni camau gweithredu blaenoriaeth uchel.

35.

Olrhain Gweithred pdf icon PDF 80 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y camau gweithredu sy’n codi o’r pwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad ar gynnydd camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor.  Cytunodd y byddai’n cysylltu â'r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i ddilyn y cais am gyfarfodydd rhwng Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn a Chadeiryddion y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad.

36.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 84 KB

Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Rhaglen Waith gyfredol i'w hystyried.  Oherwydd nifer yr eitemau a restrwyd ar gyfer cyfarfod mis Tachwedd, cytunodd i gysylltu â swyddogion i ystyried a ellid gohirio rhai.

 

Cytunwyd ar yr eitemau a ganlyn ar gyfer cyfarfod mis Tachwedd:

 

·         Adroddiad diweddaru ar yr Hunanasesiad Corfforaethol

·         Adroddiad ar olrhain camau gweithredu gan y Prif Weithredwr.

 

Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)   Derbyn y Rhaglen Waith, fel y’i diwygiwyd; a

 

(b)   Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

37.

Cronfeydd wrth gefn Ysgolion y flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2024 a Demograffeg pdf icon PDF 191 KB

Rhoi manylion i’r Pwyllgor o falansau ysgolion Sir y Fflint ar ôl cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a gwybodaeth am newidiadau mewn demograffeg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Ysgolion) yr adroddiad blynyddol ar gronfeydd wrth gefn sydd gan ysgolion Sir y Fflint a’r risgiau a’r prosesau mewnol sy’n gysylltiedig ag ysgolion sydd mewn diffyg.  Roedd yr adroddiad wedi'i rannu â'r holl Benaethiaid ac wedi'i ystyried gan y Fforwm Cyllideb Ysgolion a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad, lefel cronfeydd wrth gefn ysgolion ar 31 Mawrth 2024 a throsolwg o sefyllfa ariannol gyfredol ysgolion.

38.

Attendance by members of the press and public

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.