Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote Meeting
Cyswllt: Janet Kelly
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd I benodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd yr Hwylusydd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y cyfarfod. Cafodd y Cynghorydd Teresa Carberry ei henwebu a’i heilio fel Cadeirydd.
PENDERFYNWYD: Nodi penodiad y Cynghorydd Teresa Carberry yn Gadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Fran Lister gysylltiad personol (ag eitem 6) |
|
Diogelu yn y maes Addysg gan gynnwys Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch Rhyngrwyd Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyflawni dyletswyddau diogelu statudol mewn ysgolion a’r portffolio Addysg. Cynnwys gwybodaeth ar Berthnasau ac Addysg Rywiol, a sut roedd hyn yn cyfrannu at leihau niwed. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ddyletswyddau diogelu statudol yr Awdurdod mewn ysgolion ac yn y portffolio Addysg ac Ieuenctid. Amlygwyd pwyntiau allweddol yn yr adroddiad i’r Aelodau.
Gan ymateb i gwestiynau gan Aelodau, cytunodd yr Ymgynghorydd Dysgu – Iechyd, Lles a Diogelu i ddarparu’r canlynol :-
• Darparu gwybodaeth am leoedd sydd ar ôl ar gyrsiau ar gyfer Datblygiad Proffesiynol.
• Darparu gwybodaeth am yr amrywiaeth o rolau sydd wedi’u cynnwys yn y grwpiau newydd ym mhwynt 1.06 yr adroddiad.
• O ran Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, cytunodd i ysgrifennu adroddiad, a fyddai’n cynnwys canlyniadau’r amcanion, a oedd yn sicrhau bod ysgolion yn cael cefnogaeth i fodloni gofynion y Cod ACRh statudol.
• Gan ymateb i bwyntiau am nifer yr ysgolion sy’n defnyddio Adnodd 360° Safe Cymru, cytunwyd i ddarparu’r wybodaeth leol hon. Yna byddai ysgolion yn cael eu hatgoffa bod yr adnodd hwn ar gael, ei fod yn rhad ac am ddim ac os nad oedd yn cael ei ddefnyddio, sut oedden nhw’n sicrhau bod eu darpariaeth diogelwch ar-lein, polisïau a gweithdrefnau’n gyfredol. Roedd Llywodraeth Cymru yn amlygu hyn hefyd.
Fe gafodd y penderfyniad yn yr adroddiad ei gefnogi.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad Diogelu mewn Addysg ac yn darparu eu hadborth i swyddogion ar y strategaethau a ddefnyddiwyd gan y Portffolio i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol.
|
|
Gofal yn Nes at Adref: Strategaeth Comisiynu Lleoliadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal. Amlinellu canlyniad yr adolygiad ac effaith Polisi Lleol CsyFf. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd yr Uwch Reolwr (Gwasanaethau Plant) fod y drafft wedi nodi’r boblogaeth bresennol a’r boblogaeth a ragwelir o ran plant sy’n derbyn gofal. Roedd yn darparu asesiad o’r gefnogaeth ofynnol gan nodi uchelgais yr Awdurdod i ddatblygu maethu mewnol a chartrefi preswyl i blant yn fewnol ymhellach yn Sir y Fflint. Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) yn ymrwymedig i ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal ac roedd yr Awdurdod wedi bod yn glir mewn trafodaethau gyda LlC fod rhaid cael amserlen gyda rhaglen wedi’i hariannu a fyddai’n sicrhau y byddai’n bosibl darparu hyn dan y gofynion a nodir mewn deddfwriaeth. Y cam nesaf oedd gweithio gydag Aelodau i nodi ein huchelgais, sefydlu’r hyn rydym am ei ddarparu fel Awdurdod a gweithio gyda LlC i sicrhau bod y refeniw a’r adnoddau’n cael eu darparu i gefnogi hyn.
Gan ymateb i gwestiwn am ofalwyr maeth asiantaeth, cytunodd yr Uwch Reolwr i gyflwyno hyn fel cam gweithredu a dosbarthu’r wybodaeth i Aelodau.
Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cefnogi.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd a wnaed wrth ddarparu cam un ein strategaeth ‘Gofal yn Agosach at Adref’.
(b) Bod gweithdy ar gyfer Aelodau Etholedig yn cael ei drefnu yn yr hydref 2024 i amlinellu’r ddeddfwriaeth newydd, cyd-destun comisiynu lleoliadau presennol (cyfeirir atynt yn aml fel Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir) ac archwilio dewisiadau ar gyfer datblygu ein dull strategol ar gyfer comisiynu lleoliadau a datblygu darpariaeth lleoliadau mewnol ymhellach.
|
|
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 Amlinellu’r dull o weithio tuag at nodi a chomisiynu addysg ar gyfer pobl ifanc Sir y Fflint a beth sy’n cael ei wneud i fodloni’r galw cynyddol am addysg arbenigol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) ei fod yn crynhoi gweithrediad Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a’r gefnogaeth a ddarperir i bobl ag Awtistiaeth. Amlygwyd pwyntiau allweddol yn yr adroddiad i’r Aelodau. Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr (Gwasanaethau Plant) at y gwaith o gefnogi cydweithwyr iechyd o ran faint o blant a phobl ifanc oedd yn aros am asesiad ND (niwro ddatblygiad). Mewn cyfarfod diweddar o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gofynnwyd cwestiwn am amseroedd aros i Uwch Aelodau’r Bwrdd Iechyd. Darparwyd ymateb ysgrifenedig a chytunodd yr Uwch Reolwr i rannu hwn gyda’r Pwyllgor. Awgrymodd y Cadeirydd fod argymhelliad arall yn cael ei gynnwys, sef “bod yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Awtistiaeth yn cael ei wahodd i fynychu’r Pwyllgor yn y dyfodol”. Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor. Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cefnogi.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cydnabod y dyletswyddau diwygiedig yr oedd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg yn eu gosod ar y Cyngor a’r camau a gymerwyd i weithredu’r system newydd.
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi’r pwysau ariannol posibl oherwydd y gofynion deddfwriaethol.
(c) Bod yr Ymgynghorydd Dysgu ar gyfer Awtistiaeth yn cael ei wahodd i fynychu’r Pwyllgor yn y dyfodol.
|
|
Y Wybodaeth Ddiweddaraf Ynghylch Urddas Mislif Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar gefnogaeth y Cyngor ar gyfer Urddas Mislif. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu (Iechyd, Lles a Diogelu) yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r sefyllfa genedlaethol bresennol o ran urddas mislif a sut roedd cyllid grant wedi bod o fudd i ysgolion a chymunedau Sir y Fflint dros y ddau gyfnod ariannol ar gyfer 2022-2023 a 2023-2024, gyda Llywodraeth Cymru (LlC) yn cyflwyno “Cynllun Gweithredu Balch o’r Mislif Cymru” ym mis Chwefror 2023.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad am urddas mislif a chael sicrwydd y gwariwyd y grant yn briodol a’i fod wedi helpu i fodloni anghenion y rhai hynny yr anelwyd cynllun Llywodraeth Cymru atynt. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |