Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

27.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a Hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim

28.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu i’w hystyried.  Tynnodd sylw at yr eitemau a oedd wedi’u trefnu i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a oedd i gael ei gynnal ar 13 Rhagfyr 2022 a soniodd am yr eitemau i’w hystyried mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. 

 

Rhoddodd yr Hwylusydd ddiweddariad ar waith ar y gweill ar yr eitemau oedd yn weddill yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. Rhoddodd yr Hwylusydd hefyd ddiweddariad ar gynnydd i drefnu cyfarfod ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant i ystyried parcio y tu allan i’r ysgol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd bod eitem yn cael ei hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol er mwyn ystyried y meini prawf eithriadau ar gyfer y cyfyngiad 20mya a fyddai’n cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru flwyddyn nesaf.  Siaradodd y Cynghorydd Mike Peers am y cynllun priffyrdd 20mya a gyflwynwyd dros gyfnod prawf ym Mwcle ym mis Mawrth eleni.  Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod pryderon wedi cael eu mynegi i’r Gweinidog gan Aelodau lleol yn ardal Bwcle mewn perthynas â’r cynllun prawf.  Soniodd am farn y Cyngor ar y cynllun peilot a dywedodd ei fod yn cefnogi’r awgrym i gynnal cyfarfod neu weithdy i ystyried y mater cyn gynted â phosibl. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson bryderon yngl?n â chyflwr / gwelededd gwael rhai o’r marciau ar y ffyrdd yn Sir y Fflint a nododd farciau ffordd ger cylchfannau mewn rhai ardaloedd fel enghraifft. 

 

Mewn ymateb i’r sylwadau a’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Peers, eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) fod bwriad i ymgysylltu â’r cyhoedd mewn perthynas â’r cynllun 20mya ym Mwcle ac y byddai datganiad i’r wasg yn cael ei gyhoeddi yr wythnos hon.  Cyfeiriodd at lansiad Llywodraeth Cymru o’r ddeddfwriaeth genedlaethol newydd ym mis Ionawr 2023 a chefnogodd yr awgrym i gynnal gweithdy yn dilyn y lansiad.  Cytunodd y Prif Swyddog i drafod yn unrhyw bryderon penodol a oedd gan y Cynghorydd Hutchinson mewn perthynas â’r marciau ffordd, ar ôl y cyfarfod.

 

Siaradodd y Cynghorydd David Healey o blaid cynnal ymgynghoriad â’r cyhoedd ar gynllun priffyrdd 20mya Llywodraeth Cymru.

 

 Gwahoddwyd yr Aelodau i godi unrhyw eitemau eraill yr oeddent yn dymuno eu cyflwyno i’w cynnwys ar y Rhaglen. 

 

            Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Mike Peers a Roy Wakelam.

PENDERFYNWYD:

(a)     Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn amodol ar y newidiadau uchod;

(b)     Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)     Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

 

29.

Polisi Pás Cerbyd i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Ty pdf icon PDF 122 KB

Adolygu gweithrediadau a meini prawf pás cerbyd ar gyfer canolfannau ailgylchu gwastraff t?.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) yr adroddiad.  Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn darparu trosolwg o effaith y polisi diwygiedig ynghyd â manylion yr adolygiad a gynhaliwyd a’r cynigion ar gyfer diwygio’r polisi. Cyflwynwyd ystyriaethau pellach

ar weithrediadau ehangach Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref gyda’r bwriad o gyflwyno arbedion a gwelliannau pellach i’r gwasanaeth. 

 

            Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio yr adroddiad a darparodd drosolwg o’r prif ystyriaethau mewn perthynas â gweithredu’r polisi pas cerbyd yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio at y ddau weithdy i aelodau a gynhaliwyd yn ystod mis Medi 2022 i gynnal adolygiad o’r polisi er mwyn i Aelodau allu cyflwyno adborth neu bryderon yr etholwyr i swyddogion.  Ehangwyd yr adolygiad i gynnwys gweithrediadau ehangach y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, gyda’r bwriad o gyflwyno gwelliannau pellach i’r gwasanaeth ac arbedion effeithlonrwydd a chynyddu’r cyfleoedd ar gyfer ailgylchu. Roedd manylion yngl?n â chynnwys y gweithdai ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio, yn dilyn gwerthusiad o’r adborth a ddarparwyd o’r gweithdai, bod nifer o gynigion wedi cael eu cyflwyno i’w hystyried.  Roedd sylwadau’r Aelodau, yr ystyriaethau cysylltiedig i’w hadolygu ac, yn dilyn gwerthusiad o fanteision ac anfanteision yr ystyriaethau hynny, canlyniad arfaethedig ar gyfer bob sylw, wedi’u nodi yn Atodiad 3 yr adroddiad. Ysgrifennwyd y canlyniadau arfaethedig mewn dogfen bolisi ddiwygiedig i’w hystyried. Roedd y diwygiadau a’r cymalau newydd i’w cynnwys yn y polisi wedi’u hamlygu yn Atodiad 4.

 

Hefyd, adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio ar welliannau pellach i wasanaeth ac arbedion effeithlonrwydd mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ac fe gyfeiriodd at y cynigion o ran y gwasanaeth archebu, codi tâl am waredu gwastraff (Masnachol / Elusen), oriau agor amgen a chodi tâl am gyflyrwr pridd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Roy Wakelam at dudalen 55, Atodiad 4 yn yr adroddiad, a gofynnodd a fyddai modd diwygio’r pwynt bwled ‘cerbyd symudedd’ i ‘unrhyw gerbyd symudedd’.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio y gellid rhoi eglurder o ran cyfyngiadau uchder a hyd y cerbyd yn y polisi. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Mike Peers bryderon yngl?n â’r rheswm dros wrthod cerbydau gydag arwyddion ysgrifenedig arnynt gyda gwastraff masnachol yn benodol a dywedodd nad oedd y polisi yn cynnwys unrhyw beth nad oedd yn gysylltiedig â gwastraff masnachol.  Gofynnodd bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i eithriad ar gyfer preswylwyr â cherbydau ag arwyddion ysgrifenedig arnynt ac nad ydynt yn gysylltiedig â busnes, nac yn cynhyrchu gwastraff masnachol, a lle’r oedd y cerbyd wedi’i gofrestru i eiddo preswyl ac yn destun treth y cyngor.  Gofynnodd bod y polisi’n cael ei ddiwygio i adlewyrchu’r amgylchiadau hynny, neu’n cael ei oedi er mwyn i’r Gwasanaethau Stryd allu datblygu eithriad. 

 

Cynigodd  y Cynghorydd Peers y dylai’r polisi gael ei ddiwygio i roi pas i’r preswylwyr hynny sydd â cherbyd gydag arwydd ysgrifenedig arno ond nad ydynt yn cynhyrchu gwastraff masnachol nac ychwaith yn gysylltiedig â’r diwydiant adeiladu, ond yn hytrach yn defnyddio’r cerbyd i hyrwyddo eu busnes er budd y gymuned, a dywedodd  ...  view the full Cofnodion text for item 29.

30.

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Clefyd Coed Ynn pdf icon PDF 151 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yngl?n â sut aeth Cyngor Sir y Fflint i’r afael â’r clefyd coed ynn yn 2021/22 yn unol â’r Cynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn, yn ogystal â sôn am y cynnydd yn sgil archwiliad mewnol fis Gorffennaf 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol adroddiad i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am sut yr oedd Cyngor Sir y Fflint wedi mynd i’r afael â Chlefyd Coed Ynn yn 2021/22 yn unol â Chynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn 2019, a’r argymhellion yn dilyn archwiliad mewnol ym mis Gorffennaf 2021. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.  Roedd y Cynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn 2019 yn nodi ac yn cynnig ffyrdd o reoli’r risg a’r costau’n gysylltiedig â Chlefyd Coed Ynn, gan dynnu sylw at lle’r oedd coed heintus wedi cynyddu risg i ddiogelwch y cyhoedd a’r gost ariannol i’r Cyngor.  Er mwyn cymedroli a rheoli’r risg yn gysylltiedig â chlefyd coed ynn, cynhaliwyd cyfres o arolygon i asesu dosbarthiad ac i ddosbarthu’r clefyd ar goed ynn ar ochr ffyrdd sy’n flaenoriaeth a ffyrdd eilaidd. Cynhelir rhaglen torri coed ar goed mae Cyngor Sir y Fflint yn berchen arnynt, ac mae tirfeddianwyr â choed heintus wedi cael eu hysbysu er mwyn tynnu sylw at glefyd coed ynn yn eu coed, gyda’r disgwyliad y byddant yn rheoli eu coed eu hunain i liniaru’r risgiau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y gwaith ar adfer i ailblannu’r coed a gollwyd oherwydd y clefyd, a gofynnodd a fyddai pob ardal yn destun arolwg safle ei hun.  Soniodd y Cynghorydd Peers am yr effaith ar dirweddau hefyd.  Cydnabu’r Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol y pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Peers ac eglurodd bod adfer yn rhan bwysig o’r Cynllun Clefyd Coed Ynn a dywedodd y byddai ardaloedd yn cael eu hystyried fesul achos gan na fyddai pob ardal yn gwarantu plannu coed ychwanegol am resymau amrywiol.  Dywedodd fod y prif ffocws ar liniaru risg.

 

Ymatebodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol i’r pryderon a’r cwestiynau pellach a godwyd gan Aelodau mewn perthynas ag amserlenni, ailblannu, effaith ar fioamrywiaeth, y gost i’r Cyngor am ddelio gyda Chlefyd Coed Ynni, a thynnu / cael gwared ar goed sydd wedi’u heintio.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorwyr Mike Peers a Mike Allport.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei nodi a bod y gwaith parhaus yn gysylltiedig â

Chlefyd Coed Ynn yn cael ei gefnogi.

 

31.

Adrodd Adran 6 Bioamrywiaeth pdf icon PDF 110 KB

Diweddaru aelodau am y gwaith i sicrhau Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 Deddf yr Amgylchedd er mwyn adrodd ar y camau a gymerir i Lywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol yr adroddiad a oedd yn manylu ar gynnydd y Cyngor o ran cyflawni ei ddyletswydd bioamrywiaeth o dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Roedd yr adroddiad yn egluro Cynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth y Cyngor 2020 - 2023, ‘Cefnogi Natur yn Sir y Fflint’ a chynnydd y camau i gyflawni’r amcanion, gan dynnu sylw at feysydd allweddol o waith bioamrywiaeth o fewn y Sir. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys yr adroddiad Adran 6 statudol a fyddai’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2023 ar ddiwedd yr ail rownd adrodd 3 blynedd.

 

Darparodd y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif bwyntiau, gan gyfeirio at y 6 amcan a’r cynnydd a wnaed o ran cyflawni camau gweithredu i gyflawni 20 cam y Cynllun dan yr amcanion (Atodiad 1).

 

Canmolodd y Cynghorydd Mike Peers waith y Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol a’i dîm, a llwyddiant y cynlluniau a gynhaliwyd yn y gymuned, gan nodi’r ‘cynllun dôl blodau gwyllt’ fel enghraifft. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Chris Dolphin o blaid y cynllun ‘dôl blodau gwyllt’ ond dywedodd fod rhai pryderon wedi cael eu mynegi yngl?n â’r perygl o dân oherwydd tywydd eithriadol o boeth a sych a gwair hir.  Cydnabu’r Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol y pwynt a wnaed ac esboniodd, ar y cyfan, oherwydd yr ardaloedd bach dan sylw a monitro amodau hinsawdd lleol, teimlwyd bod y manteision yn gorbwyso’r risg bosibl.  Rhoddodd sicrwydd bod hyblygrwydd i dorri’r gwair ar unrhyw adeg os oedd angen.

 

Siaradodd y Cynghorydd Chris Bithell am waith y Gwasanaeth Cynllunio a’r ffyrdd y gallai cynllunio helpu gyda bioamrywiaeth.

 

Mynegodd y Cynghorydd Dan Rose bryderon yngl?n â cholli cynefin.  Soniodd am golli mannau gwyrdd a gwrychoedd oherwydd datblygiad cynllunio ac am wasanaethau eraill a ddarparwyd gan y Cyngor a oedd yn defnyddio plaladdwyr a dulliau rheoli eraill.   Gofynnodd a oedd cofnod mewn lle i fonitro’r effaith.  Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y gellid mynd i’r afael â’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Rose yn yr Adroddiad Monitro a fyddai’n eistedd ochr yn ochr â’r CDLl ac fe allai gael sylw yng nghyfarfod y Gr?p Strategaeth Cynllunio. 

 

Siaradodd y Cynghorydd David Healey o blaid pwysigrwydd bioamrywiaeth ar lefel leol gan gyfeirio at gyfranogiad Cyngor Tref a Chymuned.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Roy Wakelam a Mike Peers.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y diweddaraf yn cael ei nodi a’r gwaith parhaus yn gysylltiedig â gwella bioamrywiaeth yn cael ei gefnogi.

32.

Cronfa Ffyniant Bro pdf icon PDF 130 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Craffu am ddatblygiad y rhaglen a’r prosiectau ac argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cyllid cyfalaf i fodloni’r gofynion ariannu cyfatebol a ddisgwylir gan Lywodraeth y DU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio yr adroddiad i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y rhaglen a phrosiectau ac i

argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cyllid cyfalaf i fodloni’r gofynion ariannu cyfatebol a ddisgwylir gan Lywodraeth y DU.

 

Darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn cyflwyno’r diweddaraf am ddatblygiad a chyflwyniad dau gais yn unol â’r strategaeth ymgeisio a gytunwyd gan y Cabinet ar 18 Ionawr 2022 ac ar drydydd cais cludiant strategol. Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen yn gyffredinol ac yn ceisio dyraniad o gyllid cyfatebol o’r rhaglen gyfalaf o £1,106,915 (£630,467 cais Alyn a Glannau Dyfrdwy, £476,448 cais Delyn) er mwyn tynnu cyllid Llywodraeth y DU i lawr.

 

Soniodd y Cynghorydd Mike Peers am y risg o ran argaeledd cyllid cyfatebol y cyfeirir ato ar dudalen 124 yr adroddiad.  Awgrymodd, gan nad oedd cyllideb y Cyngor ar gyfer 2023/24 wedi cael ei chyflwyno eto, y dylid cytuno ar argymhelliad 3 mewn egwyddor yn unig nes yr oedd manylion pellach am y gyllideb yn hysbys. Ymatebodd y Swyddogion i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Peers yngl?n â’r ceisiadau a gyflwynwyd ac fe wnaethant sylwadau ar yr ymrwymiad cadarn i gael yr arian sydd ei angen.   Ni eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Peers.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Dan Rose a Mike Allport.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y cynnydd o ran datblygu a chyflwyno ceisiadau i ail rownd Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yn cael ei nodi;

 

(b)       Bod y risgiau a’r mesurau lliniaru yn gysylltiedig â’r pecyn o brosiectau yn cael eu nodi; a

 

(c)        Bod y dyraniad o gyllid cyfatebol o hyd at £1.107m o’r rhaglen gyfalaf yn 2024/2025 yn cael ei gefnogi.

 

33.

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU pdf icon PDF 136 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y rhaglen ac argymell i’r Cabinet eu bod yn cymeradwyo’r fframwaith blaenoriaethau a’r prosesau sydd eu hangen i roi’r rhaglen ar waith yn effeithiol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio’r adroddiad.  Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad yr isadeiledd rheoli rhaglen, yn lleol ac yn rhanbarthol, ac yn nodi’r blaenoriaethau a argymhellir ar gyfer y rhaglen yn ogystal â’r meini prawf a fyddai’n cael ei ddefnyddio i asesu’r prosiectau sy’n ceisio cyllid drwy’r rhaglen. Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu diweddariad eang ar y prosiectau Cyngor strategol a oedd wrthi’n cael eu datblygu’n barod ar gyfer y rhaglen.  Gofynnwyd i’r Aelodau argymell i’r Cabinet gymeradwyo’r fframwaith o flaenoriaethau a phrosesau angenrheidiol i weithredu’r rhaglen yn effeithiol.

 

Siaradodd y Cynghorydd David Healey o blaid y prosiect ac fe ganmolodd y Rheolwr Menter ac Adfywio ar ei waith.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Dan Rose a Mike Allport.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       bod y cynnydd a wnaed o ran datblygu rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhanbarthol ac yn lleol yn cael ei nodi;

 

(b)       bod yr amlinelliad bras o’r strwythurau a’r prosesau a ddefnyddir i ddarparu’r rhaglen yn cael ei nodi; a 

 

(c)        bod defnyddiau arfaethedig o gronfeydd 2022/2023 gan y Cyngor yn cael eu cefnogi.

 

 

34.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.

 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00 am a daeth i ben am 12.58 pm)