Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

51.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

52.

Cofnodion pdf icon PDF 110 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 7 Rhagfyr 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2021, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Paul Shotton a George Hardcastle.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

53.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ddiweddaraf i’r Aelodau ei hystyried ac amlygodd yr eitemau i’w hystyried yn ystod y cyfarfod ar 8 Chwefror. Cyfeiriodd wedyn at gyfarfod 5 Gorffennaf gan gadarnhau y bydd yr eitem ar y Safle Tirlenwi Safonol, yn unol â chais y Cynghorydd: Hutchinson, yn cael ei thrafod yn y cyfarfod hwnnw. Gan symud at yr adroddiad ar Olrhain Camau Gweithredu darparodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sydd wedi’u cwblhau a’r rheiny sy’n dal ar y gweill.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Owen Thomas am y wybodaeth ddiweddaraf am broblemau sbwriel o lefydd bwyd. Mewn ymateb cadarnhaodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod y Cyngor yn parhau i lobio Llywodraeth Cymru i newid y ddeddfwriaeth. Cadarnhaodd, pan gafodd y Cydlynwyr Ardal wybod am y problemau, eu bod wedi ymweld â’r llefydd hyn i siarad gyda nhw.

 

            Roedd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd yn rhannu pryderon y Cynghorydd Thomas a chyfeiriodd at y cynnig a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru flynyddoedd yn ôl. Roedd y cynnig hwn yn amlygu’r un materion gydag awgrym y dylid tagio’r deunydd pacio mewn rhyw ffordd er mwyn gwybod o ble ddaeth. Yn y pen draw Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am newid y ddeddfwriaeth er mwyn i’r Cyngor orfodi pethau. Mae’r siopau bwyd cyflym yn ymwybodol o’r problemau ond nid ydynt yn gwneud unrhyw beth i leihau effaith sbwriel. Mae’r Cyngor yn gorfod delio â hynny.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd George Hardcastle yngl?n â chyllid ar gyfer croesfannau isel, cadarnhaodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod adroddiad ar hyn yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor fis Chwefror. Nid oes cyllid wedi’i ddyrannu ar gyfer hyn ond mae ceisiadau yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru drwy’r gronfa Teithio Llesol, ond mae’r adnoddau’n gyfyngedig.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y’i diwygiwyd;

(b)     Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)     Nodi cynnydd y camau gweithredu sydd ar y gweill.

54.

Cynllun y Cyngor 2022-23 pdf icon PDF 115 KB

Ymgynghori ar Ran 1 o Gynllun y Cyngor 2022/23

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol fersiwn ddrafft o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2022-23 sy’n amlygu blaenoriaethau allweddol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn. Mae’r themâu a’r blaenoriaethau’r un fath ond mae adolygiad o’r holl gamau gweithredu a thasgau wedi’i gynnal yn dilyn ymateb y Cyngor i’r pandemig a’r cyfnod adfer. Mae’r Cabinet eisoes wedi cytuno ar y Cynllun, sydd bellach yn cael ei gylchredeg i bob pwyllgor trosolwg a chraffu er mwyn iddynt ymgynghori yn ei gylch erbyn dechrau mis Chwefror. Yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai bydd cyfle i aelodau newydd o’r Cyngor weld a chyfrannu at y cynllun ym mis Mehefin. Yna bydd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol yn casglu’r holl adborth at ei gilydd cyn cyflwyno’r cynllun terfynol i’r Cabinet a’r Cyngor ym mis Gorffennaf.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Owen Thomas a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adborth ar gynnwys diweddaraf themâu Cynllun y Cyngor ar gyfer 2022-23 cyn rhannu’r ddogfen gyda’r Cabinet ym mis Mehefin 2022.

55.

Ail Gylch Ymgeisio Cronfa Codi'r Gwastad pdf icon PDF 130 KB

Derbyn barn a chefnogaeth y Pwyllgor i’r cynigion i gyflwyno ceisiadau i Ail Gylch Ymgeisio Cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad sy’n amlygu ail gylch cyllido Cronfa Codi’r Gwastad ar gyfer prosiectau cyfalaf a’r gwaith sydd ar y gweill cyn cyflwyno’r ceisiadau yn y gwanwyn. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos nesaf a bydd sylwadau’r Pwyllgor hwn yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

            Darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio gefndir i’r Rhaglen Gyfalaf a gyhoeddwyd yn 2021 ac sy’n dod i ben yn 2024 ac yn rhan o raglen Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU. Roedd y Cyngor yn gallu gwneud tri chais ar gyfer prosiectau cludiant strategol a rhaglenni adfywio yn etholaethau Alun a Glannau Dyfrdwy a Delyn. Mae pob Cyngor yn gallu cyflwyno ceisiadau, gyda’r cynghorau llwyddiannus yn gorfod darparu o leiaf 10% o arian cyfatebol. Soniodd y Rheolwr Menter ac Adfywio am y cais aflwyddiannus y llynedd, y blaenoriaethau a’r pryderon ynghylch yr amserlen i gwblhau ceisiadau, sydd ar hyn o bryd yn aneglur. Darparodd wybodaeth am strategaethau’r cynnig, sy’n canolbwyntio ar gymunedau arfordirol Sir y Fflint ac yn cynnwys etifeddiaeth yr hen ddiwydiannau trwm, gwella safleoedd cyflogaeth, lleihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelu safleoedd treftadaeth pwysig. Y gobaith yw gweld y cynigion hyn yn helpu i gadw cyflogwyr, defnyddio asedau treftadaeth unwaith eto ac annog pobl leol ac ymwelwyr i ymweld â’r ardal arfordirol.

 

Yna fe ddarparodd wybodaeth am y 4 diffyg yn y farchnad sy’n derbyn sylw yn y cynigion:-

 

·         Diffyg buddsoddi mewn adeiladau gyda llawer yn dod i ddiwedd eu hoes

·         Treftadaeth - mae llawer o safleoedd yn dirywio

·         Dociau Cei Connah

·         Yr arfordir - angen sicrhau ei fod yn cael ei werthfawrogi a datrys problemau o ran cysylltiad

 

            Cadarnhaodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod y cynigion yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a bod angen gwneud mwy o waith arnynt. Darparwyd gwybodaeth am y cynigion ar gyfer Delyn, Parc Castell y Fflint a Pharc Busnes Maes Glas, sy’n defnyddio hen adeiladau’r diwydiant trwm. Mae’r rhain yn eiddo i’r Cyngor a gall y cynigion ddiogelu swyddi ar y safleoedd hyn.

 

            Gan symud i Alun a Glannau Dyfrdwy, amlinellodd y Rheolwr Menter ac Adfywio’r cynigion ar gyfer dociau Cei Connah, y parc busnes ac i fynd i’r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Eglurwyd y cynigion ar gyfer y T?r Cloc yn Shotton a moderneiddio’r unedau busnes yn defnyddio cynllun grant eiddo busnes. Byddai mynediad gwell i’r ardal gyfan yn cael ei ystyried i annog ymwelwyr. Hefyd, eglurwyd yr amserlen ar gyfer y cynigion a sut y byddant yn cael eu hasesu a’u rhoi ar restr fer gan sicrhau eu bod yn gadarn ac yn bosibl. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yr wythnos nesaf gyda’r Prif Swyddog a’r Aelod Cabinet yn symud hyn yn ei flaen gydag awdurdod dirprwyedig i ddiwygio'r cais i fodloni gofynion Llywodraeth y DU.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton fod y Gronfa Codi’r Gwastad yn gyfle i wella treftadaeth dociau Cei Connah ac ailddefnyddio’r ardal. Byddai argaeledd  ...  view the full Cofnodion text for item 55.

56.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Economi Sir y Fflint pdf icon PDF 148 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am gyflwr yr economi yn Sir y Fflint a rhaglenni gwaith i gynorthwyo gydag adferiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad sy’n edrych ar yr heriau a wynebir yn dilyn pandemig Covid-19 a Brexit ac sy’n asesiad ar sail tystiolaeth o sefyllfa bresennol yr economi yn Sir y Fflint. Mae’r adroddiad yn nodi sefyllfa’r Cyngor yn genedlaethol ac yn lleol a’r goblygiadau i fusnesau.


           
Eglurodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod yr economi mewn cyflwr o newid yn dilyn Brexit a’r pandemig gyda Sir y Fflint ar hyn o bryd yn parhau’n gryf ac yn nes at gyfartaledd y DU o ran cystadleurwydd. Mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amlinellu'r heriau a wynebir gan fusnesau gyda rhai yn cau ac eraill yn lleihau eu gallu i fasnachu gyda llai o drosiant a hyder. Mae’r heriau wrth fewnforio ac allforio yn dilyn Brexit yn parhau.

 

            Adroddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio ar waith y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ac amlygodd y pwyntiau allweddol. Mae llai wedi colli’u swyddi na’r disgwyl gyda diweithdra yn uwch y llynedd ond yn llai eleni. Ymddengys nad yw dyheadau pobl ifanc a’r farchnad lafur yn cyd-fynd a darparwyd gwybodaeth am gyfleoedd gwaith heb eu llenwi; mae 81% o fusnesau wedi cael trafferth recriwtio gweithwyr ac mae’n rhaid i’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a’r Cyngor wneud gwaith pellach i helpu i fynd i’r afael â hyn. Mae diffyg hyder ymhlith busnesau wedi effeithio ar fuddsoddi ac adfer gyda phob sector yn cael anawsterau recriwtio, yn enwedig y sectorau gofal, adeiladu a thwristiaeth a lletygarwch. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynorthwyo’r busnesau hyn i recriwtio. Mater arall i’w amlygu yw anawsterau busnesau wrth ganfod eiddo addas, ac mae gwaith ar y gweill i fynd i’r afael â hynny hefyd.

 

            Cyfeiriodd y Rheolwr Menter ac Adfywio at drethi busnes a darparodd wybodaeth am lefydd gwag ar draws Sir y Fflint, a oedd yn amlygu bod rhai sectorau mewn mwy o berygl nag eraill. Adroddodd y Rheolwr Menter ac Adfer ar ymateb rhanbarthol Llywodraeth Cymru a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ddarparu cyllid brys i ganol trefi a’r diwydiant croeso. Darparwyd gwybodaeth am waith Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy a Gr?p Adfer Economaidd y Cyngor, ynghyd â’r ffrydiau ariannu sydd ar gael i’r Cyngor. Hefyd, fe roddwyd diweddariad ar gynllun peilot benthyciad entrepreneuriaeth canol trefi.

 

            Teimlodd y Cynghorydd Owen Thomas fod ffermwyr yn gwneud yn dda a dywedodd fod galw mawr am eu cynnyrch, yn enwedig cig oen o Gymru. Mae gormod o sylw wedi’i roi i Brexit ac mae’n bryd symud ymlaen. Dywedodd y byddai eleni yn flwyddyn gadarnhaol, yn enwedig gyda siopau canol y dref yn ddechrau llenwi.

 

            Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd fod y sefyllfa’n gadarnhaol a bod arwyddion cadarnhaol yn ein canol trefi. Mae ffermwyr yn dweud pa mor ofnadwy oedd Brexit gyda physgotwyr yn methu gwerthu i’r cyfandir oherwydd biwrocratiaeth. Roedd y materion mewn perthynas â sgiliau, cyflenwadau a llymder yn bodoli cyn Covid. Roedd yn falch bod Sir y Fflint yn y sefyllfa hon ond dywedodd na fyddai holl effeithiau Brexit i’w gweld am rai  ...  view the full Cofnodion text for item 56.

57.

Adolygiad Perfformiad Torri Gwair pdf icon PDF 92 KB

Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ar berfformiad torri gwair ar draws y sir yn ystod 2021 ac ail-gymeradwyo’r polisi torri gwair presennol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth). Cyflwynodd Neil Cox, y Rheolwr Gwasanaeth Stryd newydd i’r Pwyllgor.

 

            Mae’n arfer da adolygu ein trefniadau ac mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar ddarpariaeth y gwasanaeth hwn. Mae’r polisi wedi’i adolygu’n rheolaidd ers 2012 gyda’r fersiwn ddiweddaraf wedi’i chymeradwyo fis Ionawr 2020 Mae’r adroddiad yn darparu trosolwg o’r perfformiad yn ystod tymor 2021. Cyfeiriwyd at adrannau 1.02 ac 1.07 sy’n darparu gwybodaeth am y gweithgareddau a’r gwaith torri blynyddol. Yna fe gyfeiriodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) at adrannau 1.10 ac 1.11 ac Atodiad 2 sy’n darparu crynodeb ar gyfer pob tîm a’r gwaith torri yn ystod y tymor. Amlygwyd effeithiau’r tywydd gwlyb hefyd. Darparwyd eglurhad hefyd o’r newidiadau i’r broses dendro ar gyfer y contract chwistrellu chwyn er mwyn ei wneud yn fwy cadarn. Gorffennodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) drwy ddweud nad oes unrhyw argymhelliad i newid y polisi.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd a yw’r rhaglen plannu blodau wedi helpu efo torri gwair. Mewn ymateb, dywedodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod prosesau i’w dilyn fel casglu ac ailblannu ar ddechrau a diwedd y tymor, sydd dal angen adnoddau. Cadarnhaodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd fod mwy na 50 o safleoedd bach ar draws y sir sydd angen ymateb gwahanol, gyda pheiriannau a dulliau rheoli pwrpasol. Mae’r Cyngor yn cefnogi ac yn hyrwyddo creu ardaloedd blodau gwyllt, gyda rhai ardaloedd wedyn ddim angen eu torri.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd George Hardcastle at effaith newid hinsawdd gyda’r gwair yn tyfu’n gynharach yn y tymor a gofynnodd a oes angen torri gwair yn amlach. Mewn ymateb soniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) am gynlluniau i ddechrau gwaith torri gwair y gaeaf yn gynt a’i ymestyn, ond mae’r tymor yn dechrau’n gynt bob blwyddyn. Eglurodd fod yr un adnoddau’n cael eu defnyddio i raeanu’r ffyrdd a bod y gwaith torri gwair a graeanu’r ffyrdd yn gorgyffwrdd ym mis Mawrth. Mae’n anodd rheoli hyn ond mae gwaith torri ychwanegol yn cael eu cynllunio ar gyfer diwedd mis Ionawr/dechrau mis Chwefror er mwyn bod ar ben hyn cyn i’r tymor ddechrau. Ym mis Ionawr 2020 adroddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd fod gwaith torri llwyddiannus wedi’i wneud ond bod y fantais hon wedi’i cholli wrth i’r wlad fynd i mewn i gyfnod clo yn sgil y pandemig fis Mawrth 2020. Gyda’r tymor torri gwair yn cael ei estyn i’r gaeaf, gall y tir fod yn wlyb a mwdlyd iawn, a’r peiriannau wedyn yn troi ac yn difrodi’r tir sydd wedyn yn cymryd mwy o amser i adfer.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Owen Thomas y cwestiynau canlynol:-

 

·           Cyfeiriodd at y frawddeg olaf ar dudalen 73 a oedd yn dweud mai pwrpas torri gwair yw cynnal diogelwch a gwelededd ar y briffordd. Dywedodd fod y gwair ar rai lonydd gwledig a ddefnyddir yn helaeth yn hir iawn a bod 50% o’r gwelededd yn cael ei golli. Mae angen torri’r gwair yn y llefydd yma fwy nag unwaith y flwyddyn. Mae’r adroddiad yn dweud  ...  view the full Cofnodion text for item 57.

58.

Diweddariad ar Drwyddedau Faniau pdf icon PDF 109 KB

Derbyn diweddariad yn ôl cais y Pwyllgor ar 14 Medi 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cadarnhaodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod y Cabinet wedi gofyn am adolygiad yn dilyn y ddau weithdy a gynhaliwyd i aelodau fis Gorffennaf 2021. Cynllun pasys cerbyd yw’r ffordd decaf i sicrhau mynediad a phenderfynu ar ddefnydd anghyfreithlon gan fasnachwyr. Roedd yr adborth o’r gweithdai ym mis Gorffennaf 2021 yn dweud bod y polisi’n ddryslyd ac yn amwys, sydd, yn anfwriadol, wedi arwain at fasnachwyr yn camddefnyddio’r system ac yn gwaredu gwastraff masnachol, nad ydym i fod i’w dderbyn, yn ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Mae problemau wedi bod ar y safleoedd gyda staff yn profi cam-drin geiriol a chorfforol, a hynny wedi arwain at alw’r heddlu.

 

            Pwrpas yr adolygiad oedd gwneud y polisi’n gliriach, yn llai amwys ac yn haws ei ddeall. Roedd hefyd yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd gan adael i fasnachwyr ddod â’u gwastraff cartref i’r safle (e.e. plymiwr yn dod â gwastraff gardd yn defnyddio pas untro). Unwaith eto, mewn ymateb i adborth yn ystod y gweithdai i Aelodau, cynigiwyd system archebu ar gyfer asbestos a deunyddiau peryglus eraill a matresi mawr. Cyfeiriodd at Atodiad 1 sy’n amlinellu’r newidiadau allweddol a soniodd y bydd angen pas ar gyfer pob trelar, beth bynnag ei faint. Mae’r broses ymgeisio ar-lein bellach yn gliriach ac yn cyfyngu ar y gwrthdaro gan fod hynny wedi’i wneud ar y safle o’r blaen. Bydd pasys yn cael eu neilltuo i safleoedd penodol i ddirymu’r angen i ddeiliaid pasys deithio i wahanol safleoedd i waredu eu gwastraff. Bydd y system newydd yn cael ei chyflwyno fis Ebrill 2022 er mwyn rhoi amser i’r gwasanaeth gyfathrebu gyda deiliaid pasys presennol ac egluro’r gofynion newydd a hysbysebu’r system newydd. Bydd taflenni’n cael eu darparu cyn y dyddiad cyflwyno ym mis Ebrill er mwyn caniatáu cyfnod gras. Mae Atodiad 2 yn amlygu’r polisi casglu presennol. Bydd rhwystrau hefyd yn cael eu gosod ar y safle i helpu’r staff. Mae gwybodaeth am y system archebu ar gael yn Atodiad 3.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Owen Thomas am eglurhad ynghylch maint y trelars a ganiateir ar y safle a lle mae modd cael y pasys. Dywedodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod modd dod â threlar o unrhyw faint ar y safle, yn rhad ac am ddim. Mae yna broses ar-lein i wneud cais am bas wedi’i ddarparu yn Alltami gyda gwiriadau gweledol a ffotograffau ar-lein. Mae hyn yn gweithio’n dda ac wedi bod ar waith ers blwyddyn. Mae Swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu yn dal yn darparu cymorth ar gyfer hyn ac mae staff Alltami yn cynnal asesiadau. Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Sir y Fflint yn ardderchog ac yn darparu gwasanaeth gwych i drigolion gyda staff sy’n barod iawn eu cymwynas.

           

            Gofynnodd y Cadeirydd a oes modd dod â cherbydau gydag arwyddion busnes arnynt i’r safleoedd. Mewn ymateb, dywedodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) bod modd i bobl gael dau bas untro bob blwyddyn i ddod â cherbydau busnes i’r safleoedd ar yr amod eu bod  ...  view the full Cofnodion text for item 58.

59.

Adroddiad Perfformiad Chwarterol Bargen Dwf Gogledd Cymru pdf icon PDF 95 KB

Rhoi’rwybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am Chwarter 2 Bargen Dwf Gogledd Cymru

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) adroddiad cynnydd chwe mis ar y Bwrdd Uchelgais Economaidd, a oedd wedi’i oedi o gyfarfod mis Rhagfyr. Mae’r adroddiad yn nodi cynnydd achosion busnes amlinellol a chyfeiriwyd at bwynt 1.05 sy’n dweud bod gan y rhan fwyaf o’r prosiectau statws oren. Mae pwynt 1.08 yn cynnwys gwybodaeth am y 7 prosiect gyda statws coch. Mae pwynt 1.09 yn egluro’r gweithgareddau caffael a chaffael lleol sydd wedi’u cynnal gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd. Mae gwybodaeth am y Bwrdd Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth a’r camau a gymerir i leihau effeithiau amgylcheddol hefyd wedi’i chynnwys. Mae’r atodiad yn cynnwys mwy o fanylion.

 

            Mae’r Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) yn gobeithio y bydd David Matthews, Rheolwr Tir a Phrosiect y Bwrdd Rhaglen Tir ac Eiddo yn dod i gyfarfod yn y dyfodol.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom a oes modd derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am Borth Caergybi a Dociau Mostyn pan fydd ar gael. Mewn ymateb, awgrymodd Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) os oes gan y Cynghorydd Heesom unrhyw gwestiwn manwl yna y byddai David Matthews yn gallu darparu atebion mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cytunodd i gylchredeg unrhyw ddiweddariad a dderbynnir cyn cyfarfod mis Chwefror.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Paul Shotton a George Hardcastle.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Aelodau yn ystyried ac yn nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 2.

 

 

60.

Attendance by members of the press and public

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.