Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas         Nodi bod y Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol, wedi penderfynu y dylid penodi’r Cynghorydd David Evans yn Gadeirydd y Pwyllgor.

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Llafur.   Cafodd y Pwyllgor wybod fod y Cynghorydd David Evans wedi cael ei benodi i’r rôl ar gyfer blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penodiad y Cynghorydd David Evans fel Cadeirydd y Pwyllgor.

 

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas          Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Chris Dolphin y Cynghorydd Mike Allport fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ian Hodge.  Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill. O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi'r Cynghorydd Mike Allport fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor.

 

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim

4.

Cofnodion pdf icon PDF 126 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 8 Chwefror 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 8 Chwefror 2022, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Vicky Perfect a David Evans.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

 

5.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.