Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

42.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

43.

Cofnodion pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Hydref 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2021, fel y y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Paul Shotton a David Evans.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

44.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried a chytunwyd ar y newidiadau canlynol:

 

·         Adroddiad ar y Strategaeth Newid Hinsawdd i’w rhoi gerbron ym mis Chwefror.

·         Y briff aelodau ar rwydwaith Cludiant Integredig Sir y Fflint i’w aildrefnu ar gyfer dechrau 2022.

·         Adroddiad ar bolisi’r Cyngor ar ryddhau bal?ns a’r effaith amgylcheddol i fod ar raglen cyfarfod i ddod, yn unol â chais y Cynghorydd Dave Evans.

·         Y Cynghorydd Dennis Hutchinson i drafod ei ofynion ar gyfer adroddiad mewn cyfarfod i ddod ar safle tirlenwi Standard gyda’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylched a’r Economi).

 

Yn dilyn trafodaethau yng nghyfarfod mis Mehefin am orfodaeth mewn perthynas â sbwriel sy’n cael ei daflu ar ôl i bobl fod yn yfed alcohol, darllenodd yr Hwylusydd  gyngor yr Adran Gyfreithiol a oedd yn egluro nad yw'r pwerau deddfwriaethol sydd ar gael i'r heddlu o dan y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored ar gael i Awdurdodau Lleol ar hyn o bryd.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylid nodi'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y cynnydd a wnaed gyda’r camau gweithredu heb eu cwblhau yn cael ei nodi.

45.

Map Rhwydwaith Teithio Llesol - canlyniad yr ymgynghori ffurfiol pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        Derbyn canlyniadau’r ymgynghoriad ffurfiol ar Fapiau Rhwydwaith Integredig y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad ar ganlyniadau ymarferion ymgynghori anffurfiol a ffurfiol er mwyn galluogi gwneud y diweddariadau angenrheidiol i Fap Rhwydwaith Teithio Llesol y Cyngor fel sy’n ofynnol dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, talodd y Prif Swyddog deyrnged i’r tîm am eu gwaith yn asesu ac yn ymchwilio’r llwybrau Teithio Llesol. Roedd teclyn mapio newydd a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru, Commonplace, wedi helpu i gynyddu ymgysylltiad cyhoeddus yn ystod y pandemig ac roedd y ddolen ar agor i adolygu mapiau.

 

Byddai’r Prif Swyddog yn ymgysylltu ar wahân â'r Cynghorydd Joe Johnson mewn perthynas â llwybr penodol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Glyn Banks i’r tîm am eu gwaith ac anogodd Aelodau i ddefnyddio'r ddolen i adolygu’r wybodaeth ar y we cyn i'r map terfynol gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Rhagfyr.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi’r gwaith a wnaed i gwblhau'r broses ymgynghori statudol a’r broses anffurfiol fel ei gilydd; a

 

(b)       Cydnabod yn ffurfiol ddilysrwydd y broses a ddilynwyd i gynhyrchu Map Rhwydwaith Teithio Llesol diweddaredig y Cyngor i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Rhagfyr 2021.

46.

Cynllun y Cyngor 2021-22 Monitro Canol Blwyddyn pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddogion yr adroddiad monitro canol blwyddyn i adolygu cynnydd yn erbyn eu blaenoriaethau perthnasol fel y’u nodwyd ym Mesurau Adrodd 2020/21 y Cyngor, o dan gylch gorchwyl y Pwyllgor.  Mae’r adroddiad seiliedig ar eithriadau hwn yn canolbwyntio ar feysydd o dan-berfformiad yn erbyn targedau a osodwyd ar gyfer y flwyddyn.

 

Roedd gan Gynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi dri dangosydd â statws coch o ganlyniad i berfformiad presennol yn erbyn y targed. Y prif ffactorau cyfrannol oedd heriau recriwtio a newidiadau mewn arferion gweithio oherwydd yr ansicrwydd parhaus y mae'r pandemig yn ei achosi.

 

Effaith y pandemig hefyd oedd y prif reswm am y tri dangosydd coch ym mhortffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant. O ran ailgylchu, roedd perfformiad yn is na'r targed o ganlyniad i gynnydd mewn gwastraff gweddilliol.

 

Canmolodd y Cynghorydd Paul Shotton y tîm Gwasanaethau Stryd am eu gwaith yn ystod y tywydd garw diweddar. Cydnabu’r heriau o ran recriwtio, yn enwedig mewn gofal cymdeithasol, sy’n broblem genedlaethol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) bod gwaith ar y gweill ar draws y portffolios i ddynodi meysydd sy'n cael anhawster recriwtio i swyddi gwag.

 

O ran perfformiad ailgylchu, gofynnodd y Cynghorydd Glyn Banks i’r aelodau annog preswylwyr i chwarae eu rhan i helpu i gyrraedd y targed o 70%.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Derek Butler at ffair swyddi lwyddiannus ddiweddar.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r dangosyddion perfformiad canol blwyddyn ar gyfer Adfer, Portffolio ac Atebolrwydd Cyhoeddus i fonitro meysydd o danberfformiad.

47.

Cyflwyniad ar brosiect trawsffiniol cynhyrchu hydrogen HyNet a storio carbon pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas:        Derbyn diweddariad ar Brosiect Hydrogen HyNet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Pwyllgor Rachel Perry ac Amy Bodey o Progressive Energy Ltd i’r cyfarfod i roi cyflwyniad ar y prosiect HyNet, fel a ganlyn:

 

·         Beth yw HyNet North West?

·         Datgarboneiddio a arweinir gan alw

·         Seilwaith HyNet North West

·         Cynhyrchu Hydrogen

·         Gweithfeydd dal CO2

·         Manteision ehangach

·         Momentwm a Darpariaeth

·         Y DU yn flaenllaw o ran arwain y byd mewn ynni glân

 

Canmolodd y Cynghorydd Paul Shotton y cynnydd sy’n cael ei wneud gyda’r prosiect a'i fanteision o ran dyfodol carbon is i'r rhanbarth. Mewn ymateb i gwestiynau dywedodd Rachel Perry bod y seilwaith presennol yn cael ei ddefnyddio ble bynnag bosibl a rhoddodd wybodaeth am brosiect tebyg yn ardal Humber a Tees.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu cyflwyniad ar y prosiect arloesol hwn. Yn dilyn cwestiynau, cafodd y Cadeirydd wybod bod y model busnes, gyda chefnogaeth y Llywodraeth, yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ac y byddai’n cael i gefnogi gan y Gronfa Dal Carbon gyda’r seilwaith adeiladu’n cael ei ariannu gan sefydliadau unigol.

 

Mewn ymateb i bryderon a fynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom yngl?n â safle pwll glo’r Parlwr Du, rhoddodd Rachel Perry sicrwydd ynghylch storio Co2 alltraeth ac asesiadau cadarn o biblinellau cyfredol nad oes unrhyw bryderon yn eu cylch. Bydd sleidiau’r cyflwyniad yn cael eu hanfon at yr Aelodau yn unol â’u cais.

 

Yn dilyn cwestiynau gan y Cynghorydd Owen Thomas, rhannwyd gwybodaeth am adeiladu seilwaith  newydd ar gyfer Co2 a hydrogen yn Stanlow, ac ar gyfer hydrogen yn unig ym mhyllau halen Swydd Gaer.

 

Gan groesawu’r targed datgarboneiddio, gofynnodd y Cynghorydd Chris Bithell beth yw'r risgiau posibl. Tra bo’r risgiau diogelwch yn isel, mae twf economaidd a’r cynlluniau hydrogen yn dibynnu ar gefnogaeth y Llywodraeth.

Canmolodd y Cynghorydd Glyn Banks gysylltiad y Cyngor â’r prosiect ac fel aelod lleol Ffynnongroyw, cynigiodd gynorthwyo ag ymgysylltiad  cyhoeddus cynnar ynghylch y safle er mwyn tawelu meddwl preswylwyr yng nghyffiniau safle'r Parlwr Du.Nododd cydweithwyr HyNet ei sylwadau yn cynnwys ei awgrym am sesiwn ymgysylltu cyhoeddus ar y safle gyda’r mesurau diogelwch priodol yn eu lle.

 

Siaradodd y Cynghorydd Derek Butler am gysylltiadau â Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy a fyddai’n dod a manteision i bawb ar draws y rhanbarth. Mewn ymateb i sylwadau, rhoddwyd gwybodaeth am rôl hydrogen mewn gwresogi cartrefi yn y dyfodol a chynlluniau ar gyfer ddulliau storio Co2  amgen ar gyfer safle’r Parlwr Du, pe bai angen capasiti ychwanegol. Cafwyd manylion hefyd am wneud y rhwydwaith dosbarthu hydrogen yn ffit ar gyfer y dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) bod prosiect Bargen Twf Gogledd Cymru ar gyfer canolbwynt hydrogen yng Nglannau Dyfrdwy yn seiliedig ar hydrogen gwyrdd fel ateb hirdymor cynaliadwy.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod HyNet yn rhan allweddol o waith Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn ogystal â Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Paul Shotton a'i eilio gan y Cynghorydd Owen Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynnwys y cyflwyniad.

48.

Ystyried mater a atgyfeiriwyd at a Pwyllgor yn unol a'r Trefniadau galw i mewn pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Mae penderfyniad y cyfarfod Cabinet ar 16 Tachwedd 2021 yn ymwneud â Uwchgynllun Shotton wedi cael ei alw i mewn.  Atodir copi o’r weithdrefn ar gyfer delio ag eitem sydd wedi’I galw i mewn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd drosolwg o’r drefn ar gyfer galw Penderfyniad Cabinet i mewn fel y manylwyd yn y ddogfen ategol. Roedd y Cabinet wedi ystyried adroddiad ar 'Gynllun ar gyfer Shotton’ yn ei gyfarfod ar 16 Tachwedd 2021.  Cafodd y penderfyniad (Cofnod o Benderfyniad 3928) ei alw i mewn gan y Cynghorwyr Mike Allport, Helen Brown, Arnold Woolley, Veronica Gay, Richard Jones a Mike Peers a byddai'r tri a enwyd olaf yn siarad ar yr eitem. Roedd copïau o adroddiad y Cabinet, y Cofnod o Benderfyniad a Cymeradwyaeth o Hysbysiad Galw i Mewn a oedd yn nodi tri rheswm dros y galw i mewn wedi’u cynnwys gyda phapurau’r cyfarfod.

49.

Uwchgynllun Shotton pdf icon PDF 540 KB

Pwrpas:        Adroddiad Prif Swyddog (Stryd a Chludiant) - Aelod Cabinet Datblygu Economaidd

 

Atodir y dogfennau canlynol i gynorthwyo Aelodau:

 

·         Copi o adroddiad y Uwchgynllun Shotton

·         Copi o’r Cofnod o Benderfyniad

·         Copy o’r Hysbysiad Galw i Mewn

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Sylwadau gan y rhai a lofnododd y galw i mewn

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Richard Jones i annerch y Pwyllgor yn gyntaf. Gan gydnabod yr heriau y mae pob canol tref yn eu hwynebu a'r pwysau ar y tîm Adfywio, dywedodd y byddai buddsoddi adnoddau'r Cyngor yn Shotton i gefnogi’r dref honno yn annheg ar drefi eraill ar draws Sir y Fflint  Roedd yn amheus ynghylch yr egwyddorion allweddol y tu ôl i'r penderfyniad, sef lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion amgylcheddol ac i ddibenion cymharu, rhannodd ystadegau ymddygiad gwrthgymdeithasol o bob rhan o Sir y Fflint ynghyd â thystiolaeth ffotograffig o ganol tref Shotton a oedd yn dangos lefelau da o lendid a dim ond ychydig o siopau wedi cau. Roedd yn teimlo felly nad yw'n glir pam bod tref Shotton wedi'i blaenoriaethu, yn enwedig gan ei bod eisoes wedi manteisio ar fuddsoddiad a chyfleusterau da ym maes darpariaeth iechyd, cysylltiadau cludiant, amrywiaeth o fanciau a siopau'n gweithredu ar y stryd fawr yn ogystal â chynlluniau ar gyfer prosiect seilwaith gwyrdd. Dywedodd y dylai adnoddau a buddsoddiad gefnogi pob tref yn Sir y Fflint, neu y dylai cynllun ar gyfer tref benodol gael ei benderfynu arno ar ôl asesu meini prawf perthnasol.

 

Roedd pryderon y Cynghorydd Veronica Gay yn ymwneud â sut y penderfynwyd mai Shotton yw’r dref sydd angen cymorth fwyaf pan fo trefi eraill yn profi mwy o broblemau gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chanddynt hefyd lai o gyfleusterau ar y stryd fawr, ac enwodd Saltney fel un enghraifft.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers nad ar chwarae bach y penderfynwyd galw’r penderfyniad i mewn a bod angen asesiad o anghenion ar draws Sir y Fflint er mwyn rhannu adnoddau’n deg.  Gan ddweud fod hwn yn gynllun a fydd yn datblygu dros 8 mlynedd, tynnodd sylw at y lefel uchel o adnoddau swyddogion a gweithgorau a’r diffyg manylion yngl?n a threfniadau ariannu yn yr adroddiad.  Dywedodd y dylid defnyddio’r prosiect fel fframwaith i ddatblygu Cynllun ar gyfer Sir y Fflint i gyd gyda gweledigaeth gyffredin i bennu hierarchaeth angen ar draws pob sir a rhannu adnoddau’n briodol.

 

Ymatebion gan y penderfynwyr

 

Fel Arweinydd y Cyngor, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts bod y ffotograffau’n adlewyrchu cynnydd hyd yma o ran mynd i'r afael â materion a oedd yn amlwg ar ddechrau'r prosiect a diolchodd i'r aelodau lleol am eu rhan yn hyn o beth. Canmolodd fentrau mewn amrywiol gymunedau ar draws Sir y Fflint i adfywio canol trefi ac roedd yn cydnabod y byddai gwaith yn cael ei ailadrodd mewn meysydd eraill. Mewn ymateb i’r mater o gadw banciau ar y stryd fawr, dywedodd nad yw penderfyniadau o’r fath o dan reolaeth y Cyngor ac nid oedd yn sicr yngl?n ag amseriad y galw i mewn yng ngoleuni'r ffaith bod y Cabinet wedi cael adroddiadau ar gynnydd ar bob cam.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) gyflwyniad mewn ymateb i’r galw i mewn, a oedd yn cynnwys:

 

·         Y cefndir a'r sail dros gynllun yn Shotton

·         Mynegai Amddifadedd Lluosog  ...  view the full Cofnodion text for item 49.

Item 9 - A Plan for Shotton presentation slides pdf icon PDF 712 KB

Dogfennau ychwanegol:

50.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.