Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

18.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

19.

Cofnodion pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 21 Medi 2020. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2020.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton y dylid cymeradwyo’r cofnodion a chafod ei eilio gan y  Cynghorydd George Hardcastle.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

20.

Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar)

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar y sefyllfa bresennol. Eglurodd fod y nifer fechan o wasanaethau yr amharwyd arnynt yn ystod y cyfnod clo byr wedi ailgychwyn a rhoddodd y gwasanaethau ailgylchu gwastraff cartref fel enghraifft.Dywedodd y byddai Prif Weinidog Cymru yn adolygu'r sefyllfa dros y pythefnos nesaf gan roi arweiniad ar yr angen am unrhyw  newidiadau, yn y cyfamser roedd yn hanfodol fod pobl yn parhau i gydweithredu a chydymffurfio â'r rheolau er mwyn osgoi'r angen am gyfnod clo byr arall yn y dyfodol. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod Sir y Fflint, Gogledd Cymru a Chymru wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion o Covid-19 a adroddwyd, gan  awgrymu bod tueddiad cadarnhaol tuag at welliant, fodd bynnag y cyngor meddygol oedd na fyddai effaith llawn y cyfnod clo byr yn hysbys tan tua thair wythnos ar ôl y dyddiad dechrau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd unrhyw risgiau na phryderon difrifol i’w codi yngl?n â gwasanaethau a dywedodd fod gwasanaethau’r ysgolion yn gweithio’n dda. Dywedodd fod gwaith rhanbarthol yn dda iawn a chyfeiriodd at y gwasanaeth profi, olrhain a diogelu sy'n perfformio'n dda yng Ngogledd Cymru ac sydd hefyd wedi cefnogi awdurdod arall a oedd angen cymorth yn Ne Cymru.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y bu cynnydd sylweddol mewn derbyniadau i’r ysbyty cysylltiedig â Covid-19 yng Ngogledd Cymru dros yr wythnos ddiwethaf. Dywedodd fod Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy wedi agor ar 9 Tachwedd fel ysbyty (Ysbyty Enfys) ac y byddai hyd a 30 o gleifion yn cael eu derbyn i ddechrau mewn trefniant ‘camu i lawr’ i leddfu’r pwysau ar ysbytai lleol (Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd er enghraifft). Eglurodd y Prif Weithredwr hefyd fod gwaith yn digwydd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sefydlu canolfan brofi newydd yn ardal Glannau Dyfrdwy a fyddai’n galluogi pobl i gael canlyniad eu prawf yn gynt.   

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi'r uchod.  

21.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol.   Cyfeiriodd at yr eitemau oedd wedi'u rhestru ar gyfer eu hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a oedd i'w gynnal ar 8 Rhagfyr 2020 a dywedodd y byddai eitem ychwanegol yn cael ei chynnwys ar ddogfen ymgynghori ar y Gymraeg y Cyd-bwyllgor Corfforaethol a oedd yn gofyn am ymatebion erbyn 4 Ionawr 2021.    

 

Dywedodd yr Hwylusydd bod gweithdy ar Gynnal Ffosydd a Chyrsiau D?r wedi’i gynllunio ar gyfer mis Rhagfyr a hefyd bod y Bwrdd Uchelgais Economaidd yn cynllunio gweithdy ar y Strategaeth Ddigidol.     Byddai cyfarfod rhithiol ar Parc Adfer yn cael ei gynnal yn y Flwyddyn Newydd. Byddai’r aelodau’n cael gwybod ar ba ddyddiadau fyddai’r digwyddiadau’n cael eu cynnal ar ôl iddynt gael eu cadarnhau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Patrick Heesom cadarnhaodd yr Hwylusydd fod eitemau ar y Cynllun Cludiant Integredig a Newid Hinsawdd wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol er ystyriaeth y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorwyr Owen Thomas a George Hardcastle, eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) y byddai diweddariad ar lwybrau seiclo sydd i’w roi gerbron y cyfarfod ar 8 Rhagfyr yn cynnwys yr holl gynigion am lwybrau beicio ar draws y sir ac y byddai ymgynghoriad llawn yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd.  Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas a’r Cynghorydd Chris Bithell y byddent yn rhoi diweddariad i'r Cynghorydd Thomas ar y llwybr beicio o'r Wyddgrug i Rydymwyn ar ôl y cyfarfod.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at waith yn ymwneud â chlefyd Coed Ynn a gofynnod bod cofnod yn cael ei gadw o berchnogion tir er mwyn sicrhau y gellir cysylltu â hwy yn y dyfodol er mwyn sicrhau fod gwaith cynnal a chadw'n cael ei wneud i atal tarfu ar lwybrau cyhoeddus a phriffyrdd. Cydnabu’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y sylwadau a dywedodd y byddai diweddariad ar waith yn ymwneud â chlefyd coed ynn yn cael ei ddarparu mewn cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol. 

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Patrick Heesom ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; ac

 

(b)       Awdurdodi’r Hwylusydd, ar ôl ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen;a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cwblhau’r camau gweithredu sydd heb eu cau.

22.

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – Bargen Dwf Derfynol pdf icon PDF 169 KB

Cyflwyno’r dogfennau allweddol gofynnol ar gyfer cymeradwyaeth i lunio Cytundeb Bargen Terfynol ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddogfen yn nodi’r dogfennau allweddol y mae’n rhaid eu cymeradwyo er mwyn llunio Cytundeb Bargen Twf Terfynol ar gyfer Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd bod adroddiad a’r dogfennau perthnasol wedi’u hanfon at yr holl sefydliadau partner gyda’r bwriad y bydd y deng partner wedi mabwysiadu'r adroddiad erbyn canol mis Rhagfyr yn barod i lofnodi'r Fargen Twf gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU cyn diwedd mis Rhagfyr 2020. Byddai adroddiad er gwybodaeth yn cael ei gyflwyno i gyfarfodydd Craffu, Cabinet a Chyngor y chwe awdurdod lleol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai’r Fargen Twf yw'r prosiect cydweithredol unigol mwyaf y mae Gogledd Cymru erioed wedi ymgymryd ag o, a chyfeiriodd at yr arwyddocâd gwleidyddol, economaidd ac ariannol.  Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) gyflwyniad ar y cyd ar Fargen Twf Gogledd Cymru a oedd yn ymwneud â'r pwyntiau allweddol canlynol:

 

  • partneriaeth - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
  • Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru
  • Strwythur Llywodraethu
  • Amserlen
  • Cytundeb Terfynol
  • gofynion y Cytundeb Bargen Twf Terfynol – Achosion Busnes
  • cynllun busnes trosfwaol
  • portffolio’r fargen twf
  • rhaglenni
  • incwm a gwariant
  • goblygiadau Ariannol
  • Cytundeb Llywodraethu 2
  • Cytundeb Terfynol drafft
  • dyddiadau allweddol

 

Siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts am y gwaith rhanbarthol llwyddiannus sy’n cael ei wneud gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru sydd wedi’i gydnabod gan Lywodraeth Cymru.  Anogodd yr Aelodau i gefnogi'r argymhellion yn yr adroddiad gan ddweud eto bod angen gwneud cynnydd er mwyn llofnodi'r  Fargen Twf derfynol gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU cyn diwedd Rhagfyr 2020 am y rhesymau a nodwyd eisoes.Talodd y Cynghorydd Roberts deyrnged i’r Prif Weithredwr am ei waith caled a’i ddylanwad ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a thalodd deyrnged hefyd i’r Cynghorydd Aaron Shotton am ei waith fel cyn Arweinydd y Cyngor.

 

Cododd y Cynghorydd Paul Shotton gwestiwn am orwariant. Mewn ymateb eglurodd y Prif Weithredwr fod trefniadau llywodraethu llym cysylltiedig â rhaglenni sydd wedi'u datganoli i lefel prosiect  a rhoddodd sicrwydd nad oes unrhyw bryderon cysylltiedig â gorwariant.Ymatebodd y Prif Weithredwr i’r sylwadau a wnaed am BREXIT a dywedodd y byddai budd lleol i Sir y Fflint yn deillio o’r Fargen Twf drwy wasgariad cyllid Ewrop. Siaradodd hefyd am arwyddocâd Caergybi o ran masnach, buddsoddiad a thwristiaeth. 

 

Mewn ymateb i bryderon y Cynghorydd Owen Thomas yn ymwneud â chyflogaeth leol a buddsoddiad mewn diwydiant lleol, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai swyddi a buddion yn deillio o’r Fargen Twf wedi’u lledaenu ar draws y rhanbarth a bod arian i’w fuddsoddi mewn diwydiant lleol hefyd wedi'i ennill cyn, ac ar wahân i'r Fargen Twf. Mewn ymateb i'r pryderon ychwanegol a fynegwyd gan y Cynghorydd Thomas cyfeiriodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) at Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a’r gwaith rhwng colegau a’r Bwrdd Uchelgais i sicrhau bod ysgolion, colegau a phrifysgolion yn darparu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y swyddi a fydd yn cael eu creu drwy raglenni cyfalaf newydd.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Cyllideb 2021/22 - Cam 1 pdf icon PDF 114 KB

Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn gwneud sylw am bwysau ariannol GwasanaethStryd a Chludliant a Cynllunio, Amgylchedd ac Economi a strategaeth gyffredinol y gyllideb.  Ac yn rhoi cyngor am unrhyw feysydd o effeithlonrwydd costau yr hoffai weld yn cael eu harchwilio ymhellach.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y pwysau costau ar y Gwasanaethau Stryd a Chludiant, Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi, a’r strategaeth ariannol hollgynhwysfawr.Gwahoddwyd y Pwyllgor i adolygu pwysau o ran costau a risgiau a rhoi cyngor ar unrhyw opsiynau effeithlonrwydd posibl i'w harchwilio. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i bob un o'r pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu er ystyriaeth ac y byddai adborth yn cael ei ddarparu i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol ar 12 Tachwedd ac yna i’r Cabinet a’r Cyngor Sir.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Strategol a’r Rheolwr Cyllid gyflwyniad ar y cyd ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) a Chyllideb y Cyngor 2021/22 a oedd yn rhoi sylw i'r prif bwyntiau canlynol:

 

·                     rhagolygon ariannol 2021/22;

·                     y dyfodol – yr hyn a gynghorwyd yn ôl ym mis Chwefror

·                     cyfansymiau cryno pwysau costau

·                     Pwysau costau penodol ar y portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant

·                     Pwysau costau penodol ar y Portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a'r

Economi

·                     atebion – tri ateb rhannol a chymryd risgiau

·                     y sefyllfa genedlaethol a chyllido

·                     senarios ariannu posibl

·                     amserlen y gyllideb

·                     y gefnogaeth a'r heriau heddiw 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton a fyddai’n bosibl gwneud unrhyw arbedion posibl drwy ddefnyddio plastigau wedi’u hailgylchu ar gyfer ail-wynebu ffyrdd, rhannu/hurio offer gardd ac ati.  Gan ymateb i’r cwestiwn am blastig wedi’i ailgylchu eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) fod cynllun peilot wedi’i gynnal a bod gwaith yn symud ymlaen gyda Llywodraeth Cymru a chyflenwr lleol. Mewn perthynas â’r awgrym am hurio offer gardd ac ati allan, dywedodd y Prif Swyddog fod yr Awdurdod yn cyflwyno cais i Gronfa Economi Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio, trwsio neu ailwerthu/hurio'r fath offer a fyddai'n darparu mantais gymdeithasol i bobl sy'n profi caledi ariannol. Ymatebodd swyddogion i’r cwestiynau pellach a godwyd gan yr Aelodau am storio deunyddiau wedi’u hailgylchu, SuDs a Threth y Cyngor.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Paul Shotton a’u heilio gan y Cynghorydd Patrick Heesom. 

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       Nodi’r pwysau costau ar y Gwasanaethau Stryd a Chludiant a Chynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi, fel sydd wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad

 

(b)       Nad yw'r Pwyllgor yn argymell unrhyw feysydd arbed costau eraill i'w harchwilio ymhellach;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r strategaeth gyllidebol hollgynhwysfawr;

 

(d)       Bod y Pwyllgor y ail-gadarnhau safiad y Cyngor ar y polisi trethant lleol; a

 

(e)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi disgwyliadau’r Cyngor o’r Llywodraethau, fel yr amlinellwyd yn y cyflwyniad a gafwyd.

 

PRESENTATION - MTFS and Budget 2020-21 pdf icon PDF 339 KB

24.

Diweddariad Strategaeth Adferiad (Portffolio Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) pdf icon PDF 92 KB

Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad yn rhoi trosolwg o’r cynlluniau adfer ar gyfer meysydd portffolio perthnasol y Pwyllgor. Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir gan ddweud fod y fersiwn ddiweddaraf o'r gofrestr risg a'r gyfres o weithredoedd lliniaru risg ar gyfer y portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi wedi'u hatodi i'r adroddiad.  Yn ychwanegol rhoddwyd diweddariad  yn yr adroddiad ar gynnydd yn erbyn pob un o 14 amcan adfer y portffolio.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad tynnodd y Prif Swyddog sylw at y cynnydd a wnaed ar yr amcanion adfer o safbwynt ailagor cyrchfannau - Parc Gwepra, Dyffryn Maes Glas, Waun y Llyn; cydymffurfiad ag amserlen y Cynllun Datblygu Lleol Newydd; cefnogaeth ar gyfer marchnadoedd lleol a chanolfannau trefi; ymgymryd ag arolygon clefyd coed ynn ac adfer y swyddogaeth Rheoli Datblygu. Adroddodd y Prif Swyddog ar y gofrestr risg (f7) a oedd wedi’i hatodi i’r adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau'r Cynghorydd Patrick Heesom yngl?n â'r amcanion adfer, dywedodd y Prif Weithredwr fod parhad gwasanaethau a pherfformiad wedi bod yn uchel o gymharu ag awdurdodau eraill yn ystod yr argyfwng COVID-19.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Cindy Hinds ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd gan y Cynghorydd Owen Thomas.

 

Ymataliodd y Cynghorydd Patrick Heesom rhag pleidleisio ar yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd a wnaed ar gynllunio adfer y portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi; a

 

(b)       Nodi cynnwys cofrestr risg ddiweddaredig y portffolio a chamau lliniaru.

25.

Diweddariad Strategaeth Adferiad (Portffolio Stryd a Chludliant) pdf icon PDF 87 KB

Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad yn rhoi trosolwg o’r cynlluniau adfer ar gyfer meysydd portffolio perthnasol y Pwyllgor. Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir gan ddweud fod y fersiwn ddiweddaraf o'r gofrestr risg a'r gyfres o weithredoedd lliniaru risg ar gyfer y portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant wedi'u hatodi i'r adroddiad.  Yn ychwanegol rhoddwyd diweddariad yn yr adroddiad ar gynnydd yn erbyn pob un o 9 amcan adfer y portffolio.

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y 6 risg coch yn ymwneud â Covid, fel yr eglurwyd yn yr atodiad i’r adroddiad. Adroddodd hefyd ar y cynnydd a wnaed ar y 9 amcan adfer yn yr adroddiad a thynnodd sylw at yr amcanion i gyfnerthu safonau gwaith Gwasanaethau Stryd ar lefelau cyn COVID; dychwelyd y gweithlu rheng flaen i oriau gwaith safonol er mwyn sicrhau defnydd effeithiol o'r adnoddau sydd ar gael; cynnydd ar ddatblygiad seilwaith gwastraff i gefnogi mwy o botensial i ailgylchu a chynnal y rhwydwaith priffyrdd dros gyfnod y gaeaf.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle yngl?n â'r tâl am y gwasanaeth gwastraff 'bin brown' yng ngoleuni ataliad dros dro diweddar y casgliadau.  Gofynnodd y Cynghorydd Hardcastle hefyd pa gamau sy’n cael eu cymryd i rwysto'r broblem o ddraeniau wedi'u blocio ar strydoedd a phriffyrdd o ganlyniad i ddail wedi disgyn.  Eglurodd y Prif Swyddog y byddai preswylwyr sydd wedi talu'r ffi lawn am y gwasanaeth 'bin brown' yn cael cynnig gostyngiad y tro nesaf fel iawndal am golled dros dro y gwasanaeth yn ystod yr argyfwng Covid-19. Mewn ymateb i’r pryderon am ddraeniau wedi’u blocio dywedodd y Prif Swyddog fod pedwar cerbyd yn gweithio 6 diwrnod o'r wythnos i fynd i'r afael â'r broblem a bod cydlynwyr Gwasanaethau Stryd yn monitro'r sefyllfa ac yn adnabod mannau problemus.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Patrick Heesom y Prif Swyddog a’i dîm am eu cynnydd a'r gwelliannau a wnaed drwy'r rhaglen o drwsio tyllau yn y ffyrdd.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Kevin Hughes a'i eilio gan y Cynghorydd Patrick Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed i  gefnogi strategaeth adfer

y portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant.

26.

Dangosyddion Perfformiad Hanner Blwyddyn ar gyfer Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus, Portffolio ac Adfer pdf icon PDF 113 KB

Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad i alluogi’r Pwyllgor i adolygu’r cynnydd o ran cyflawni’r gweithgareddau, y lefelau perfformiad a’r lefelau risg presennol fel y’u nodwyd yng Nghynllun y Cyngor. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod yr adroddiad perfformiad ganol blwyddyn ar Fesurau Adrodd 2020/21 yn dangos bod 69% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau.  Ble gellid mesur perfformiad yn erbyn y llynedd bu tueddiad ar i lawr o 64% gyda 31% o fesurau’n well na pherfformiad y llynedd a 5% yn cynnal perfformiad sefydlog.  

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y tri dangosydd perfformiad sy'n berthnasol i'r Pwyllgor sydd â statws RAG coch ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn y targed  yn y portffolio  Cynllunio, yr Amgylchedd ar Economi, fel y manylwyd ym mharagraff 1.05 o’r adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 294 o'r adroddiad a'r mesur adrodd ar yr amser a gymerir ar gyfartaledd i gymryd camau gweithredu cadarnhaol lle dynodwyd toriad. Mewn ymateb i gais gan y Cadeirydd am ragor o wybodaeth rhoddodd y Prif Swyddog eglurhad ar y data a ddarparwyd a chytunodd i gynnwys mwy o fanylion yn yr adroddiad nesaf i'r Pwyllgor. Mewn ymateb i sylwadau’r Aelodau am berfformiad perthnasol i gamau gorfodi dywedodd y Prif Weithredwr yr ystyrir yr awdurdod fel y gorau yng Ngogledd Cymru o ran  cynllunio datblygiad economaidd a'i fod yn cael adborth cadarnhaol gan fusnesau. Eglurodd y Prif Swyddog fod yr Awdurdod yn caffael system newydd a fyddai'n gwella argaeledd gwybodaeth i'r cyhoedd ar achosion gorfodi a cheisiadau cyllunio. Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at y ddogfen bolisi ar orfodaeth a chyfeiriodd at y pwerau a’r amserlenni cysylltiedig. 

 

Talodd y Prif Weithredwr deyrnged i waith y gwasanaeth diogelu’r cyhoedd yn ystod y pandemig a soniodd am y cyfraniad a wnaeth o ran gorfodaeth, cyngor cefnogi busnesau, iechyd cyhoeddus a phrofi, olrhain a diogelu.  Dywedodd fod ymroddiad gweithwyr a safon y gwaith i ddiwallu’r angen wedi bod eithriadol.

 

Adroddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) ar y ddau ddangosydd perfformiad a oedd yn dangos statws RAG Coch am y perfformiad  presennol yn erbyn y targed, perthnasol i’r Pwyllgor, ar gyfer y portffolio  Gwasanaethau Stryd a Chludiant, fel y manylwyd ym mharagraff 1.05 o’r adroddiad.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Shotton ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Kevin Hughes.

 

Ymataliodd y Cynghorydd George Hardcastle rhag y bleidlais ar yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r dangosyddion perfformiad canol blwyddyn ar gyfer y Mesurau Adfer, Portffolio ac Atebolrwydd Cyhoeddus, i fonitro meysydd o danberfformiad.

27.

Aelodau O'r Cyhoedd A'r Wasg Yn Bresennol

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.