Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor mai Gr?p Cynghrair Annibynnol a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Rosetta Dolphin yw Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn ddinesig hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd ei fod wedi ei gadarnhau yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Cynghrair Annibynnol.  Cafodd y Pwyllgor wybod fod y Cynghorydd Rosetta Dolphin wedi cael ei phenodi i’r rôl ar gyfer blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penodiad y Cynghorydd Rosetta Dolphin fel Cadeirydd y Pwyllgor.

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Joe Johnson y Cynghorydd David Evans yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Paul Shotton. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.  O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd David Evans yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

3.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau

yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 77 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Gorffennaf 2020. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 13 Gorffennaf 2020, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Sean Bibby a Chris Dolphin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

5.

Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar)

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe eglurodd y Prif Weithredwr fod y sefyllfa bresennol yn un ansefydlog. Byddai o a’i Uwch Swyddogion yn sicrhau bod Aelodau yn cael diweddariad byr ar lafar ar ddechrau cyfarfodydd. Dywedodd hefyd y gallai fod yn angenrheidiol ailgyflwyno’r briff ar y sefyllfa, a roddwyd i  Aelodau yn ystod chwe mis cyntaf yr argyfwng.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodwyd.

6.

Cylch Gorchwyl y Pwyllgor pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Cael cylch gorchwyl y Pwyllgor newydd fel a gytunwyd gan y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad yngl?n â Chylch Gorchwyl y Pwyllgor yn cynghori fod pob un o’r Pwyllgorau wedi eu newid o ganlyniad i’r adolygiad. Mae’r Gwasanaethau Adfywio wedi eu trosglwyddo i’r Pwyllgor hwn o’r hen Bwyllgor Cymuned a Menter:-

 

·         Cymunedau’n Gyntaf

·         Datblygu Economaidd a Thwristiaeth

·         Menter

·         Partneriaeth Adfywio

·         Cynllun Datblygu Gwledig

·         Croeso Cymru

 

Symudwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Shotton ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Sean Bibby.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Bod y cylch gorchwyl, fel y cytunwyd arno gan y Cyngor ac sydd yn atodiad i’r adroddiad, yn cael ei nodi.

7.

Strategaeth Adferiad (Portffolio Cynllunio, Amgylchedd ac Economi pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg i’r Pwyllgor o gynllunio adferiad ar gyfer ei feysydd portffolio yn rhan o’r strategaeth er mwyn ailgychwyn y broses lywodraethu ddemocrataidd llawn.  Byddai adborth o bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am y cofrestrau risg, y blaenoriaethau adferiad a thargedau dangosydd perfformiad diwygiedig ar gyfer eu meysydd yn cael eu hadrodd i’r Cabinet cyn cyhoeddi Strategaeth Adferiad lawn.

 

Cafwyd cyflwyniad oedd yn dangos y trosglwyddiad o ymateb i adferiad am y pwyntiau canlynol:

 

·         Argymhellion gan y Cabinet

·         Amcanion y Strategaeth Adferiad

·         Amcanion yr Ymateb

·         Enghreifftiau o gyflawniadau lleol wrth Ymateb

·         Adferiad – trefniadau trosglwyddo

·         Strwythurau Adferiad Rhanbarthol a Lleol

·         Amcanion Adferiad - Gwasanaethau

·         Gweithgareddau Adferiad

·         Adferiad Cymunedol

·         Cynllun a Pherfformiad y Cyngor

·         Llywodraethu Adferiad yn Ddemocrataidd

 

Aeth y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) drwy'r rhan o'r adroddiad sy'n ymdrin ag Adferiad Cymunedol, ac roedd wedi ei rannu yn ddau is-gr?p Economi a Phobl Ddiamddiffyn a Thlodi.  Rhoddodd gefndir pellach yngl?n â’r gr?p Adferiad Cymunedol Is-ranbarthol, sydd yn fenter Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus ar y cyd rhwng Sir y Fflint a Wrecsam.  Roedd pedair thema adferiad wedi eu nodi er mwyn gweithredu arnynt a dywedodd fod Arweiniad ar y Cyd o ran ffrwd waith yr Amgylchedd a Lleihau Carbon. Rhoddodd ddwy enghraifft o’r hyn yr oedden nhw’n ei gynnig er mwyn helpu’r Amgylchedd; Llefydd Gwyrdd er mwyn gwella ansawdd, defnydd o ddarpariaeth, hygyrchedd er mwyn hyrwyddo llefydd gwyrdd, ac yn ail Lleihau Carbon er mwyn mynd i’r afael â heriau newid hinsawdd ar lefel leol.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at Gynllun y Cyngor a gaiff ei ddiweddaru’n flynyddol ond oherwydd y tarfu a fu yn yr argyfwng, a gychwynnodd ganol Mawrth, ni chafodd ei gyflwyno ym mis Ebrill.  Eglurodd fod y Cabinet wedi tynnu ohono ac wedi diweddaru pethau allweddol oedd yn hanfodol i adferiad rhwng r?an a’r gwanwyn nesaf, pan fyddai’r Cyngor a’i Wasanaethau, gobeithio, yn gallu cael eu hadsefydlu oherwydd y tarfu mawr, a chyflwynodd Gynllun drafft y Cyngor wedi ei atodi i’r adroddiad.

 

Hefyd ynghlwm roedd fersiwn wedi ei diweddaru o’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn ymwneud â’r ddau bortffolio yn dangos ble roedd rhaid gwneud newidiadau i uchelgais a thargedu oherwydd y tarfu gan yr argyfwng neu oherwydd bod peth o’r data bellach yn amherthnasol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) beth oedd ffurf yr adroddiad oedd yn seiliedig ar Adfer Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi yn unig, ynghyd â 4 atodiad ynghlwm.  Cyfeiriodd at yr 14 amcan adferiad a rhestrwyd, oedd wedi eu gosod ym mis Gorffennaf 2020 a’u bod eisoes wedi mynd i’r afael â rhai ohonynt.

 

Adroddodd fod mwyafswm y portffolio heb ei ddynodi’n wasanaethau hanfodol, er eu bod yn dal i weithio, ac eithrio Safonau Masnach, Trwyddedu, Swyddogaethau Iechyd yr Amgylchedd a Swyddogaethau Diogelwch Bwyd yn ogystal ag Iechyd a Diogelwch, oedd yn cynorthwyo gyda sefydlu model Cyfarpar Diogelu Personol a phob un ohonynt yn gorfod parhau.

 

Nododd  risgiau:-

·         20 risg agored dros Reoli Portffolio, Gweithlu, Rheoliadau Allanol, TGCh  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

Recovery Strategy - Planning Environment Economy Presentation pdf icon PDF 209 KB

Dogfennau ychwanegol:

8.

Strategaeth Adferiad (Portffolio Stryd a Chludliant) pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) gyflwyniad oedd yn rhoi cefndir yngl?n â risgiau a nodwyd. Gyda’r Uwch Dîm Rheoli, roedden nhw wedi nodi 47 risg gwahanol ar draws Cyllid, Gweithlu, Asedau Eiddo, Llywodraethu/Cyfreithiol, Rheoliadau Allanol, TGCh a Systemau, Cyflenwi Gwasanaeth, Polisi Priffyrdd, Fflyd, Strategaeth Gwastraff a Pharcio a Gorfodi, ac roedd 2 o’r rhain wedi eu cau ond yn cael eu hadolygu’n wythnosol. Wrth symud i fisoedd y gaeaf roedd risgiau newydd yn dod i’r amlwg a byddent yn parhau i gael eu monitro. 

 

Rhoddodd fwy o wybodaeth yngl?n â’r meysydd penodol canlynol:

Cyllid

ST09 - Marchnad ar gyfer ailwerthu deunydd eildro yn hynod anwadal. Adroddodd fod newid mawr yn y prisiau maen nhw’n eu derbyn am blastig, papur a gwydr ayyb ac yn anffodus mae’r rhan fwyaf ohonynt yn llithro gan osod pwysau sylweddol ar fusnesau ond yn creu problemau hefyd i staff sy'n ceisio dod o hyd i farchnadoedd parod ar gyfer y deunydd. 

 

 ST10a – Gwastraff cyffredinol y codi rhwng 10 - 20% yn rhanno oherwydd nifer y bobl sy’n gweithio o gartref, yn treulio mwy o amser yn y cartref a heb deithio ar wyliau gan arwain at gadw’r gwastraff yn yr ardal hon. Mae nifer y tunelli ar gynnydd sy’n achosi pwysau o ran ffi glwyd ychwanegol ond mwy o waith i staff hefyd wrth gasglu gwastraff o ochr y ffordd.

 

Gweithlu

ST12 – Gostyngiad yn nifer y gweithwyr a’r contractwyr rheng flaen i gyflawni gwasanaethau yn ddiogel oherwydd lefelau uwch o salwch.

 

ST17a – Cynnydd yn y perygl o ddioddef oherwydd iechyd a lles meddyliol, materion personol ac/neu deuluol.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i'r Gwasanaethau Stryd am ddychwelyd i sefyllfa fwy arferol yn enwedig o ran torri gwair yn ei ardal ef. Rhoddodd wybod fod y Goruchwyliwr Dros Dro wedi bod mewn cysylltiad gydag Aelodau Cei Connah er mwyn cynnig yr ardaloedd oedd angen eu glanhau’n ddifrifol, yn debyg i’r un ddigwyddodd yn Shotton.

 

            Rhoddodd y Cynghorydd Carolyn Thomas wybod am Ymgyrch Ailgylchu yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei lansio, gan weithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol o’r enw ymgyrch ‘Bydd Wych, Ailgylcha’.Ychwanegodd y byddai llawer o gyhoeddusrwydd yngl?n â hyn er mwyn annog pobl i ailgylchu a chodi’r cyfraddau unwaith eto, fyddai hefyd yn atal gollwng sbwriel hefyd gobeithio.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd gwestiwn yngl?n â’r ail argymhelliad. Holodd beth fyddai’n digwydd i bopeth arall fyddai wedi bod yn rhan o’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.    Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wybod fod aelod o’i dîm wedi bod yn nodi eitemau oedd yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol o’r cyn Bwyllgorau Trosolwg ac Archwilio'r Amgylchedd a Chymuned a Menter, o ran eitemau parhaus fyddai’n cael eu bwydo i’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer y Pwyllgor. Byddai pwyslais ar eitemau adfer, ond byddai’r rhaglen gwaith i’r dyfodol hefyd yn cydnabod fod angen dod ag eitemau rheolaidd o flaen y Pwyllgor ac hefyd materion yn ymdrin â swyddogaethau rheolaethol.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod angen meddwl am y risgiau  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

Recovery Strategy - Streetscene and Transportation Presentation pdf icon PDF 200 KB

Dogfennau ychwanegol:

9.

Aelodau o'r cyhoedd a'r wasg yn bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.