Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

60.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:  I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a Hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

61.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi’r Rhaglen Waith a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. Darparwyd y wybodaeth ddiweddaraf am yr eitemau a fydd yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod nesaf ar 6 Chwefror ynghyd a throsolwg o’r eitemau sydd wedi’u trefnu ar gyfer y cyfarfodydd ym misoedd Mawrth, Mehefin a Gorffennaf. 

 

Yna, cyfeiriodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu gan ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am eitemau ar y gweill ac eitemau wedi’u cwblhau. Gwahoddwyd yr Aelodau i godi unrhyw eitemau eraill yr oeddent yn dymuno eu cynnwys ar y Rhaglen.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers y pwynt yn y cofnodion a oedd yn cyfeirio at yr adroddiad olrhain camau gweithredu ac adroddodd ar sgwrs gyda’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a oedd wedi cadarnhau y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu’n fuan.

 

Cynigodd y Cynghorydd Richard Lloyd yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd David Coggins Cogan.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r Rhaglen Waith;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

62.

Uchelgais Gogledd Cymru Adroddiad Ch2 pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:  Derbyn Adroddiad Perfformiad Ch2 gan Uchelgais Gogledd Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad a oedd yn amlinellu Adroddiad Perfformiad Bargen Dwf Gogledd Cymru Chwarter 2 (Gorffennaf - Medi 2023-24).  Nodwyd bod £120 miliwn wedi cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gefnogi cyfres o brosiectau cyfalaf.  Darparodd y tîm o Uchelgais Gogledd Cymru Adroddiad Blynyddol ar gynnydd gyda diweddariadau chwarterol yn cael eu darparu gan y Prif Swyddog i’r Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr aelodau at bwynt 1.4.2 yn yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r newidiadau i’r prosiectau a oedd wedi gadael. Roedd hyn wedi galluogi chwe phrosiect newydd i gael gwahoddiad i ymuno â’r Fargen Dwf. Roedd pwynt 1.4.4 yn yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y pum prosiect coch yn Chwarter 2 ac fe amlygodd y Prif Swyddog y materion traffig yn gysylltiedig â phrosiect Porth Wrecsam. Yna, cyfeiriodd at adfer tir ym Mhrosiect Harbwr Caergybi a chaniatáu'r Gorchymyn Diwygio Harbwr gan Lywodraeth Cymru. Eglurwyd bod Atodiad A yr adroddiad yn darparu crynodeb o bob un o’r prosiectau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers sawl cwestiwn, ac fe gawsant eu hateb gan y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi).

 

Mewn ymateb i’r pwynt yngl?n â chydymffurfiaeth safle yn Warren Hall, eglurwyd bod angen Briff Datblygu i osod y paramedrau ar gyfer y safle. Cyfeiriodd at yr Adroddiad Diogelwch Meysydd Awyr a dderbyniwyd ym mis Hydref ac a oedd wedi codi pryderon yngl?n â llwybr disgyn awyrennau mwy wrth iddynt hedfan i mewn i Frychdyn.  Roedd yr adroddiad wedi cadarnhau nad oedd angen gwneud unrhyw waith ar y pridd yn Warren Hall a oedd yn gam cadarnhaol tuag at symud y datblygiad hwn yn ei flaen.

 

Mewn ymateb i’r cwestiwn ar effaith y CDLl yn Warren Hall, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod hyn hefyd yn gam cadarnhaol ymlaen. Amlinellodd sut y byddai’r Gr?p Strategaeth Cynllunio yn dwyn ymlaen y Briff Cynllunio Datblygu atodol ar gyfer y safle ac yna’n gwthio Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r safle hwn.

 

Wrth ymateb i’r pwynt ar y statws COG yn erbyn buddsoddiad a risg, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod y risgiau wedi’u hadlewyrchu yn y proffil risgiau cryno ac yn ymwneud yn bennaf â chael caniatâd. Cyfeiriodd yr Aelodau at bwynt 1.4.4 yn yr adroddiad a oedd yn darparu manylion am y pum prosiect a oedd â statws coch ar hyn o bryd a darparodd fwy o wybodaeth am hyn.

 

Mewn ymateb i’r pwynt craffu, eglurodd y Prif Swyddog bod Uchelgais Gogledd Cymru nid yn unig yn cael ei graffu gan Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ond hefyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilwyr ar ran Llywodraeth y DU gydag adolygiad yn cael ei gynnal bob blwyddyn. 

 

            Mewn ymateb i’r sylw a wnaed mewn perthynas â’r dyddiadau Cymraeg yn y fersiwn Saesneg o’r ddogfen, cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i adrodd hyn yn ôl i dîm Uchelgais Gogledd  ...  view the full Cofnodion text for item 62.

63.

Polisi Goleuadau Stryd pdf icon PDF 137 KB

Pwrpas:  Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ôl i’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben a chyflwyno fersiwn drafft terfynol o’r strategaeth i’w mabwysiadu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd y Rheolwr Gweithredol (Y Gogledd a Goleuadau Stryd), Darrell Jones, i’r cyfarfod. Darparodd yr adroddiad wybodaeth ar yr adolygiad cyfnodol o’r Polisi yn unol â newidiadau mewn galw.

 

Darparodd y Rheolwr Gweithredol drosolwg o’r Polisi a Manylebau Goleuadau Stryd, Goleuadau Traffig ac Offer Cysylltiedig. Roedd wedi’i ddiweddaru ers y polisi y cytunwyd arno’n flaenorol ac yn ymwneud â mabwysiadu’r isadeiledd a rhwydwaith priffyrdd ar gyfer y Cyngor.    Darparwyd gwybodaeth am y polisi, gosod offer a safonau, a oedd yn cynnwys goleuadau stryd, arwyddion a goleuadau traffig ac eitemau allanol eraill, megis mannau gwefru cerbydau trydan a diffibrilwyr, nad oeddent wedi cael eu cynnwys yn flaenorol. Roedd y Polisi a’r Manylebau yn awr yn cynnwys yr holl safonau perthnasol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers nifer o gwestiynau:-

 

Mewn ymateb i’r cwestiwn yngl?n ag Arwyddion a Ysgogir gan Gerbydau, cadarnhaodd y Rheolwr Gweithredol bod yr arwyddion 30mya wedi cael eu diffodd a’u gorchuddio. Roeddent yn cael eu cynnal yn drydanol ac yn strwythurol ond nid oeddent yn cael eu defnyddio.

 

Mewn ymateb i’r cwestiwn ar golofnau ac asedau goleuo, adroddodd y Rheolwr Gweithredol ar hyd oes amrywiaeth o isadeiledd a oedd yn bresennol yn y sir.  Cynhaliwyd prosiect i newid y llusernau flynyddoedd yn ôl ond roedd y problemau yn awr yn ymwneud â’r isadeiledd a’r colofnau. Darparwyd gwybodaeth am waith y cwmni allanol sy’n ymgymryd â rhaglen dreigl o archwiliadau ynghyd ag esboniad o’r ymweliadau â safleoedd goleuadau traffig a gynhelir bob blwyddyn oherwydd eu hyd oes byrrach.

 

Mewn ymateb i’r cwestiwn am Archwiliadau Gyda’r Nos, cytunwyd bod gwall yn y ddogfen ac y dylid cywiro hyn. Cynhaliwyd y rhain bob 28 diwrnod yn ystod misoedd yr haf a phob 14 diwrnod yn ystod misoedd y gaeaf.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Peers yngl?n â chynnwys meini prawf yn y Polisi, eglurodd y Rheolwr Gweithredol bod y cyfnod o 10 diwrnod ar gyfer archwilio safleoedd y Gwasanaethau Stryd gyda’r nod o allu cynnal y rhain mor gyflym â phosibl.  Mewn rhai achosion megis DNO (Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu) (Scottish Power), pe bai’n cael ei nodi fel nam yn gysylltiedig â’r prif gyflenwad, byddai’r wybodaeth wedyn yn cael ei phasio ymlaen i Scottish Power a oedd yn dilyn Rheoliadau OFGEM o ran atgyweirio’r golau. Cyhoeddwyd hyn ar wefan y Cyngor ac Infonet.

 

O ran y cwestiwn yngl?n â goleuo rhan o’r nos, eglurodd y Rheolwr Gweithredol bod hyn wedi cael ei dreialu ar sawl achlysur mewn ardaloedd yn Sir y Fflint ac roedd yn dal ar waith mewn rhai ardaloedd. Roedd ymgynghoriadau ac asesiadau wedi cael eu cynnal gydag aelodau lleol, gwasanaethau brys a grwpiau lleol a darparwyd amlinelliad o’r arbedion y gellid eu cyflawni a’r ardaloedd y gellid eu hystyried ar gyfer goleuo rhan o’r nos.   

 

Mewn ymateb i’r cwestiwn yngl?n â gostwng goleuadau, eglurodd y Rheolwr Gweithredol bod hyn wedi cael ei drafod yn y polisi blaenorol i ostwng golau llusernau o 30%, nid oedd hyn yn cynnwys ardaloedd diamddiffyn  ...  view the full Cofnodion text for item 63.

64.

Bryn y Beili, Yr Wyddgrug pdf icon PDF 4 MB

Pwrpas:  Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y cyfleusterau ym Mryn y Beili yn Yr Wyddgrug.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod hwn yn adroddiad diweddaru’n amlinellu’r gwaith a oedd wedi cael ei wneud ym Mryn y Beili yn Yr Wyddgrug.

 

            Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Menter ac Adfywio) bod yr adroddiad yn nodi diwedd cyfnod datblygu ac yn amlinellu’r gwaith a oedd wedi cael ei gynnal ar y man gwyrdd hwn sy’n eiddo i’r Cyngor.  Darparwyd gwybodaeth ar y bartneriaeth rhwng y Cyngor Sir, Cyngor Tref Yr Wyddgrug, Gr?p Cyfeillion Bryn y Beili ac Aura. Darparodd bwynt 1.04 yn yr adroddiad wybodaeth ar y cyllid allanol o £1.7 miliwn a dderbyniwyd gan y prosiect, gyda phwynt 1.05 yn amlygu’r gwaith a oedd wedi cael ei wneud.  Roedd rhaglen ddigwyddiadau lwyddiannus hefyd wedi cael ei chynnal gydag ysgolion a sefydliadau eraill i godi ymwybyddiaeth a sicrhau bod y safle yn cael ei ddefnyddio. Eglurwyd bod Cadw ac archeolegwyr wedi cael eu cynnwys drwy gydol y gwaith hwn a gafodd ei oedi oherwydd Covid, yn anffodus.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am yr eitemau archeolegol a’r gweddillion dynol a ganfuwyd ynghyd â thystiolaeth o waliau’r castell, a oedd wedi oedi’r prosiect ac wedi effeithio ar ei ddyluniad, ac fe eglurwyd sut yr oedd y rhain yn cael eu rheoli a’u cefnogi. Roedd yr ardal chwarae wedi cael ei hadleoli i’r beili allanol oherwydd yr eitemau a ganfuwyd ar y safle ac roedd y gwaith i fod i gael ei gwblhau’n fuan. Wrth symud ymlaen, roedd pwyslais ar gynnal y safle a gwella bioamrywiaeth i gynnal y statws gwyrdd ar gyfer y safle a darparwyd eglurhad o ran sut yr oedd hyn yn cael ei reoli. Rhoddwyd trosolwg o’r sefydliadau amrywiol sy’n defnyddio’r safle a’r gwaith cymunedol sy’n ei gefnogi.

           

            Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi ymweld â’r safle gan nodi ei fod yn brydferth ac yn ardal eithriadol o fewn y dref.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Coggins ar y goblygiadau o ran adnoddau, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad oedd yn gallu darparu’r wybodaeth honno gan nad oedd y ganolfan wedi bod yn weithredol am flwyddyn gyfan. Roedd wedi’i ariannu’n rhannol gan y Loteri Genedlaethol a chyllidwyr ond byddai gwell syniad ar gael ym mis Mawrth eleni gan Gyngor Tref Yr Wyddgrug.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mike Peers ar y goblygiadau o ran adnoddau ym mhwynt 2.01, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth bod ffigyrau rhan o’r flwyddyn wedi’u cael gan Gyngor Tref Yr Wyddgrug a oedd yn amlygu diffyg. Roedd yn anodd codi cyfradd incwm uwch ar gyfer yr adeilad bach a byddai gwaith yn cael ei wneud gyda’r Cyngor Tref i gadw’r diffygion cyn lleied â phosibl wrth ddarparu’r adnodd cymunedol hwnnw.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â statws y Faner Werdd gan y Cynghorydd Mike Peers, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth bod hwn yn statws marc barcud ar gyfer mannau gwyrdd, parciau yn bennaf.  Eglurwyd bod y safle wedi cyflawni tair o’r 7 mlynedd, gyda phedair arall i fynd. Roedd y meini  ...  view the full Cofnodion text for item 64.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi ei heithrio yn rhinwedd Paragraff(au) 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Dogfennau ychwanegol:

65.

Contract Fflyd

Pwrpas:  Darparu diweddariad i’r Pwyllgor.

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, darparodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd wybodaeth gefndir o ran y trafodaethau a gynhaliwyd gyda’r contractwr, y wybodaeth gyfreithiol a gafwyd a’r Dewisiadau ar gael ar gyfer yr Awdurdod.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd sawl cwestiwn gan yr Aelodau a darparwyd atebion gan y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd. Cytunwyd y byddai’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol yn amlygu pryderon y Pwyllgor yng nghyfarfod y Cabinet.

 

Cynigodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Lloyd.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Coggins-Cogan y dylid ystyried y mater hwn yng nghyfarfod Cyngor Sir y Fflint er mwyn gweld os dylid dod â’r gwasanaeth yn ôl yn fewnol.  Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol nad oedd ganddo unrhyw broblem gyda’r mater yn cael ei drafod yng nghyfarfod Cyngor Sir y Fflint.  Dywedodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd y byddai’n gofyn am gyngor gan y swyddog cyfreithiol yngl?n â hyn ar ôl y cyfarfod. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am gontract y fflyd a’r cynnig i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ym mis Ionawr 2024;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dewis a ffefrir i ddod â threfniadau gweithredu a rheoli’r fflyd yn ôl yn fewnol i sicrhau parhad di-dor y gwasanaeth hanfodol hwn; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn cefnogi cymeradwyaeth gan y Cabinet ar fynd i gontract tymor byr arall gyda’r cyflenwr presennol am ddim mwy na 12 mis, er mwyn rhoi amser i’r Cyngor wneud trefniadau eraill.

 

66.

Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.