Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

35.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

36.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 83 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Tynnodd sylw at yr eitemau a drefnwyd i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 7 Rhagfyr 2021. Dywedodd y bydd gweithdy ar y strategaeth trafnidiaeth integredig ar 14 Rhagfyr, a bod gwahoddiad wedi’i anfon at bob Aelod.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Sean Bibby am gynnwys eitem ar gasgliadau gwastraff swmpus ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at gamau gweithredu cyfarfodydd blaenorol ac eglurodd fod cynnydd camau gweithredu hirdymor yn parhau ac yn cael ei fonitro, a bydd gwybodaeth ar gael ar ôl eu cwblhau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at y cam gweithredu sy’n ymwneud â Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon, sydd wedi bod ar y gweill ers mis Mehefin 2021, a gofynnodd am gytuno ar ddyddiad cau ar gyfer ymateb. Cytunodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) i holi ynghylch yr amserlenni a darparu ymateb. Dywedodd fod y cam gweithredu mewn perthynas â’r Strategaeth Toiledau wedi’i gwblhau’n ddiweddar.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr George Hardcastle a Joe Johnson.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at y sylwadau yr oedd wedi’u gwneud yn ystod yr eitem yn y Cofnodion, yngl?n â’i gais am archwiliad o’r broses gynllunio. Deallodd fod gwaith yn mynd rhagddo gydag Archwilio Mewnol a dymunodd egluro nad oedd ei sylwadau i fod i gyfleu unrhyw feirniadaeth o berfformiad swyddogion y Gwasanaethau Cynllunio. Ymddiheurodd y Cynghorydd Heesom i’r Cadeirydd am ei ymddygiad yn ystod y cyfarfod ac am fethu â pharchu ei swydd fel Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cwblhau’r camau gweithredu sy’n weddill.

37.

Amrywio trefn y Rhaglen

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cadeirydd newid trefn y rhaglen er mwyn trafod yr eitem ar Strategaeth Dyffryn Maes Glas yn gyntaf. Cafodd yr argymhelliad ei gefnogi a’i eilio gan y Cynghorwyr George Hardcastle a Joe Johnson.

38.

Strategaeth Dyffryn Maes Glas pdf icon PDF 100 KB

Cael adroddiad ar gynnydd ar y gwaith i sefydlu strategaeth newydd ar gyfer Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas. Rhoi gwybod i'r aelodau am ganfyddiadau'r ymgynghoriadau cyhoeddus a phartneriaid a gofyn barn y pwyllgor ar elfennau allweddol y strategaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd wrth lunio strategaeth newydd ar gyfer Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas ac i amlygu canfyddiadau’r ymgynghoriad cyhoeddus a’r ymgynghoriad gyda phartneriaid, ac i ofyn am farn y Pwyllgor am elfennau allweddol y strategaeth.

 

Dywedodd Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol, dan gytundeb rheoli newydd, mai Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas sy’n gyfrifol am reolaeth strategol Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas ar ran Cyngor Sir y Fflint. Mae’r Ymddiriedolaeth yn paratoi strategaeth 10 mlynedd newydd i lywio datblygiadau ar y safle. Soniodd y Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol am yr ystyriaethau allweddol, fel y nodir yn yr adroddiad, a chrynhodd brif weledigaeth a themâu'r strategaeth a chanfyddiadau’r ymarfer ymgynghori.

 

Diolchodd Gwladys Harrison (Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas) i Brenda Harvey, Arweinydd y Strategaeth, a’r Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol a’i dîm am eu gwaith caled. Cyfeiriodd Brenda Harvey at ganlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch Strategaeth Dyffryn Maes Glas 2021, sydd wedi’i atodi wrth yr adroddiad, a dywedodd fod gwybodaeth hefyd ar gael ar wefan Dyffryn Maes Glas. Eglurodd y bydd y sylwadau ar y wefan yn cael eu cyflwyno i’r Gweithgor Strategaeth a’r Bwrdd. Rhagwelir y bydd y strategaeth derfynol yn cael ei lansio yn y flwyddyn newydd.

 

Siaradodd yr Aelodau o blaid y strategaeth a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas a gwaith swyddogion, staff a gwirfoddolwyr.

 

Cytunodd y Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol i siarad efo’r Cynghorydd Dennis Hutchinson ar ôl y cyfarfod yngl?n â’r mater yn ymwneud â thir comin yn ei ward.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Paul Shotton ac Owen Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma i ddatblygu strategaeth 10 mlynedd ar gyfer Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas a’r canfyddiadau yn sgil yr ymgynghoriadau cyhoeddus a chyda phartneriaid; a

 

(b)       Cefnogi datblygiad parhaus y strategaeth.

39.

Adolygiad Archwilio Cymru o Adfywio Canol Trefi pdf icon PDF 104 KB

Ystyried prif argymhellion adolygiad Archwilio Cymru o Adfywio Canol Trefi ac ymateb y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad i ystyried argymhellion allweddol adolygiad Archwilio Cymru o Adfywio Canol Trefi ac ymateb y Cyngor. Darparodd wybodaeth gefndir a chynghorodd fod yr adroddiad yn cynnwys chwe argymhelliad; ac mae gofyn i’r llywodraeth leol ymateb i dri ohonynt. Mae'r ymateb i bob argymhelliad wedi’i nodi yn yr adroddiad. Wedi’i atodi wrth yr adroddiad mae pecyn hunan-arfarnu Archwilio Cymru ac ymateb y Cyngor i’r cwestiynau. Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad.

 

Soniodd y Cynghorydd Owen Thomas am effaith andwyol siopau gwag/sydd wedi cau ar ganol trefi a gofynnodd a oes modd gwneud rhywbeth i wella edrychiad yr adeiladau gwag.

 

Siaradodd y Cynghorydd Sean Bibby am wytnwch rhai busnesau lleol sydd wedi ymdopi gyda heriau’r pandemig yn well na’r disgwyl ac sydd wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan y Cyngor. Dywedodd hefyd ei fod yn falch o weld cynnydd yn y galw am unedau manwerthu ar y stryd fawr yn ei ward ef, a diolchodd i’r Prif Swyddog a’i dîm am y cymorth a’r gefnogaeth ariannol sydd wedi’u darparu i fasnachwyr lleol. Gofynnodd a oes modd derbyn data ar nifer yr unedau gwag ymhob canol tref. Diolchodd y Prif Swyddog i’r Cynghorydd Bibby am ei sylwadau cadarnhaol a dywedodd fod y dystiolaeth o welliant mewn perthynas ag unedau gwag mewn canol trefi yn ganlyniad i gydnabod yr angen i gefnogi busnesau lleol a denu cyfleoedd siopa i ardaloedd lleol a bod pobl yn cipio’r cyfle i ddatblygu eu galluoedd entrepreneuraidd. Dywedodd y Prif Swyddog y bydd adroddiad ar yr economi lleol yn cael ei gyflwyno yn ystod cyfarfod mis Ionawr y Pwyllgor Adfer ac y byddai’n gofyn am gynnwys gwybodaeth am unedau gwag.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Bithell at adran 1.05 yn yr adroddiad a dywedodd fod yr hyfforddiant gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn ddefnyddiol ac y byddai’r cyngor a’r cymorth a ddarparwyd yn cael ei ystyried er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau i ganol ein trefi.

 

Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Prif Swyddog i sylwadau’r Aelodau mewn perthynas â phwysigrwydd cefnogi marchnadoedd canol tref a’r cyfleoedd a all godi ar gyfer cymunedau yn sgil llwyddiant masnachwyr bychain yn ehangu eu busnesau.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Owen Thomas a Paul Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi argymhellion Archwilio Cymru a chymeradwyo’r ymateb arfaethedig.

40.

Effaith y pandemig ar flaenoriaethu cynlluniau priffyrdd, gwagio cwteri, Torri gwair a llifogydd. pdf icon PDF 106 KB

Cais gan y Pwyllgor Adfer

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) gyflwyniad ar effaith y pandemig ar flaenoriaethu cynlluniau priffyrdd, gwagio cwteri, torri gwair a llifogydd, a oedd yn ymdrin â’r prif bwyntiau canlynol:

 

  • Effaith Covid-19 ar wasanaethau: llinell amser
  • Blaenoriaethu cynlluniau priffyrdd
  • Torri gwair a chynnal a chadw tiroedd
  • Gwagio cwteri
  • Llifogydd
  • Pwyntiau allweddol

 

Diolchodd y Cynghorydd George Hardcastle i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith caled. Mynegodd bryderon ynghylch rheoli chwyn a chwistrellu chwynladdwyr. Soniodd hefyd am wagio cwteri a gofynnodd a oes modd gwneud hyn deirgwaith y flwyddyn yn hytrach na dwy. Eglurodd y Prif Swyddog fod dewisiadau y gellir eu hystyried ar gyfer chwistrellu chwynladdwyr. Mewn ymateb i’r angen am glirio cwteri yn amlach, dywedodd wrth yr Aelodau y dylent roi gwybod am broblemau penodol yn eu wardiau i’r Cydlynydd Ardal, a fydd wedyn yn rhoi gwybod i’r Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth er mwyn trefnu defnyddio ysgubwyr stryd yn yr ardaloedd hynny. Dywedodd y Prif Swyddog fod y Safonau Stryd yn destun diweddariad y flwyddyn nesaf, a all fod yn gyfle i adolygu amlder gwagio cwteri pe bai angen. Darparodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd ragor o wybodaeth am drefniadau’r contract ar gyfer chwistrellu chwynladdwyr a’r broses. Dywedodd y Prif Swyddog fod yna ddewisiadau y gellir eu hystyried o ran y broses dendro ar gyfer y contract chwistrellu chwynladdwyr.

 

Mynegodd y Cynghorydd Owen Thomas rywfaint o bryder ynghylch y gwasanaeth torri gwair a defnyddio chwynladdwyr.

 

Dymunodd y Cynghorydd Patrick Heesom longyfarch y Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith caled a’u llwyddiannau yn ystod y pandemig, ac awgrymodd y gallai Arweinydd y Cyngor gydnabod hyn hefyd.

 

Cydnabu'r Cynghorydd Ian Roberts yr awgrym a diolchodd hefyd i staff holl wasanaethau’r Cyngor am eu gwaith caled ac am barhau i ddarparu gwasanaethau drwy gydol y pandemig. Soniodd y Prif Swyddog am yr heriau parhaus wrth gynnal gwasanaethau yn ystod y pandemig. Awgrymodd y Cynghorydd Ian Roberts y dylid cofnodi neges o ddiolch a gwerthfawrogiad, ar ran yr Aelodau, ar slipiau cyflog bob gweithiwr i gydnabod eu gwaith a’u perfformiad yn ystod y pandemig. Cytunodd y Pwyllgor â hyn. Cytunodd yr Hwylusydd i gysylltu â Phennaeth Newid Sefydliadol i weithredu’r cais.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Patrick Heesom a Dennis Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi gwaith y portffolio Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth i gynnal y prif wasanaethau yn ystod y pandemig; a

 

(b)       Cofnodi neges o ddiolch a gwerthfawrogiad ar ran yr Aelodau ar slipiau cyflog bob gweithiwr i gydnabod eu gwaith a’u perfformiad yn ystod y pandemig.

41.

Aelodau o'r wasg yn bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.