Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

25.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

26.

Cofnodion pdf icon PDF 94 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 Medi  2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi 2021. 

 

Tudalen 7 - Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd George Hardcastle am ddiweddariad ar ailgylchu gwastraff a'r wybodaeth/ gefnogaeth sydd ar gael i bobl oedrannus a diamddiffyn, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod y Gwasanaeth Tai wrthi'n cynhyrchu pecyn cyfathrebu ar gyfer preswylwyr sy’n byw mewn llety gwarchod.  Byddai'r pecyn yn cynnwys taflenni, arwyddion ac ati i gynorthwyo lle gallai mynediad i'r rhyngrwyd neu'r cyfryngau cymdeithasol fod yn gyfyngedig.  

 

Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Dennis Hutchinson. 

 

Pleidleisiodd y Cynghorydd Patrick Heesom yn erbyn y cofnodion.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

27.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol.   Tynnodd sylw at yr eitemau a drefnwyd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd, a chynghorodd y byddai'r eitem ar Fapiau Rhwydwaith Integredig yn cael ei gohirio tan y cyfarfod i'w gynnal ar 7 Rhagfyr 2021. Yn ychwanegol at yr eitemau a restrwyd i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf, byddai dwy eitem ychwanegol ar Ddyffryn Maes Glas a Chanol Trefi yn cael eu cynnwys ar yr agenda.  Gofynnodd yr Hwylusydd i'r Aelodau gysylltu â hi os oedd ganddynt unrhyw awgrymiadau ar gyfer eitemau pellach i'w cynnwys ar y Rhaglen.

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at y camau a ddeilliodd o gyfarfodydd blaenorol ac eglurodd y byddai cynnydd ar gamau gweithredu tymor hir yn cael eu monitro a gwybodaeth yn cael ei darparu pan fyddai wedi'i gwblhau.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Joe Johnson a George Hardcastle.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

28.

Cyllideb 2022/23 - Cam 2 pdf icon PDF 120 KB

Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn gwneud sylw am bwysau ariannol GwasanaethStryd a Chludliant a Cynllunio, Amgylchedd ac Economi a strategaeth gyffredinol y gyllideb ac yn rhoi cyngor am unrhyw feysydd o effeithlonrwydd costau yr hoffai weld yn cael eu harchwilio ymhellach.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad am ail gam y gyllideb a oedd yn rhoi manylion y rhagolygon a'r pwysau o ran costau a fyddai'n arwain at ofynion cyfanswm y gyllideb.

 

Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir a chyd-destun.  Roedd adroddiad i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Gorffennaf yn rhoi diweddariad ar sefyllfa’r gyllideb ar gyfer 2022/23. Roedd y pwysau costau a nodwyd wedi eu cyfeirio at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol gyda chais eu bod i gyd yn cynnal adolygiad trwyadl.  Cafodd manylion y pwysau o ran costau ar gyfer Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi, a Gwasanaethau Stryd a Chludiant eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol, Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) a'r Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant), gyflwyniad ar y cyd a oedd yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn:

           

  • Pwrpas a chefndir
  • Crynodeb o Gyfansymiau Pwysau o ran Costau

ØPwysau o ran costau Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi a Gwasanaethau Stryd a Chludiant 2022/23

ØPwysau Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi

ØPwysau Gwasanaethau Stryd a Chludiant

  • Datrysiadau Strategol
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am effeithlonrwydd
  • Amserlenni Cyllideb

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Andy Hughes, dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi fod trafodaethau yn parhau gyda Rali Cymru Prydain Fawr a'u bod yn awyddus i ddod yn ôl i Sir y Fflint a bod Sir y Fflint yn cynnal y digwyddiad.  Dywedodd fod angen sicrhau bod y gwariant lleol yn digwydd gyda'r sector lletygarwch yn Sir y Fflint. Ychwanegodd fod Rali Cymru Prydain Fawr wedi ymrwymo i ddychwelyd i Sir y Fflint.

 

Roedd y Cynghorydd Paul Shotton yn cefnogi’r buddsoddiad yn y parciau.  Gan gyfeirio at Parc Gwepra, Cei Connah, gofynnodd a oedd unrhyw ystyriaeth yn cael ei rhoi i bobl nad oeddent yn breswylwyr wneud cyfraniad at gynnal a chadw'r Parc gan fod y defnydd wedi cynyddu'n sylweddol yn dilyn llacio cyfyngiadau o amgylch Covid.  Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) fod trafodaeth barhaus yn digwydd gyda'r bwriad o ddatblygu Parc Gwepra.  Byddai cynlluniau'n dod ymlaen a byddai ymgynghori'n digwydd gyda'r gymuned leol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson at Safle Tirlenwi Standard, Bwcle, a dywedodd nad oedd yn ymddangos bod ymrwymiad i ddatblygu’r safle ar gyfer hamdden wedi dwyn ffrwyth.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Hutchinson at ddefnyddio paneli solar ac uwchraddio llwybrau troed.   Dywedodd y Prif Swyddog, Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi na wnaed unrhyw ymrwymiad i ble y byddai cyllid yn cael ei wario hyd yma ac y byddai safle tirlenwi Standard yn cael ei ystyried i weld a oedd yn lle priodol ar gyfer buddsoddi a'r buddion a fyddai'n deillio.

  

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r pwysau o ran costau Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi;

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi pwysau o ran costau’r Gwasanaethau Stryd a Chludiant; a

 

 (c)      Nad yw'r Pwyllgor yn cynnig unrhyw  ...  view the full Cofnodion text for item 28.

29.

Cyflwyniad llafar a thaith rithwir o Barc Adfer

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Contractau Rhanbarthol, Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru, gyflwyniad gan gynnwys taith rithiol o amgylch safle Parc Adfer a gafodd groeso mawr gan y Pwyllgor.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson a oedd y llosgydd yn cael gwared â chlytiau a matresi. Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) nad oedd Parc Adfer yn cael gwared ar glytiau, fodd bynnag, roedd opsiynau'n cael eu harchwilio gyda Llywodraeth Cymru ynghylch ailgylchu clytiau. Nid oedd matresi yn cael eu llosgi ond cawsant eu hailgylchu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton fod sicrwydd wedi ei roi i drigolion lleol ynghylch lefel yr allyriadau a gofynnodd a fu unrhyw ddigwyddiadau. Gofynnodd hefyd a ragwelwyd unrhyw gynnydd pellach mewn capasiti. Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at y Gronfa Budd Cymunedol a gofynnodd a oedd unrhyw ddyfarniadau wedi'u gwneud ac a oedd y meini prawf wedi newid.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod Parc Adfer yn gweithredu'n dda o fewn rheolaethau gronynnau ac y byddai adroddiadau perfformiad yn cael eu hanfon at yr Aelodau maes o law. Adroddodd ar y sefydliadau a gefnogwyd trwy gronfa Adfer Cymunedol Parc Adfer a dywedodd fod pob cais wedi'i ganiatáu. Parhaodd y byddai'r gronfa Budd Cymunedol yn cael ei lansio yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac y byddai o fudd i'r gymuned am y 23/24 mlynedd nesaf ac y byddai ganddo banel grant a fyddai'n cynnwys Aelodau. Byddai manylion yn cael eu dosbarthu i'r Aelodau pan fyddant ar gael.

 

Mewn ymateb i'r ymholiad ar gapasiti, dywedodd y Rheolwr Contractau Rhanbarthol y caniatawyd i Barc Adfer drin 200,000 tunnell fel uchafswm yn ei drwydded amgylcheddol fel y'i rheolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Roedd swm damcaniaethol uwch y gallai Parc Adfer ei drin ond roedd hyn yn dibynnu ar ffactorau eraill.

 

                        Gofynnodd y Cynghorydd Owen Thomas a oedd mwy o ludw yn cael ei gynhyrchu na'r angen a beth a wnaed ag ef. Esboniodd y Rheolwr Contractau Rhanbarthol fod y contract ar gyfer trin sgil-gynnyrch lludw rhwng y gweithredwr Enfinium a Blue Phoenix a gymerodd y lludw. Roedd cynhyrchu gormod o ludw yn annhebygol gan fod contractau ar waith i fynd i'r afael â hyn a byddai'r maint yn hysbys ac yn gyson.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Contractau Rhanbarthol am ansawdd a manylder ei gyflwyniad. Gofynnodd i'r Hwylusydd anfon dolen i'r cyflwyniad at yr Aelodau. Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) y byddai fideo o'r cyflwyniad ar gael ar wefan y Cyngor a bod awdurdodau partner hefyd yn bwriadu gwneud yr un peth. Dywedodd fod gwaith hefyd ar y gweill i ddatblygu'r ymarferion addysgol sydd ar gael.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Andy Hughes a'i eilio gan y Cynghorydd Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cyflwyniad.

30.

Adolygiad o’r Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus pdf icon PDF 95 KB

Rhoi diweddariad i’r gwasanaeth Craffu am gynnydd yn erbyn Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Toiledau Lleol yn unol â’r gofynion statudol, a phennu’r dull ar gyfer cynnal adolygiad pellach yn 2022-23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) yr adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Toiledau Lleol yn unol â'r gofynion statudol, a nododd yr ymagwedd at adolygiad pellach yn 2022-23.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd yr adroddiad. Darparodd wybodaeth gefndir a chynghorodd fod Strategaeth Toiledau Lleol Sir y Fflint wedi ei chymeradwyo a’i chyhoeddi ym mis Mai 2019 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a bod copi wedi’i atodi i’r adroddiad. Dywedodd fod canllawiau Cenedlaethol yn nodi y dylid adolygu'r polisi bob dwy flynedd o'r adeg y cyhoeddodd neu yr adolygodd yr awdurdod lleol y Strategaeth ddiwethaf ac o fewn blwyddyn i bob etholiad llywodraeth leol gyffredin.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Owen Thomas a fyddai toiledau cymunedol sy'n darparu ar gyfer twristiaid yn parhau i gael grant blynyddol gan y Cyngor. Cadarnhaodd Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd y byddai'r grant yn parhau. 

 

Cododd y Cynghorydd Geoff Collett bryderon ynghylch diffyg darpariaeth cyfleustrau cyhoeddus yn yr Wyddgrug, a’r angen i uwchraddio’r ddarpariaeth mewn adeiladau cyhoeddus gan nodi’r llyfrgell gyhoeddus fel enghraifft. Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) fod darpariaeth amgen neu ddatblygiad y cyfleusterau cyhoeddus yng Ngorsaf Fysiau'r Wyddgrug wedi cael eu hystyried ond bod costau'n afresymol a bod y toiledau'n denu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Nid oedd trafodaethau â Chyngor Tref yr Wyddgrug wedi symud ymlaen i ddarparu datrysiad. Dywedodd fod toiledau Gorsaf Fysiau'r Wyddgrug yn rhan o'r Strategaeth Cludiant Integredig a bod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda Chyngor Tref yr Wyddgrug ynghylch parcio coetsys a goleuo. O ran toiledau mewn adeiladau cyhoeddus, dywedodd y byddai'r Cyngor yn gweithio gyda darparwyr amgen yn amodol ar ddarparu cyllid i ddatblygu'r cyfleusterau.

 

Mynegodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson bryder nad oedd unrhyw arwyddion i nodi bod cyfleusterau toiledau cyhoeddus ar gael yn adeilad Llyfrgell Bwcle. Pwysleisiodd fod arwyddion clir yn hanfodol i'r cyhoedd. Cydnabu'r Prif Swyddog fod angen gwaith pellach ac arwyddion i godi ymwybyddiaeth o doiledau cyhoeddus mewn ardaloedd lleol.

 

Cytunodd y Cynghorydd Paul Shotton â'r farn a fynegwyd gan y Cynghorydd Hutchinson bod angen gwell arwyddion i hysbysu preswylwyr o leoliad toiledau cyhoeddus mewn ardaloedd lleol.

 

Tynnodd y Cynghorydd Chris Bithell sylw at Ran 8, Deddf Iechyd y Cyhoedd 2017, a chynghorodd nad oedd unrhyw un yn gyfrifol am ddarparu toiledau cyhoeddus ac oherwydd toriadau nid oedd cyllid digonol ar gael i ddarparu'r gwasanaeth. Dywedodd fod yr Wyddgrug nid yn unig yn darparu ar gyfer gofynion ei thrigolion ei hun ond hefyd yn gwasanaethu dalgylch mawr ar gyfer siopa a thwristiaeth a dywedodd nad oedd y ddarpariaeth toiledau cyhoeddus yn ddigonol i ateb y galw yn enwedig yn yr Haf. Mynegodd y Cynghorydd Bithell bryder nad oedd arwyddion i'r ddarpariaeth gyhoeddus bresennol ar gael yn yr Wyddgrug ac y dylent fod wedi'u gosod cyn dymchwel y toiledau cyhoeddus yn New Street a Stryd Wrecsam. Dywedodd nad oedd y trefniadau cyfredol yn yr Wyddgrug ar gyfer darparu toiledau cyhoeddus yn gynaliadwy.

 

Dywedodd y Cynghorydd Geoff Collet fod angen adolygu cyfleusterau yn yr Wyddgrug ar gyfer darparu toiledau cyhoeddus yn drylwyr  ...  view the full Cofnodion text for item 30.

31.

Adolygu Trwydded ‘O’ pdf icon PDF 100 KB

Rhoi sicrwydd fod y prosesau a’r trefniadau gweithio yn effeithiol a chadarn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad i roi sicrwydd bod trefniadau a phrosesau gweithio yn effeithiol ac yn gadarn. Darparodd wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at yr archwiliad o gydymffurfiad Trwydded Cerbyd O a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2021 fel rhan o Gynllun Blynyddol Archwilio Mewnol cymeradwy ar gyfer 2020/21. Y canfyddiadau cyffredinol oedd bod y rheolaethau a oedd ar waith ar y pryd yn rhoi rhywfaint o sicrwydd bod risgiau allweddol yn cael eu rheoli'n effeithiol, fodd bynnag, roedd angen gwella'n sylweddol mewn meysydd sy'n ymwneud â'r amgylchedd rheoli o ran cydymffurfiaeth tacograffeg, gwasanaethu fflyd a chynnal a chadw, a dibyniaeth ar berson sengl yn effeithio ar wytnwch gwasanaeth. Rhoddodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn dilyn yr adroddiad archwilio ym mis Ebrill 2021.

                   

Cyflwynodd Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd yr adroddiad a chyfeiriodd at y cynllun gweithredu i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r archwiliad. Esboniodd y Prif Swyddog ei bod yn anodd recriwtio ar gyfer swydd Rheolwr Contractau Fflyd a Chludiant a swyddi eraill yn y Gwasanaethau Stryd a Chludiant, a oedd yn effeithio ar gynnydd ar y cynllun gweithredu.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Joe Johnson a Dennis Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r trefniadau gweithio parhaus yn y Gwasanaethau Stryd a Chludiant ac yn cefnogi'r camau a gymerwyd i reoli risg weithredol a chyflawni ar ymrwymiadau trwydded gweithredwr y Cyngor.

32.

Adroddiad Perfformiad Bargen Dwf Gogledd Cymru pdf icon PDF 88 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am Chwarter 1 Bargen Dwf Gogledd Cymru

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) adroddiad i roi'r diweddariad Chwarter 1 (Mawrth - Mehefin) i'r Pwyllgor ar Fargen Twf Gogledd Cymru.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 Bargen Twf Gogledd Cymru a atodwyd i'r adroddiad. Adroddodd ar y prif ystyriaethau ac awgrymodd efallai y byddai'r Pwyllgor am wahodd rheolwyr rhaglenni i gyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol i roi cyflwyniad ar brojectau'r Bwrdd Uchelgais Economaidd.

 

Mewn ymateb i'r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Derek Butler, cyfeiriodd y Prif Swyddog at y ddau brosiect sy'n adrodd fel rhai coch ar hyn o bryd yn adran 1.07 o'r adroddiad ac awgrymodd y dylid gwahodd rheolwr y Rhaglen Tir ac Eiddo i gyflwyno adroddiad i gyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Patrick Heesom sylwadau ar brosiect Caergybi a’r symud i ffwrdd o gefnogi’r morglawdd a gofynnodd am ystyriaeth i botensial Dociau Mostyn fel prosiect amgen.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Patrick Heesom a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Dylid nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 1.

33.

Cartrefi Gwag pdf icon PDF 97 KB

Rhoi trosolwg o’r gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth Cartrefi Gwag

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Amddiffyn y Gymuned a Busnes adroddiad i ddarparu trosolwg o'r gwaith a wneir gan y Gwasanaethau Cartrefi Gwag. Rhoddodd gyflwyniad ar y cyd â'r Swyddog Datblygu Cartrefi Gwag a oedd yn ymdrin â'r canlynol:          

 

  • Cyd-destun
  • Cyflawniadau ers 2019
  • Astudiaethau achos

 

Diolchodd y Cynghorydd Patrick Heesom i'r Rheolwr Amddiffyn y Gymuned a Busnes am safon uchel ei hadroddiad.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Chris Bithell sylwadau ar broblem eiddo gwag a oedd wedi dadfeilio a'r angen i ddod ag o yn ôl i ddefnydd cyn gynted â phosibl i fynd i'r afael â'r angen am dai.  

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Patrick Heesom ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi a chefnogi cynnwys yr adroddiad.

34.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.