Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

18.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

19.

Cofnodion pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 6 Gorfennaf 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2021.  Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo, a’u cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Owen Thomas a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

20.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

 

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol.   Cyfeiriodd at yr eitemau a drefnwyd ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor a gynhelir ar 12 Hydref, a dywedodd y byddai yna eitem ychwanegol ar y rhaglen i ystyried Cyllideb 2022/23 - Cam 2.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Joe Johnson am y cynnydd gyda’r llosgyddion ym Mharc Adfer, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod taith rithiol o Barc Adfer wedi ei threfnu ar gyfer y cyfarfod nesaf.  Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau y dylid cysylltu â’r Hwylusydd os oes ganddyn nhw unrhyw awgrymiadau ar gyfer eitemau eraill y dylid eu cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at y camau gweithredu a gododd o’r cyfarfodydd blaenorol.  Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ar y camau gweithredu a gododd o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin.  Esboniodd y byddai meini prawf lleoliad biniau gwastraff yn cael eu rhannu â’r Aelodau ar ôl y cyfarfod.

 

Mynegodd y Cynghorydd Owen Thomas bryderon ynghylch sbwriel yn cael ei daflu ar strydoedd, ffyrdd ac yng nghefn gwlad.  Dywedodd Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd wrth Aelodau y dylen nhw godi pryderon yn ymwneud ag eiddo penodol gyda’u cydlynydd ardal a fyddai’n dwyn y mater i sylw’r rheolwr busnes priodol.    Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesurau i sicrhau bod busnesau sy’n creu gwastraff pecynnu yn gyfrifol am gael gwared â gwastraff/sbwriel sy’n cael ei daflu ger eu heiddo.  Dywedodd swyddogion y byddai gwybodaeth yn cael ei rhannu ynghylch cynllun Llywodraeth Cymru cyn gynted ag y byddai ar gael.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran cwblhau’r camau gweithredu sydd heb eu cyflawni.

21.

Targed 70 pdf icon PDF 142 KB

Ystyried y cynigion cyn iddynt gael eu hystyried gan y Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd Neil Cox, Rheolwr y Gwasanaethau Stryd ei gyflwyno i’r cyfarfod gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth)   Cyflwynodd yr adroddiad a oedd yn rhoi adborth o’r ddau weithdy/seminar o’r holl aelodau a gafodd eu cynnal i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y perfformiad ailgylchu presennol, effaith pandemig COVID ar wasanaethau a newidiadau y gallai’r Cyngor eu rhoi ar waith er mwyn cyrraedd y targed ailgylchu cenedlaethol, sef 70%.  Dywedodd fod yr adroddiad yn rhoi adborth o’r seminarau ac argymhellion ar ailgylchu a darpariaethau gwasanaethau gwastraff yn y dyfodol.  Cyfeiriodd y Prif Swyddog at dudalen 26 yr adroddiad a oedd yn rhestru’r argymhellion a wnaed gan Aelodau o’r gweithdai/seminarau.  Adroddodd ar yr ystyriaethau allweddol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Wrth ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle ynghylch ailgylchu gwastraff a’r wybodaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer yr henoed a phobl ddiamddiffyn, esboniodd y Prif Swyddog fod gwaith yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â’r Gwasanaeth Tai i godi ymwybyddiaeth a bod rhagor o wybodaeth yn cael ei datblygu a’i rhannu ar gyfer pobl sydd heb fynediad at y rhyngrwyd.

 

Mynegodd y Cynghorydd Dave Evans ei gefnogaeth i’r system tagiau electronig ar gyfer y gwasanaeth casglu biniau brown (adnabod amledd radio).  Holodd am y data a ddarparwyd ynghylch cyfraddau llwyddo’r cynllun peilot.  Ymatebodd y Prif Swyddog i’r pwyntiau a godwyd a chadarnhaodd fod y cynllun peilot wedi bod yn llwyddiant a chyfeiriodd at y buddiannau a welwyd.  Dywedodd mai’r bwriad yw cyflwyno’r rhaglen dros y Sir, yn raddol o bosibl, yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton a ellid darparu gwybodaeth am nifer y preswylwyr sy’n derbyn casgliadau â chymorth, a’r system pàs cerbyd.  Cytunodd y Prif Swyddog y byddai’n cylchredeg gwybodaeth am nifer y casgliadau â chymorth i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.  Dywedwyd wrth yr aelodau y gellid hefyd darparu deunydd darllen ar gyfer casgliadau â chymorth.  Dywedodd y Prif Swyddog y gellid rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y system pàs cerbyd yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a wneir gwiriad i sicrhau bod unigolion yn dal i fod angen y cynllun casgliadau â chymorth.  Cytunodd y Prif Swyddog y byddai adolygiad yn cael ei gynnal i sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei diweddaru ynghylch yr angen/cymhwystra i dderbyn y gwasanaeth.

 

Soniodd y Cynghorydd Sean Bibby fod angen codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am ailgylchu o ran eglurder ynghylch yr hyn y gellir a’r hyn na ellir ei ailgylchu.  Cyfeiriodd at gasgliadau enghreifftiol nad yw criwiau’r gwasanaethau stryd yn eu casglu gan eu bod yn cynnwys eitemau na ellir eu hailgylchu.  Soniodd y Cynghorydd Bibby hefyd am y cynwysyddion a’r bagiau gwastraff ar y palmant a dywedodd fod problemau sbwriel weithiau’n codi oherwydd bod bagiau/cynwysyddion wedi torri ac agor.  Roedd yn falch o glywed fod mesurau gorfodaeth gwastraff ochr y ffordd yn eu hôl.  Fe wnaeth y Prif Swyddog gydnabod y pwyntiau a wnaed a dywedodd y gellid cynnal adolygiad yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd  ...  view the full Cofnodion text for item 21.

22.

Adolygu’r Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf pdf icon PDF 121 KB

Adolygu’r polisi cyn i’r Cabinet ei ystyried

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) adroddiad i ofyn am sylwadau ar yr adolygiad o Bolisi’r Cyngor ar Gynnal a Chadw yn y Gaeaf.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn amlinellu’r Polisi cyfredol (fel yr atodwyd), y gofynion deddfwriaethol wrth ddarparu gwasanaeth o’r fath, a’r camau a gymerir gan y portffolio Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth i gefnogi gweithrediadau gwasanaeth cynnal a chadw yn y gaeaf.  Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn amlinellu ymateb y Sir i achosion eraill o dywydd gwael megis llifogydd a gwyntoedd cryfion.

 

                        Cyflwynodd Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, esboniodd fod angen ychwanegu £150,000 at y gronfa wrth gefn er mwyn atal y Gwasanaeth rhag cyrraedd sefyllfa lle bydd wedi gorwario ar y gyllideb a gynlluniwyd a’r balans wrth gefn.

 

Mynegodd y Cynghorwyr Owen Thomas, Dennis Hutchinson a George Hardcastle bryderon ynghylch problem cwteri wedi’u blocio.  Roedd y Prif Swyddog yn cydnabod y pwyntiau a wnaed ac esboniodd fod adolygiad yn cael ei gynnal ynghylch amledd a phrydlondeb gwaith cynnal a chadw a wneir ar gwteri a byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei chynnwys mewn adroddiad i’r Pwyllgor yn y cyfarfod ar 9 Tachwedd.  Esboniodd swyddogion y bydd Safonau’r Gwasanaethau Stryd yn cael eu hadolygu’r flwyddyn nesaf a bod pa mor aml y caiff cwteri eu glanhau’n rhan o’r safonau hynny.  Wrth ymateb i’r pryderon eraill a fynegwyd gan Aelodau, esboniodd Swyddogion fod y gwasanaeth glanhau cwteri’n gweithredu drwy gydol y flwyddyn a bod nifer o’r prosiectau’n rhai parhaus a bod adnoddau ychwanegol ar gael er mwyn gwella’r gwasanaeth o ganlyniad i effaith storm a gafwyd mis Ionawr diwethaf.

           

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Joe Johnson ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Cymeradwyo canlyniad yr adolygiad o Bolisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf 2021-2023 (Atodiad 1) a gweithdrefnau ar gyfer darparu gweithrediadau gwasanaeth cynnal a chadw yn y gaeaf, ynghyd ag ymateb y Sir i achosion eraill o dywydd gwael.

 

(b)       Cefnogi’r angen i gynnal y gyllideb ar y lefelau presennol, ychwanegu £150,000 at y gronfa wrth gefn a dwyn ymlaen bwysau refeniw SATC ar gyfer 2023/24 ac wedi hynny.

23.

Cynllunio a Gorfodi pdf icon PDF 116 KB

Derbyn adroddiad yn unol â chais y Pwyllgor ar 12 Mai 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu (Gwasanaethau Cynllunio) adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y gwasanaeth gorfodaeth cynllunio gan ganolbwyntio’n benodol ar amseroedd ymateb a safonau cyfathrebu, ymweliadau safle, defnyddio ymgynghoriaeth gynllunio, ôl-groniad, llwyddiannau a chamau lliniaru.  Adroddodd ar yr ystyriaethau allweddol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cafodd Andrew Fraser (Prif Weithredwr) a Jamie Edwards (Rheolwr Gweithrediadau) o gwmni Agile Applications, a Lynne Fensome, Arweinydd Prosiect - Gwasanaethau Cynllunio eu cyflwyno gan y Rheolwr Datblygu.   Esboniodd y byddai Andrew a Jamie yn cyflwyno a dangos y system meddalwedd newydd a gafodd ei chaffael gan y Gwasanaeth Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi i ddarparu isadeiledd gwell er mwyn cynnig amryw o wasanaethau o fewn y portffolio.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryderon ynghylch y diffyg ymateb gan y swyddogion Cynllunio i’r ymholiadau gan Aelodau ynghylch materion cynllunio a gorfodi a soniodd am y terfyn amser o 10 diwrnod ar gyfer ymateb a theimlai fod hynny’n rhy hir.   Roedd yn cydnabod fod peth oedi oherwydd yr amseroedd aros i gael ateb gan y Gwasanaethau Cyfreithiol a oedd y tu hwnt i reolaeth y Gwasanaethau Cynllunio.  Esboniodd y Rheolwr Datblygu fod ymateb o fewn 10 diwrnod yn derfyn amser corfforaethol ar draws holl wasanaethau’r Cyngor.   Dywedodd y byddai’r feddalwedd newydd y gwnaeth y Gwasanaeth Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi ei chaffael yn sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael yn uniongyrchol i Aelodau a’r cyhoedd ynghylch ceisiadau cynllunio ac felly na fyddai angen cymaint o atebion uniongyrchol gan swyddogion i’r rhan fwyaf o ymholiadau a cheisiadau am wybodaeth ychwanegol.

 

Wrth ymateb i’r sylwadau a’r pryderon a fynegwyd gan Aelodau, cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu at yr ystadegau perfformiad a roddwyd yn yr adroddiad ynghylch nifer yr achosion gorfodaeth a gafodd eu hymchwilio, yn cynnwys y rhai lle cymerwyd camau gorfodi cadarnhaol yn ystod pob blwyddyn ac yn chwarter 1 2021/22.  Dywedodd hefyd fod yr adroddiad yn ymdrin â mater ôl-groniad a chytunwyd eisoes y bydd achos busnes yn cael ei baratoi i gyflogi Swyddog Gorfodaeth Gynllunio parhaol llawn amser ychwanegol. Esboniodd y Rheolwr Datblygu na allai hi wneud sylw ar yr achosion penodol a godwyd gan yr Aelodau ond y byddai’n ymateb yn uniongyrchol ar ôl y cyfarfod.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at effaith Covid-19 ar y Gwasanaeth Cynllunio o ran nifer cynyddol o ymholiadau a cheisiadau’n ymwneud â gwella cartrefi.  Dywedodd hefyd fod yna well ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ynghylch datblygiadau adeiladu mewn ardaloedd lleol gan fod pobl wedi cael eu cyfyngu i’w hardal leol a’u bod yn gweithio o’u cartrefi.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Bithell at yr ystadegau a roddwyd yn yr adroddiad ac atgyfnerthodd fod cyfanswm nifer yr achosion a ymchwiliwyd a nifer yr achosion a ymchwiliwyd o fewn 84 diwrnod neu lai, wedi cynyddu’n sylweddol ers 2018/19.  Soniodd am heriau’r pandemig a chyfeiriodd at y mesurau a gymerwyd yn y gwasanaeth Cynllunio i gynnal parhad yn narpariaeth gwasanaethau a pherfformiad.  Croesawodd y system meddalwedd newydd (Agile Applications) a oedd ei hangen yn fawr a byddai’n gwella mynediad at wybodaeth cynllunio  ...  view the full Cofnodion text for item 23.

24.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.