Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

16.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a Hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad..

 

17.

Cofnodion pdf icon PDF 74 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Mehefin 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2023.

 

Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo fel cofnod cywir, fel y cynigiwyd gan y Cynghorydd Ian Hodge a’r Cynghorydd Dan Rose.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd fel cofnodion cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

18.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi’r Rhaglen Waith a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. 

 

Hysbysodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod yr eitemau ar Gynllun Newid a Throsi Cerbydau Allyriadau Isel Iawn Fflyd CSFf

i danwydd trydan neu amgen yr un pwnc a chytunwyd y byddai adroddiad ar hyn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor i gael ei gynnal ar 10 Hydref 2023. 

 

Gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig unrhyw eitem arall yr oeddent yn dymuno ei chynnwys ar y Rhaglen. 

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a dywedodd fod y camau a oedd yn weddill wedi eu cwblhau. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mike Peers yngl?n â sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen Parcio mewn Ysgolion eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) unwaith y byddai aelodaeth y Gr?p yn hysbys

bydd cyfarfodydd yn cael eu trefnu cyn gynted ag y bo modd. 

 

PENDERFYNWYD:

(a)     Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn amodol ar y newidiadau uchod;

(b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)     Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

19.

Cynllun Gwasanaeth Bwyd pdf icon PDF 95 KB

Cyflwyno’r Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2023/24 i’r Aelodau i’w ystyried a’i arnodi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad i gyflwyno'r Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2023/24 ar gyfer ystyriaeth a chymeradwyaeth.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a thalodd deyrnged i waith y Tîm Diogelwch Bwyd a Safonau Bwyd yn ystod y pandemig Covid.    Dywedodd y Prif Swyddog fod y Cynllun Gwasanaeth Bwyd yn darparu trosolwg o’r Gwasanaeth Bwyd yn unol â’r Cytundeb Fframwaith ar Reolau Bwyd a Phorthiant Swyddogol gan Awdurdodau Lleol Ebrill 2010. Roedd y cynllun yn nodi nodau ac amcanion y Gwasanaeth am y flwyddyn nesaf a sut y byddent yn cael eu cyflawni.

 

            Cyflwynodd y Rheolwr Busnes a Diogelu Cymunedol yr adroddiad a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau.  Dywedodd y Rheolwr Tîm - Diogelwch Bwyd a Safonau Bwyd am y prif gyflawniadau ar gyfer 2022/23 a’r targedau ar gyfer 2023/24 fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at dudalen 20 o’r adroddiad, targedau ar gyfer 2023/24 a thudalen 59 a nifer o archwiliadau a drefnwyd ar gyfer Safonau Bwyd a Hylendid Bwyd yn 2023/24 a dywedodd y byddai’n ddefnyddiol os byddai’r nifer o ymchwiliadau a gynhaliwyd yn 2023/24 yn cael ei amlygu a darparu manylion.    Hefyd, cyfeiriodd at y prif gyflawniadau ar gyfer 2022/23 ar dudalen 20 a’r pwynt bwled ‘Roedd nifer sylweddol o arolygon Bwyd wedi eu cyflawni yn ystod blwyddyn oedd wedi gweld adnoddau ar gyfer arolygon Bwyd Fferm wedi’i effeithio gan y firws Ffliw Adar’ a dywedodd nad oedd yn defnyddio’r gair “Pob un” fel mewn categorïau eraill.  Gofynnodd a oedd y targedau ar gyfer 2023/24 yn cyfrannu at yr ôl-groniad o waith oedd yn weddill.   

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at dudalen 26 o’r adroddiad, adran 1.2 yn cysylltu i Amcanion a Chynlluniau Corfforaethol a gofynnwyd sut oedd y Cynllun Gwasanaeth Bwyd yn ymwneud â’r maes blaenoriaeth ‘Tai Fforddiadwy a Hygyrch’.

 

Ymatebodd y Rheolwr Diogelu Busnes a’r Gymuned i’r sylwadau a’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Peers ac eglurodd y cysylltiadau i Gynllun y Cyngor 2023-28.  

 

Mewn ymateb i’r cwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Peers o amgylch llwyth gwaith y Rheolwr Tîm - Diogelwch Bwyd a Safonau Bwyd, cyfeiriodd at y data a ddarparwyd ar dudalen 62, atodiad 3 a’r nifer o arolygon bwyd a drefnwyd a chyflawnwyd.  Hefyd, rhoddodd eglurhad am adnoddau a dyrannu staff fel y manylwyd yn Adran 4 o’r Cynllun.   Eglurodd y Rheolwr Tîm fod y gwaith oedd yn hwyr yn risg isel yn bennaf a byddai’n cael ei flaenoriaethu yn dilyn asesiad risg ac roedd gwybodaeth leol wedi’i manylu yn Atodiad 2 o’r Cynllun.    Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Cynghorydd Peers, dywedodd sut y byddai categorïau risg yn cael eu blaenoriaethu ac yn derbyn sylw.    Roedd y Rheolwr Diogelu Busnes a’r Gymuned a’r Rheolwr Tîm wedi rhoi sicrwydd ac eglurhad yngl?n â gallu a phrofiad y Gwasanaeth i ddelio gydag achosion brys neu argyfwng.   

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hilary McGuill, dywedodd y Rheolwr Diogelu Busnes a’r Gymuned os byddai perchennog newydd yn cymryd drosodd busnes bwyd, yna eu  ...  view the full Cofnodion text for item 19.

20.

Adolygu Rhwystr Mynediad – Llwybr Arfordir Cymru pdf icon PDF 96 KB

Hysbysu aelodau am adolygiad diweddar i rwystrau mynediad ar hyd Llwybr Arfordir Cymru (Rhan Caer i Lannau Dyfrdwy) a cheisio eu cymeradwyaeth i weithredu’r argymhellion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad i hysbysu'r adolygiad diweddar i rwystrau mynediad ar draws Llwybr Arfordir Cymru (Adran Caer i Lannau Dyfrdwy) a cheisio cymeradwyaeth i weithredu’r argymhellion. 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau ac argymhellion arfaethedig, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  Eglurodd fod y Cyngor wedi penodi ymgynghorydd i gynnal adolygiad o’r mesurau rheoli mynediad presennol ar waith ar adran o Lwybr Arfordir Cymru (LlAC) rhwng Caer a Queensferry.  Roedd y rhwystrau rheoli mynediad ar waith i ddiogelu defnyddwyr LlAC yn erbyn y perygl a gyflwynir gan fynediad cerbyd anghyfreithlon i’r llwybr, fodd bynnag, mae’r rhwystrau presennol yn gallu achosi materion mynediad i ddefnyddwyr rhai sgwteri symudedd a beiciau anghonfensiynol.  Roedd yr astudiaeth yn adolygu’r cyd-destun cefndir, deddfwriaethau, dimensiynau rhwystr a chyfyngiadau defnyddwyr er mwyn cyflwyno argymhellion ar gyfer pob un o’r 14 pwynt mynediad o Gaer i Lannau Dyfrdwy.   Yr argymhellion i wella mynediad yn cael ei gydbwyso yn erbyn unrhyw effaith addasiadau o’r fath ar hygyrchedd cerbydau anghyfreithlon.

 

Ymatebodd swyddogion i’r sylwadau a’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Richard Lloyd yngl?n â rhwystrau mynediad, mynediad i’r anabl, sgwteri symudedd, sgwteri trydan, allweddi radar a defnydd anghyfreithlon a gwrth-gymdeithasol.   

 

Roedd y Cynghorydd Glyn Banks hefyd yn codi pryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol a brawychus gan rai defnyddwyr/grwpiau yn ardal Talacre oedd yn difetha mwynhad llwybr yr arfordir i eraill.  

 

Roedd y Cynghorydd Mike Peers yn argymell fod y Cyngor yn ymgysylltu gyda’r grwpiau defnyddwyr y cyfeirir atynt yn yr Adolygiad.    Hefyd, gofynnodd a oedd yna gysylltiad gydag awdurdodau lleol eraill i ddysgu sut oedden nhw yn mynd i’r afael â materion problemus.   Eglurodd yr Arweinydd Tîm - Safleoedd bod yna gysylltiadau agos gydag Awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru fel rhan o Lwybr yr Arfordir Gogledd Cymru.  Dywedodd fod gan Gyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldeb cyffredinol am Lwybr yr Arfordir ac roedd yn gweithio i wella’r llwybr troed i bobl gyda materion symudedd.     Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi argymhellion yn adroddiad yr Adolygiad i wella hygyrchedd.   

 

Roedd y Cynghorydd Dan Rose yn mynegi pryderon am ddiben a gweithrediad allweddi radar oedd yn dweud a allai fod yn rhwystr i rai defnyddwyr.   Roedd yn teimlo fod y defnydd o fframiau A a’r syniad o bobl gydag anableddau yn gorfod agor a chau giât bob tro yn gallu bod yn broblemus.  Dywedodd fod yna risg o bobl yn gadael giatiau yn agored gydag allweddi radar ac roedd yn teimlo ei fod yn bwysig cynnal peilot i asesu goblygiadau wrth symud ymlaen.   Awgrymodd mai datrysiad dros dro ar gyfer problemau oedd yn codi yn annisgwyl oedd bod giât yn cael ei chloi dros dro (er enghraifft dros nos).  Gofynnodd y Cynghorydd Rose a ellir darparu data ar y nifer o lwybrau nad oedd yn caniatáu mynediad i’r anabl.  

 

Ymatebodd yr Arweinydd Tîm - Safleoedd i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Rose ar y defnydd o allweddi radar a dywedodd y byddai’n darparu gwybodaeth ar y nifer o  ...  view the full Cofnodion text for item 20.

21.

Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn pdf icon PDF 145 KB

Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) yr adroddiad i adolygu'r lefelau cynnydd o ran cyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad a nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.  Dywedodd fod Cynllun y Cyngor 2022/23 wedi'i fabwysiadu gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2022. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno crynodeb o berfformiad cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022/23 ar ddiwedd y flwyddyn (Ch4) sefyllfa sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi.

 

Roedd yr adroddiad sefyllfa derfynol ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022/23 yn dangos bod 78% o weithgareddau’n gwneud cynnydd da. Roedd 61% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori eu targedau, roedd 11% yn cael eu monitro’n agos ac nid oedd 25% yn cyrraedd y targed ar hyn o bryd.   Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar eithriadau ac yn canolbwyntio ar y meysydd perfformiad nad oedd yn cyflawni eu targedau ar hyn o bryd.  

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) am y gweithgareddau oedd yn dangos statws (COG) coch ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targed perthnasol i Wasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth fel y manylwyd yn adran 10.5 o’r adroddiad, Blaenoriaeth - Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd, is-flaenoriaeth - Economi Gylchol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) am y gweithgareddau oedd yn dangos statws (COG) ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targed perthnasol i Gynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi fel y manylwyd yn adran 1.05 o’r adroddiad, Blaenoriaeth - Economi, is-flaenoriaeth - Busnes.    

 

Roedd y Prif Swyddog hefyd yn adrodd ar y mesurau dangosyddion perfformiad oedd yn dangos statws (COG) coch ar gyfer perfformiad yn erbyn y targed a osodwyd ar gyfer 2022/23, yn berthnasol ar gyfer Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi fel y manylwyd yn adran 1.08 o’r adroddiad.   Cyfeiriodd at y Flaenoriaeth - Cymdeithas Werdd a’r Amgylchedd, is-flaenoriaeth - Carbon Niwtral/Ynni Adnewyddadwy a’r Flaenoriaeth - Economi, is-flaenoriaeth - Lleihau Diweithdra. 

 

Roedd y Cynghorydd Mike Peers yn cyfeirio at y targed ar gyfer ailgylchu ac yn gofyn a oedd yna gosb os nad oedd targedau yn cael eu cyflawni.    Hefyd, cyfeiriodd at yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff ac Ailgylchu Iard Safonol a ddefnyddir ar gyfer storio lorïau graeanu a gofynnwyd a oedd gan y Cyngor drwydded weithredu i storio’r cerbydau yn y safle. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peers gwestiynau ar y canlynol:-

  • Tudalen 155: is-flaenoriaeth - Busnes - Cefnogi busnesau bach a/neu lleol i ymgysylltu â chyfleoedd caffael y sector cyhoeddus.  Dywedodd y Cynghorydd Peers nad oedd unrhyw eglurhad o ran pam nad oedd cyfleoedd i ddarparu digwyddiadau cadwyn gyflenwi yn cyflwyno eu hunain yn ystod 2022/23.
  • tudalen 172:  Cyflawni Cynllun Gwella Hawliau Tramwy gyda chanolbwynt ar sicrhau gwell mynediad i bawb a hyrwyddo Cerdded er Budd Iechyd - 100% wedi’i gwblhau.  Gofynnodd y Cynghorydd Peers a oedd holl lwybrau a chynnal a chadw wedi eu cynnwys ac nid oedd unrhyw gyfyngiadau.
  • tudalen 176: datblygu rhwydwaith gwefru ceir trydan y Sir.  Gofynnodd y Cynghorydd Peers beth oedd y cynllun ar gyfer Sir y Fflint yn y dyfodol. 

 

Ymatebodd  ...  view the full Cofnodion text for item 21.

22.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.

 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 11.32am)