Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote Meeting
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 8 Rhagfyr 2020 a 12 Ionawr 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (i) Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2020.
Cynigiwyd y cofnodion gan y Cynghorydd Joe Johnson ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Owen Thomas.
(ii) Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2021.
Cynigiwyd y cofnodion gan y Cynghorydd Paul Shotton ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
Bod y ddwy set o gofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 83 KB I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd y Flaenraglen Waith bresennol. Adroddodd ar yr eitemau sydd i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w gynnal ar 9 Mawrth. Dywedodd y byddai diweddariadau ar y Cynllun Trafnidiaeth Integredig a Newid Hinsawdd yn cael eu hychwanegu at y Flaenraglen Waith fel y bo'n briodol a bod ymweliad rhithwir â Pharc Adfer hefyd i'w drefnu. Gwahoddodd yr Aelodau i gyflwyno unrhyw eitemau pellach yr oeddent am eu cynnwys ar y Rhaglen. Awgrymodd y Cynghorydd Chris Dolphin y dylid trefnu eitem ar Lwybrau Cyhoeddus/Hawliau Tramwy i'w hystyried yn y dyfodol a chytunodd y Pwyllgor ar hyn.
Gan gyfeirio at yr eitem ar wasanaethau trên y gororau gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson a oedd unrhyw gynnydd o ran trydaneiddio lein Wrecsam i Bidston. Darparodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) ddiweddariad byr a dywedodd fod nifer o opsiynau’n cael eu hystyried gan gynnwys trenau batri.
Awgrymodd y Prif Swyddog y dylid cyflwyno adroddiad ar Bolisi Cynnal a Chadw’r Gaeaf i gyfarfod o’r Pwyllgor ym mis Medi.
Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson i ddiweddariad am sbwriel a thipio anghyfreithlon gael ei hychwanegu at y Flaenraglen Waith.
Adroddodd yr Hwylusydd ar gynnydd yn y camau gweithredu sy’n deillio o gyfarfodydd blaenorol. Cwblhawyd rhai camau gweithredu ac mae’r cynnydd yn mynd rhagddo ar y gweddill.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Owen Thomas at waith ar Glefyd Coed Ynn a mynegodd bryderon ynghylch cau’r A541. Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai’n trefnu i ddiweddariad ar raglen Clefyd Coed Ynn gael ei ddarparu i’r Cynghorydd Thomas yn dilyn y cyfarfod.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Evans ar dreial y rhaglen tyllau ar y ffyrdd, eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) y byddai’n darparu adroddiad ar ganlyniadau’r treial i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Carolyn Thomas at ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru - Cymru Ddi-sbwriel a Di-dipio a oedd ar agor tan fis Ebrill.
Gofynnodd y Cynghorydd George Hardcastle a allai’r Awdurdod roi cymorth i gynghorau tref/cymuned lleol a oedd wedi dioddef llifogydd a gofynnodd i eitem ar hyn gael ei threfnu ar y Flaenraglen Waith. Gofynnodd a ellid darparu dosbarthiad untro o dywod a bagiau tywod i’w defnyddio gan y tîm ymateb yng Nghyngor Cymuned Penarlâg. Mewn ymateb, rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) esboniad ynghylch pam y daeth y polisi bagiau tywod i rym, y costau ynghlwm a hefyd amlinellodd y problemau storio posibl y gallai cymunedau eu hwynebu drwy storio’r bagiau a llawer iawn o dywod. Rhoddodd sicrwydd i Gynghorwyr y byddai cymorth yn cael ei ddarparu pe bai llifogydd.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Paul Shotton ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Joe Johnson
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Flaenraglen Waith;
(b) Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Flaenraglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran cwblhau’r camau gweithredu sy’n weddill. |
|
Cynllun y Cyngor 2020/21 PDF 94 KB Ystyried Cynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2020/21 gan ganolbwyntio’n bennaf ar bortffolio(s) priodol y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar y Cynllun Cyngor arfaethedig ar gyfer 2020/21 gan ganolbwyntio’n benodol ar bortffolios y Pwyllgor. Gwahoddodd y Cynghorydd Perfformiad Strategol i gyflwyno’r Cynllun.
Darparodd y Cynghorydd Perfformiad Strategol wybodaeth gefndir a nododd fod gan y Cynllun strwythur newydd o chwe thema a blaenoriaethau ategol, fel y nodir yn yr adroddiad, a oedd yn gosod uchelgais gyda realaeth bwyllog. Esboniodd fod y gwaith ar y blaenoriaethau wedi datblygu’n dda a bod y Cynllun drafft (Rhan 1) wedi’i atodi i’r adroddiad. Dywedodd fod y Cabinet wedi cytuno i’r cynnwys a dylid ymgynghori â’r holl Bwyllgorau Craffu yn ystod y cylch nesaf. Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, byddai’r Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn yr ail gam cyn i’r Cyngor Sir ei fabwysiadu ym mis Ebrill/Mai.
Adroddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) ar y prif feysydd lle’r oedd Gwasanaethau Stryd a Chludiant yn cefnogi Cynllun y Cyngor. Cyfeiriodd at y Gymdeithas Werdd a’r Amgylchedd, twf Teithio Llesol a Chynaliadwy, datblygu pwyntiau gwefru cerbydau trydan y Sir, cyflawni targedau diogelwch, datblygu gorsafoedd trosglwyddo gwastraff fel arfer safonol, cyfleuster compostio yn Greenfield, cefnogi’r Café Ailddefnyddio a Thrwsio sy’n cael ei adeiladu a chefnogi angen yr Awdurdod i ddiddymu rhywfaint o’i ddefnydd plastig. Adroddodd hefyd ar waith i ddatblygu seilwaith trafnidiaeth i gynnal twf economaidd.
Adroddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Economi a’r Amgylchedd) ar Adfywio Canol Trefi, Cymorth Busnes, targedau’r Cynllun Datblygu Lleol, lleihau diweithdra, a gwario arian er budd Sir y Fflint.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y flaenoriaeth Tlodi Plant a dywedodd fod angen codi ymwybyddiaeth o hawl rhieni i hawlio prydau ysgol am ddim. Cyfeiriodd hefyd at Anghenion Tai a gofynnodd a oedd preswylwyr mewn ôl-ddyledion rhent yn cael eu hatal rhag newid i eiddo llai i ddiwallu eu hanghenion. Cytunodd y Cynghorydd Perfformiad Strategol i fynd ar drywydd y materion a godwyd ac ymateb i’r Cynghorydd Dolphin yn dilyn y cyfarfod.
Eglurodd y Cynghorydd Perfformiad Strategol y broses ar gyfer adolygu cynnydd y Cynllun ar ôl ei fabwysiadu a dywedodd y byddai adroddiad perfformiad ar y Cynllun cyfan yn cael ei gyflwyno i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gan dynnu sylw at y meysydd perthnasol i’w hystyried.
Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Chris Dolphin ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Owen Thomas.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi themâu’r Cynllun Cyngor 2021/22 a ddatblygwyd ymhellach cyn rhannu gyda’r Cabinet ym mis Mawrth 2021. |
|
Trydaneiddio’r fflyd PDF 126 KB Ystyried y cynigion ar gyfer trydaneiddio’r fflyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad i ystyried y cynigion ar gyfer trydaneiddio’r fflyd. Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn nodi uchelgais y gwasanaeth ac yn nodi’r prosiectau amrywiol sy’n cael eu datblygu i gyflwyno cerbydau allyriadau isel i’r fflyd a datblygu seilwaith i gefnogi’r defnydd hwnnw.
Gan gyfeirio at ddatblygu mannau gwefru cerbydau trydan (EV) ar draws y Sir, dywedodd y Prif Swyddog fod y Cyngor yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i archwilio manteision mabwysiadu dull rhanbarthol a chenedlaethol i sicrhau cysondeb i ddefnyddwyr y rhwydwaith gwefru EV yng Nghymru. Dywedodd fod 17 safle cychwynnol ar gyfer gosod mannau gwefru cyflym y gallai’r cyhoedd eu defnyddio wedi eu nodi ar draws y Sir.
Gofynnodd y Cynghorwyr Owen Thomas a Dennis Hutchinson gwestiynau ynghylch sut y byddai cerbydau trydan yn cael eu gwefru, y trefniadau ar gyfer gwefru cerbydau trydan os cânt eu cadw yng nghartrefi cyflogeion, a chyfyngiadau parcio oddi ar y stryd. Esboniodd y Prif Swyddog mai’r bwriad oedd y byddai mannau gwefru ar gael mewn depos a dywedodd pan fyddai cyflogeion ar ddyletswydd y byddai mannau gwefru y tu allan i oriau yn cael eu darparu o amgylch y Sir. Dywedodd y byddai trafodaethau’n cael eu cynnal gyda chynrychiolwyr Undebau Llafur ynghylch sut i hwyluso mannau gwefru yng nghartrefi cyflogeion. Estynnodd y Prif Swyddog wahoddiad i’r Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd i gyflwyno’r adroddiad.
Adroddodd Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd fod y galw domestig a masnachol am gerbydau trydan yn cynyddu a soniodd am y datblygiadau sylweddol mewn technoleg. Roedd y cyfleoedd ar gyfer gwasanaethau rheng flaen yn cael eu harchwilio a nododd bysiau, cerbydau casglu sbwriel, ac ysgubwyr ffyrdd fel esiamplau, ac roedd y seilwaith i gefnogi hyn yn cael ei ymchwilio. Dywedodd fod y Cyngor hefyd wedi cysylltu â’i gontractwyr Fflyd i adolygu defnydd a theithiau ei fflyd gerbydau ei hun er mwyn nodi’r lleoliadau gorau posibl ar gyfer ‘canolfannau gwefru’ i gefnogi darparu gwasanaethau. Roedd y contractwr yn adolygu’r data olrhain i nodi cerbydau a theithiau sy’n gweddu orau i gerbydau trydan a’r seilwaith gwefru sydd ei angen i gefnogi symudiadau cerbydau sydd mewn defnydd dyddiol gan wasanaethau unigol. Soniodd hefyd am yr angen i ystyried gallu’r grid lleol i gefnogi twf o’r fath (yn benodol ar adegau penodol o’r dydd).
Dywedodd Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd fod y Cyngor yn cynnal trafodaethau gyda’i gyflenwyr Fflyd presennol ynghylch terfyn y contract presennol yn 2023. Roedd dyheadau’r Cyngor a’r cyflenwr yn cael eu trafod i sicrhau bod pob agwedd ar dechnolegau newydd yn cael ei hystyried a’i chynnwys mewn unrhyw estyniad posibl i’r contract i fodloni’r newid mewn caffael y byddai symud i fflyd EV yn ei olygu.
Adroddodd Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd fod cyllid Llywodraeth Cymru wedi’i sicrhau yn dilyn cais llwyddiannus i gyflwyno nifer cyfyngedig o fannau gwefru EV ar safle Standard Yard, Bwcle. Esboniodd y byddai ehangu’r safle yn y dyfodol yn cynnig cyfle i’r Cyngor ddatblygu ‘Canolfan Trafnidiaeth Gynaliadwy’ ar y safle a fyddai’n cefnogi’r symudiad i ... view the full Cofnodion text for item 41. |
|
Gorfodaeth Cynllunio PDF 125 KB Derbyn adroddiad ar gynnydd Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad. Rhoddodd wybodaeth gefndirol ac esboniodd fod yr adroddiad yn nodi strwythur y tîm Gorfodi Cynllunio a lle mae’n rhan o’r gwasanaeth Rheoli Datblygu a’r portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a‘r Economi. Roedd y Polisi Gorfodi Cynllunio mabwysiedig ynghlwm i’r adroddiad ac roedd yn nodi sut y cafodd ei weithredu a pherfformiad y Cyngor yn erbyn dangosyddion Gorfodi Cynllunio Llywodraeth Cymru.
Soniodd y Prif Swyddog am flaenoriaethau diweddar ar gyfer darparu gwasanaethau o fewn portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi mewn ymateb i bandemig Covid-19. Cyfeiriodd hefyd at yr angen i symud y Cynllun Datblygu Lleol ymlaen i fodloni’r terfynau amser ar gyfer Archwilio. Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd Rheoli Datblygu, a oedd yn cynnwys y gwasanaeth Gorfodi Cynllunio, wedi’i nodi fel blaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor. Amlinellodd yr adroddiad oblygiadau pandemig Covid-19 ar ddarparu gwasanaethau, y camau lliniaru a gymerwyd, a chamau gweithredu pellach a gynigir.
Soniodd y Cynghorydd Paul Shotton am yr angen am gyfathrebu gwell mewn ymateb i’r ymholiadau a godwyd gan yr Aelodau. Wrth gydnabod yr angen am rywfaint o welliant dywedodd y Prif Swyddog fod camau wedi eu cymryd i fynd i’r afael â hyn a'r angen i Aelodau’r Cabinet ac Arweinwyr Grwpiau ddwysáu materion ar ran Aelodau pe na bai ymateb wedi’i dderbyn o fewn yr amserlenni a oedd mewn lle. Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu at y mesurau lliniaru a’r gwelliannau i wasanaeth yn y dyfodol yn ystod 2021 fel y nodir yn yr adroddiad.
Gofynnodd y Cynghorydd Chris Dolphin a oedd Gorfodi Cynllunio wedi’i staffio’n llawn. Mynegodd bryder hefyd ynghylch nifer yr achosion a gofnodwyd gyda’r Gwasanaethau Cyfreithiol oedd yn aros i gael eu herlyn a gofynnodd am esboniad o’r ôl-groniad o waith. Esboniodd y Rheolwr Datblygu fod gan y Gwasanaeth Gorfodi Cynllunio 14 o swyddogion parhaol wedi eu rhannu’n ddau dîm, un yn rheoli’r Gogledd a’r llall yn rheoli De’r Sir ac adroddodd ar drefniadau llwyth gwaith ar gyfer y gwasanaeth. Gan gyfeirio at yr achosion sy’n aros i gael eu herlyn gyda’r Gwasanaethau Cyfreithiol, eglurodd y Prif Swyddog fod y Gwasanaethau Cyfreithiol yn gweithio ar y cyd gyda Gwasanaethau eraill a ddarperir naill ai o fewn y Cyngor, awdurdodau lleol eraill, neu gyrff statudol allanol a oedd yn effeithio ar gynnydd. Soniodd hefyd am y galw cynyddol ar y Gwasanaethau Cyfreithiol oherwydd prosesau gorfodi gweithredol.
Tynnodd y Cynghorydd Derek Butler sylw at adran 1.21 o’r adroddiad a soniodd am yr amser a dreuliwyd yn mynd i’r afael ag ymholiadau a chwynion diangen pan nad oedd toriad wedi’i gyflawni.
Soniodd y Cynghorydd Chris Bithell am y pwysau ychwanegol ar wasanaethau o ganlyniad i’r pandemig a phwysleisiodd fod y gwasanaethau a ddarperir, yn wahanol i rai awdurdodau lleol eraill, wedi parhau er gwaethaf effaith lleihad mewn staffio oherwydd salwch neu brofedigaeth. Cyfeiriodd y Cynghorydd Bithell at system swyddfa gefn newydd i’w darparu yn y dyfodol agos a fyddai’n galluogi Aelodau a thrigolion i gael gwell gwybodaeth am faterion gorfodi a’r camau a gymerwyd ... view the full Cofnodion text for item 42. |
|
AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol. |