Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst gysylltiad personol gan fod ei wraig yn gweithio mewn ysgol. |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 23rd Mai, 28th Mai and 18th Gorffennaf 2024.
I gadarnhau fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar y cyd â'r Pwyllgor Trosolwg a Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2024.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 23 Mai; 28 Mai; a 18 Gorffennaf 2024 i’w cymeradwyo.
Cyflwynwyd cofnodion y cyd-gyfarfod gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2024 i’w cymeradwyo hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Fran Lister ei bod wedi bod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf. Dywedodd yr Hwylusydd y byddai’r cofnodion yn cael eu diwygio i adlewyrchu hyn.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y diwygiad uchod, y byddai cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 23 Mai, 28 Mai, 18 Gorffennaf, a’r cyd-gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mehefin, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Waith a’r Adroddiad Olrhain Camau Gweithredui’w hystyried, a chroesawodd unrhyw gwestiynau gan yr Aelodau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at y cam gweithredu a oedd yn ymwneud â’r cofnod o gyfarfod y Tîm Ymateb a Rheoli Argyfwng (EMRT), sef y sylwadau a wnaed gan Archwilio Cymru yngl?n â’r angen i ddysgu gwersi ac at ymateb y Cyngor bod dogfen ar y gwersi a ddysgwyd wedi cael ei chreu. Gofynnodd a ddefnyddiwyd y templed hwn ar gyfer y gwersi a ddysgwyd yn dilyn y rhybudd am eira. Cytunodd yr Hwylusydd i godi hyn gyda’r swyddogion perthnasol yn dilyn y cyfarfod. Cefnogwyd argymhellion yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu oedd i’w cwblhau. |
|
Arolwg Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint gan Arolygiaeth Prawf EF PDF 109 KB Cyflwyno’r adroddiad yn dilyn Arolwg diweddar y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint a Sorted Sir y Fflint, yr adroddiad (eitem rhif 5 ar y rhaglen), gan nodi cefndir ei sefydliad yn 2000, y prif nodau a’r rhwymedigaeth statudol dan Adran 40 Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998. Roedd Arolygiaeth Prawf EF wedi cynnal arolygiad o’r gwasanaeth, ac roedd eu canfyddiadau a’u hargymhellion wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Awgrymwyd y dylid ysgrifennu llythyr at Brif Weithredwr y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn amlinellu pryder y Pwyllgor am yr her sy’n wynebu’r gwasanaeth yn sgil yr oedi o ran ei hysbysu am y Grant Cyfiawnder Ieuenctid. Cynigiwyd ac eiliwyd hyn fel argymhelliad ychwanegol i’r rhai a restrwyd yn yr adroddiad.
Awgrymwyd hefyd y dylid ysgrifennu llythyr at James Warr, Uwch Reolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint a’i dîm i ddiolch iddynt am ganfyddiadau cadarnhaol Arolygiad Arolygiaeth Prawf EF, a amlinellir yn yr adroddiad. Cynigiwyd ac eiliwyd hyn fel argymhelliad ychwanegol i’r rhai a restrwyd yn yr adroddiad.
Cefnogwyd argymhellion yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Y byddai’r Aelodau’n nodi argymhellion Adroddiad Arolygiad Arolygaeth Prawf EF, a’u bod wedi’u sicrhau o ansawdd darpariaeth Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint;
(b) Y byddai’r Aelodau’n cefnogi dull cadarn o geisio’r gefnogaeth a nodir, sydd ar hyn o bryd yn cael ei hystyried yn annigonol gan bartneriaid allanol;
(c) Y byddai llythyr yn cael ei ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn amlinellu pryder y Pwyllgor am yr her sy’n wynebu’r gwasanaeth yn sgil yr oedi o ran eu hysbysu am y Grant Cyfiawnder Ieuenctid; ac
(d) Y byddai llythyr yn cael ei ysgrifennu at Uwch Reolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint a’i dîm i ddiolch iddynt am ganfyddiadau cadarnhaol Arolygiad Arolygiaeth Prawf EF, a amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Cronfeydd Wrth Gefn Ysgolion Y Flwyddyn Sy’n Dod i Ben Ar 31 Mawrth 2023 a Demograffeg PDF 186 KB Rhoi manylion i’r Pwyllgor o falansau ysgolion Sir y Fflint ar ôl cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a gwybodaeth am newidiadau mewn demograffeg.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod lefel cronfeydd wrth gefn ysgolion wedi gostwng yn sylweddol ar draws pob sector dros y flwyddyn ddiwethaf, ac amlinellodd y ffactorau allweddol sy’n gyfrifol am y gostyngiad hwn. Cafwyd gwybodaeth fanwl gan y Rheolwr Cyllid Strategol (Ysgolion) am gronfeydd wrth gefn ysgolion, a oedd yn cynnwys crynodeb ar gyfer pob sector ynghyd â gwybodaeth am ddemograffeg a rheoli risgiau.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Y byddai’r Pwyllgor yn nodi lefel y cronfeydd wrth gefn ar 31 Mawrth 2024 a throsolwg o sefyllfa ariannol gyfredol yr ysgolion, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Model Cyfranogi Fflint yr Ifanc PDF 125 KB Pwrpas yr adroddiad hwn yw cael Aelodau i gefnogi’r dull o ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yn Sir y Fflint. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu - Iechyd, Lles a Diogelu yr adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen), a roddodd drosolwg o Fodel Cyfranogiad Fflint yr Ifanc a gynigir er mwyn i lais plant a phobl ifanc gael ei glywed mewn perthynas â materion sy’n effeithio arnynt ac er mwyn iddynt gael siarad â’r unigolion sy’n gwneud penderfyniadau allweddol yn yr awdurdod lleol.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Y byddai’r Pwyllgor yn deall ac yn cefnogi Model CyfranogiadFflint yr Ifanc i gynnwys plant a phobl ifanc yn Sir y Fflint yn ymaterion sy’n effeithio arnynt, a chynnig ffordd i’r unigolion sy’ngwneud penderfyniadau gael clywed eu barn. |
|
Ystyried yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023-24, gan nodi perfformiad diwedd blwyddyn Cynllun y Cyngor (2023-28) ar gyfer 2023-24. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen), a roddodd drosolwg o berfformiad y Cyngor yn erbyn ei Amcanion, Blaenoriaethau ac Is-flaenoriaethau Lles ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2023/24 Cynllun y Cyngor (2023-28). Tynnwyd sylw’r Aelodau at adrannau penodol yn yr adroddiad.
Cefnogwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Y byddai’r Pwyllgor yn cefnogi Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24, ar y cyd ag Adroddiad Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2023/24, gan nodi’r perfformiad a gyflawnwyd.
|
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 - YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Dogfennau ychwanegol: |
|
Adroddiad Diweddaru’r Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd, Chwarae ac Amgueddfeydd Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ddatblygiadau a chynnydd â wnaed ers i’r adroddiadau gael eu cyflwyno ddiwethaf ym mis Mai. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Gweithredol Strategol yr adroddiad a amlinellodd y cynnydd a wnaed o ran archwilio trefniant grant newydd gydag Aura, ac asesiad rheoli cymhorthdal sy’n cydymffurfio cysylltiedig.
Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece yr argymhellion diwygiedig canlynol, a eiliwyd gan y Cynghorydd Bill Crease:-
· Bod cyfarfod arbennig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn cael ei gynnal cyn gynted ag y bo modd, a chyn y cyfarfod Cabinet nesaf;
· Bod y Pwyllgor angen i gopi o’r contract a gynigiwyd i Aura gael ei gyflwyno yn y cyfarfod hwnnw, neu ei rannu ag Aelodau’r Pwyllgor cyn y cyfarfod, ynghyd â’r holl ddogfennau angenrheidiol eraill; a
· Tra’n aros am y cyfarfod hwn, bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn argymell yn gryf bod cytundeb newydd ar delerau rhesymol yn cael ei lofnodi gydag Aura.
Adroddodd yr Hwylusydd y cynghorwyd y Cynghorydd Preece, cyn y cyfarfod, nad oedd yn briodol darparu copi o’r contract i’r Aelodau. Rhoddodd y Cynghorydd Preece yr ymateb yr oedd wedi’i roi i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod i’r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
(a) Cynnal cyfarfod arbennig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant cyn gynted ag y bo modd, a chyn y cyfarfod Cabinet nesaf;
(b) Bod y Pwyllgor angen i gopi o’r contract a gynigiwyd i Aura gael ei gyflwyno yn y cyfarfod hwnnw, neu ei rannu ag Aelodau’r Pwyllgor cyn y cyfarfod, ynghyd â’r holl ddogfennau angenrheidiol eraill; a
(c) Tra’n aros am y cyfarfod hwn, bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn argymell yn gryf bod cytundeb newydd ar delerau rhesymol yn cael ei lofnodi gydag Aura. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |