Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

18.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

19.

Cofnodion pdf icon PDF 114 KB

I gadarnhau fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar y cyd y Pwyllgorau Trosolwg a Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2022, a chyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Craffu Addysg Ieuenctid a Diwylliant a gynhaliwyd ar 14 a 29 Gorffennaf 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion cyd-gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 30 Mehefin. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at dudalen 14 a gofynnodd a oedd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) wedi siarad â chydweithwyr yn y Gwasanaethau Seicoleg Addysgol yngl?n â phlant ag Anghenion Addysgol Arbennig.  Gan nad oedd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) yn gallu mynychu’r cyfarfod hwn, cytunodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) siarad gyda hi ac adrodd yn ôl i’r Cynghorydd Parkhurst yn dilyn y cyfarfod.

  Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf a 29 Gorffennaf 2022.

 

Cynigodd y Cynghorydd Bill Crease bod y tair set o gofnodion yn gywir ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 30 Mehefin, 14 Gorffennaf a 29 Gorffennaf 2022 a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.

 

20.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol, a ddiwygiwyd yn dilyn y cyfarfod diwethaf gan ymgorffori awgrymiadau a wnaed gan aelodau o’r Pwyllgor.   Wrth gyfeirio at yr Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu, cadarnhaodd yr Hwylusydd bod yr holl gamau gweithredu bellach wedi’u cwblhau. Roedd un eitem yn dal i fod ar y gweillgan yr Ymgynghorydd Iechyd, Lles a Diogelu, a gadarnhaodd ei bod yn mynd ar ôl ymatebion gan bobl ac y byddai’n cylchredeg y rhain unwaith y byddai wedi’u derbyn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bill Crease yngl?n â sut oedd mynediad at y rhyngrwyd i staff mewn ysgolion yn cael ei reoli a’i fonitro, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod gan bob ysgol bolisi defnydd derbyniol yr oedd gofyn i bob aelod o staff ei lofnodi, a bod y rhyngrwyd a’r mur gwarchod yn cael eu monitro yn Neuadd y Sir.  Roedd adroddiad ar ddiogelwch cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn flynyddol ac yn cael ei gynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.  Cytunodd siarad gyda’r Ymgynghorydd Iechyd, Lles a Diogelu a darparu ymateb i’r Cynghorydd Crease yn dilyn y cyfarfod.

 

Cynigodd y Cynghorydd Bill Crease yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Paul Cunningham.                        

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

(b)     Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)     Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud gyda’r camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

 

21.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol , GwE 2021-2022 pdf icon PDF 104 KB

I gael diweddariad ar y cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth rhanbarthol gwella ac effeithiolrwydd ysgolion, GwE a’r effaith ar ysgolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Diolchodd y Cadeirydd i GwE am y gefnogaeth y maent wedi’i darparu i arweinwyr ysgolion yn ystod y Pandemig ac am eu cefnogaeth barhaus i ysgolion Sir y Fflint wrth gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru (CiG). 

 

Esboniodd Mr Martyn Froggett (Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant) bod cyflwyniad wedi cael ei baratoi i ychwanegu at yr adroddiadau sydd ynghlwm wrth y rhaglen.  Cyflwynodd Phil McTague (Arweinydd Craidd Uwchradd) a David Edwards (Arweinydd Craidd Cynradd), a fyddai hefyd yn cynorthwyo gyda’r cyflwyniad a oedd yn canolbwyntio ar waith sy’n cael ei wneud mewn ysgolion ar hyn o bryd, gwybodaeth am bolisïau a chymorth adfer ar ôl y pandemig i ysgolion gan Lywodraeth Cymru (LlC).

 

Rhoddodd yr Arweinydd Craidd Cynradd gyflwyniad a oedd yn trafod y meysydd canlynol:-

·         Tri phrif flaenoriaeth GwE:-

 

ØGweithredu’r Cwricwlwm i Gymru

ØSicrhau prosesau hunanwerthuso cadarn

ØArolygiadau Estyn

 

·         Cynradd - Cwricwlwm i Gymru

 

Ønodi ffactorau unigryw eu hysgol a sut mae’r rhain yn cyfrannu at y pedwar pwrpas

Øadolygu eu gweledigaeth, gwerthoedd ac ymddygiadau i gefnogi’r cwricwlwm

Øbod yn ystyriol o’r ystyriaethau allweddol e.e. elfennau statudol a gorfodol

Øadolygu modelau dylunio’r cwricwlwm

Øystyried rôl cynnydd ac addysgeg yn eu cwricwlwm

Ødechrau dylunio, cynllunio, treialu a gwerthuso pynciau newydd. 

 

·         Cynradd - Hunanwerthuso a sicrhau ansawdd

 

·         Cynradd - Arolygiadau Estyn

 

Parhaodd yr Arweinydd Craidd Uwchradd gyda’r cyflwyniad a oedd yn cwmpasu’r meysydd canlynol:

 

·         Uwchradd - Cefnogaeth i’r Cwricwlwm i Gymru

 

Ø  Mae holl ysgolion Sir y Fflint wedi gwneud defnydd eang o’r rhaglen gefnogaeth ranbarthol

Ø  Mae ymgysylltiad da wedi bod â’r grwpiau cynllunio rhanbarthol / lleol.

Ø  Mae’r ysgolion wedi derbyn y cynnig o fewnbwn penodol ac unigryw gan dîm GwE ar addysgu a dysgu

Ø  Mae cydweithio ar gynnydd trwy glystyrau a thrwy gynghreiriau

Ø  Yn nhymor yr haf, ymgymerwyd ag adroddiadau ‘Chwe Cham’ (yn canolbwyntio ar ofynion y Gweinidog Addysg i symud ymlaen tuag at y CiG) gyda phob ysgol yn dilyn trafodaethau rhwng ysgolion a’u Hymgynghorwyr Gwella Ysgolion.

 

·         Uwchradd - hunanwerthuso a sicrhau ansawdd

 

·         Paratoi ar gyfer arolygiadau mewn ysgolion uwchradd o dan Fframwaith newydd Estyn.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst am gadernid a mesur gwrthrychol Arolygiadau Estyn, dywedodd Mr Martyn Froggett (Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant), yn y gorffennol oherwydd bod Estyn yn canolbwyntio ar ganlyniadau arholiadau roedd gwaith yr oedd y disgyblion wedi’i gwblhau yn yr ystafell ddosbarth wedi dod yn ail.  R?an sylfaen tystiolaeth Estyn oedd y llyfrau yr oedd y disgyblion yn gweithio ohonynt ar y pryd, a’r gwersi yr oeddent yn eu cael a oedd yn cael eu cymedroli.  Esboniodd sut y byddai hyn yn gweithio mewn ysgolion.  Roedd GwE yn cefnogi ysgolion ond dywedodd y byddai’n cymryd rhywfaint o amser i sefydlu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd.

 

 

            Esboniodd Mr Phil McTague (Arweinydd Craidd Uwchradd) mai’r amrywiad o fewn yr ysgol sydd fwyaf arwyddocaol ac esboniodd beth oedd GwE yn canolbwyntio arno.  Rhoddodd wybodaeth am ddadansoddiad o lefel cwestiwn a fyddai’n galluogi strategaethau hyfforddiant i gael eu darparu i greu gwelliannau.  Byddai’r data ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 21.

22.

Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg 2021-22 pdf icon PDF 100 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar berfformiad gwasanaeth 21-22 a Chanlyniadau Dysgwr ar gyfer 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) drosolwg o Hunanwerthusiad Ebrill 2021 i Fawrth 2022.   Oherwydd bod Estyn wedi gorfod gohirio ei arolygiadau, dywedodd nad oedd dau adroddiad gwerthuso blaenorol y portffolio wedi dilyn fframwaith Arolygu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol.   Roedd y portffolio bellach wedi dychwelyd at y strwythur hwnnw wrth i Arolygiadau ail-ddechrau.  Cynhaliwyd arolwg diwethaf yr Awdurdod yn 2019, ac roedd Estyn yn cynnig cwblhau’r gylched hon erbyn haf 2024.  Darparwyd gwybodaeth am ffocws yr hunanwerthusiad a oedd yn nodi cryfderau, meysydd i’w gwella a sut oedd y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud.   Roedd fframwaith ardal Estyn, ynghyd â’r pedwar argymhelliad a wnaethpwyd, yn gynwysedig yn yr adroddiad ac roedd y portffolio yn parhau i wneud cynnydd yn erbyn yr argymhellion hyn er gwaethaf yr heriau yn sgil y pandemig.  Cafodd yr argymhellion eu mewnosod hefyd ym mlaenoriaethau Cynllun y Cyngor a chynllun busnes y portffolio. 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie am wybodaeth data, eglurodd y Prif Swyddog oherwydd bod y penderfyniad wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru (LlC), nid oedd modd darparu data ar gyfer ysgolion unigol.  Cyfeiriodd at adran 1.01 yr adroddiad a oedd yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol mewn ysgolion a dywedodd bod gan bob ysgol uwchradd gynlluniau cefnogi mewn lle i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau yr oedd pob ysgol wedi’u nodi.  Ym mhwynt 1.03 yr adroddiad, darparwyd gwybodaeth am bresenoldeb a gwaharddiadau, a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf.  

 

 

            Mewn ymateb i sylwadau pellach yngl?n â data, esboniodd y Prif Swyddog bod yr amgylchedd gweithio wedi newid ac nad oedd yn gallu darparu tablau data ar ganlyniadau arholiadau. Roedd y modelau ar gyfer asesu disgyblion wedi newid a oedd yn golygu ei bod yn anodd cymharu data.  Teimlai y byddai gweithdy i Aelodau yn fanteisiol er mwyn gallu darparu mwy o wybodaeth.  Roedd y Bwrdd Ansawdd Lleol yn cael y trafodaethau manwl hyn ac yn y cyfarfod nesaf byddai prosesau monitro perfformiad ysgolion yn cael eu trafod.  Byddai aelodau yn gallu ymuno â’r trafodaethau hyn a’r unig ddilysiad allanol oedd adroddiadau arolygiadau Estyn presennol.   Roedd y gwerthusiad hwn yn grynodeb o berfformiad y portffolio dros y flwyddyn honno.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst at adran 1.05 yr adroddiad a oedd yn datgan mai’r rôl oedd herio ysgolion yn drwyadl a darparu cefnogaeth wedi’i thargedu.  Dywedodd efallai y byddai’n gliriach i’r Pwyllgor pe bai esboniad yn cael ei ddarparu yngl?n â sut y gwneir hyn.  Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog y byddai hyn yn cyd-fynd ag adroddiad gan y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion a fyddai'n darparu gwybodaeth ar y broses uwchgyfeirio.  Yn y cyfarfodydd hynny cafodd sefyllfa bresennol pob ysgol ei thrafod yn fanwl gan dynnu sylw at faterion neu bryderon newydd gan roi cynllun mewn lle gan naill ai’r Awdurdod neu GwE i gefnogi’r ysgol honno. 

 

            Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion bod proses gefnogi glir a phroses uwchgyfeirio mewn lle mewn ysgolion.  Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor y llynedd yngl?n â sut yr edrychir  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Cronfeydd wrth Gefn Ysgol Y Flwyddyn yn Diweddu 31 Mawrth 2022 pdf icon PDF 163 KB

Rhoi manylion i’r Pwyllgor o falansau ysgolion Sir y Fflint ar ôl cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r adroddiad blynyddol, darparodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Ysgolion) wybodaeth fanwl am lefel gyffredinol y cronfeydd wrth gefn sydd gan ysgolion Sir y Fflint yn dilyn effaith y pandemig.  Esboniodd bod yr adroddiad wedi cael ei rannu gyda Phenaethiaid, y Fforwm Cyllideb Ysgolion a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. 

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Strategol wybodaeth fanwl am gronfeydd wrth gefn ysgolion ar draws y tri sector, tynnu sylw at gronfeydd wrth gefn ysgolion unigol a’r tueddiadau dros y 5 mlynedd diwethaf.   Cyfeiriodd at 2020 pan oedd lefelau pryderus o isel o gronfeydd wrth gefn gan ysgolion a dywedodd bod y cynnydd dros y 2 flynedd diwethaf wedi cael ei groesawu.  Digwyddodd hyn ar yr un pryd â chynnydd sylweddol yng nghyllid LlC i ysgolion dros y 2 flynedd diwethaf, ac fe amlinellwyd hyn yn adran 1.03 yr adroddiad.  Roedd gan bob ysgol resymau penodol dros lefelau eu balansau a chynlluniau unigol mewn lle ar gyfer y dyfodol.  Roedd yn rhaid cael cydbwysedd i sicrhau bod y cyllid yn cael ei wario ar addysg y disgyblion presennol, ac nad oedd symiau gormodol o arian yn cael eu cadw yn ôl heb resymau clir, fel nad oedd yr ysgol yn mynd i ddyled.  Darparodd wybodaeth am rôl y Cyngor o ran monitro cronfeydd wrth gefn ysgolion ac esboniodd bod gofyn i bob ysgol gwblhau ffurflen datgan cronfeydd wrth gefn a Chynllun Tymor Canolig ar gyfer y 3 mlynedd nesaf yn amlinellu cynlluniau’r ysgol.  

 

Mewn ymateb i awgrym gan y Cynghorydd Dave Mackie yngl?n â sicrhau bod tablau’n cael eu cyflwyno yn yr un fformat trwy gydol yr adroddiadau, cytunodd y Rheolwr Cyllid Strategol y byddai’n sicrhau bod hyn yn cael ei newid mewn adroddiadau yn y dyfodol. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mackie yngl?n â chronfeydd wrth gefn gwirioneddol yn cael eu camliwio oherwydd cyllid grant, dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol bod gwerth y grantiau wedi cael ei dynnu allan o’r cronfeydd wrth gefn y llynedd, ond roedd pethau’n wahanol eleni gan mai un o’r grantiau mwyaf oedd refeniw atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion ac ni chyrhaeddodd tan ddyddiau olaf mis Mawrth a oedd yn golygu na chafodd ysgolion gyfle i wario’r arian hwnnw.  Byddai ysgolion wedi ymdrin â hwn yn wahanol gyda rhai yn ei wario ar unwaith ac eraill yn defnyddio grantiau i ariannu gwaith dros yr haf a olygai bod hwn yn dal i fod yn eu balansau.  Dywedodd bod ei gyflwyno fel hyn yn tynnu sylw at lefel gynyddol yr arian y mae ysgolion wedi’i dderbyn a’r effaith bosibl ar gronfeydd wrth gefn ysgolion.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am gynyddu treth y cyngor i gynorthwyo â diffygion yng nghyllidebau ysgolion uwchradd, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Strategol bod swm ychwanegol o gyllid wedi cael ei roi yng nghyllidebau ysgolion uwchradd yn 2020/2021, oherwydd argymhelliad 4 Estyn i fynd i’r afael â diffygion ysgolion uwchradd yn fwy effeithiol.  Roedd hwn y tu allan i fformiwla cyllid uwchradd ac wedi’i dargedu’n benodol at leihau diffygion.  Roedd  ...  view the full Cofnodion text for item 23.

24.

Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd (UPFSM) pdf icon PDF 119 KB

I gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ar weithrediad lleol y fenter prydau ysgol am ddim cyffredinol i ysgolion cynradd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ac roedd yn cynnwys diweddariad am gyflwyniad y Rhaglen Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd (UPFSM) yn Sir y Fflint.  Roedd hwn yn ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru (LlC) gyda’r awdurdod yn dewis dull cyflwyno fesul cam.  Roedd heriau arwyddocaol wedi bod gyda NEWydd ac ysgolion a oedd wedi cael eu cydnabod gan y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg a oedd wedi ysgrifennu at bob Awdurdod Lleol yn diolch iddynt am eu gwaith caled.  Darparodd wybodaeth am y Gweithgor a oedd wedi llwyddo i ddechrau cyflwyno’r rhaglen ym mis Medi 2022 i blant dosbarth Derbyn, gyda phlant ym mlynyddoedd 1 a 2 yn derbyn eu prydau o fis Ebrill 2023 ymlaen a phob plentyn cynradd erbyn 2024.   Pwysleisiodd bod yn rhaid i’r teuluoedd hynny sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim barhau i wneud cais am y buddion hynny gan fod cymaint o gyllid yn mynd i mewn i ysgolion yn seiliedig ar yr hawl hwnnw i brydau ysgol am ddim.  Roedd yn pryderu unwaith y byddai hon yn hawl gyffredinol, y byddai rhieni dan yr argraff nad oedd angen iddyn nhw wneud cais bellach, ond roedd hyn yn bwysig a gallai gael effaith niweidiol ar y cyllid a roddir i ysgolion.

 

            Roedd gan y Cynghorydd Dave Mackie bryderon yngl?n ag aelodau ychwanegol o staff a fyddai’n ofynnol a meddyliai tybed a ddylid cynnwys hynny ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gan ei fod wedi cael gwybod bod problemau o ran cael staff i gefnogi’r rhaglen prydau ysgol am ddim.   Mewn ymateb cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod hwn yn faes sy’n peri pryder gan ddweud bod NEWydd wedi wynebu heriau sylweddol wrth recriwtio.  Roedd y portffolio a’r ysgolion wedi gwneud popeth y gallent i gefnogi NEWydd ac nid oedd yn ymwybodol o unrhyw ysgol a oedd wedi methu â darparu’r cynnig prydau ysgol am ddim.  Roedd hon yn broblem genedlaethol o ran swyddi gwag i staff arlwyo, cynorthwywyr ystafelloedd dosbarth, staff ysgolion arbennig ac roedd y mater yn cael ei fonitro wrth i’r rhaglen gael ei chyflwyno.

 

            Yn gyntaf diolchodd y Cynghorydd Gladys Healey i Lywodraeth Cymru (LlC) am wneud hyn, yn enwedig yn yr hinsawdd presennol.  Dywedodd, fel Llywodraethwr, eu bod wedi medru ysgrifennu at rieni i’w hatgoffa i hawlio eu prydau ysgol am ddim.   Ychwanegodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod ymgyrch wedi bod yn y  cyfryngau cymdeithasol a’r wefan a gofynnwyd i ysgolion gadw’r neges hon ar eu gwefannau a’u newyddlenni.

 

Cynigodd y Cynghorydd Dave Mackie yr argymhelliad cyntaf a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst.

 

Cynigodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr ail argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

Cynigodd y Cynghorydd Mel Buckley y trydydd argymhelliad ac fe'i heiliwyd gan Gina Maddison.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)         Bod y pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma ar weithrediad y rhaglen prydau ysgol am  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

Adolygu Amserlen Cynllun y Cyngor 2022/23 pdf icon PDF 84 KB

Adolygu amserlenni ar gyfer Cynllun y Cyngor 22/23 yn dilyn cais gan y Cyngor Sir ym mis Gorffennaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Dywedodd y Cadeirydd ar gyfer y portffolio Addysg ac Ieuenctid bod 32 o eitemau busnes craidd ar yr amserlen gyda dyddiadau cwblhau wedi’u hamcangyfrif ynghyd â 7 eitem prosiect gyda dyddiadau dechrau a dyddiadau cwblhau wedi’u hamcangyfrif.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) pan gyflwynwyd Cynllun y Cyngor i’r Pwyllgor, roedd pryderon oherwydd mai 31 Mawrth 2023 oedd dyddiad adrodd diwedd blwyddyn nifer o’r camau gweithredu.  Roedd yr Uwch Dîm Rheoli wedi adolygu’r dyddiadau hyn ac roedd rhai o’r camau gweithredu wedi cael dyddiadau cwblhau cynharach.  Cadarnhaodd y byddai diweddariadau ar y rhain yn cael eu rhoi yn ystod y gylched adroddiadau perfformiad arferol.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Dave Mackie, os oedd y dyddiad wedi pasio, a oedd hynny’n golygu bod y cam gweithredu wedi’i gwblhau.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod hynny’n gywir.

 

Cynigodd y Cynghorydd Bill Crease yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cytuno i adolygu Rhan 1 Cynllun y Cyngor a diweddaru’r amserlenni ar gyfer eu cwblhau, fel y dangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

26.

Aelodau o'r Wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.