Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

34.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

35.

Cofnodion pdf icon PDF 111 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 10 a 20 Hydref 2022.   

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 10 Hydref 2022, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Dave Mackie a Carolyn Preece.

 

            Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 20 Hydref 2022, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Bill Crease a Carolyn Preece.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 10 a 20 Hydref a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir. 

36.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad a chadarnhaodd nad oedd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r eitemau a oedd wedi’u rhestru.   Cadarnhaodd fod bob cam gweithredu o’r cyfarfod diwethaf wedi’u cwblhau.   Darparwyd gwybodaeth ar weithdy Estyn a sesiwn friffio’r Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion ac atgoffwyd aelodau y byddai’r gweithdy GwE yn cael ei gynnal ddydd Llun, 5 Rhagfyr am 2.00pm.

 

Cynigiodd Mrs Lynn Bartlett ddilyn yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Gladys Healey y cynnig hwnnw.                         

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)     Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu oedd heb eu cwblhau.

37.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Gosod Cyllideb 2023-24 (Cam 2)

Bod y Pwyllgor yn adolygu a rhoi sylw ar bwysau cost a’r strategaeth gyffredinol ar gyfer y gyllideb, a chynghori ar unrhyw feysydd o effeithlonrwydd cost yr hoffent edrych arnynt ymhellach.

Cofnodion:

Darparwyd cyflwyniad ar y cyd gan y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Strategaeth Ariannol ac Yswiriant) a oedd yn ymwneud â’r meysydd canlynol:

 

·         Pwrpas a Chefndir

·         Atgoffa am Sefyllfa Gyllideb y Cyngor

·         Pwysau Costau Addysg ac Ieuenctid

·         Gostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid

·         Pwysau Costau Ysgolion

·         Gostyngiadau yng Nghyllideb Ysgolion

·         Cyllid Ysgolion - 2022/23

·         Pwysau Costau y Tu Allan i’r Sir

·         Camau nesaf ar gyfer y Broses o Osod Cyllideb 2023/24

 

Diolchodd Aelodau i swyddogion am eu cyflwyniad, y manylion a ddarparwyd a’r gwaith a gwblhawyd i ymgysylltu gydag ysgolion ar draws Sir y Fflint.   Gwnaethpwyd sylwadau am y sefyllfa ddigynsail ond roedd rhai elfennau cadarnhaol i’w nodi, gan gynnwys Prydau Ysgol Am Ddim.    

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor i’r sylwadau a wnaed gan Aelodau mewn perthynas â’r angen i ysgolion gael eglurhad a sicrwydd ar eu cyllidebau cyn gynted â phosibl ac roedd yn cytuno â’r sylwadau.   Roedd yn gobeithio y byddai’r setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru ar 13 Rhagfyr yn darparu hyn.    

 

Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece ddilyn yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Ryan McKeown  

 

PENDERFYNWYD: 

 

Casglu a rhannu’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor â’r Cabinet cyn y cyfarfod ar 20 Rhagfyr 2022.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (HAWL I WYBODAETH) 1985 - YSTYRIED EITHRIO'R WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD: 

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol gan yr ystyrir ei bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 15 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Dogfennau ychwanegol:

38.

Addysg Ddewisol yn y Cartref pdf icon PDF 94 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar lefel y disgyblion sy’n derbyn Addysg Ddewisol yn y Cartref i’r Pwyllgor ar lefel y disgyblion sy’n derbyn Addysg Ddewisol yn y Cartref a goruchwyliaeth y Cyngor o’r dysgwyr hyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr – Cynhwysiant a Dilyniant adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth ar nifer y plant a oedd yn derbyn addysg ddewisol yn y cartref.   Darparodd yr adroddiad wybodaeth ar yr oedrannau a’r niferoedd ar gyfer Sir y Fflint, a oedd yn is na’r cyfartaledd yng Nghymru ar hyn o bryd, a darparwyd amlinelliad o ganran y disgyblion a oedd yn derbyn Addysg Ddewisol yn y Cartref a phryd roedd hyn yn digwydd, nodwyd bod blwyddyn 7 yn flwyddyn dyngedfennol ar gyfer hyn wrth i blant symud i’r ysgol uwchradd.

 

             Nododd yr Uwch Reolwr nad oedd rhaid i rieni geisio cymeradwyaeth na rhoi gwybod i’r Awdurdod eu bod yn dewis addysgu eu plentyn gartref.    Roedd prosesau ar waith er mwyn gallu gofyn cwestiynau i rieni a darparu cyngor a chymorth iddynt ac amlinellodd rhai o’r rhesymau a roddwyd gan rieni.    Nid oedd yn ofynnol i’r Awdurdod ddarparu cefnogaeth ariannol i rieni, ond roedd cyllid grant ar gael i helpu gyda hyn a gwaith yn mynd rhagddo gyda theuluoedd i benderfynu ar y ffordd orau i ddefnyddio’r adnodd. Roedd yn ddyletswydd ar yr Awdurdod i fonitro’r teuluoedd, a phe bai unrhyw bryderon yn codi, gallai’r Awdurdod gyflwyno Gorchymyn Mynychu’r Ysgol ac enwebu ysgol i’r plentyn ei mynychu.   Nid oedd unrhyw orchmynion wedi’u cyflwyno yn y flwyddyn ddiwethaf.    Darparwyd gwybodaeth ar rôl monitro’r gwasanaeth a phenodiad y Swyddog Cefnogi Addysg a oedd yn cael ei gefnogi gan y Gwasanaeth Lles Addysg mewn perthynas â chodi pryderon.   Roedd y Swyddog Cefnogi Addysg wedi derbyn ymateb cadarnhaol i gyfarfodydd, ac amlygodd rhai o’r materion a godwyd gan rieni a’r datrysiadau a nodwyd.   Roedd yr Awdurdod yn rhan o’r fforymau rhanbarthol a chenedlaethol a darparwyd sicrwydd y byddai canllawiau diwygiedig yn cael eu darparu flwyddyn nesaf.   Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cynnig cronfa ddata o bob disgybl a oedd yn derbyn addysg yn y cartref, ond roedd y gymuned Addysg Ddewisol yn y Cartref yn gwrthwynebu’r cynnig hwn, felly byddai’n rhaid aros am ganllawiau mewn perthynas â hyn.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dave Mackie, diolchodd yr Uwch Reolwr iddo am ei sylwadau cadarnhaol, a dywedodd y byddai hi’n rhannu’r rhain â’r tîm.   O ran grwpiau neu debygrwydd, dywedodd fod hyn yn amrywio gyda rhai’n dal i brofi lefelau uchel o orbryder, ac roedd y plant hyn yn gallu cael mynediad at eu haddysg y tu allan i’r ysgol.   Eglurodd fod rhai rheini’n dewis gwneud hyn o ganlyniad i’r pwysau sydd ynghlwm â phresenoldeb yn yr ysgol.   Roedd y Gwasanaeth Lles Addysg yn herio rhieni mewn perthynas â hyn gan ofyn ai dyma oedd y dewis cywir i’r unigolyn ifanc ac a oedd sylwadau a chyfranogiad yr unigolyn ifanc yn cael eu cynnwys yn y broses hon.    Tynnodd sylw hefyd at nifer y disgyblion a oedd wedi dychwelyd i’r ysgol yn dilyn gwaith rhagweithiol gan yr ysgol a’r tîm.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst ynghylch monitro plant nad ydynt yn derbyn addysg, nododd yr Uwch Reolwr fod  ...  view the full Cofnodion text for item 38.

39.

Darpariaeth Ieuenctid Integredig - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Cyflawni pdf icon PDF 142 KB

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am Gynllun Cyflawni’r Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) wybod nad oedd yr Uwch Reolwr, Darpariaeth Ieuenctid Integredig yn gallu mynychu’r cyfarfod, ond roedd wedi paratoi’r adroddiad ac roedd hi wedi cytuno i rannu adborth a chwestiynau gan yr Aelodau gydag ef yn dilyn y cyfarfod.  

 

            Amlinellodd y Prif Swyddog y gwaith partneriaeth a oedd yn mynd rhagddo i gefnogi pobl ifanc fel y nodir yn yr adroddiad.  Darparodd wybodaeth am y gefnogaeth, datblygiad a’r hyfforddiant a ddarperir i’r partneriaid hynny i alluogi darpariaeth gwasanaeth effeithiol.  Eglurodd bod heriau recriwtio sylweddol ar gyfer y gwasanaeth hwn a oedd wedi cael effaith ar y gwasanaeth y gellid ei darparu, ond eglurodd bod gwaith ieuenctid yn werthfawr tu hwnt ac yn cynnwys llwybrau cynnydd ar gyfer pobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth i ystyried datblygu gyrfa yn y gwasanaeth hwnnw.   Cyfeiriodd at y gwaith partneriaeth Fframwaith Prentisiaeth gydag Addysg Oedolion Cymru a Phrifysgol Glynd?r i sicrhau bod cymwysterau ar gael i bobl ifanc eu cwblhau’n lleol.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybod bod yr Uwch Reolwr, Darpariaeth Ieuenctid Integredig yn ystyried sut gellir mesur, nodi targedau a monitro allbynnau ar gyfer y gwasanaeth a’r effaith ar bobl ifanc.   Roedd y newidiadau yr oedd yn eu cynnig yn cynnwys newid cyflenwr y system monitro electronig i ddull mwy effeithiol ac roedd gwybodaeth mewn perthynas â hyn wedi’i chynnwys yn yr adroddiad.   Roedd yr Uwch Reolwr, Darpariaeth Ieuenctid Integredig hefyd yn awyddus i ddefnyddio’r wybodaeth a’r atodiadau yn yr adroddiad i siapio gwasanaethau yn y dyfodol i gefnogi pobl ifanc.   Dywedodd y Prif Swyddog fod cefnogi lles emosiynol pobl ifanc yn eu helpu i ymgysylltu’n well yn yr ysgol ac yn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.   

 

            Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch eglurdeb ym mhwynt 1.03 o’r adroddiad gan y Cynghorydd Dave Macie, eglurodd y Prif Swyddog ei fod yn cyfeirio at y Wobr Dug Caeredin, a oedd yn boblogaidd iawn ymhlith ysgolion ac yn fuddiol iawn ar gyfer pobl ifanc.   Roedd yr Uwch Weithiwr Ieuenctid hefyd yn arweinydd Dug Caeredin ac yn cynnig cefnogaeth i ysgolion i gynnig eu rhaglenni eu hunain a bodloni’r prosesau achredu.   Darparodd wybodaeth am y ganolfan mynediad agored yn yr Wyddgrug a’r camau a oedd yn cael eu cymryd i alluogi hyn i barhau.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Dave Mackie y byddai modd cynnal gweithdy i Aelodau’r Pwyllgor i amlinellu sut y gellid darparu’r amcanion o fewn Cynllun Cyflawni 2021-2024.   Croesawodd y Prif Swyddog yr awgrym hwn a dywedodd y gellid trefnu gweithdy yn hwyrach yn 2023 ac y gellid gwadd pobl ifanc i’r gweithdy i amlinellu eu safbwynt i’r Pwyllgor.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Paul Cunningham fod y Fframwaith Prentisiaeth yn rhagorol ac nad yw’r Brifysgol yn addas i bawb.  Roedd yn falch ei fod yn cael ei gyflwyno fel cymhwyster i annog pobl ifanc i ymuno â’r Gwasanaeth Ieuenctid drwy’r Fframwaith Prentisiaeth.

 

            Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Bill Crease ar y pedwar argymhelliad a’r systemau rheoli data, cytunodd y Prif Swyddog fod data meintiol yn hollbwysig at  ...  view the full Cofnodion text for item 39.

40.

Aelodau o'r Wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nidoedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.