Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

39.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Datganodd y Cynghorwyr Bob Connah a Tudor Jones gysylltiad personol yn Eitem 5 ar y Rhaglen – Diweddariad ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol.  Esboniodd yr Hwylusydd fod y Cynghorydd Jones wedi cael cadarnhad gan y Swyddog Monitro fod y cysylltiad yn un personol ac na ddylai gymryd rhan yn y bleidlais ar yr argymhelliad yn ymwneud â Chanolfan Hamdden Treffynnon yn yr adroddiad.

 

            Datganodd y Cynghorwyr Paul Cunningham, Gladys Healey, Dave Mackie, Tudor Jones a Mr. David Hytch a Mrs. Rebecca Stark gysylltiad personol yn Eitem 6 ar y Rhaglen – Diweddariad ar Gyllid y Cyngor ar gyfer Ysgolion, fel Llywodraethwyr Ysgolion.

 

            Datganodd y Cynghorydd Gladys Healey gysylltiad personol yn Eitem 7 ar y Rhaglen – Adroddiad Hunanwerthuso’r Gwasanaethau Addysg, fel Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Castell Alun.

 

40.

Cofnodion pdf icon PDF 114 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 28 Ionawr 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2021.

 

Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo, fel a gynigiwyd ac a eiliwyd gan y Cynghorwyr Tudor Jones a Martin White.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

41.

Presenoldeb mewn Ysgolion a Gwaharddiadau pdf icon PDF 101 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am bresenoldeb a gwaharddiadau dysgwyr ar gyfer Ysgolion Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu (Ymgysylltu) drosolwg o bresenoldeb mewn ysgolion a gwaharddiadau ar gyfer blwyddyn 2019/20, a gafodd eu heffeithio gan y pandemig, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.  Rhoddodd wybodaeth am y tueddiadau a welwyd ar gyfer presenoldeb, absenoldeb rheolaidd a pharhaol a gwaharddiadau cyfnod penodol a amlygwyd gan Estyn. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at y tabl a ddangosai waharddiadau cyfnod penodol a gofynnodd pa brosesau sy’n bodoli er mwyn deall pam y gwelir cynnydd yn y ffigurau hyn a pha gamau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â nhw.  Wrth ymateb, rhoddodd yr Uwch Ymgynghorydd Dysgu wybodaeth am y gwaith mae’r tîm yn ei wneud, sy’n fwy rhagweithiol, gan weithio gyda phlant, teuluoedd, penaethiaid a chymunedau er mwyn deall materion yn well yn gynharach. 

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion, a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan y Cynghorwyr Paul Cunningham a Dave Mackie.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)    Y dylid nodi’r data presenoldeb ar gyfer ysgolion Sir y Fflint a’r camau gweithredu a gymerwyd gan swyddogion i gefnogi mesurau ymgysylltu a diogelu yn ystod y cyfnod clo; a

 

 (b)    Bod y Pwyllgor yn cydnabod bod cyfnod clo COVID-19 a chau ysgolion wedi effeithio ar y data a ddarparwyd.

 

42.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr adroddiad yn cadarnhau mai cyfarfod nesaf y Pwyllgor fydd y cyfarfod ar y cyd gyda Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gynhelir ar 17 Mehefin.  Cynhelir cyfarfod arferol nesaf y Pwyllgor ar 1 Gorffennaf pan roddir cyflwyniad am Adroddiad Blynyddol GwE am y Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y We.  Roedd yr holl gamau gweithredu a gododd o’r cyfarfodydd blaenorol wedi eu cwblhau.

 

            Gwnaeth yr Hwylusydd hefyd atgoffa Aelodau am y sesiynau briffio y Tu Allan i’r Sir a drefnwyd ar gyfer yr holl Aelodau a’r Aelodau cyfetholedig ar 22 Mawrth.

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion, a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan y Cynghorwyr Paul Cunningham a Mrs Lynne Bartlett.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 (c)       Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

43.

Diweddariad ar drosglwyddiad Asedau Cymunedol pdf icon PDF 98 KB

Rhoi diweddariad ar effaith y sefyllfa argyfyngus ar Gynllun Busnes Canolfan Hamdden Treffynnon a Cambrian Aquatics.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Masnachol a Thai) a rhoddwyd trosolwg o’r cynnydd a wnaed gyda’r ddau Drosglwyddiad Asedau Cymunedol mwyaf a sut mae’r pandemig wedi effeithio arnyn nhw.  Cafodd Cambria Aquatics ei drosglwyddo yn 2016 a dechreuodd Canolfan Hamdden Treffynnon fasnachu yn 2017. Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth fanwl ar fanteision hyn i’r Cyngor, yr effaith ariannol arwyddocaol oherwydd y pandemig, ynghyd â’r camau rhagofalus a gymerwyd er mwyn ailagor yn ddiogel.  Rhoddodd wybodaeth hefyd am y cynlluniau cymorth grant a’r cyfleoedd ffyrlo.  Talodd deyrnged i’r ffordd mae’r sefydliadau hyn wedi cael eu rheoli a bod ganddyn nhw gefnogaeth gref iawn gan gymunedau a theimlai’n hyderus y byddai hyn yn parhau ar ôl y pandemig.

               

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at yr anawsterau digynsail mae’r ddau sefydliad wedi eu hwynebu ac awgrymodd y dylai’r Pwyllgor ysgrifennu atyn nhw i ganmol gwaith y rheolwyr a’r gwirfoddolwyr am y ffordd maen nhw wedi ymdrin â’r sefyllfa.  Cytunodd yr Hwylusydd i anfon llythyr at y ddau sefydliad ar ran y Pwyllgor.

 

Ymdriniwyd â’r argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad ar wahân.  Cafodd yr argymhelliad cyntaf a’r ail un eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Martin White a Mrs. Rebecca Stark.  Cafodd y trydydd argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorwyr Janet Axworthy a Gladys Healey.  Ni wnaeth y Cynghorydd Tudor Jones gymryd rhan yn y bleidlais ar y trydydd argymhelliad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)    Nodi cynnydd y Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol;

 (b)    Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cymorth grant sy’n parhau ar gyfer Cambrian Aquatics yn 2021/22; a

 (c)    Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cymorth grant sy’n parhau ar gyfer Canolfan Hamdden Treffynnon yn 2021/22.

 

 

44.

Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg pdf icon PDF 89 KB

Rhoi diweddariad i’r Aelodau ar berfformiad hollgynhwysfawr gwasanaethau dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad hunanwerthuso ac esboniodd, oherwydd y pandemig, nad yw’r wybodaeth wedi’i strwythuro yn y ffordd arferol yn erbyn Fframwaith Estyn ar gyfer archwilio Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol, sydd wedi ei ohirio dros dro ynghyd â chasgliadau data allweddol gan Lywodraeth Cymru.  Cyfeiriodd at adroddiadau blaenorol i gyfarfodydd a fynychwyd gan gydweithwyr o GwE ac Estyn, gydag Adolygiad Thematig y Gwasanaethau Rhanbarthol a gyflwynwyd yn y cyfarfod diwethaf, ac ynghlwm â’r adroddiad roedd y llythyr a anfonwyd at Gyngor Sir y Fflint gan Estyn a oedd yn crynhoi asesiad cadarnhaol o’r gwaith a wnaed mewn ysgolion yn ystod y cyfnod hwn.  Darparwyd gwybodaeth hefyd am y camau nesaf a’r blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod fformat yr adroddiad yn ddefnyddiol iawn er mwyn darparu gwybodaeth am yr holl feysydd gwasanaeth.  Gwahoddodd gwestiynau ar bob un o’r meysydd gwasanaeth, fel yr amlinellwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Gwasanaeth Cynhwysiant a Datblygu

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y paragraff olaf ar dudalen 54 a gofynnodd pam nad yw’r hyfforddiant ar gael i bawb, gan gofio ei fod nawr yn gynnig ar-lein heb gyfyngiadau ymarferol.  Wrth ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’n cyfeirio hyn at yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Datblygu) i roi ymateb. 

 

            Gofynnodd Mrs Stark a ystyriwyd darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cwnsela a seicoleg ar gyfer pobl ifanc wrth symud ymlaen ac a yw ysgolion yn gwybod am ddisgyblion sydd eisoes angen y gefnogaeth honno.  Wrth ymateb cadarnhaodd y Prif Swyddog fod y Comisiynydd Plant wedi tynnu sylw at hyn a bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cwnsela i gefnogi gwasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y gorffennol ac y byddai hyn yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen.  Mae rhaglen adfer gyfannol gref ar waith gan gydweithwyr yn y byd Iechyd a CAMMS a Gwasanaethau Plant er mwyn sicrhau model gofal estynedig i gefnogi’r plant a’r bobl ifanc hyn.  Ychwanegodd fod cyllid ychwanegol ar gael y llynedd i gefnogi iechyd a lles emosiynol pobl ifanc.

 

Gwasanaeth Cyfle Cynnar

 

            Gofynnodd y Cadeirydd am esboniad o’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn y Cynllun Cymorth Gofal Plant drwy gyfnod y Coronafeirws.  Wrth ymateb, esboniodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru wedi atal y cynnig gofal plant dros dro a chreu Cynllun Cymorth Gofal Plant drwy gyfnod y Coronafeirws ac, yn debyg i ysgolion a fu’n cynnig gofal plant i weithwyr allweddol yn ystod y pandemig, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer y gwasanaeth hwn er mwyn cynnig yr un gefnogaeth i weithwyr allweddol.  Cafodd ei reoli gan y tîm Gofal Plant yn adran y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

            Gofynnodd Mrs Stark a oedd Llywodraeth Cymru wedi rhagweld effaith y bwlch mewn addysg ar gyfer dysgwyr ifanc yn y blynyddoedd cynnar ac a fyddai hyn yn cael ei ystyried wrth fesur eu perfformiad.   Wrth ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod hyn yn cael ei drafod a chyfeiriodd at Gwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant 3 i 7 oed sy’n edrych ar y plentyn a’u  ...  view the full Cofnodion text for item 44.

45.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am gyllid y Cyngor i ysgolion pdf icon PDF 109 KB

Amlinellu i'r Pwyllgor y cynnig ar gyfer dosbarthu'r £1m ychwanegol a ddyrannwyd i ysgolion uwchradd yng nghyllideb 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i amlinellu i’r Pwyllgor y cynnig i rannu’r £1m ychwanegol a neilltuwyd ar gyfer ysgolion uwchradd yng nghyllideb 2021/22.  Oherwydd amseriad a diben y cyllid, bydd y Cyngor yn dyrannu’r cyllid yn 2021/22 fel dyraniad atodol. 

 

            Yn arolygiad Estyn o’r Awdurdod Lleol yn 2019, mynegwyd pryderon am natur hirdymor y diffygion yng nghyllideb rhai ysgolion uwchradd, ac fel rhan o’u hadroddiad arolygu, un o’r prif argymhellion oedd y dylai’r Awdurdod gymryd camau i fynd i’r afael â’r diffygion.  Roedd y cyllid ychwanegol yn y gyllideb ar gael yn bennaf er mwyn darparu adnoddau ychwanegol i’r ysgolion hynny sydd â phroblemau ariannol.       

 

Esboniodd y Prif Weithredwr nad oedd datrysiad ariannol ar gael i ymdrin â’r diffygion, ond drwy weithio’n galed i osod cyllideb 2021/22, ynghyd ag edrych ar y cyfleoedd yn setliad Llywodraeth Cymru i ail alinio cyllid ychwanegol i Ysgolion, cafwyd datrysiad i ddarparu cyllid ychwanegol i ysgolion uwchradd.  Wrth esbonio sut y dyrannwyd y cyllid, soniodd am y pryderon a glywodd rhai Penaethiaid a Llywodraethwyr Ysgolion.  Dywedodd fod yr Awdurdod yn cydnabod bod cyllidebau ysgolion uwchradd wedi bod dan bwysau cyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf, ac felly byddai cyfran o’r cyllid yn mynd i’r ysgolion hynny nad oedd wedi cwrdd â’r egwyddorion, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.   

 

Mynegodd Arweinydd y Cyngor ei gefnogaeth i’r sylwadau a wnaed gan y Prif Weithredwr a dywedodd fod y Cyngor Sir yn llwyr gefnogi’r cyllid ychwanegol arfaethedig.  Soniodd am y sefyllfa heriol sy’n wynebu ysgolion o ganlyniad i gyni ariannol ond dywedodd fod gan bobl ifanc ar draws Sir y Fflint yr hawl i gael mynediad at gwricwlwm eang a chytbwys.   

 

            Ychwanegodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) na ddylai pobl ifanc mewn ysgolion ar draws Sir y Fflint ddioddef oherwydd amrywiaeth o ffactorau cymhleth iawn sydd wedi arwain at y diffygion hyn.  Rhoddodd esboniad manwl o’r egwyddorion dyrannu, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys ffactorau amddifadedd.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid ychwanegol i ysgolion a fydd yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf.  Er bod hyn i’w groesawu, dywedodd pa mor bwysig yw sicrhau bod y Cyngor yn manteisio i’r eithaf ar gyllideb y Cyngor er mwyn helpu i fynd i’r afael â diffygion ysgolion.    

 

            Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Jim Connelly, Pennaeth Ysgol Uwchradd y Fflint, a oedd hefyd yn bresennol, i wneud sylw ar y cynnig.

               

            Diolchodd Mr Jim Connelly i’r Cadeirydd am y cyfle i fynychu’r cyfarfod a chyfarch y Pwyllgor.  Croesawodd y sylwadau a wnaed gan y Prif Weithredwr, yr Arweinydd a’r Prif Swyddog, a dywedodd eu bod wedi esbonio rhywfaint o sail resymegol y cynnig a phe bai Ffederasiwn y Penaethiaid Uwchradd wedi derbyn yr wybodaeth hon o flaen llaw, byddai wedi lleddfu rhywfaint ar y pryderon.  Gofynnodd a ellid gwella’r broses ymgynghori yn y dyfodol a soniodd am y penderfyniadau anodd a wnaed gan bob ysgol yn Sir y Fflint, o ganlyniad i gyni ariannol a chwtogi ar gyllidebau ysgolion.  Dywedodd ei fod  ...  view the full Cofnodion text for item 45.

46.

Rhaglen Ddigidol Hwb pdf icon PDF 118 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Ddigidol Hwb a chanlyniad yr asesiad i nodi lefelau mynediad i ddyfeisiau a band eang i ddysgwyr ar draws Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd adroddiad a oedd yn rhoi manylion am sut y rhoddir rhaglen genedlaethol HWB ar waith yn ysgolion Sir y Fflint a’r gwaith sy’n cael ei wneud i gynyddu cymarebau dyfeisiau i ddisgyblion.

 

            Yn ystod y pandemig, cyfathrebwyd â’r ysgolion yn rheolaidd a chynhaliwyd dadansoddiad o'r bylchau o ran y dyfeisiau a oedd ar gael.  Roedd hyn yn cynnig gwybodaeth am faint o ddyfeisiau a oedd gan yr ysgolion yn barod, a oedd yn galonogol iawn, ond roedd angen mwy er mwyn bodloni’r fformiwla y cytunwyd arni gyda’r ysgolion.  Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd fod angen 6,000 yn fwy o ddyfeisiau yn dilyn y cyflenwad diwethaf a roddwyd i ysgolion yn Ionawr a Chwefror a chadarnhaodd hefyd y disgwylir archeb Chrome Books gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai a fydd yn diwallu rhai o’r anghenion yn y dadansoddiad o'r bylchau. 

 

Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan yr ysgolion am ddysgu cyfunol a dangoswyd dadansoddiad manwl yn adran 1.04 yr adroddiad.  Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd fod dyfeisiau MiFi wedi eu caffael fel rhan o HWB a bod y rhain wedi cael eu rhoi i deuluoedd nad oedd â digon o gysylltiad Wi-Fi.  Cyfeiriodd at Sefydliad Neumark a gefnogodd bob un o Awdurdodau Gogledd Cymru i gaffael 110 o ddyfeisiau eraill a chafodd tua 80 neu 90 o ddyfeisiau eu rhoi’n uniongyrchol i ysgolion lle roedd eu hangen.  Bydd model cynaliadwy’n cael ei gyflwyno drwy’r fformiwla ariannu Ysgolion i sicrhau bod gan bob ysgol yr un offer gan y bydd angen i ysgolion nawr gynnal yr un lefel o ddyfeisiau, yn y gobaith y bydd gan yr holl ddysgwyr fwy o ddyfeisiau i wneud eu gwaith cartref. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at yr effaith ariannol ar ysgolion er mwyn diweddaru’r dyfeisiau’n barhaus a thalu am waith trwsio ayb a allai fod yn gostus yn y dyfodol.  Deallai fod hyn yn cael ei ystyried fel dyraniad ar gyfer cyllid yn y fformiwla cyllideb ysgolion a gofynnodd a yw'r ysgolion yn ymwybodol o’r goblygiadau o ran cost.  Wrth ymateb, dywedodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei roi i Ysgolion gan y byddai dyfeisiau digidol nawr yn rhan allweddol o addysg disgyblion ac offer digidol yw’r adnodd newydd y mae angen i ysgolion gyllidebu ar ei gyfer.  Bydd hyn yn cael ei drafod ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Fforwm Cyllideb Ysgolion. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Smith am eglurder ar Rwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA).  Wrth ymateb, dywedodd y Prif Swyddog mai hwn yw rhwydwaith y rhyngrwyd sy’n teithio drwy rwydwaith y cyngor i ysgolion er mwyn sicrhau bod y waliau tân yn cael eu cynnal, ynghyd â chyflymder y rhyngrwyd.  Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd fod hyn yn cael ei fonitro gan adran TG y Cyngor a bod gan fwyafrif yr ysgolion gapasiti digonol yn ystod y cyfnod clo.  Os byddai unrhyw broblemau gyda’r lled band a ddefnyddiwyd gan ysgolion i gyflwyno gwersi, cadarnhaodd y Prif Swyddog y gallai ysgolion uwchgyfeirio hyn  ...  view the full Cofnodion text for item 46.

47.

Diweddariad Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 95 KB

Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i roi cipolwg ar y gwaith cynllunio ar gyfer adfer ym mhortffolio’r Pwyllgor hwnnw.  Cyfeiriodd at gofrestr risg y portffolio a’r camau lliniaru risg sydd ynghlwm wrth yr adroddiad a soniodd am y risg fwyaf sylweddol; cyllid i ysgolion uwchradd, a drafodwyd yn gynharach yn y cyfarfod.   

 

            Roedd y Cadeirydd yn uchel ei glod am y gefnogaeth a gafodd ysgolion gan y tîm Adnoddau Dynol a gofynnodd a ellid estyn gair o ddiolch iddyn nhw gan y Pwyllgor. 

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad, a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan Mrs Rebecca Stark a’r Cynghorydd Dave Mackie.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Gofrestr Risg wedi’i diweddaru a’r Camau Lliniaru Risg, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad.

.

48.

Aelodau o'r Wasg yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.