Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Attendance Meeting

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

20.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Tudor Jones gysylltiad personol yn eitem rhif 10 ar y Rhaglen, gan ei fod yn Gadeirydd Ymddiriedolwyr Canolfan Hamdden Treffynnon.

 

21.

Cofnodion pdf icon PDF 116 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 5 Tachwedd 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2020.

 

Cynigodd y Cynghorydd Dave Mackie y dylid cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir ac y dylai’r Cadeirydd eu llofnodi.Eiliwyd y cynnig gan Mr. David Hytch.            

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

22.

Briffio Ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar)

Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y Nodyn Briffio yr oedd wedi’i ddosbarthu i’r Aelodau yn gynharach yn yr wythnos a chytunodd y dylid ei anfon at aelodau nad oedd yn gynghorwyr ynghyd â’r diweddariad gan Betsi Cadwaladr am y Rhaglen Frechu a dogfen Llywodraeth Cymru “Cynllun Rheoli Coronafeirws - Lefelau Rhybudd yng Nghymru” a gyhoeddwyd yn dilyn Datganiad y Prif Weinidog.  Cyfeiriodd at weithrediad a chyflymder y cyfyngiadau lefel 4 newydd roedd y Prif Weinidog wedi’u cyhoeddi yn gynharach yn yr wythnos oedd yn cynnwys rhestr glir o wasanaethau oedd yn cael aros ar agor.  Fe soniodd am y cynllun peilot addawol ar gyfer brechlyn Pfizer mewn cartref gofal lleol yn New Brighton, ac roedd hyn yn gam cadarnhaol ymlaen.

 

Fe soniodd y Prif Weithredwr am y sylw helaeth yn y wasg am y gwahaniaeth mawr wrth adrodd ffigurau haint Cymru a thrafodaeth a gynhaliwyd gyda’r Arweinydd er mwyn asesu’r effaith ar Sir y Fflint.  Roedd cyfraddau’r achosion eisoes yn y system ac ar y cyfan, nid oedd y niferoedd wedi cynyddu’n sylweddol. Pan fyddai’r holl wybodaeth am achosion oedd heb eu cyfeirio yn cael eu casglu fe fyddai yna ddealltwriaeth gwell o’r darlun cyffredinol, a’r gobaith yw na fyddai achosion Sir y Fflint yn codi wrth i ni gychwyn ar gyfnod y Nadolig.

 

                Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod y sefyllfa yng Nghymru yn ddifrifol ac fe soniodd am gynhadledd dros y ffôn roedd o wedi ei mynychu gyda’r Prif Swyddog a holl Benaethiaid ysgolion y sir yngl?n ag ail agor ysgolion ym mis Ionawr 2021. Fe soniodd hefyd am drafodaethau gyda’r Gweinidog Addysg ac uwch Weinidogion eraill yn Llywodraeth Cymru yngl?n â disgyblion yn dychwelyd ym mis Ionawr. 

 

        Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod LlC wedi rhoi hyblygrwydd i Awdurdodau Lleol mewn cysylltiad â dechrau’r tymor newydd ond rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor bod yr ysgolion ar agor, ond oherwydd effaith ac ymlediad y feirws dros gyfnod y Nadolig, fe allai’r dull o gyflwyno addysg newid.  Fe gadarnhaodd y byddai’r Cyngor yn argymell y dylai pob ysgol gyflwyno dysgu ar-lein ar gyfer wythnos cyntaf y tymor newydd gyda chyn lleied o ddisgyblion â phosibl yn mynd mewn i’r adeilad, ond byddai dal angen darpariaeth ar gyfer plant diamddiffyn a phlant a phobl ifanc gweithwyr allweddol. Roedd LlC wedi gofyn bod dysgu wyneb yn wyneb yn cychwyn ar 18 Ionawr, ond roedd y sefyllfa’n newid yn gyson a byddai trafodaethau’n cael eu cynnal gyda Phenaethiaid a Swyddogion ar ôl cyfnod y Nadolig er mwyn edrych ar y cyngor, data ac effaith ar ysgolion er mwyn asesu a oedd hi’n bosibl i ddychwelyd i’r ysgol neu barhau gyda dull dysgu cyfunol. Roedd Penaethiaid yn cefnogi’r dull yma, ond roeddynt eisiau sicrhau bod rhieni’n cael gwybod cyn gynted â phosibl a bod yr holl drefniadau yn eu lle.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd a oedd cefnogaeth ar gyfer plant diamddiffyn a phlant gweithwyr allweddol yn cael ei ddarparu o fewn y ganolfan a dywedodd bod yr effaith ar rieni sy’n gweithio  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu fersiwn drafft y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gan ddweud na fu unrhyw newidiadau i’r eitemau sydd wedi’u rhestru ers y cyfarfod diwethaf. Roedd yr holl gamau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf wedi cael eu cwblhau fel oedd i’w weld yn Atodiad 2 i’r adroddiad. Rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ddiweddariad am y cyfarfod ar y cyd a gynhaliwyd rhwng swyddogion Addysg ac Ieuenctid a Gwasanaethau Cymdeithasol, lle cytunwyd y byddai adroddiad sy’n dod â staff iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd i ddarparu asesiad dwys a chefnogaeth therapiwtig i bobl ifanc nad ydynt yn cyrraedd y trothwy ar gyfer CAMHS, yn cael ei gyflwyno i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Iechyd a Chymdeithasol ar y cyd, oedd wedi’i drefnu ar gyfer 17 Mehefin 2021.

 

            Gan ymateb i gwestiwn gan Mr. David Hytch, dywedodd yr Hwylusydd bod Bwrdd Cysgodol Theatr Clwyd wedi cyfarfod ar 18 Tachwedd er mwyn ystyried bod cynrychiolydd o’r Undeb Llafur yn aelod o’r Bwrdd. Cadarnhaodd Liam Evans-Ford nad oedd y Bwrdd wedi cytuno i symud ymlaen â hyn ar hyn o bryd ond byddent yn ail ystyried yr awgrym yn nes ymlaen. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Tudor Jones.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)   Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

 (b)   Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)   Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

 

24.

Dysgu Cyfunol pdf icon PDF 92 KB

Darparu trosolwg o waith ysgolion, GwE a'r Portffolio i gynnal darpariaeth addysgol o safon yn ystod y pandemig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Jane Borthwick i’r cyfarfod. Mae hi ar secondiad gyda’r portffolio Addysg i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i ymgymryd â rôl Prif Ymgynghorydd Dysgu. Fe groesawodd David Edwards a Martyn Froggett o GwE i’r cyfarfod hefyd.

 

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad dysgu cyfunol, gan ddweud bod pandemig Covid-19 wedi cyflymu’r broses o gyflwyno dull dysgu cyfunol yn ysgolion Sir y Fflint. Cafwyd trosolwg yn yr adroddiad o gynnydd dysgu cyfunol, ac yn atodiadau’r adroddiad ceir amlinelliad o arferion da ar draws ysgolion Sir y Fflint.

 

            Roedd y Prif Swyddog yn gwerthfawrogi’n fawr y gefnogaeth a ddarparwyd i staff a dysgwyr gan Wasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) gan alluogi staff yn yr ysgolion i wella eu sgiliau digidol, eu gwybodaeth o’r ffyrdd gwahanol y gellir cyflwyno dysgu ac amrywiaeth y platfformau dysgu sydd ar gael. Yn yr adroddiad, rhoddwyd trosolwg o sut mae’r dull yma wedi datblygu ers mis Mawrth 2020 a’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y buddsoddiad sylweddol o £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru (LlC) trwy’r Rhaglen Hwb a’r gefnogaeth a roddwyd i ddysgwyr oedd heb declynnau electronig neu fand eang trwy’r Hwb a’r Cyngor i’w galluogi i gael gafael ar yr hyn sydd ar-lein.

 

            Cafwyd cyflwyniad manwl yn trafod y meysydd canlynol gan David Edwards a Martyn Froggett:       

·         Dysgu Cyfunol

·         Pam canolbwyntio ar Ddysgu Cyfunol r?an?

·         Beth yw Dysgu Cyfunol?

·         Y pedwar egwyddor

·         Yn ymarferol, beth mae Dysgu Cyfunol yn ei olygu?

·         Y camau nesaf

·         Dysgu Cyfunol mewn ysgolion uwchradd

·         Cynllunio ar gyfer dysgu cyfunol

·         Cynnydd hyd yn hyn

 

            Cytunwyd y byddai copi o sleidiau’r cyflwyniad yn cael eu dosbarthu i aelodau’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod. 

 

            Diolchodd y Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor i David Edwards a Martyn Froggett am y gwaith roeddynt wedi’i wneud yn cefnogi ysgolion yn ystod y sefyllfa o argyfwng, ac fe wnaethant longyfarch staff yr ysgolion am eu gwaith caled yn wynebu’r her.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie i’r swyddogion am y cyflwyniad a’r adroddiad. Fe soniodd am arolwg Estyn o sut mae ysgolion ac awdurdodau lleol wedi bod yn cefnogi dysgwyr yn ystod y sefyllfa o argyfwng, a gofynnodd bod yr adborth gan Estyn yn cael ei rannu gyda'r Pwyllgor. Fe soniodd hefyd am y pryder am blant nad oedd â mynediad at fand eang neu declynnau digidol a’r effaith negyddol y byddai hyn yn ei gael ar eu haddysg. Cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’r llythyr adborth ffurfiol am ddysgu cyfunol gan Estyn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y flwyddyn newydd.

 

            Gan ymateb i’r pryderon yngl?n â thrafferthion dysgwyr i gael gafael ar wasanaethau addysg, dywedodd y Prif Ymgynghorydd Dysgu bod gwaith yn mynd rhagddo i gynnal asesiad i ganfod y lefelau o fynediad at declynnau a band eang ar gyfer dysgwyr ar draws Sir y Fflint.  Gellir cyflwyno canlyniad yr asesiad yma i’r Pwyllgor yn nes ymlaen, fel rhan o’r adroddiad diweddaru am Raglen Ddigidol Hwb Cymru. Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod nifer fawr  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

Dysgu Oedolion yn y Gymuned pdf icon PDF 108 KB

Ystyried dull newydd o weithio ar, a darparu cyfrifoldebau statudol ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i roi trosolwg i’r Pwyllgor o sut roedd cyllid ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn newid yn Sir y Fflint. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â ffurfio Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar y cyd rhwng Sir y Fflint a Wrecsam a fyddai'n goruchwylio ac yn rheoli Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar draws ardal y ddau Gyngor.

 

            Roedd Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am oruchwylio Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Sir y Fflint ac am weinyddu’r Grant Dysgu Cymunedol ac am sicrhau bod partneriaid yn cydweithio’n effeithiol i gyflwyno darpariaeth o ansawdd uchel i ddysgwyr.  Roedd angen Cynllun Cyflawni ar gyfer y canllawiau newydd i gyflwyno darpariaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned ar gyfer 2020/21 ymlaen, oedd yn amlinellu’r holl arian Grant Dysgu Cymunedol o 1 Medi 2020. Roedd Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Chynghorau yn ystod y cyfnod pontio, gan ystyried cyflwyno’r model cyllid newydd a’r heriau sylweddol y mae’r sefyllfa o argyfwng wedi’u cyflwyno.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog bod Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam wedi gweithredu partneriaethau gwahanol yn sgil y gwahaniaeth sylweddol yn y dyraniadau cyllid o Grant Dysgu Cymunedol Llywodraeth Cymru. Byddai’r newidiadau i gyllid yn rhoi cyfle i gyfuno’r ddwy bartneriaeth, a oedd ar y cyfan, yn cynnwys yr un partneriaid cyflawni. Y cynigion oedd ffurfio partneriaeth ar y cyd o 1 Ebrill 2021 a fyddai’n goruchwylio ansawdd, cwricwlwm, diogelu, hunanwerthusiad a chanlyniadau ar gyfer dysgwyr. Roedd LlC yn cefnogi’r cynnig i gyfuno’r ddwy bartneriaeth, a byddai hyn yn galluogi penderfyniadau strategol a gweithredol mwy effeithiol tra’n gwneud y mwyaf o gyllid ar gyfer pob ardal.        

 

            Gofynnodd Mr David Hytch am wybodaeth ar beth oedd y meini prawf ar gyfer Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac a oedd hyn yn gysylltiedig â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r gofyniad i gynorthwyo pobl hyd at 25 oed. Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd Dysgu Oedolion yn y Gymuned wedi’i gysylltu’n benodol i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a bod cyllid grant wedi bod yn ei le ers peth amser, ond ni fu Sir y Fflint yn fuddiolwr cadarnhaol yn y gorffennol. Fe fyddai yna gyfle i edrych ar adnoddau i gefnogi nifer sylweddol o ddysgwyr ac roedd cydleoli’r Uned Cyfeirio Disgyblion yn fanteisiol iawn i nifer o’r dysgwyr trwy wella’r ddarpariaeth oedd ar gael. Fe fyddai’n gallu derbyn y dysgwyr hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a darparu cyswllt i Ymddiriedolaeth Gymunedol Glannau Dyfrdwy i gefnogi oedolion gyda’u sgiliau Saesneg a Llythrennedd Digidol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu cylch gwaith penodol er mwyn defnyddio’r cyllid, ond byddai’r effaith ar y gymuned yn sylweddol. Cytunwyd y byddai’r wybodaeth am beth oedd y meini prawf er mwyn cael gafael ar Ddysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

            Siaradodd y Cadeirydd am amrywiaeth o gyrsiau oedd ar gael yn y gymuned yn flaenorol a fu’n boblogaidd ymysg pobl h?n, ac ar ôl  ...  view the full Cofnodion text for item 25.

26.

Diweddariad Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 94 KB

Darparugoruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr wybodaeth ddiweddaraf am y gofrestr risg a chamau lliniaru risg, fel y dangosir yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad.

 

            Rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad am yr amcanion adferiad ar gyfer portffolio’r gwasanaeth, fel y manylir yn yr adroddiad. Fe gadarnhaodd bod prif wasanaethau yn parhau i gefnogi ysgolion sy’n gweithio o fewn yr asesiadau risg a rhoddodd ddiweddariad am y Gwasanaeth Archifau ar y Cyd a’r newyddion diweddaraf am archif ar-lein.  

 

            Fe soniodd Mr David Hytch am fynediad at wasanaeth cynghori Llywodraethwyr Cymru i bob ysgol a oedd yn amhrisiadwy, ac oedd yn cael ei werthfawrogi, gyda’r cyngor ar gael yn hawdd. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Ian Smith.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Gofrestr Risg wedi’i diweddaru a’r Camau Lliniaru Risg, fel yr oeddent yn yr adroddiad.

27.

Dangosyddion Perfformiad Hanner Blwyddyn ar gyfer Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus, Portffolio ac Adfer. pdf icon PDF 111 KB

Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i gyflwyno crynodeb o berfformiad canol blwyddyn sy’n berthnasol i’r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd a oedd yn tan-berfformio.

 

Tynnodd y Prif Swyddog sylw’r Pwyllgor at y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid sydd wedi wynebu heriau sylweddol yn ystod y sefyllfa o argyfwng, ac maent wedi ateb yr her wrth ddod o hyd i ffyrdd creadigol o ymgysylltu â phobl ifanc. Fe ddywedodd hefyd bod y swydd Cydlynydd Addysg wedi cael ei llenwi ac y byddai hyn yn rhoi mwy o gapasiti i weithio gyda phobl ifanc wrth ariannu llwybrau priodol at addysg a gwaith.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie yngl?n â’r nifer o ddarparwyr gofal plant, rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd am y nifer o ddarparwyr gofal plant yn Sir y Fflint ac amlinellodd y cynllun grant sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu gan y Cyngor i ddarparwyr gofal plant yn ystod y sefyllfa o argyfwng.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin yr argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan Mrs Lynn Bartlett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

 

28.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 15 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

 

29.

Aura Cynllun Adfer Busnes

Rhoi adroddiad ar y Cynllun Parhad Busnes ar gyfer Aura.

Cofnodion:

            Cafwyd cyflwyniad manwl gan Rheolwr Gyfarwyddwr Aura yn trafod y meysydd canlynol:-

 

·         Cynllun Adfer:Cam 1

Ø  Lleihau costau

·         Cynllun Adfer:Cam 2

Ø  Ailagor llyfrgelloedd

Ø  Ailagor canolfannau hamdden

Ø  Gweithwyr Aura

Ø  Arolwg gweithwyr

Ø  Paratoi ar gyfer y ‘Normal Newydd’

·         Effaith ariannol Covid-19

 

            Cafwyd canmoliaeth gan y Cynghorydd Dave Mackie am y modd y mae Aura wedi addasu yn ystod y sefyllfa o argyfwng ac roedd yn teimlo’n hyderus y byddai aelodau o’r cyhoedd yn teimlo’n ddiogel yn dychwelyd i Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy pan fydd hynny’n bosibl, oherwydd y mesurau roedd yr holl staff yn eu cymryd i sicrhau eu diogelwch.

 

            Gan ymateb i gwestiwn yn ymwneud â chost ailddatblygu Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr nad oedd y costau’n hysbys ar hyn o bryd.  Nid oedd modd iddynt gael mynediad i’r safle gan ei fod yn cael ei ddefnyddio fel ysbyty cymunedol.

 

            Gan ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Tudor Jones, cytunodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y byddai angen cefnogaeth ariannol ychwanegol parhaus gan Lywodraeth Cymru.

 

            Fe awgrymodd y Cynghorydd Janet Axworthy y dylid anfon llythyr at gydweithwyr AURA gan y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor, yn diolch iddynt am eu gwaith, eu hymroddiad a’u mentergarwch trwy gydol y sefyllfa o argyfwng. Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Ian Smith. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)   Bod y Pwyllgor yn nodi’r heriau masnachu a gweithredu roedd Covid-19 wedi’u cyflwyno a’r heriau a gyflwynwyd mewn cysylltiad â pharhau â’r lefel bresennol o gyflwyno gwasanaeth ar ôl mis Mawrth 2021; a

 

 (b)   Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu llythyr at gydweithwyr AURA ar ran y Pwyllgor, yn diolch iddynt am eu gwaith, eu hymroddiad a’u mentergarwch trwy gydol y sefyllfa o argyfwng.

 

 

AELODAU O’R WASG YN BRESENNOL

         

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.

 

 (Dechreuodd y cyfarfod am 2pm a daeth i ben am 4.12pm)

 

…………………………

Y Cadeirydd