Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Attendance Meeting

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

30.

Y CYNGHORYDD KEVIN HUGHES

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd arwain y Pwyllgor mewn teyrnged dawel i’r Cynghorydd Kevin Hughes a oedd wedi marw.

 

            Siaradodd y Cynghorydd Tudor Jones am ei gyfeillgarwch gyda’r Cynghorydd Kevin Hughes a’i nifer o gyflawniadau mewn cyfnod byr fel Cynghorydd Sir, yn enwedig ei ymgyrch o ran sicrhau bod cynnyrch glanweithiol rhad ac am ddim ar gael mewn ysgolion.  Soniodd am ei neges olaf a oedd yn erfyn ar bobl ar draws Sir y Fflint i aros yn ddiogel a dywedodd fod y neges hon yn bwerus iawn a byddai’n hiraethu’n fawr amdano.  

 

            Siaradodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ar ran yr holl swyddogion yn y portffolio Addysg a oedd i gyd yn hynod o drist wrth glywed y newyddion trist bod y Cynghorydd Kevin Hughes wedi marw. Dywedodd ei fod wedi bod yn ddylanwadol iawn ar y Pwyllgor a chanmolodd ei egni, brwdfrydedd a chreadigrwydd.Dywedodd ei bod wedi bod yn bleser gweithio gydag ef dros y blynyddoedd ac y byddai’r swyddogion i gyd yn ei golli’n fawr a’u bod wedi bod yn ddiolchgar iawn am ei gefnogaeth.

 

            Dywedodd Mr. David Hytch fod y Cynghorydd Kevin Hughes wedi bod yn ased mawr i’r Pwyllgor a soniodd am ei gyfraniadau rhagweithiol ac fel yr oedd bob amser mor gadarnhaol. Dywedodd y byddai’n golled fawr i’r Cyngor Sir, y gymuned yr oedd yn ei chynrychioli, ond yn bennaf oll, i’w deulu.

 

            Siaradodd y Cadeirydd i gefnogi’r sylwadau blaenorol i gyd a dywedodd fod y Cynghorydd Kevin Hughes wedi bod yn Aelod gwych o’r Pwyllgor. Roedd yn cofio’r Pwyllgor yn ystyried goblygiadau cyfryngau cymdeithasol ar blant ysgol ac roedd y Cynghorydd Hughes wedi trefnu ymweliad safle iddo ef a’r Prif Swyddog er mwyn galluogi ymgysylltu â phlant ysgol.  Yna roedd y Cynghorydd Hughes wedi paratoi erthygl i’r wasg i amlygu pwysigrwydd cadw plant yn ddiogel ar gyfryngau cymdeithasol, ond ni soniodd am ei ran yn hyn, a oedd yn dangos ei natur anhunanol a’i awydd i ddiogelu plant. 

31.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Datganodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Gladys Healey a’r Cynghorydd Tudor Jones gysylltiad personol ag eitem rhif 6 ar y rhaglen – Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Foderneiddio Ysgolion.

 

32.

Cofnodion pdf icon PDF 125 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 17 Rhagfyr 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2020.

 

Cynigodd y Cynghorydd Bob Connah y dylid cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir ac y dylai’r Cadeirydd eu llofnodi.Gwnaeth Joe Johnson eilio’r cynnig.            

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

33.

Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddrafft a dywedodd y byddai adborth ffurfiol gan Estyn am Ddysgu Cyfunol yn cael ei gynnwys fel rhan o adroddiad hunanwerthuso’r Gwasanaethau Addysg, i gael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf. Tynnodd sylw’r Aelodau at adroddiadau a fyddai’n cael eu cyflwyno i gyfarfod ar y cyd o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 17 Mehefin, a dywedodd fod adroddiad ar Asesu Dwys a Chefnogaeth Therapiwtig, fel a awgrymwyd gan y Cynghorydd Mackie, wedi’i ychwanegu. 

 

O ran olrhain camau gweithredu, roedd mwyafrif y camau gweithredu wedi’u cwblhau, gyda gwybodaeth gan TG am gyllid gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer dysgu digidol, yn aros i gael ei darparu i’r Pwyllgor.

 

            Diolchodd Mr David Hytch i’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) am y wybodaeth a ddosbarthwyd am Ddysgu Oedolion yn y Gymuned, ond eglurodd fod ei gwestiwn penodol yn ystod y cyfarfod diwethaf wedi bod o ran sut byddai cleientiaid posibl yn cael eu nodi.  Dywedodd y Prif Swyddog y byddai cyrsiau’n cael eu hysbysebu’n ehangach oherwydd cynnydd o ran cyllid a gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Wrecsam ac Ymddiriedolaeth Gymunedol Glannau Dyfrdwy, gydag amrywiaeth helaeth o raglenni ar gael i bawb dros 19 oed.  Byddai cyrsiau’n cael eu hysbysebu i ddysgwyr wneud cais amdanynt, ond hefyd gallai partneriaid cymunedol gyfeirio neu atgyfeirio – fel Coleg Cambria a Chymunedau am Waith, a oedd yn cael eu cynrychioli ar y bartneriaeth.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

(b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac

(c)     Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

34.

Y diweddaraf am Wella Ysgolion ac Arholiadau 2021 pdf icon PDF 132 KB

Pwrpas:        I ystyried y diweddaraf am Wella Ysgolion a chynigion ar gyfer arholiadau yn 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad Diweddaru Gwella Ysgolion ac Arholiadau 2021 a chroesawodd y swyddogion GwE canlynol i’r cyfarfod, a fyddai’n cynorthwyo i gyflwyno’r adroddiad:-

 

  • Mr. Martyn Froggett, Arweinydd Craidd Uwchradd Sir y Fflint
  • Mr. David Edwards, Arweinydd Craidd Cynradd Sir y Fflint
  • Mrs. Gaynor Murphy, Ymgynghorydd Gwella Uwchradd 
  • Mrs. Vicky Lees, Ymgynghorydd Gwella Cynradd

 

Soniodd y Prif Swyddog am yr adroddiad Dysgu Cyfunol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr ac eglurodd fod yr adroddiad hwn yn rhoi trosolwg ehangach o’r gefnogaeth roedd y gwasanaeth rhanbarthol wedi’i darparu i bob awdurdod lleol yn ystod y sefyllfa argyfwng. Roedd y canolbwynt wedi bod ar les dysgwyr, cymunedau ysgol a staff, a oedd wedi helpu i lunio a chynnal y canolbwynt ar welliant ysgol ym mhob ysgol wrth ddarparu cefnogaeth yn ystod y pandemig.  

 

Rhoddodd y Prif Swyddog drosolwg o’r gefnogaeth a ddarparwyd ar gyfer sgiliau craidd llythrennedd a rhifedd a’r cynllun datblygu proffesiynol a ddarparwyd gan GwE er mwyn i athrawon a chymorthyddion dosbarth sicrhau dysgu o safon yn yr ystafell ddosbarth neu drwy ddysgu digidol o bell.  

 

Cafwyd cyflwyniad manwl am y Rhaglen Dysgu Carlam, a oedd yn trafod y meysydd canlynol:-

 

  • Cyd-destun - llythrennedd a rhifedd, darparu a chynnal addysgu o ansawdd uchel ar draws y cwricwlwm gydag ymyriadau strwythuredig, o ansawdd uchel wedi’u targedu;
  • Cyflymu’r dysgu;
  • Cynradd – enghreifftiau o ddilyniannau dysgu, adolygiadau tystiolaeth a strategaethau addysgu a dysgu;
  • Cyflymu’r dysgu yn y Sector Uwchradd;
  • Pecyn Gwaith Llythrennedd;
  • Cynnig Llythrennedd wedi’i Dargedu;
  • TGAU Saesneg Iaith – Casgliadau, Cyflymu;
  • Mathemateg GwE;
  • Effaith

 

Gan ymateb i sylw gan y Cynghorydd Ian Smith, cytunwyd bod copi print mwy o’r model sgiliau carlam, a ddangoswyd fel rhan o’r cyflwyniad, yn cael ei ddosbarthu i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

            Diolchodd Mr David Hytch i swyddogion am yr adroddiad a’r cyflwyniad, roedd yn teimlo eu bod yn llawn gwybodaeth a soniodd am gydlynu a chydweithredu cadarnhaol rhwng yr awdurdod lleol, ysgolion a GwE. Soniodd am yr ymatebion i arolygon unigol, fel a ddangoswyd yn yr atodiad i’r adroddiad, a holodd a oedd hyn yn ymwneud â Chymru gyfan yn hytrach na dim ond Sir y Fflint, ac awgrymodd y dylid amlygu yn yr adroddiad fod lles disgyblion a staff o’r flaenoriaeth uchaf. Soniodd hefyd am y straen enfawr roedd ysgolion yn ei deimlo o ran sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng gwelliant ysgol a blaenoriaethu lles staff a dysgwyr, fel a nodwyd yn yr adroddiad, ac er ei fod yn croesawu’r ffaith fod ymgynghorwyr yn ceisio gwirio ansawdd dysgu, dan yr amgylchiadau, roedd yn gobeithio y byddai’r pwysau sydd ar ysgolion yn cael ei ystyried. Dywedodd y Prif Swyddog nad eu bwriad oedd rhoi pwysau ychwanegol ar ysgolion, ond roedd gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb dros safonau mewn ysgolion ac roeddent yn ymgysylltu’n rheolaidd gydag Estyn. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau nad oedd pwysau ychwanegol yn cael ei roi ar ysgolion, roedd yn achos o fonitro’r sefyllfa ac addasu cefnogaeth yn unol â hynny.  

 

            Eglurodd Mr. Froggett nad oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 34.

35.

Diweddariad Moderneiddio Ysgolion pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion) yr adroddiad a oedd yn amlinellu cynnydd y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ar draws nifer eang o brosiectau. Er bod heriau sylweddol wedi bod o ganlyniad i’r sefyllfa argyfwng, roedd y Tîm Moderneiddio Ysgolion wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran y Rhaglen ac roeddent wedi cynnal a darparu o fewn terfynau amser a ragwelwyd, trwy addasu dulliau gweithio.

 

            Rhoddodd yr Uwch Reolwr y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau penodol yn y Rhaglen, fel a amlinellir yn yr adroddiad. 

 

            Soniodd y Cynghorydd Tudor Jones am y cynnig i sefydlu ffederasiwn rhwng ysgol gynradd wirfoddol a gynorthwyir, Ysgol yr Esgob ac ysgol gynradd wirfoddol a gynorthwyir, Ysgol Licswm, a dywedodd fod y cydweithredu rhwng y ddwy ysgol wedi bod yn gadarnhaol iawn. Soniodd hefyd am y cynnig gofal plant yn y ddwy ysgol a diolchodd i’r Uwch Reolwr am ei gefnogaeth o ran sicrhau bod hyn wedi’i gynnwys fel rhan o’r prosiect.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dave Mackie a fyddai prosiectau ychwanegol yn cael eu hystyried ar ôl cwblhau Band A a B o’r Rhaglen, a gofynnodd hefyd a ellid darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr Ysgol Uwchradd yn Saltney. Gofynnodd hefyd a ellid darparu eglurhad i’r Pwyllgor o ran cyllid MIM. Eglurodd yr Uwch Reolwr fod MIM yn fodel newydd o’r Bartneriaeth Cyhoeddus-Preifat a bod WEPCo yn is-gwmni Banc Datblygu Cymru a’i fod mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru (LlC) hefyd.  Y gyfradd ymyrraeth ganrannol drosfwaol roedd yr awdurdod yn ei chael o hyn oedd 81%. Cadarnhaodd fod hwn yn fodel gwell na’r model traddodiadol lle roedd ysgolion yn cael eu hadeiladu gyda llawer o arian, ac wedyn nid oedd digon o arian i gynnal yr adeiladau.  Roedd y model hwn yn darparu cylch oes 25 mlynedd i’r adeilad, felly pan fyddai’r adeilad yn cael ei drosglwyddo’n ôl i’r awdurdod lleol, roedd mewn cyflwr gwych heb unrhyw broblemau cynnal a chadw.  Dywedodd hefyd y byddai Rhaglen Band C yn dechrau yn 2025, ac roedd gwaith cynllunio wedi dechrau eisoes. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod gwaith yn mynd rhagddo ar baratoi ar gyfer ymgynghori ar gynigion ar gyfer yr Ysgol Uwchradd yn Saltney, a oedd wedi bod yn anodd oherwydd y sefyllfa argyfwng. Roedd awgrymiadau’n cael eu hystyried o ran darparu’r ddogfen ymgynghori’n electronig i sicrhau lefel uchel o ymgysylltiad. Rhoddodd sicrwydd i Aelodau fod y prosiect hwn yn dal i fod yn flaenoriaeth uchel. 

 

Gan ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Patrick Heesom, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr awdurdod lleol wedi buddsoddi’n sylweddol mewn ysgolion yng ngorllewin Sir y Fflint, a rhoddodd amlinelliad o brosiectau diweddar.

 

Diolchodd Mrs. Wendy White i’r Uwch Reolwr a’i Dîm am ei gefnogaeth. Soniodd am yr angen i ysgolion Catholig ddarparu cyllid 15% fel rhan o brosiect a mynegodd bryderon nad oedd hyn yn bosibl i ysgolion bach. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru (LlC) yn cael eu lobïo ar hyn o bryd i ailystyried hyn wrth symud ymlaen er mwyn sicrhau nad oedd ysgolion wedi’u gadael allan oherwydd y diffyg  ...  view the full Cofnodion text for item 35.

36.

Gwersi Covid y mae Ysgolion wedi'u Dysgu ac Asesiadau Risg pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        I ystyried y gwersi y mae ysgolion wedi’u dysgu yn ystod y sefyllfa argyfyngus, a’r asesiadau risg sy’n cael eu cwblhau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad a diolchodd i’r Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol a’r Tîm Iechyd a Diogelwch am y gefnogaeth a ddarparwyd i ysgolion yn ystod y sefyllfa argyfwng. Amlinellodd y newidiadau a oedd wedi’u cyflwyno o ran asesiadau risg a rhoddodd sicrwydd i Aelodau fod ysgolion yn gweithio’n ddiogel ac yn monitro’r sefyllfa’n barhaus. 

 

            Adroddodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol am y cyngor a chymorth a ddarparwyd i Ysgolion a dywedodd bod pob asesiad risg ysgol wedi’i adolygu ddwywaith a bod adborth ac argymhellion clir wedi’u darparu lle bo angen.  Yn dilyn yr adolygiad o asesiadau risg ysgolion ar ddiwedd tymor yr hydref, roedd y Tîm Iechyd a Diogelwch wedi cynhyrchu adroddiad a oedd yn crynhoi’r gwersi allweddol a ddysgwyd.  Roedd hyn wedi’i rannu gyda phob ysgol i sicrhau gwelliant parhaus o’r broses asesu risg. Roedd manylion am y gwersi a ddysgwyd wedi’u hamlinellu yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

            Diolchodd Mr. David Hytch i’r Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol am y gefnogaeth a ddarparwyd i ysgolion yn ystod y sefyllfa argyfwng. Soniodd am y ddogfen gwersi a ddysgwyd yn Atodiad 1 a gofynnodd a oedd yn briodol i lywodraethwyr ysgol gynnal archwiliadau diogelwch o eiddo ysgol a mynegodd bryderon am y risgiau iddynt. Cytunodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol fod hyn yn anodd ar hyn o bryd a bod y Tîm Iechyd a Diogelwch yn cyfyngu ar nifer eu harchwiliadau ar hyn o bryd hefyd. Er ei bod yn anodd cynnal archwiliadau ffisegol, gallai llywodraethwyr adolygu dogfennau a chynnal trafodaethau gyda staff yn lle hynny, er mwyn canfod a oedd pethau’n gweithio ai peidio.  Eglurodd y Prif Swyddog fod hwn yn argymhelliad nid cyfarwyddeb, a byddai’n digwydd dim ond os oedd yr unigolyn yn fodlon ymweld ag eiddo’r ysgol a’i bod yn ddiogel gwneud hynny. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.             

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Bod y Pwyllgor yn croesawu’r sicrwydd a ddarparwyd bod gan ysgolion asesiadau risg cadarn ar waith a mesurau rheoli effeithiol er mwyn cynnal amgylchedd ysgol diogel; a

 

(b)     Bod y Pwyllgor yn cydnabod gwaith y Tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol o ran cefnogi ysgolion yn ystod y pandemig a nodi’r gwersi a ddysgwyd hyd yma.

37.

Cynllun y Cyngor 2020/21 pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Ystyried Cynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2020/21 gan ganolbwyntio’n bennaf ar bortffolio(s) priodol y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i ystyried Cynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2021/22 gan ganolbwyntio’n bennaf ar bortffolio priodol y Pwyllgor.  Darparodd wybodaeth gefndir a rhoddodd grynodeb byr o’r Cynllun, gyda chanolbwynt penodol ar:-

 

·         Cwricwlwm Cymru newydd;

·         Gwaith parhaus i godi safonau a chyflawniad i bobl ifanc;

·         Darpariaeth y Gwasanaeth Ieuenctid;

·         Gwasanaeth Hamdden a Llyfrgelloedd Aura;

·         Prosiect Archifau;

·         Anghenion Dysgu Ychwanegol; a

·         Strategaeth Cyfrwng Cymraeg

 

Gwahoddodd y Prif Swyddog yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol i amlinellu cynnwys y cynllun drafft a’r broses ar gyfer datblygu pellach. Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol wrth y Pwyllgor fod nifer o elfennau yn y cynllun wedi’u hadolygu. Rhoddodd wybodaeth am y gwaith partneriaeth ar draws portffolios a dywedodd y byddai hyn yn cael ei rannu gyda phob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu er mwyn cael eu hadborth. Yna byddai’r cynllun drafft terfynol gan gynnwys adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, y Cabinet a’r Cyngor. Ychwanegodd, o ran monitro’r Cynllun, y nod oedd gallu dangos effaith fel awdurdod mewn modd strategol, a bod y Cynllun yn uchelgeisiol ond yn realistig gan ystyried yr amgylchiadau presennol. 

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Patrick Heesom, dywedodd y Prif Swyddog fod y ddogfen cais crynodeb ar gyfer y Prosiect Archifau yn gyfrinachol a thynnodd ei sylw at nifer o adroddiadau a oedd wedi’u cyflwyno i’r Cabinet ac a oedd ar gael i’w gweld.  

 

Rhoddodd Mr. David Hytch longyfarchiadau i’r awdurdod lleol am Gynllun y Cyngor uchelgeisiol a chymeradwyodd y sylwadau a wnaed gan y Prif Swyddog. Rhoddodd sylwadau am elfen ‘Cyngor Gwyrdd’ y Cynllun a dywedodd fod 97% o ddolydd blodau gwyllt wedi’u colli’n genedlaethol. Dywedodd fod y Swyddog Bioamrywiaeth yn ymwybodol o ymgyrch genedlaethol i gynnal amrywiaeth fotanegol a gofynnol a fyddai cynnwys rheoli creadigol o ran ymylon ochr ffyrdd er mwyn cynyddu amrywiaeth fotanegol, yn yr ardal flaenoriaeth hon, yn ddefnyddiol o ran cynyddu uchelgeisiau’r Swyddog Bioamrywiaeth.

 

Croesawodd y Cadeirydd y ddogfen gadarnhaol ac awgrymodd fod Cynghorwyr yn cael eu hannog i amlygu rhannau o Gynllun y Cyngor yn eu newyddlenni lleol i breswylwyr Sir y Fflint.  Awgrymodd fod lles holl staff y Cyngor yn cael ei amlygu fel amcan, gyda nodau wedi’u gosod o ran beth hoffai’r Cyngor ei gyflawni. Rhoddodd sylwadau hefyd am yr heriau i gymunedau gwledig a dywedodd yr hoffai weld pwyslais cryfach ar sut roedd y Cyngor yn mynd i’r afael â’r heriau roedd cymunedau gwledig yn eu hwynebu. 

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod llawer iawn o waith wedi’i wneud i sicrhau lles staff a bod hon yn broses fewnol, tra roedd Cynllun y Cyngor yn ddogfen allanol i gyflwyno blaenoriaethau’r Cyngor i holl breswylwyr Sir y Fflint. Cytunodd Swyddogion i adrodd yn ôl o ran y sylwadau ac amlygu meysydd yng Nghynllun y Cyngor lle byddai blaenoriaethau’n cynorthwyo cymunedau gwledig.             

 

Cynigiodd y Cynghorydd Janet Axworthy yr argymhelliad a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Tudor Jones. 

              

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn  ...  view the full Cofnodion text for item 37.

38.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.

 

 

 (Dechreuodd y cyfarfod am 2pm a daeth i ben am 4.54pm)

 

 

 

 

…………………………

Y Cadeirydd