Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Attendance Meeting

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor mai Gr?p Llafur a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor hwn.  Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd David Healey yw Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn ddinesig hon.

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Llafur.    Cafodd y Pwyllgor wybod fod y Cynghorydd David Healey wedi cael ei benodi i’r rôl ar gyfer blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penodiad y Cynghorydd David Healey fel Cadeirydd y Pwyllgor.

 

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Martin White Mr David Hytch fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan Mrs. Lynn Bartlett. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill. O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi Mr David Hytch yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 30 Ionawr 2020.

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2020.

 

Materion sy'n codi

 

            Tudalen 3 – Cyfeiriodd Mr David Hytch at ei sylwadau, a gofynnodd eu bod yn cael eu newid i ddarllen “cyfeiriodd Mr Hytch at y graff yr oedd yn teimlo oedd yn agored i gamddehongliad”

             

            Cynigodd y Cynghorydd Dave Mackie, yn amodol ar y diwygiadau uchod, y dylid cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir ac y dylai’r Cadeirydd eu llofnodi. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwywyd y cofnodion fel cofnod cywir a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.

 

5.

Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar)

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

Cofnodion:

Fe eglurodd y Prif Weithredwr fod y sefyllfa bresennol yn un ansefydlog. Byddai ef a’r Uwch Swyddogion yn sicrhau bod Aelodau yn cael diweddariad byr ar lafar ar ddechrau cyfarfodydd. Dywedodd hefyd y gallai fod yn angenrheidiol ailgyflwyno’r briff ar y sefyllfa, a roddwyd i Aelodau yn ystod chwe mis cyntaf yr argyfwng.

 

            Canmolodd y Cadeirydd y Prif Weithredwr a Swyddogion y Cyngor am eu gwaith caled mewn amgylchiadau heriol iawn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad ar lafar.

 

6.

Cylch Gorchwyl y Pwyllgor pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Cael cylch gorchwyl y Pwyllgor newydd fel a gytunwyd gan y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Hwylusydd Pwyllgor Craffu a Throsolwg yr adroddiad i dderbyn cylch gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor fel y cytunwyd gan y Cyngor. Yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor, penodwyd Cadeiryddion i’r pump Pwyllgor Trosolwg a Chraffu o fewn y strwythur newydd gyda chylch gorchwyl diwygiedig. Roedd newidiadau i gylch gwaith y Pwyllgor hwn yn cynnwys ychwanegu Llyfrgelloedd, Diwylliant a Threftadaeth (yn cynnwys Archifau ac Amgueddfeydd), Gwasanaethau Hamdden (yn cynnwys canolfannau hamdden a chwaraeon, pyllau nofio a chyfleusterau hamdden), Theatr Clwyd ac Aura (yn cynnwys Canolfan Hamdden Treffynnon a Cambrian Aquatics). 

 

Cynigiodd y Cynghorydd David Hytch yr argymhelliad a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Martin White. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cylch gorchwyl, fel y cytunwyd arno gan y Cyngor ac sydd yn atodiad i’r adroddiad, yn cael ei nodi.

 

7.

Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg i’r Pwyllgor o gynllunio adferiad ar gyfer ei feysydd portffolio yn rhan o’r strategaeth er mwyn ailgychwyn y broses lywodraethu ddemocrataidd llawn.  Byddai adborth o bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am y cofrestrau risg, y blaenoriaethau adferiad a thargedau dangosydd perfformiad diwygiedig ar gyfer eu meysydd yn cael eu hadrodd i’r Cabinet cyn cyhoeddi Strategaeth Adferiad lawn.

 

Cafwyd cyflwyniad oedd yn dangos y trosglwyddiad o ymateb i adferiad am y pwyntiau canlynol:

 

·         Argymhellion gan y Cabinet

·         Amcanion y Strategaeth Adferiad

·         Amcanion yr Ymateb

·         Enghreifftiau o gyflawniadau lleol wrth Ymateb

·         Adferiad – trefniadau trosglwyddo

·         Strwythurau Adferiad Rhanbarthol a Lleol

·         Amcanion Adferiad - Gwasanaethau

·         Gweithgareddau Adferiad

·         Adferiad Cymunedol

·         Cynllun a Pherfformiad y Cyngor

·         Llywodraethu Adferiad yn Ddemocrataidd

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) gyflwyniad am y gofrestr risg ar gyfer portffolio’r gwasanaeth oedd yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Risgiau Portffolio Addysg ac Ieuenctid

·         Risgiau presennol

·         Risgiau i’r Adferiad

·         Llywodraethu/Cyfreithiol

·         Gweithlu

 

Fe awgrymodd y Prif Weithredwr bod Aelodau yn ystyried risgiau o bryder parhaus a sut orau i’w hadrodd i’r Pwyllgor er mwyn dylanwadu ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol. Rhoddodd y Prif Swyddog ac Uwch Reolwyr drosolwg o’r blaenoriaethau strategol nesaf ar gyfer adferiad a gafodd eu hargymell i’w cynnwys yn y Strategaeth Adferiad. 

 

            Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie i’r Prif Weithredwr, Prif Swyddog ac Uwch Swyddogion am eu sylwadau a chanmolodd y modd y mae’r awdurdod wedi ymateb yn ystod y sefyllfa o argyfwng. Fe soniodd am y cyngor wedi’i dargedu am ddiogelu a roddwyd i benaethiaid gan alluogi iddynt gynnal cyswllt a pherthynas gyda theuluoedd tra bod yr ysgolion ar gau a sicrhau bod atgyfeiriadau yn parhau.  Dywedodd y byddai angen parhau i fonitro’r risg o ran absenoldeb gweithlu er mwyn sicrhau’r effaith lleiaf posib ar ddarparu’r gwasanaeth. Siaradodd nifer o aelodau’r Pwyllgor o blaid sylwadau’r Cynghorydd Mackie.

 

            Wrth siarad i gefnogi sylwadau Cynghorydd Mackie, cymeradwyodd David Hytch ymdrechion yr awdurdod. Fe soniodd am y risg yn ymwneud ag ysgolion uwchradd o beidio bod yn ariannol hyfyw oherwydd cyllid sylfaenol annigonol a gofynnodd a oeddynt yn edrych eto ar y fformiwla rhannu. Er ei fod yn cefnogi hyn, nid oedd yn teimlo y byddai hyn yn cynorthwyo ysgolion yn ddigonol os oedd y gyllideb cychwynnol yn parhau’n isel. Gofynnodd hefyd a fyddai’r dyfarniad cyflog i athrawon yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru a mynegodd bryder am yr effaith ar gyllidebau ysgolion os nad oedd yn dod gan y Llywodraeth.

 

            Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg bod LlC wedi ymrwymo i ariannu rhwng 2-2.5% o ddyfarniad cyflog athrawon. Roedd cyfanswm y cynnydd gyfystyr â 3.1% o gyllid ychwanegol, felly byddai’n rhaid i’r awdurdod ariannu’r gwahaniaeth. Roedd yna bryder yngl?n â chyllid ar gyfer effaith llawn 3.1% ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 os na fyddai’r cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.   

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod dyfarniad cyflog ‘Llyfr Gwyrdd’ y rhai nad ydynt yn athrawon wedi cael ei gynnwys ac roedd yna ddarpariaeth o fewn  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

Recovery Strategy - Presentation slides pdf icon PDF 219 KB