Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote Attendance Meeting
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor mai Gr?p Llafur a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd David Healey yw Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn ddinesig hon. Cofnodion: Dywedodd yr Hwylusydd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Llafur. Cafodd y Pwyllgor wybod fod y Cynghorydd David Healey wedi cael ei benodi i’r rôl ar gyfer blwyddyn y cyngor.
PENDERFYNWYD:
Nodi penodiad y Cynghorydd David Healey fel Cadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd Martin White Mr David Hytch fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan Mrs. Lynn Bartlett. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill. O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.
PENDERFYNWYD:
Penodi Mr David Hytch yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 30 Ionawr 2020. Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2020.
Materion sy'n codi
Tudalen 3 – Cyfeiriodd Mr David Hytch at ei sylwadau, a gofynnodd eu bod yn cael eu newid i ddarllen “cyfeiriodd Mr Hytch at y graff yr oedd yn teimlo oedd yn agored i gamddehongliad”
Cynigodd y Cynghorydd Dave Mackie, yn amodol ar y diwygiadau uchod, y dylid cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir ac y dylai’r Cadeirydd eu llofnodi. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwywyd y cofnodion fel cofnod cywir a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar) Pwrpas: Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth. Cofnodion: Fe eglurodd y Prif Weithredwr fod y sefyllfa bresennol yn un ansefydlog. Byddai ef a’r Uwch Swyddogion yn sicrhau bod Aelodau yn cael diweddariad byr ar lafar ar ddechrau cyfarfodydd. Dywedodd hefyd y gallai fod yn angenrheidiol ailgyflwyno’r briff ar y sefyllfa, a roddwyd i Aelodau yn ystod chwe mis cyntaf yr argyfwng.
Canmolodd y Cadeirydd y Prif Weithredwr a Swyddogion y Cyngor am eu gwaith caled mewn amgylchiadau heriol iawn.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r diweddariad ar lafar.
|
|
Cylch Gorchwyl y Pwyllgor PDF 85 KB Pwrpas: Cael cylch gorchwyl y Pwyllgor newydd fel a gytunwyd gan y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyflwynodd Hwylusydd Pwyllgor Craffu a Throsolwg yr adroddiad i dderbyn cylch gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor fel y cytunwyd gan y Cyngor. Yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor, penodwyd Cadeiryddion i’r pump Pwyllgor Trosolwg a Chraffu o fewn y strwythur newydd gyda chylch gorchwyl diwygiedig. Roedd newidiadau i gylch gwaith y Pwyllgor hwn yn cynnwys ychwanegu Llyfrgelloedd, Diwylliant a Threftadaeth (yn cynnwys Archifau ac Amgueddfeydd), Gwasanaethau Hamdden (yn cynnwys canolfannau hamdden a chwaraeon, pyllau nofio a chyfleusterau hamdden), Theatr Clwyd ac Aura (yn cynnwys Canolfan Hamdden Treffynnon a Cambrian Aquatics).
Cynigiodd y Cynghorydd David Hytch yr argymhelliad a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Martin White.
PENDERFYNWYD:
Bod y cylch gorchwyl, fel y cytunwyd arno gan y Cyngor ac sydd yn atodiad i’r adroddiad, yn cael ei nodi.
|
|
Strategaeth Adferiad PDF 89 KB Pwrpas: Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg i’r Pwyllgor o gynllunio adferiad ar gyfer ei feysydd portffolio yn rhan o’r strategaeth er mwyn ailgychwyn y broses lywodraethu ddemocrataidd llawn. Byddai adborth o bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am y cofrestrau risg, y blaenoriaethau adferiad a thargedau dangosydd perfformiad diwygiedig ar gyfer eu meysydd yn cael eu hadrodd i’r Cabinet cyn cyhoeddi Strategaeth Adferiad lawn.
Cafwyd cyflwyniad oedd yn dangos y trosglwyddiad o ymateb i adferiad am y pwyntiau canlynol:
· Argymhellion gan y Cabinet · Amcanion y Strategaeth Adferiad · Amcanion yr Ymateb · Enghreifftiau o gyflawniadau lleol wrth Ymateb · Adferiad – trefniadau trosglwyddo · Strwythurau Adferiad Rhanbarthol a Lleol · Amcanion Adferiad - Gwasanaethau · Gweithgareddau Adferiad · Adferiad Cymunedol · Cynllun a Pherfformiad y Cyngor · Llywodraethu Adferiad yn Ddemocrataidd
Rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) gyflwyniad am y gofrestr risg ar gyfer portffolio’r gwasanaeth oedd yn ymdrin â’r canlynol:
· Risgiau Portffolio Addysg ac Ieuenctid · Risgiau presennol · Risgiau i’r Adferiad · Llywodraethu/Cyfreithiol · Gweithlu
Fe awgrymodd y Prif Weithredwr bod Aelodau yn ystyried risgiau o bryder parhaus a sut orau i’w hadrodd i’r Pwyllgor er mwyn dylanwadu ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol. Rhoddodd y Prif Swyddog ac Uwch Reolwyr drosolwg o’r blaenoriaethau strategol nesaf ar gyfer adferiad a gafodd eu hargymell i’w cynnwys yn y Strategaeth Adferiad.
Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie i’r Prif Weithredwr, Prif Swyddog ac Uwch Swyddogion am eu sylwadau a chanmolodd y modd y mae’r awdurdod wedi ymateb yn ystod y sefyllfa o argyfwng. Fe soniodd am y cyngor wedi’i dargedu am ddiogelu a roddwyd i benaethiaid gan alluogi iddynt gynnal cyswllt a pherthynas gyda theuluoedd tra bod yr ysgolion ar gau a sicrhau bod atgyfeiriadau yn parhau. Dywedodd y byddai angen parhau i fonitro’r risg o ran absenoldeb gweithlu er mwyn sicrhau’r effaith lleiaf posib ar ddarparu’r gwasanaeth. Siaradodd nifer o aelodau’r Pwyllgor o blaid sylwadau’r Cynghorydd Mackie.
Wrth siarad i gefnogi sylwadau Cynghorydd Mackie, cymeradwyodd David Hytch ymdrechion yr awdurdod. Fe soniodd am y risg yn ymwneud ag ysgolion uwchradd o beidio bod yn ariannol hyfyw oherwydd cyllid sylfaenol annigonol a gofynnodd a oeddynt yn edrych eto ar y fformiwla rhannu. Er ei fod yn cefnogi hyn, nid oedd yn teimlo y byddai hyn yn cynorthwyo ysgolion yn ddigonol os oedd y gyllideb cychwynnol yn parhau’n isel. Gofynnodd hefyd a fyddai’r dyfarniad cyflog i athrawon yn cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru a mynegodd bryder am yr effaith ar gyllidebau ysgolion os nad oedd yn dod gan y Llywodraeth.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg bod LlC wedi ymrwymo i ariannu rhwng 2-2.5% o ddyfarniad cyflog athrawon. Roedd cyfanswm y cynnydd gyfystyr â 3.1% o gyllid ychwanegol, felly byddai’n rhaid i’r awdurdod ariannu’r gwahaniaeth. Roedd yna bryder yngl?n â chyllid ar gyfer effaith llawn 3.1% ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 os na fyddai’r cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod dyfarniad cyflog ‘Llyfr Gwyrdd’ y rhai nad ydynt yn athrawon wedi cael ei gynnwys ac roedd yna ddarpariaeth o fewn ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|