Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst gysylltiad personol ag eitem rhif 5 ar y rhaglen cyllideb cronfa’r Cyngor oherwydd bod ei wraig yn gweithio mewn ysgol gynradd leol.
Datganodd y Cynghorydd Mel Buckley gysylltiad personol ag eitem rhif 5 ar y rhaglen cyllideb cronfa’r Cyngor oherwydd bod ei chwaer yn gweithio mewn ysgol gynradd yn Sir y Fflint. .
|
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 30 Tachwedd 2023.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 30 Tachwedd 2023 Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2023 i’w cymeradwyo.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie ar Adolygiad Ardal Saltney Brychdyn, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Pwyllgor Craffu’n fuan. Eglurwyd bod hyn yn cysylltu â gwaith y rhaglen gyfalaf yn y dyfodol.
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Carolyn Preece a Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2023 a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.
|
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad, amlinellodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr eitemau sydd wedi’u rhestru ar y Rhaglen Waith a oedd ynghlwm yn Atodiad 1. Nid oedd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r Rhaglen Waith.
Esboniwyd, yn dilyn y cyfarfod diwethaf, bod amryw o newidiadau wedi cael eu gwneud i’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu o amgylch materion yn ymwneud â recriwtio a chadw staff, y diwygiad i’r eitemau Anghenion Dysgu Ychwanegol a Mynd i’r Afael ag Effaith Anghydraddoldeb ar Ddeilliannau Addysg. Roedd yr eitem ar Ddemograffeg wedi’i chynnwys fel rhan o’r Adroddiad Blynyddol ar Falansau Ysgol ac roedd y pwrpas yn y Rhaglen Waith wedi cael ei ddiwygio i adlewyrchu hyn. Roedd adroddiad hefyd wedi’i gynnwys yn y Rhaglen Waith ar y Fframwaith Arolygu ar gyfer Ysgolion a fyddai’n cynnwys y fenter Cofia Ceri.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’r Rhaglen Waith yn cael ei diweddaru pan fyddai’r adroddiad o’r Ymgynghoriad Ardal Saltney / Brychdyn yn cael ei gyflwyno yng nghylch y Cabinet.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey yngl?n â Theatr Clwyd, cytunodd y Prif Swyddog i gynnwys diweddariad blynyddol yn y Rhaglen Waith i nodi cyfranogiad pobl ifanc yn y gweithgareddau ac i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaeth Cerdd Sir y Fflint.
Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Carolyn Preece a’u heilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith; (b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a (c) Nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu nad oedd wedi’u cwblhau.
|
|
Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2024/25 PDF 127 KB Adolygu a rhoi sylwadau ar y pwysau cost, y gostyngiadau arfaethedig mewn costau, a'r risgiau cysylltiedig.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai hwn yn cael ei gyflwyno i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer ystyriaeth. Roedd diweddariadau rheolaidd ar gyllideb heriol y Cyngor ar gyfer 2024/25 wedi cael eu darparu i Aelodau ers yr haf diwethaf ac fe gyhoeddwyd setliad Llywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr. Myfyriodd ar gynnydd siomedig y Cyngor o 2.2% o’i gymharu â chyfartaledd Cymru o 3.1% a’r crynodeb o’r prif benawdau a adroddwyd i’r Cabinet ar 16 Ionawr a oedd yn cynnwys y bwlch o £12.946m a oedd yn weddill. O ganlyniad, gofynnwyd i bob portffolio ail-edrych ar ffyrdd posib i leihau cyllidebau neu ddileu pwysau costau er mwyn cyfrannu tuag at gau’r bwlch hwnnw. Roedd yr adroddiad yn darparu manylion am y cynigion ychwanegol ar gyfer y portffolio Addysg ac Ieuenctid a’r cynigion presennol ar gyfer Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion.
Gwnaeth y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) sylw ar y ddwy elfen yr oedd yn rhaid eu hystyried, cyllideb portffolio Addysg ac Ieuenctid a’r Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion, gyda phwynt 1.05 yn yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am y gostyngiadau arfaethedig i’r gyllideb. Diolchodd i’r Uwch Reolwyr am y gwaith yr oeddent wedi’i wneud yn craffu ar bob llinell o’u cyllidebau gan ddweud nad oedd yn hawdd adnabod arbedion effeithlonrwydd tra’n gwarchod uniondeb y gwasanaeth ac yn galluogi’r portffolio i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol. Cyfeiriodd at y sgoriau COG ar gyfer y gwasanaethau hyn ac fe dynnodd sylw at y Gwasanaeth Ieuenctid a oedd â sgôr Oren.
Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau gan y Pwyllgor ar gynigion cyllideb ar gyfer y Portffolio Addysg ac Ieuenctid.
Gostyngiadau i Gyllideb y Portffolio Addysg ac Ieuenctid
Dywedodd y Cynghorydd Parkhurst ei fod yn credu, oherwydd yr anawsterau ariannol a achoswyd i’r Cyngor gan gyllideb Llywodraeth Cymru, y gofynnwyd i bob Portffolio ganfod arbedion o 7.5% er mwyn i Aelodau allu penderfynu pa rai o’r arbedion posibl hynny y gellid eu derbyn neu’u gwrthod ac y byddai gan yr Aelodau ddewis a’r gallu i wneud penderfyniad gwybodus. Dywedodd bod arbedion posibl o £303,000 wedi cael eu nodi o fewn Portffolio Addysg ac Ieuenctid ac eithrio ysgolion, ond nid oedd hyn yn cyfateb i arbediad o 7.5% a gofynnodd i’r Swyddogion egluro hyn. Cyfeiriodd hefyd at y sefyllfa derfynol 8 mis ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, lle bu arbedion o £367,000 a gofynnodd sut yr oedd y swm hwn wedi cael ei ganfod oherwydd bod hyn yn fwy na’r arbedion arfaethedig ar gyfer cyllideb 2024/25.
Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd cyfanswm yr arbedion effeithlonrwydd yn cyfateb i 7.5% o’r gyllideb gyffredinol ar gyfer y Portffolio ond fe esboniodd y gofynnwyd i bob Portffolio ganfod arbedion o hyd at 7.5% a bod hwn yn darged uchelgeisiol. Byddai unrhyw arbedion pellach uwchben y rhai hynny a nodwyd yn peryglu darpariaeth gwasanaethau statudol a gallu’r Cyngor i gyflawni ei swyddogaethau statudol.
O ran y £367,000 o arbedion a nodwyd yn ystod y flwyddyn, dywedodd y Prif Swyddog bod y swm hwn wedi deillio ... view the full Cofnodion text for item 42. |
|
Deilliannau Dysgwyr - Canlyniadau Tgau A Lefel A 2022/23 PDF 135 KB Darparu canlyniadau TGAU a Lefel A Sir y Fflint o haf 2023 i’r Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o ganlyniadau TGAU a Lefel-A 2022/23. Nid oedd wedi bod yn bosibl i gymharu canlyniadau arholiadau gyda blynyddoedd blaenorol oherwydd yr arholiadau amrywiol a oedd wedi cael eu cynnal ers 2019. Darparwyd y wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau dros dro ar gyfer cyfnod allweddol 4 a chyfnod allweddol 5 ac fe eglurwyd, o ganlyniad i’r pandemig, y cafodd graddau eu cadarnhau gan ganolfannau am gyfnod ac fe wnaed addasiad i ffiniau graddau. Yn 2019, penderfynodd Llywodraeth Cymru na fyddai data perfformiad yn cael ei rannu ond dywedodd y gallai rhai prif ddangosyddion o ganlyniadau haf 2023 gael eu gwneud yn gyhoeddus ac roedd y wybodaeth hon wedi’i hamlinellu ym mhwynt 1.01 yr adroddiad. Cyfeiriwyd yr Aelodau at bwyntiau 1.05 a 1.06 yn yr adroddiad a oedd yn cynnwys manylion am ganlyniadau cenedlaethol ar gyfer cyfnod allweddol 4 yn ôl nodweddion disgyblion ar gyfer haf 2023, a chanlyniadau cyfnod allweddol 4 yn 2022/23 yn erbyn cyfartaledd Cymru. Yna, darparwyd gwybodaeth am y newidiadau arfaethedig ar gyfer dysgwyr Ôl-16 ac roedd pwynt 1.10 yr adroddiad yn amlinellu’r mesurau gwahanol a ddefnyddiwyd wrth fonitro perfformiad. Cyfeiriwyd yr Aelodau at Ganlyniadau Sir y Fflint a Chanlyniadau Cenedlaethol ym mhwynt 1.11, 1.12 ac 1.13 yn yr adroddiad ond amlygwyd nad oedd y data hwn yn cynnwys yr holl brosesau apeliadau a oedd wedi cael eu cynnal. Roedd gwybodaeth am y system addysg ALPS wedi’i chynnwys ym mhwynt 1.14 yr adroddiad.
Canmolodd y Cynghorydd Carolyn Preece y Portffolio Addysg ac Ieuenctid a’r holl ysgolion ar eu perfformiad yn dilyn Covid a chanmolodd yr ymdrech a’r gwaith a oedd wedi cael ei wneud. Dywedodd ei bod yn anodd i fesur gan nad oedd pawb wedi cyflawni’r un cymwysterau ac nid oedd modd eu mesur yn yr un ffordd. Roedd disgyblion yn perfformio’n dda ym maes llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth a oedd yn galluogi iddynt symud ymlaen i addysg uwch.
Cytunodd yr Arweinydd gyda’r sylwadau a wnaed a diolchodd i’r ysgolion, yr athrawon, y rhieni, y llywodraethwyr a phawb a gyfrannodd am yr hyn a gyflawnwyd. Cytunodd gyda’r sylwadau a wnaed mewn perthynas â’r niwed a achoswyd i’r system addysg gan y pandemig a chredai mai’r plant ieuengaf oedd wedi colli fwyaf. Galwodd y Prif Swyddog ac yntau am gael plant iau i ddychwelyd i’r ysgol yn gyntaf ac fe gytunodd y cyn Weinidog Kirsty Williams. Roedd yn teimlo y byddai plant ifanc iawn wedi’u heffeithio gan hyn am weddill eu hamser ym myd addysg. Canmolodd y staff am eu gwaith caled i helpu plant i ddal i fyny a chyrraedd y cam y byddent wedi bod arno pe na bai’r pandemig wedi digwydd.
Cynigodd y Cadeirydd argymhelliad arall, ac fe eiliwyd yr argymhelliad hwnnw gan y Cynghorydd Carolyn Preece:-
Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn ... view the full Cofnodion text for item 43. |
|
Adolygu Strategaeth Ôl-16 PDF 119 KB Amlinellu sut yr oedd y comisiwn cenedlaethol newydd yn datblygu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd yr Ymgynghorydd ar gyfer Dysgu Ôl-16 ac Oedolion bod dau bwynt yr oedd yn dymuno tynnu sylw atynt. Y cyntaf o’r pwyntiau hynny oedd bod y dyddiad gweithredu ar gyfer y Comisiwn newydd wedi newid o 1 Ebrill i 1 Awst 2024. Roedd hyn yn dangos y newidiadau digynsail a oedd yn mynd rhagddynt o fewn y ddarpariaeth Ôl-16 a oedd yn effeithio ar bob sector a phob darparwr hyd at addysg uwch. Yn ail, roedd yn dymuno sicrhau’r aelodau bod y Cyngor yn rhan fawr o hysbysu a dylanwadu ar y datganiad o egwyddorion yn y Comisiwn Newydd a’i bod yn aelod o Bartneriaeth Dysgu Oedolion Cymru a oedd yn cynnal sesiynau briffio misol gyda Llywodraeth Cymru a Swyddogion yn benodol o ran Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Roedd y portffolio hefyd wedi’i gynrychioli ar y Gr?p Rhanbarthol 14 i 19 a oedd yn cyfarfod yn genedlaethol ac yn edrych yn benodol ar ariannu ar gyfer darpariaeth Ôl-16 a’r newidiadau a oedd yn cael eu cyflwyno o dan y cynigion newydd. Roedd y wybodaeth hon yn cael ei hadrodd yn ôl i’r chwe sir yn y Gogledd. Roedd Vicky Barlow, Uwch Reolwr Gwella Ysgolion, yn aelod o’r Bwrdd Sgiliau Rhanbarthol lle’r oedd prentisiaethau’n cael eu trafod gyda’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn chwarae rhan. O ran chweched dosbarth ysgolion, adroddwyd bod gwaith yn parhau gyda GwE i alluogi cyfleoedd i Benaethiaid ysgolion gyda chweched dosbarth gyfarfod Prif Weithredwr newydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i alluogi ysgolion i ddylanwadu’r datganiad o flaenoriaethau wrth symud ymlaen.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Preece y gallai hyn fod yn welliant aruthrol gyda phawb yn gweithio fel un. Roedd wedi edrych ar aelodaeth y Comisiwn a oedd yn cynnwys athrawon proffesiynol lefel uchel a fyddai’n arwain yn y maes hwn. Roedd yn teimlo y byddai hyn yn dod â phawb ynghyd ac yn darparu llif drwy’r broses addysg ac y byddai hyn yn gam cadarnhaol ymlaen. Roedd yn edrych ymlaen at dderbyn adroddiadau ar hyn yn y dyfodol.
Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Carolyn Preece a’i eilio gan y Cynghorydd Arnold Woolley.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi derbyn lefel briodol o sicrwydd o ran gwaith y Portffolio Addysg ac Ieuenctid wrth gefnogi ysgolion gyda darpariaeth chweched dosbarth i allu bodloni gofyniad y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd. |
|
Adborth o adolygiad Cymheiriaid y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid PDF 109 KB Darparu trosolwg i Aelodau o ganlyniadau’r adolygiad cymheiriaid diweddar. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyfiawnder Ieuenctid a Sorted Sir y Fflint a oedd yn cynnwys y canfyddiadau o Adolygiad Cymheiriaid Cyfiawnder Ieuenctid a gwblhawyd gan y Bartneriaeth Gwella ‘r Sector Cyfiawnder Ieuenctid ym mis Hydref 2023. Nid oedd hwn yn archwiliad ond yn adolygiad gan gymheiriaid a ofynnwyd amdano a oedd yn rhan o raglen gwelliant parhaus y gwasanaeth. Cynhaliwyd trafodaethau gyda’r Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog a oedd wedi nodi prif drywyddau ymchwilio gan edrych yn benodol ar gryfder trefniadau arwain a llywodraethu Bwrdd Rheoli Gweithredol y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a’r partneriaethau a oedd wedi’u cynrychioli ar y Bwrdd hwnnw.
Roedd y wybodaeth yr oedd y Bwrdd wedi’i chael o ansawdd da ac yn nodi bod y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn gwneud cynnydd ar ei flaenoriaethau a chynlluniau. Nodwyd hefyd y dylai rhai partneriaid allanol fod yn gyfrifol am rai o’r problemau strategol gyda rhai blaenoriaeth a gedwir gan yr Awdurdod Lleol. Roedd yr Adolygiad Cymheiriaid yn nodi ymrwymiad y gwasanaeth a’i Fwrdd Rheoli a Phartneriaid i ddull wedi’i lywio gan drawma a rhoi’r plentyn yn gyntaf a ganmolwyd yn yr adroddiad. Canmolwyd yr ymarferwyr am y ffordd greadigol yr oeddent yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. Roedd rhai meysydd i’w gwella yn ymwneud â’r gr?p cyflawni a oedd o dan y Bwrdd Rheoli Cyfiawnder Ieuenctid a’r orddibyniaeth ar y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a’r Awdurdod Lleol i lywio rhai o’r cynlluniau gwella. Darparwyd gwybodaeth ynghylch yr argymhellion a’r ystyriaethau a wnaed mewn ymateb i arsylwadau’r Adolygiad Cymheiriaid a chynnydd y cynlluniau cyflawni a amlygwyd ym mhwyntiau 2.03 a 2.04 yn yr adroddiad. Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod yr adroddiad yn darparu lefel o sicrwydd, ac roedd hwn wedi bod yn ymarfer defnyddiol i roi synnwyr o ble’r oedd y Gwasanaeth ac asesu ei gynlluniau ei hun ar gyfer gwella. Darparodd wybodaeth gefndir yngl?n â sut yr oedd y gwasanaeth wedi symud i wasanaeth ar wahân ac roedd cael y Prif Weithredwr fel Cadeirydd y Bwrdd Rheoli Cyfiawnder Ieuenctid yn amlygu mor bwysig yr oedd hyn.
Mynegodd y Cynghorydd Gina Maddison ei llongyfarchiadau am adroddiad ardderchog.
Cafodd yr argymhelliad, sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Arnold Woolley a’i eilio gan y Cynghorydd Dave Mackie.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r argymhellion o’r Adolygiad Cymheiriaid.
|
|
Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2023-24. PDF 114 KB Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad canol blwyddyn ar berfformiad gan ddweud bod diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu i’r pwyllgor ar gynnydd blaenoriaethau’r Cyngor yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2023/24. Roedd hwn yn adroddiad yn seiliedig ar eithriadau ac yn canolbwyntio ar feysydd nad oedd yn cyrraedd eu targed ar hyn o bryd. Roedd pwynt 1.05 yn yr adroddiad yn datgan nad oedd unrhyw weithgareddau neu ddangosyddion perfformiad a oedd yn dangos statws COG coch ar gyfer y portffolio. Roedd llawer o waith dal yn cael ei wneud o ran cyflawni Blaenoriaethau Cynllun y Cyngor.
Yn dilyn sawl cwestiwn gan y Cynghorydd Mackie, darparodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ymatebion manwl i gwestiynau mewn perthynas â lefelau presenoldeb a’r Gwasanaeth Lles Addysg, plant a oedd yn cael trafferth ailymgysylltu â’r ysgol ar ôl y pandemig, penodi Gweithwyr Ymgysylltu a mabwysiadu’r Strategaeth Ddigidol mewn ysgolion.
Yr amcan cyffredinol oedd codi lefelau presenoldeb ac roedd y Prif Swyddog yn falch iawn o allu dweud bod lefelau presenoldeb yn gwella, a bod yr awdurdod yn y pedwerydd safle drwy Gymru ar hyn o bryd. Cadarnhawyd bod y sylw a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â pha gamau gweithredu oedd eu hangen a pha gamau oedd yn cael eu cymryd i barhau i wella lefelau presenoldeb. Rhoddwyd gwybodaeth am ddatblygu prosesau gwell a mwy effeithiol mewn ysgolion gan sicrhau bod y Gwasanaeth Lles Addysg yn defnyddio’r data hwnnw i dargedu eu hymyriadau’n fwy effeithiol mewn ysgolion.
Eglurwyd bod y defnydd o’r Grant Ysgolion Bro a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi gweithwyr ymgysylltu, a oedd yn gweithio gydag ysgolion a theuluoedd, i fynd i’r afael â’r materion craidd a oedd yn arwain at bobl ifanc yn peidio â mynychu’r ysgol neu’n cael trafferth cadw eu lle. Roedd hwn yn gam i gyflawni’r amcan cyffredinol o geisio lleihau gwaharddiadau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ted Palmer yngl?n â phresenoldeb ysgol o ganlyniad i’r Pandemig, dywedodd y Prif Swyddog fod hwn yn fater cenedlaethol a bod y Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol wedi cael ei greu gan y Gweinidog i fynd i’r afael â hyn. Rhoddwyd amlinelliad o’r partneriaid sy’n aelod o’r Tasglu hwn a mynychodd y Prif Swyddog y cyfarfod cyntaf yr wythnos cynt. Cytunodd y byddai’n dosbarthu dau adroddiad a baratowyd gan riant-elusennau ac a gyflwynwyd i’r cyfarfod hwnnw, ac fe dynnodd sylw at y newid yn agwedd y disgyblion a’r rhieni tuag at bresenoldeb. Esboniwyd bod yn rhaid i’r cwricwlwm fod yn briodol, yn gyffrous ac yn ddifyr er mwyn i blant fynychu’r ysgol. Eglurwyd sut yr oedd y cwricwlwm newydd yn canolbwyntio ar yr agweddau hyn.
Canmolodd y Cynghorydd Carolyn Preece waith y Swyddogion ar yr adroddiad a oedd yn dangos nad oedd unrhyw statws Coch a dywedodd bod y targedau perfformiad ar gyfer pob maes yn dangos bod statws Oren a Gwyrdd yn gyrraeddadwy.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Gladys Healey at lefelau presenoldeb a gofynnodd a fyddai lefelau addysgu gartref yn cynyddu a gofynnodd ... view the full Cofnodion text for item 46. |
|
Aelodau o'r Wasg yn Bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol |