Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Dewisiadau i’r dyfodol: gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd Cyflwyno adroddiad ar y dewisiadau hirdymor ar gyfer darparu gwasanaethau a cheisio barn yr Aelodau ar y dewisiadau sydd ar gael. Cofnodion: DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD Dywedodd y Cadeirydd fod y Cyngor o blaid datgelu gymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl am y penderfyniad mae’n ei wneud. Am resymau a amlinellir ar dudalen 2 yr adroddiad, gofynnodd y Cadeirydd am gynigydd ac eilydd o blith Aelodau’r Pwyllgor i wahardd y wasg a’r cyhoedd a symud i Ran 2. PENDERFYNWYD: Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r Dewisiadau ar gyfer y Dyfodol ar gyfer Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd er mwyn i’r Pwyllgor eu hystyried. Eglurwyd y byddai’r argymhellion o’r cyfarfod hwn yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet yn ddiweddarach yn yr wythnos.
Rhoddodd y Swyddog Gweithredol Strategol a’r Rheolwr Cyllid Strategol gyflwyniad a oedd yn cynnwys trosolwg o’r trefniadau gweithredu presennol ac arfarniad dewisiadau ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol i’r Pwyllgor eu hystyried a rhannu barn am ddewisiadau a ffefrir â’r Cabinet. Rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) wybodaeth am Drosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth (TUPE) ac eglurodd y goblygiadau o ran Pensiynau.
Gofynnodd Aelodau nifer o gwestiynau a chafwyd atebion gan y Swyddogion a oedd yn bresennol. Roedd y cwestiynau’n cwmpasu’r meysydd canlynol:-
Yr argymhellion a wnaed gan FMG Consulting Ltd; Aelodau’n cael gweld gwybodaeth ariannol ychwanegol, yn enwedig o ran goblygiadau ariannol; Parhad gwasanaeth ac amhariad posibl i ddefnyddwyr gwasanaeth; Aelodau’n cael gweld cyngor cyfreithiol; Deddfwriaeth Cymhorthdal;
Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn dilyn y drafodaeth a’r sylwadau a wnaed gan Aelodau, awgrymodd fod angen rhagor o wybodaeth ac y dylid diwygio’r argymhellion i adlewyrchu hyn.
Gofynnwyd am bleidlais wedi’i chofnodi am yr argymhellion arfaethedig canlynol:-
Bod y wybodaeth gefndir a’r sefyllfa bresennol o ran gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd, chwarae ac amgueddfeydd wedi bod yn anodd i’w chael ac nad oedd yn ddigon manwl;
Bod y Pwyllgor yn gofyn i’r Cabinet geisio parhau â chontract gydag Aura; a
Bod adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wrth i’r gwaith ddatblygu ac fel bo’r gofyn.
O blaid yr argymhellion:- Y Cynghorwyr: Helen Brown, Gladys Healey, Dave Mackie, Debbie Owen, Andrew Parkhurst, Carolyn Preece, Jason Shallcross ac Arnold Woolley
Yn erbyn yr argymhellion: Ni phleidleisiodd unrhyw Aelodau yn erbyn yr argymhellion.
Ymatal: Y Cynghorwyr: Teresa Carberry, Mel Buckley, Gina Maddison a Ryan McKeown
PENDERFYNWYD:
a) Bod y wybodaeth gefndir a’r sefyllfa bresennol o ran gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd, chwarae ac amgueddfeydd wedi bod yn anodd i’w chael ac nad oedd yn ddigon manwl;
b) Bod y Pwyllgor yn gofyn i’r Cabinet geisio parhau â chontract gydag Aura; a
c) Bod adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ... view the full Cofnodion text for item 13. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: None |