Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

14.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

15.

Cofnodion pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 6 Gorffennaf 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2022 eu cymeradwyo fel cofnod cywir, a’u cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin a’r Cynghorydd David Evans.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

16.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol cyfredol i gael ei ystyried, gan amlinellu’r diwygiadau arfaethedig canlynol:-

 

  • Bod yr adroddiad ar Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru yn cael ei symud yn ôl cylchred ac yn cael ei adrodd yn y cyfarfod ar 16 Tachwedd;
  • Bod diweddariad ar y System Cofrestru Adnoddau Deinamig yn cael ei symud o gyfarfod 16 Tachwedd i gyfarfod ar 8 Mawrth 2023; a
  • Bod adroddiad ar gyllideb 2023-24, yn dilyn sesiynau briffio cyllideb portffolio’r Aelod, yn cael ei ychwanegu i gael ei ystyried yng nghyfarfod ar 16 Tachwedd 2022.

 

Dywedodd yr Hwylusydd bod y Cadeirydd wedi gofyn i bob Aelod o’r Cyngor os oedd ganddynt eitemau yr oeddynt yn teimlo y dylai’r Pwyllgor ei ystyried ac ychwanegu at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.  Mae rhestr o eitemau awgrymedig wedi’i greu ac roedd y rhain i’w gweld yn Atodiad 3.  Dywedodd yr Hwylusydd, yn dilyn y cyfarfod, y byddai’n cysylltu â’r swyddogion a’r Cadeirydd i nodi sut y gellir eu cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. 

 

Cafodd yr argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin a’r Cynghorydd David Evans. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

17.

Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) pdf icon PDF 169 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Rhaglenni Tai’r adroddiad i hysbysu’r Pwyllgor o gynnydd y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) ac i osod y Strategaeth ar gyfer tai newydd fforddiadwy o fewn y pum mlynedd nesaf. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Rhaglen Tai ddiweddariadau manwl ar y cynnydd dan bartneriaeth fframwaith caffael Cymru newydd a hefyd y gweithgor di-garbon net, ac amlygu’r newidiadau ym mlaenoriaethau adeiladu newydd Llywodraeth Cymru, rhaglen cyllido newydd a’i oblygiadau i Sir y Fflint a NEW Homes, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin, dywedodd y Rheolwr Rhaglenni Tai ei fod yn ymwybodol o brosiect ym Maes Glas ac yn bwriadu ychwanegu hwn i’r SHARP.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Rosetta Dolphin ar ymgynghoriad ag Aelodau lleol a’r anghenion o ran tai o fewn wardiau, sicrhaodd y Rheolwr Rhaglenni Tai’r Pwyllgor bod Aelodau lleol, ynghyd ag aelodau o’r cyhoedd yn cael eu hymgynghori ar unrhyw brosiectau yn y dyfodol.  Dywedodd hefyd bod angen llunio portffolio ar anghenion adeiladau ar draws y Sir i gael safbwynt cyffredinol o beth mae angen i’r strategaeth sydd ei angen.  Dywedodd wrth yr Aelodau y byddai’r Cyngor yn gallu dylanwadu ar yr hyn sydd ei angen.

 

Cafodd yr argymhellion, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans a’r Cynghorydd Rosetta Dolphin.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnydd yn y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) hyd yma;

 

(b)      Nodi’r newidiadau i gyllid Llywodraeth Cymru i dai cymdeithasol;

 

(c)       Nodi’r newidiadau i feini prawf ar gyfer cofrestru gyda Thai Teg ar gyfer tai rhent fforddiadwy;

 

(d)        Nodi rhaglen datblygu amlinellol SHARP 2; a

 

(e)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi ailddyrannu cyllideb o £121,000 ar gyfer ymchwiliad cynllun a gwaith dichonoldeb i gefnogi llwybrau cyflenwi newydd.

18.

Rheoli Gwagle pdf icon PDF 311 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar eiddo gwag a’r gwaith a wneir i ailddefnyddio’r eiddo yma.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai adroddiad i ddarparu diweddariad ar reoli unedau gwag a chyflawniad.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai a Rheolwr Gwasanaeth - Rheoli Tai, Gwasanaethau Budd-daliadau gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl gyflwyniad a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol:-

 

  • Cartrefi Gwag
  • Targedau a chostau cartrefi gwag
  • Trosiant ac ôl-groniad cartrefi gwag
  • Rheoli Ystadau
  • Proses diwedd i ddiwedd
  • Adnoddau - Staffio
  • Adnoddau - gweithgareddau gwella staffio
  • Adnoddau - cyllidebau
  • Adnoddau - gweithgareddau gwella cyllideb
  • Adnoddau - ailwampio
  • Adnoddau - gweithgareddau gwella ailwampio
  • Trosolwg ac Adrodd

 

Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin, cytunwyd y byddai copi o’r cyflwyniadau yn cael eu dosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.  Hefyd rhoddodd y Cynghorydd Dolphin enghreifftiau i eiddo gwag yn ei ward a oedd wedi bod yn wag ers cyfnod hir iawn, a rhoddodd sylw ar yr angen i newid eiddo yn gynt i sicrhau refeniw parhaus i’r Cyngor. 

 

Mewn ymateb i bryderon gan y Cynghorydd Pam Banks ynghylch mater yn ei ward ac arhosiad am eiddo, gofynnodd y Rheolwr Gwasanaeth - Rheoli Tai, Gwasanaethu Budd-daliadau gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl i’r Cynghorydd Banks ddarparu manylion iddi ar ôl y cyfarfod fel y gellir edrych ar y mater hwn ymhellach.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ted Palmer os oedd yno gontractwyr mewnol ychwanegol y gellir eu defnyddio.  Hefyd gofynnodd sut y gellir gwella cyfraddau ynni i’r eiddo hyn a oedd wedi’u dyrannu’n barod.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai bod timau eiddo gwag mewnol a oedd yn cael eu dyrannu i gyflawni mân waith.  Hefyd darparodd fanylion am brosiect peilot ynghylch di-garboneiddio’r stoc dai ym Mostyn, ac ychwanegodd bod y gwaith hwn wedi’i gynnwys o fewn gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Dave Evans bod y Pwyllgor yn ymweld ag eiddo gwag pan mae’n dod yn wag, a hefyd eiddo gwag sydd wedi’i ailwampio’n ôl i ddefnydd er mwyn gweld safon y gwaith a gyflawnir.  Hefyd cyfeiriodd at yr argyfwng costau byw a gofynnodd pa welliannau a gafodd eu gwneud i eiddo i gadw costau’n îs i denantiaid.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai bod yr holl foeleri, gwresogi a insiwleiddiad atig yn cael eu hasesu’n dda ar y cam gwag, ac ychwanegodd os byddai newid i bympiau gwres yr awyr yn opsiwn hyfyw i’r eiddo, yna byddai hynny yn cael ei asesu ar adeg pan mae’r eiddo’n wag hefyd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin os oedd myfyrwyr coleg yn cael eu cyflogi i gynorthwyo i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.   Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai bod y Cyngor wedi cysylltu gyda’r coleg ac yn hwyluso myfyrwyr sydd yn cyflawni gwaith ymarferol fel rhan o’u cwrs. 

 

Cododd y Cynghorydd Dale Selvester bryderon ynghylch yr amser mae’n cymryd i gofrestru mesuryddion gyda chwmniau ynni, a oedd yn ychwanegu at yr oedi i ddyrannu eiddo gwag.  Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai bod y tenant yn flaenorol yn gorfod cysylltu gyda’r cwmniau ynni yn uniongyrchol  ...  view the full Cofnodion text for item 18.

Item 6 - Voids Management slides pdf icon PDF 219 KB

Dogfennau ychwanegol:

19.

Ail-gartrefu Cyflym pdf icon PDF 375 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor am y dull Ail-gartrefu Cyflym.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal adroddiad yn rhoi diweddariad ar gynnydd gyda datblygu Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym.  Roedd gofyn bod Awdurdodau Lleol yn datblygu Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym i ddangos sut y bydden nhw’n symud dull newydd ymlaen i atal ac i liniaru digartrefedd. 

 

Nododd yr adroddiad bod blaenoriaethau lefel uchel wedi eu cynnwys o fewn y Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym, ac roedd cynllun gweithredu drafft y byddai Cyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid ei angen ei ddarparu i gyflawni trawsnewid mewn ataliad digartrefedd a gwasanaeth digartrefedd statudol, a dechrau pontio i Ailgartrefi Cyflym.

 

Darparodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal gwybodaeth fanwl ar yr Egwyddorion Allweddol, fel a ganlyn:-

 

1.    Mynd i’r afael â Digartrefedd drwy bartneriaeth gadarn ac effeithiol.

2.    Ailfodelu ein dulliau o ran data, systemau, polisiau a darpariaeth gwasanaeth.

3.    Sicrhau bod cefnogaeth ar gael i bawb sydd ei angen.

4.    Trawsnewid ein cynnig tai dros dro

5.    Cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a chael gwared ar rwystrau i bobl sydd eisiau mynediad at dai fforddiadwy ar unwaith.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal bod adroddiad ar y Cynllun Gweithredu, Heriau a Blaenoriaethau penodol yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor nesaf sydd wedi’i drefnu ar gyfer mis Hydref 2022.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin am wybodaeth ar ddemograffeg pobl sy’n nodi eu bod yn ddigartref.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal bod y mwyafrif o bobl yn sengl, a oedd yn amlygu’r galw o’r angen am lety un person yn y Sir.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Pam Banks sylw ar bobl yn cael eu cartrefu mewn pentrefi gwledig, a theimlodd bod diffyg cymorth/ cefnogaeth yn y gymuned.  Gofynnodd a oedd eu hanghenion yn cael eu hasesu cyn cael eu cartrefu.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal o ran llety mewn argyfwng, bod tai yn brin ond ychwanegodd bodd yr holl anghenion yn cael eu hasesu gyda chynlluniau gweithredu personol yn cael eu llunio’n unol â hynny.  

 

Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ei gynnig gan Gynghorydd David Evans a’i eilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad a’r egwyddorion o Ailgartrefi Cyflym.

20.

Grant Cyfleusterau i'r Anabl pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y Polisi Grant Cyfleusterau i’r Anabl.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Rheoli Tai, Gwasanaethau Budd-daliadau gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ) adroddiad i ddiweddaru ar Bolisi Dewisol a newidiadau a wnaethpwyd yn y 12 mis diwethaf. 

 

Amlygodd y Rheolwr Gwasanaeth y ddau brif newidiadau o fewn y Polisi, a oedd fel a ganlyn:

 

1.    Mae gwerth profi modd wedi’i adolygu ac wedi cynyddu o £10,000 i £20,000; a’r

 

2.    Angen i wneud cais am fridiant tir wedi’i dynnu.  Os byddai eiddo wedi’i addasu yn cael ei werthu o fewn 5- 10 mlynedd o’r addasiadau, yna byddai’r Cyngor yn edrych i adennill y costau i ddarparu diogelwch a sicrwydd i’r pwrs cyhoeddus.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Evans ynghylch adennill costau, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod hwn yn ddigwyddiad prin.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson os oedd eiddo a osodwyd mewn eiddo yn gallu cael eu hailgylchu a’u hailddefnyddio pan maent yn cael eu symud.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod system ailgylchu effeithiol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfarpar, a bod pob cyfarpar yn cael eu profi cyn cael eu hailosod mewn eiddo arall.  Ychwanegodd bod y cyfarpar hefyd yn cael eu gosod gyda gwarant pum mlynedd. 

 

Cafodd yr argymhellion, a amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd David Evans a’r Cynghorydd Rosetta Dolphins.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Bod Polisi Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl diweddar yn cael ei gefnogi a bod y gwaith parhaus i wella’r gwasanaeth yn cael ei nodi;

 

(b)        Bod y diwygiad, a nodir yn Atodiad 2 y Polisi, ar gyfer cael gwared â phrawf modd i addasiadau maint canolig yn cael eu nodi; a

 

(c)        Bod y newidiadau i Bridiannau Tir yn unol â Safonau Tai Diwygiedig Llywodraeth Cymru, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, yn cael eu nodi.

21.

Adolygu Amserlen Cynllun y Cyngor 2022/23 pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        Adolygu amserlenni ar gyfer Cynllun y Cyngor 22/23 yn dilyn cais gan y Cyngor Sir ym mis Gorffennaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r adroddiad ar adolygu’r amserlenni ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022-23 yn unol â chais y Cyngor Sir ym mis Gorffennaf.  

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod yr amserlen yn ymwneud â Chynllun y Cyngor ar gyfer 2022-23 sy’n cynnwys dwyn rhai eitemau ymlaen y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw.   Roedd swyddogion yn canolbwyntio ar ddatblygu Cynllun pum mlynedd y Cyngor ar hyn o bryd a fyddai’n cynnwys rhagor o fanylion penodol mewn perthynas â defnyddio Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i nodi pynciau ar gyfer eu Rhaglenni Gwaith i’r Dyfodol.

 

Cafodd yr argymhelliad, a amlinellwyd yn yr adroddiad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd David Evans a’r Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

I gytuno ar Ran 1 Cynllun y Cyngor yn cael ei adolygu a diweddaru amserlenni i gwblhau.

22.

Aelodau O'r Wasg Yn Bressennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.