Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Attendance Meeting

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

41.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. 

42.

Cofnodion pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 20 Ionawr 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Soniodd y Cynghorydd Ron Davies am y sylwadau cadarnhaol a wnaed i’r Rheolwr Rhaglenni Tai yn y cyfarfod diwethaf a’r diolch am ei waith dros sawl blwyddyn. Gofynnodd a oedd modd cynnwys y rhain yn y cofnodion. Dywedodd yr Hwylusydd y byddai’n adolygu’r cofnodion i sicrhau eu bod wedi’u cynnwys.

 

            Cynigodd y Cynghorydd Ron Davies y dylid cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir ac y dylai’r Cadeirydd eu llofnodi. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Geoff Collett. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

 

 

43.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddiweddaraf a chadarnhaodd un diwygiad i’r rhestr o eitemau sydd wedi’u trefnu i gael eu cyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 10 Mawrth.  Byddai’r wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Adfer yn cael ei chyflwyno, a fyddai’n rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ers i’r diweddariad diweddaf gael ei ystyried ym mis Rhagfyr, 2020.

 

Cadarnhaodd yr Hwylusydd na wnaeth unrhyw gamau godi o’r cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 20 Ionawr, ac roedd pob cam gweithredu a oedd wedi codi o gyfarfodydd blaenorol wedi’u cwblhau, fel a ddywedwyd wrth y Pwyllgor eisoes. 

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Mared Eastwood a’u heilio gan y Cynghorydd Ron Davies.    

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac

 

(c)     Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

44.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 15 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

45.

Proses gaffael y Gwasanaeth Atgyweirio Tai i gael System Drefnu Adnoddau Deinamig ac Adolygu Proffil Swydd yr Arweinydd Tîm

Pwrpas:        Trafod y dewisiadau i brynu a gweithredu datrysiad Atgyweiriadau Tai symudol sy’n cynnwys modiwl atgyweirio, y trwyddedau cysylltiedig a Threfnydd Adnoddau Deinamig (DRS).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o’r achos busnes ac arwydd o sut gallai buddsoddi mewn technoleg ddarparu swyddogaeth atgyweirio tai sy’n canolbwyntio fwy ar gwsmeriaid.

 

            Rhoddodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau gyflwyniad manwl, a gafodd ei rannu ar y sgrin.

            Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog a’r Uwch Reolwr Tai ac Asedau am eu cyflwyniad cynhwysfawr.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Billy Mullin, dywedodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau fod ymgynghoriad wedi’i gynnal gydag Undebau Llafur Unison ac Unite am y cynigion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac roedd adborth cadarnhaol wedi’i ddarparu.

 

Gan ymateb i gwestiynau a godwyd gan Aelodau am yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad, eglurodd y Prif Swyddog fod angen i’r modiwl atgyweirio gofynnol a thrwyddedau cysylltiedig fod yn y contract presennol gyda Capita. Awgrymodd hefyd bod y Pwyllgor yn cael adroddiad diweddaru blynyddol mewn cyfarfodydd yn y dyfodol er mwyn galluogi’r Pwyllgor i gael sicrwydd bod y cyflawniadau a amlinellir yn y cynllun busnes yn cael eu bodloni.   

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Veronica Gay, dywedodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau na fyddai Swyddogion Tai yn defnyddio’r dechnoleg a gynigiwyd, a rhoddodd enghreifftiau o’r dechnoleg maen nhw’n ei defnyddio ar hyn o bryd wrth gynorthwyo tenantiaid y Cyngor. Roedd potensial i ymestyn y dechnoleg a gynigir i Swyddogion Tai yn y dyfodol i gynorthwyo â threfnu apwyntiadau.

                 

            Awgrymwyd bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Cafodd hyn ei gynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Geoff Collett. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi prynu a gweithredu datrysiad Atgyweirio Tai symudol sy’n cynnwys modiwl atgyweiriadau, trwyddedau cysylltiedig ac adnodd Dynamic Resource Scheduler (DRS);

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi rhyddhau uchafswm o £420,000 o gyllid y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer gweithredu o flaen llaw a chostau cefnogaeth a chynnal a chadw parhaus yn unol â dyfarnu contract ar gyfer y datrysiad uchod;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r modiwl gofynnol a thrwyddedau cysylltiedig yn y contract presennol gyda Capita;

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi caffael datrysiad DRS trwy Gytundeb Fframwaith Datrysiad Data a Chymwysiadau (DAS) am 5 mlynedd, gydag estyniad dewisol am ddwy flynedd arall; a

 

(e)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi rhoi dirprwyaeth i’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) i ymestyn y contract(au) +1 +1 ar ddiwedd cyfnod y contract, sef 5 mlynedd.

 

46.

Aelodau o'r wasg yn bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.