Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor mai Gr?p Llafur a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor hwn.  Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Ian Dunbar yw Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn ddinesig hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Llafur.    Fel Cynghorydd, roedd Ian Dunbar wedi’i benodi i’r swydd hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penodiad y Cynghorydd Ian Dunbar fel Cadeirydd y Pwyllgor.

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Ron Davies wedi enwebu’r Cynghorydd Ray Hughes i’w benodi fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor.   Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd David Wisinger.

 

O’i roi i bleidlais, penodwyd y Cynghorydd Ray Hughes yn Is-gadeirydd y Pwyllgor. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Ray Hughes yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 19 Mai 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mai 2021 fel cofnod cywir a chawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Ron Davies a Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

5.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd yr Hwylusydd y Pwyllgor bod dyddiadau cyfarfodydd y dyfodol wedi eu hychwanegu at  y rhaglen gwaith i’r dyfodol, yn dilyn cymeradwyaeth mewn cyfarfod blynyddol o’r Cyngor Sir.  Awgrymwyd bod yr Hwylusydd yn cysylltu â’r Cadeirydd a’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) i lenwi’r rhaglen gwaith i’r dyfodol, a gyflwynir i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf. 

 

Roedd yna un cam gweithredu wedi codi o’r cyfarfod blaenorol.   Roedd yr Hwylusydd wedi gofyn am wybodaeth gan swyddogion perthnasol a byddai’n dosbarthu’r wybodaeth hon ar ôl ei derbyn.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)        Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)        Bod y cynnydd a wnaed gyda’r camau gweithredu heb eu cwblhau yn cael ei nodi.

6.

Diweddariad Diwygio Lles pdf icon PDF 188 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad ar effaith Diwygio Lles ar Drigolion Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd diweddariad ar yr effeithiau y mae diwygiadau lles yn parhau i’w cael ar drigolion Sir y Fflint a’r gwaith sy’n digwydd i’w lliniaru ac i gefnogi’r aelwydydd perthnasol gan y Rheolwr Budd-daliadau.  Mae’r pandemig wedi effeithio’n arwyddocaol ar aelwydydd agored i niwed hefyd ac roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am amrywiaeth o fesurau a ddatblygwyd i helpu'r rhai hynny sydd wedi'u heffeithio gan y pandemig a'r gefnogaeth a roddwyd i drigolion er mwyn ceisio lliniaru'r effeithiau negyddol. 

 

Siaradodd y Rheolwr Budd-daliadau am y cynnydd yn y llwyth gwaith gostyngiad Treth y Cyngor a’r cynnydd ers y llynedd a oedd wedi’i adfer drwy gronfa gyllid Llywodraeth Cymru, oedd yn dangos y darlun mwy o’r pandemig a’r pecynnau cymorth sydd ar gael. 

 

Roedd y Rheolwr Budd-daliadau yn mynegi ei phryder am ddiwedd y cynllun Ffyrlo ym mis Medi, gan nodi y byddai hyn yn cael effaith negyddol ar breswylwyr diamddiffyn.  Ychwanegodd y byddai’r gefnogaeth Pandemig a thaliadau ynysu yn parhau ar gyfer y taliadau £500, ond dywedodd bod nifer y bobl oedd yn hawlio wedi gostwng.    Hefyd, ychwanegodd bod y bonws Gofalwyr nesaf yn dal yn ei le ac roedd y taliad nesaf yn mynd allan eto ym mis Gorffennaf. 

 

Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau bod yna gynnydd wedi bod mewn preswylwyr oedd yn ceisio cefnogaeth oedd yn gadarnhaol.

 

Llongyfarchodd y Cadeirydd y tîm am y gwaith yr oeddent yn ei wneud.  Mewn ymateb i gwestiwn am gefnogaeth, dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau bod atgyfeiriadau am gefnogaeth i’r Tîm Cymorth Diwygio Lles wedi cynyddu’n sylweddol. 

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd David Wisinger a’i eilio gan y Cynghorydd Geoff Collett.    

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus i reoli'r effeithiau y mae'r  Diwygiadau Lles yn eu cael ac y byddant yn parhau i’w cael ar yr aelwydydd mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint.

7.

Incwm Rhent Tai – Alldro diwedd blwyddyn a’r sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer 2021/22 pdf icon PDF 190 KB

Pwrpas:        Darparu alldro diwedd blwyddyn ar gyfer 2020/21 a diweddariad gweithredol ar gasglu rhenti a’r lefelau dyledion presennol ar gyfer 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y diweddariad gweithredol ar berfformiad o ran casglu incwm rhent tai ar ddiwedd blwyddyn 2020/21, yn cynnwys y sefyllfa ddiweddaraf o ran casgliadau yn 2021/22. 

 

Dywedodd y Rheolwr Refeniw y bu i’r canlyniad ar gyfer 2020/21 olygu ôl-ddyledion rhent o £1.854m o gymharu â £1.815m yn y flwyddyn flaenorol – cynnydd mewn ôl-ddyledion o £39k.  Dywedodd fod y data’n gadarnhaol o’i gymharu â rhagolygon cynharach ar gyfer ôl-ddyledion rhent ar gyfer y gwasanaeth yn ystod y 12 mis diwethaf, yn arbennig ar amser pan fo’r pandemig Covid-19 wedi effeithio ar allu rhai tenantiaid i dalu eu rhent ar amser.  

 

Cafwyd cyflwyniad manwl gan y Rheolwr Refeniw yn trafod y meysydd canlynol:-

 

  • Casglu Rhent: sefyllfa derfynol 2020/21;
  • Casgliadau Rhent a Thueddiadau dros 6 blynedd;
  • Achosion ôl-ddyledion (£250+) Mawrth 2021; a
  • Chasglu Rhent: 21/22 Sefyllfa Ddiweddaraf (at wythnos 10)

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am adleoli meddalwedd, ychwanegodd y Rheolwr Refeniw bod y meddalwedd wedi bod yn llwyddiannus yn targedu’r tenantiaid hynny oedd angen cefnogaeth.  Yn anffodus, roedd tenantiaid oedd ag ôl-ddyledion o fwy na £5,000 yn tueddu i beidio cysylltu â’r Cyngor, oedd wedi arwain at eu ôl-ddyledion rhent yn parhau i gynyddu.  

 

            Diolchodd aelodau’r Pwyllgor i’r Rheolwr Refeniw am yr adroddiad.  Mewn ymateb i gwestiynau am gefnogaeth i breswylwyr, eu hangen i gael mynediad i nifer o wasanaethau cefnogaeth ac oedd preswylwyr ar y Gofrestr Tai os oedd ganddynt ddyledion, eglurodd y Prif Swyddog y byddai tenantiaid yn cael eu rhoi ym Mand 4 ar y Gofrestr Tai nes oeddent wedi clirio eu dyledion.  Hefyd, soniodd am ddiwedd y cynllun Ffyrlo fel yr amlinellwyd wrth ystyried y diweddariad Diwygiad Lles yn gynharach yn y cyfarfod a dywedodd bod yna bryder am yr effaith y byddai hyn yn ei gael ar denantiaid a’r tîm cymorth.  Ailgadarnhaodd nad bwriad Sir y Fflint oedd troi tenantiaid allan gan nad oedd o fudd i’r Cyngor ond amlygodd bod yna achosion difrifol ble na fyddai tenantiaid yn ymgysylltu ac yn yr achosion hynny ar ôl llawer o drafod roedd yn iawn y dylid ac y cymerir camau.

 

                             Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd David Wisinger a’i eilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi'r sefyllfa diwedd blwyddyn o £1.854m ar gyfer ôl-ddyledion rhent yn 2020/21 fel y nodir o fewn yr adroddiad.

Item 8 - Presentation slides pdf icon PDF 248 KB

Dogfennau ychwanegol:

8.

Diweddariad Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) pdf icon PDF 116 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar SATC sy’n benodol i waith amgylcheddol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau adroddiad oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddarparu Safon Ansawdd Tai Cymru a ddarperir gan y Cyngor drwy ei Raglen Buddsoddi Cyfalaf.  Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar elfennau gwaith allanol y rhaglen ynghyd â chyflawniadau hyd yma a chynnal y safon wrth symud ymlaen.

 

Roedd y rhaglen gwella Ffensio a Garddio wnaeth ddechrau yn 2015 wedi’i datblygu yn rhaglen fwy cynhwysfawr, ar ôl i’r mwyafrif o waith mewnol a gwaith arall gael ei gwblhau i gyrraedd cydymffurfiaeth SATC.  Byddai’r rhaglen yn canolbwyntio yn bennaf ar y ffiniau eiddo yn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn addas ac yn unol â manyleb/gofynion y Cyngor.  Hefyd wedi’i gynnwys fyddai dyraniad llwybrau, gerddi a storio.  Roedd manylion y ffrydiau gwaith wedi eu hamlinellu o fewn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Brian Lloyd, cytunodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau i drafod gyda’r Uwch Dîm Rheoli y posibilrwydd o sesiynau mynd am dro gyda Chynghorwyr yn eu Ward er mwyn i Aelodau ddangos materion sydd yn eu barn nhw angen sylw.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Ray Hughes yngl?n â ffens a ddisodlwyd yn ei ward, roedd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau wedi cytuno i siarad gyda’r Cynghorydd Hughes yn dilyn y cyfarfod a threfnu ymweliad safle yn ei ward. 

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Ray Hughes a’i eilio gan y Cynghorydd Kevin Rush.   

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf yn ei flwyddyn olaf o fuddsoddiad wrth i’r Cyngor ddechrau’r cyfnod cynnal a chadw o Safonau Ansawdd Tai Cymru.

9.

Ffioedd Gwresogi Ardaloedd Cymunedol 2021/22 pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Ystyried y ffioedd gwresogi arfaethedig mewn eiddo’r cyngor gyda systemau gwresogi ardaloedd cymunedol ar gyfer 2021/22 cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y ffioedd gwresogi arfaethedig i eiddo’r Cyngor sydd â chynlluniau gwresogi cymunedol a fydd yn dod i rym o 2 Awst 2021.

 

Mae’r ffioedd arfaethedig ar gyfer 2021/22, wedi’u nodi yn yr adroddiad, yn aros am gymeradwyaeth gan y Cabinet.  Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r pris i denantiaid wedi gostwng ar gyfer 2021/22 sydd, fel mewn blynyddoedd eraill, yn caniatáu i Sir y Fflint adennill costau disgwyliedig o ffioedd gwresogi gan barhau i drosglwyddo manteision costau ynni is i denantiaid.

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Ray Hughes.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y newidiadau i’r ffioedd gwresogi cyfredol yn adeiladau'r Cyngor sydd â systemau gwresogi cymunedol fel yr amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu nodi. 

10.

Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad monitro diwedd blwyddyn i adolygu cynnydd yn erbyn eu blaenoriaethau perthnasol fel y’u nodwyd ym Mesurau Adrodd 2020/21 y Cyngor, o dan gylch gorchwyl y Pwyllgor.  Roedd 67% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu wedi rhagori ar eu targedau.

 

Roedd y Prif Swyddog yn canmol gwaith holl swyddogion o fewn y portffolio, a oedd yn amlwg yn ôl y nifer o fesurau perfformiad Gwyrdd a ddangoswyd o fewn yr atodiad i’r adroddiad.   Rhoddodd ddiweddariad ar y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP), gan egluro er nad oedd y targed wedi’i gyflawni ar gyfer y mesur hwn, darparwyd 149 o eiddo, gyda dros hanner y rhain yn gartrefi teulu.  Hefyd, rhoddodd ddiweddariad ar y dyddiad targed Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), sydd wedi’i ymestyn gan flwyddyn ychwanegol oherwydd y pandemig.     

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Geoff Collet a’i eilio gan y Cynghorydd Mared Eastwood. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Adroddiad Monitro Perfformiad Diwedd Blwyddyn.

11.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.