Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Attendance Meeting

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas         Nodi bod y Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol, wedi penderfynu y dylid penodi’r Cynghorydd [name] yn Gadeirydd y Pwyllgor.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd ei fod wedi ei gadarnhau yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Annibynnol.   Gan fod y Cynghorydd Helen Brown wedi’i phenodi i’r swydd hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penodiad y Cynghorydd Helen Brown yn Gadeirydd y Pwyllgor.

 

(Ar y pwynt hwn, cadeiriodd y Cynghorydd Brown weddill y cyfarfod)

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas          Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd David Evans enwebu’r Cynghorydd Ray Hughes fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Rush.

 

Bu i’r Cynghorydd Dale Selvester enwebu’r Cynghorydd Dennis Hutchinson fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor.  Diolchodd y Cynghorydd Hutchinson i’r Cynghorydd Selvester ond tynnodd ei enwebiad yn ôl.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Ray Hughes yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 9 Chwefror 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2022, ac fe’u cynigiwyd a’u heilio gan y Cynghorydd Kevin Rush a’r Cynghorydd Geoff Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

5.

Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.