Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Attendance Meeting

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

27.

PENODI CADEIRYDD AR GYFER Y CYFARFOD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd yr Hwylusydd bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd wedi anfon ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod.    Gofynnodd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd i’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cynghorydd Helen Brown yn cael ei phenodi yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

28.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

29.

Cofnodion pdf icon PDF 64 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Tachwedd 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2021, a gynhigiwyd gan y Cynghorydd David Wisinger a’u heilio gan y Cynghorydd Kevin Rush. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

30.

Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol i’w hystyried.  Cyfeiriodd at y cyfarfod ym mis Ionawr a dweud y byddai Datblygu Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai Sir y Fflint 2022-26 yn cael ei ychwanegu at y rhestr o eitemau i’w hystyried yn y cyfarfod.   Dywedodd bod y ddau gam gweithredu yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu wedi’u cwblhau.

 

            Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’u heilio gan y Cynghorydd David Wisinger.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

31.

Diweddariad am Ddiwygio'r Gyfundrefn Les pdf icon PDF 217 KB

Pwrpas:        I roi diweddariad ar effaith Diwygio’r Gyfundrefn Les ar breswylwyr Sir y Fflint

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Budd-daliadau ddiweddariad ar yr effeithiau y mae diwygio’r gyfundrefn les yn parhau i’w gael ar drigolion Sir y Fflint a’r gwaith sy’n cael ei wneud i’w lliniaru a chefnogi’r aelwydydd perthnasol.  Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar aelwydydd agored i niwed, ac roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am amrywiaeth o fesurau a ddatblygwyd i helpu'r rhai hynny sydd wedi'u heffeithio gan y pandemig presennol a'r gefnogaeth a roddwyd i drigolion i geisio lliniaru'r effeithiau negyddol. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Budd-daliadau ddiweddariad manwl ar y meysydd canlynol, fel y manylwyd o fewn yr adroddiad:- 

 

  • Cael gwared â’r cynnydd Credyd Cynhwysol o £20.  Darparwyd astudiaeth achos a oedd yn tynnu sylw at y pryderon a’r dewisiadau y byddai angen i breswylwyr eu gwneud.   Nid oedd galw mawr wedi bod am gefnogaeth ar hyn o bryd ond roedd ar gael os oedd ei angen;   
  • Roedd cynnydd wedi bod yn y galw am gymorth cyllidebu gan fod preswylwyr yn gorfod ymestyn eu cyllidebau; 
  • Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor.   Er gwaetha’r galw uchel yn ystod y pandemig, roedd y niferoedd a oedd yn ei dderbyn yn araf ar hyn o bryd.   Roedd gwaith wedi’i wneud i ddeall pryd fydd angen cymorth i gefnogi pobl mewn trafferthion;
  • Y cynllun ffyrlo yn dod i ben.   Ar hyn o bryd nid oedd galw mawr am geisiadau am gefnogaeth.   Mae’n bosibl fod pobl yn ceisio cydbwyso eu harian, a bydd hyn yn parhau i gael ei fonitro ac roedd pob proses ar waith i roi cymorth;
  • Roedd taliadau hunan-ynysu yn parhau gyda nifer uchel o geisiadau wedi’u cyflwyno; a
  • Roedd Taliadau Dewisol Tai yn parhau i gynyddu’n raddol.  Roedd gostyngiad wedi bod mewn cyllid gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ond roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £126,000 yn ychwanegol at daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau i alluogi’r cymorth hwnnw.

 

Rhoddodd y Rheolwr Budd-daliadau ddiweddariad ar lafar ar y Lwfans Cymorth Tanwydd y Gaeaf hefyd.   Roedd y cynllun yn amodol ar gymeradwyaeth terfynol Llywodraeth Cymru ac yn agor ddydd Llun 13 Rhagfyr 2021.   Roedd pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn mabwysiadu’r un dull a rhagwelir y byddai tua 9,000 o hawlwyr yn Sir y Fflint.  Roedd amodau hawlio budd-daliadau ynghlwm ac amodau o ran darparwyr ynni.   Roedd preswylwyr cymwys yn gallu hawlio £100 oddi ar eu biliau tanwydd.   Cadarnhaodd y byddai hwn yn cael ei gyhoeddi unwaith y bydd wedi’i gymeradwyo drwy’r cyfryngau cymdeithasol, gwefannau ac ati.   Ym mis Ionawr, yn dilyn dadansoddi data, byddwn yn cysylltu â’r aelwydydd cymwys hynny nad ydynt wedi hawlio i’w hannog nhw i hawlio.

 

Bu i’r Cadeirydd ddiolch i’r Rheolwr Budd-daliadau am ddiweddariad manwl.   Cafodd yr argymhelliad, fel y nodir yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd David Wisinger a’i eilio gan y Cynghorydd Ron Davies.    

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus i reoli’r effaith y mae diwygio’r gyfundrefn les yn ei gael, ac yn parhau i’w gael, ar rai o’r preswylwyr mwyaf agored i niwed yn Sir y Fflint.

32.

Incwm Rhent Tai pdf icon PDF 184 KB

Pwrpas:        I ddarparu diweddariad gweithredol ar gasglu rhent a lefelau ôl-ddyledion presennol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y diweddariad gweithredol ar gasglu rhent tai ar gyfer 2021/22.  

 

Rhoddodd y Rheolwr Refeniw wybod bod cyfanswm yr ôl-ddyledion rhent ar gyfer tenantiaid presennol, ar wythnos 28 (hyd at ganol mis Hydref 2021) yn £2.40 miliwn, o’i chymharu â £2.35 miliwn ar yr un adeg yn 2020/21 a £2.40 miliwn ar yr un adeg yn 2019/20 cyn y pandemig.   Roedd y Gwasanaeth Incwm Rhent yn parhau i gefnogi tenantiaid a sicrhau bod ymyriadau’n cael eu darparu i denantiaid i atal cymryd camau cyfreithiol pellach ac i sicrhau fod tenantiaid yn talu eu taliadau.

 

Cafwyd cyflwyniad manwl gan y Rheolwr Refeniw yn trafod y meysydd canlynol:-

 

  • Casgliadau Rhent - Y sefyllfa ddiweddaraf (hyd at wythnos 35)
  • Rhagolygon Meincnodi Cenedlaethol ar gyfer 2021-22
  • Tueddiadau gyda galwadau gwasanaeth/ contractau
  • Y Sefyllfa Ddiweddaraf - Ôl-ddyledion wedi’u Bandio
  • Y Sefyllfa Ddiweddaraf - Tenantiaid ag Ôl-ddyledion
  • Adolygiad gronynnog ar ôl-ddyledion £5 mil +

 

Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd David Wisinger o ran p’un ai dylai Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fod yn gwneud mwy a’r effeithiau negyddol pellach y gallai’r pandemig ei gael, rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd i’r Aelodau bod y Portffolio Tai wedi’i baratoi i helpu tenantiaid ac wedi bod yn gweithio ac yn addasu eu prosesau ers sawl blwyddyn.    Nid oedd yn bosibl rheoli rhai pethau ond roedd y Cyngor wedi darparu timau i helpu tenantiaid i roi cymorth i’w cadw yn eu tai ac i beidio â chael eu troi allan.   Cytunodd y gallai’r pandemig gael effeithiau negyddol pellach ond roedd eisiau rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai’r Gwasanaeth Tai yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu tenantiaid yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn. 

 

Cytunodd y Rheolwr Refeniw â’r sylwadau a wnaed gan y Prif Weithredwr ac ychwanegodd fod achos busnes wedi’i wneud sawl mis yn ôl i gynyddu lefel yr adnoddau yn y cynllun busnes ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai.   Roedd hyn er mwyn rhoi cymorth ychwanegol gan fod y gwasanaeth yn gallu gweld bod mwy o heriau i ddod a byddai angen rhoi adnoddau ar waith i ddarparu’r cymorth hwnnw.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Brian Lloyd os byddai’r ôl-ddyledion arwyddocaol, fel y nodir yn yr adroddiad, yn gallu cael eu hadfer neu os byddai’n rhaid eu dileu.   Eglurodd y Rheolwr Refeniw nad oedd ôl-ddyledion mawr yn cael eu dileu’n awtomatig.   Os oedd angen troi tenantiaid allan a bod cyfleoedd ar gael i hel yr ôl-ddyledion rhent hynny, yna byddai hynny’n digwydd.   Roedd yn heriol, ac os byddai’r holl brosesau wedi’u cymryd heb unrhyw lwyddiant yna bu’n rhaid dileu’r ddyled.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet Tai sicrwydd i aelodau fod popeth yn cael ei wneud i osgoi troi tenantiaid allan.   Pe na bai’r Cyngor wedi buddsoddi yn y feddalwedd ‘Rent Sense’ Mobysoft, roedd yn teimlo y byddai’r sefyllfa wedi bod yn waeth.   Roedd yn teimlo y byddai’r newidiadau a wnaed yn y portffolio Tai yn rhoi’r gefnogaeth hynny i denantiaid. 

 

Bu i’r Cynghorydd Dennis Hutchinson longyfarch y  ...  view the full Cofnodion text for item 32.

33.

Cynllun y Cyngor 2021-22 Monitro Canol Blwyddyn pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad monitro canol blwyddyn i adolygu cynnydd yn erbyn eu blaenoriaethau perthnasol fel y’u nodwyd ym Mesurau Adrodd 2020/21 y Cyngor, o dan gylch gorchwyl y Pwyllgor.  Roedd 73% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu fynd y tu hwnt i’w targed.

 

Roedd yr adroddiad yn un ar sail eithriadau ac yn canolbwyntio ar danberfformio ar y targedau.  Roedd un maes o fewn cylch gwaith y Pwyllgor fel ag amlinellir yn adran 1.07 o’r adroddiad.   Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod bod rhestr o eiddo yn y system nad oedd wedi’u darparu eto.   Roedd y rhain wedi’u hoedi oherwydd sefyllfaoedd economaidd ac amodau cynllunio a oedd wedi arafu’r rhaglen.   Roedd cynlluniau y tu ôl i’r rhain a fyddai’n dod i’r Pwyllgor i dynnu sylw at yr hyn oedd yn digwydd o ran y rhaglen adeiladu newydd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Veronica Gay os oedd yn bosibl i’r seren liwiedig gael ei dynnu a’i ddisodli â’r geiriau Coch, Oren a Gwyrdd yn yr atodiad ar gyfer adroddiadau’r dyfodol gan ei fod yn anodd gwahaniaethu rhwng y lliwiau gwahanol yn y pecynnau Agenda.   Cytunodd yr Hwylusydd i adrodd hwn yn ôl i’r Tîm Perfformiad.

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Geoff Collett a’i eilio gan y Cynghorydd Ron Davies. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

 

            Cyn dod â’r cyfarfod i ben, dywedodd y Prif Weithredwr bod yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau yn gadael y gwasanaeth.   Bu iddo ddiolch iddo am yr holl waith yr oedd wedi’i wneud a’r cyfraniad yr oedd wedi’i wneud i’r Gwasanaeth Tai.  Bu i’r Pwyllgor ddymuno’n dda i’r Uwch Reolwr Tai ac Asedau i’r dyfodol.

 

                        Bu i’r Uwch Reolwr Tai ac Asedau ddiolch i’r Prif Weithredwr a’r Pwyllgor am eu sylwadau.   Dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi’r trafodaethau a’r berthynas yr oedd ganddo gyda’r Aelodau a’i gydweithwyr a oedd wedi bod yn arbennig ac roedd yn teimlo fod Sir y Fflint mewn lle gwych i symud ymlaen a pharhau i wella.  

34.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.