Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote Attendance Meeting

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

35.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

36.

Cofnodion pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 8 Rhagfyr 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2021, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Ron Davies a’r Cynghorydd Kevin Rush.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Helen Brown am gadeirio’r cyfarfod yn ei absenoldeb.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

37.

Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol i’w hystyried.   Cyfeiriodd at gyfarfod mis Chwefror a nodi y byddai’r adroddiad Archwilio Mewnol ar lety dros dro yn cael ei ychwanegu at y rhestr o eitemau i’w hystyried yn y cyfarfod.    O ran yr adroddiad olrhain camau gweithredu, cadarnhaodd nad oedd yna unrhyw gamau gweithredu yn codi o’r cyfarfod diwethaf.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Helen Brown a oedd modd cyflwyno adroddiad ar eiddo Grant Cyfleusterau i’r Anabl a’r defnydd gorau o stoc tai yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.   Cefnogwyd yr awgrym hwn gan y Prif Weithredwr a chytunwyd i’w gynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.  

 

Cafodd yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Helen Brown a’u heilio gan y Cynghorydd Brian Lloyd.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)        Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a  

 

(c)        Bod y cynnydd a wnaed o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau yn cael ei nodi.

38.

Y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) Cynllun busnes ariannol 30 mlynedd pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Ystyried Cyllideb Cyfrif Refeniw Tai arfaethedig ar gyfer 2022/23 a’r Cynllun Busnes CRT.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad i ystyried y gyllideb Cyfrif Refeniw Tai a gynigiwyd ar gyfer 2022/23 a drafft o Gynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai.  Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Masnachol a Thai) gyflwyniad yn cynnwys y canlynol:

 

  • Benthyca
  • Rhenti
  • Rhenti Garejis
  • Taliadau Gwasanaeth
  • Rhaglen Gyfalaf
  • Adfywio
  • SHARP
  • Arian Cyfalaf
  • Cronfeydd Wrth Gefn
  • Goblygiadau o ran Adnoddau (gan gynnwys ailstrwythuro er mwyn diwallu pwysau gwaith)
  • Asesiad o Effaith a Rheoli Risg
  • Ffyrdd o Weithio (Datblygu Cynaliadwy)
  • Effaith Nodau Lles

 

Roedd y cynnydd o ran rhent a gynigiwyd yn y cynllun busnes yn gweithredu ymgodiad cyffredinol o 1.18% i’r holl denantiaid ac, yn ychwanegol, roedd yn gweithredu’r ymgodiad trosiannol o £2 i denantiaid sydd ar hyn o bryd yn talu o leiaf £3 o dan y rhent targed, sy’n gyfwerth â chynnydd cyffredinol o 2% mewn rhent, fel yr amlinellir yn y Cynllun Busnes.   

 

Cynigiwyd cynnydd o 2% mewn rhent garejis a lleiniau garejis ar gyfer 2022/2023, a oedd gyfwerth â £0.20 yr wythnos am rent garejis, gan olygu bod y rhent wythnosol yn £10.23 (yn seiliedig ar 52 wythnos).

 

O ran Taliadau Gwasanaeth, cynigiwyd rhewi’r cynnydd eto yn 2022/23 oherwydd effaith barhaus y pandemig a byddai mwy o waith yn cael ei gyflawni yn ystod 2022/23, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sy’n cael eu darparu o safon uchel, yn cynnig gwerth am arian a bod y gwir gostau’n cael eu hadlewyrchu wrth gyfrifo taliadau gwasanaeth.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Helen Brown a oedd modd darparu dadansoddiad o’r taliadau rhent a rhent garejis mewn punnoedd a cheiniogau ar gyfer y Pwyllgor.   Eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Masnachol a Thai) y byddai’r wybodaeth hon yn amrywio ar gyfer pob tenant, ond y byddai modd darparu cyfartaledd ar gyfer tenantiaid i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

 

Siaradodd yr Aelodau o blaid y gwaith a wneir o ran lleiniau garejis, fel yr amlinellir fel rhan o’r cyflwyniad.  

 

            Cafodd yr argymhelliad, a amlinellir o fewn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Helen Brown.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi Cynllun Busnes Ariannol 30 mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai a’r Gyllideb ar gyfer 2022/23, fel a gyflwynwyd yn yr adroddiad a’r atodiadau.

39.

Cynllun y Cyngor 2022-23 pdf icon PDF 115 KB

Pwrpas:        Ymgynghori ar Ran 1 o Gynllun y Cyngor 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Gynllun Drafft y Cyngor 2022/23, a oedd wedi cael ei adolygu a’i adnewyddu yn dilyn ymateb i’r pandemig a’r Strategaeth Adfer.   Yr un yw’r themâu a’r blaenoriaethau â’r rhai yn 2021/22, fodd bynnag mae rhai o’r is-flaenoriaethau wedi’u datblygu.

 

Roedd strwythur y Cynllun yn parhau i gael ei gysoni i gyfres o chwe Amcan Lles ac roedd y chwe thema yn parhau i gymryd golwg hirdymor ar adferiad, uchelgais a gwaith dros y ddwy flynedd nesaf.   Atodwyd amlinelliad o Gynllun y Cyngor ar gyfer 2022/23, gan gynnwys y chwe thema, eu blaenoriaethau a’r camau gweithredu i’r adroddiad.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol y byddai’r holl sylwadau ac awgrymiadau yn cael eu casglu a’r rhannu â’r Cabinet cyn cymeradwyo eu mabwysiadu ym mis Mehefin 2022.  

 

Cafodd yr argymhelliad a nodir yn yr adroddiad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Helen Brown a’r Cynghorydd Brian Lloyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnwys y themâu ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022-23, fel a gyflwynwyd yn yr adroddiad a’r atodiad.

40.

Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.