Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

46.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim

47.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Flaenraglen Waith bresennol.  Cyfeiriodd at yr eitemau a restrwyd ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor fydd yn cael ei gynnal ar 19 Mai 2021 gan egluro y byddid yn adrodd ar yr eitem ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol, y rhestrwyd ar gyfer ei ystyried, i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn hytrach.  Nid oedd unrhyw newidiadau eraill i’r Flaenraglen Waith fel yr adroddwyd ar hynny yn y cyfarfod diwethaf.  Dywedodd bod gwaith yn mynd rhagddo ar amserlennu cyfarfodydd o Fedi 2021 ymlaen ac y byddid yn cyflwyno dyddiadur drafft i gyfarfod blynyddol y Cyngor Sir ar 11 Mai ar gyfer ei gymeradwyo.

 

                        Cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr adroddiad tracio gweithgareddau a atodwyd i’r adroddiad.    Dywedodd bod y gweithgaredd unigol a gododd o’r cyfarfod diwethaf wedi cael ei gwblhau ac yr ychwanegwyd diweddariad ar y System Rhestrydd Adnoddau Deinamig (DRS) i’r Blaengynllun Gwaith fel eitem i’w ystyried gan y Pwyllgor i’r dyfodol.  

 

Awgrymodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad er mwyn darparu manylion ar y broses dyrannu tai i Aelodau.  Dywedodd Y Cynghorydd Dave Hughes ei fod wedi gofyn am gyflwyniad ar bolisi SARTH a’r polisi dyrannu er mwyn diweddaru’r holl Aelodau, a rhoddodd sicrwydd y byddai hynny yn digwydd.   Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal i ddarparu sesiwn friffio i’r Pwyllgor cyn dechrau cyfarfod yn y dyfodol er mwyn rhoi trosolwg ar sut yr oedd y polisi SARTH yn gweithio, a mwy o eglurder ar y broses ddyrannu.

 

Cynigiwyd yr argymhellion ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorwyd Ron Davies a Dennis Hutchinson

 

PENDERFYNWYD:

 

(A)   Nodi’r Blaenraglen Waith;

 

(B)   Awdurdodi’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Blaenraglen Waith rhwng cyfarfodydd, fel bo’r angen yn codi; a

 

(C)   Nodi’r cynnydd a wneir o ran cwblhau’r camau sydd ar ôl i’w cwblhau.

 

48.

Adfywio'r Stoc Tai Bresennol pdf icon PDF 153 KB

Pwrpas:        Amlinellu’r gwaith a wneir i adfywio stoc tai bresennol y Cyngor.  

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac asedau) adroddiad er mwyn darparu diweddariad ar gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) yr oedd y Cyngor yn ei ddarparu drwy ei Raglen Buddsoddi Cyfalaf.  Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y llwyddiannau a’r daith hyd yma.  Eglurodd y byddai’r Rhaglen Waith WHQS wedi cyrraedd ei blwyddyn olaf (2020-2021) o’r Rhaglen Gyfalaf chwe blynedd, ond fe’i hestynnwyd am flwyddyn arall oherwydd effaith pandemig Covid.  Roedd yr adroddiad yn ddiweddariad ar yr hyn oedd wedi ei gyflawni a sydd i’w gyflawni cyn y terfyn amser estynedig yn Rhagfyr 2021.

 

Darparodd Uwch Reolwr Tai ac Asedau wybodaeth gefndirol a chyflwynodd ystyriaethau allweddol fel y manylwyd ar hynny yn yr adroddiad.   Dywedodd bod yna nifer o eiddo ble nod oedd y Cyngor yn gallu darparu’r WHQS oherwydd, am amrywiaeth o resymau, ni roddodd y tenantiaid ganiatâd i’r gwaith gael ei wneud, ond pan fo’r eiddo yn dod yn wag, roedd y gwaith yn cael ei wneud er mwyn codi’r eiddo i’r safon ofynnol.  O 23 Mawrth 2020 daeth yr holl waith WHQS ar eiddo’r cyngor ac ardaloedd cymunol i ben, gyda’r adnoddau yn cael eu canolbwyntio ar eiddo oedd yn cael eu cau/cwblhau’n ddiogel a sicrhau bod yr holl denantiaid a gwaith yn cael ei gadael yn ddiogel.  O ran elfen gyfalaf y gwaith, parhaodd yr holl waith ymatebol, brys a chydymffurfiaeth.  Ar ôl llacio’r cyfyngiadau clo a chyhoeddi mwy o ganllawiau ar 14 Mehefin 2020, cymerwyd mwy o gamau.  Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru (LlC) ar effaith y pandemig ar raglen WHQS.

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau bod y Gwasanaeth wedi bod yn destun archwiliadau ac adolygiadau ar berfformiad y Cyngor o ran darparu’r WHQS.  Rhoddodd sicrwydd bod Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) ac Archwilio Mewnol wedi canfod bod y Cyngor yn gwneud cynnydd da tuag at gyrraedd WHQS ac ni chodwyd unrhyw faterion sylweddol.  Adroddodd hefyd bod yr archwiliadau wedi nodi bod tenantiaid y Cyngor yn fodlon ag ansawdd y gwaith a wnaethpwyd ar eu cartrefi a dywedodd bod Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid WHQS ar 96% (yr uchaf hyd yma). 

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau bod LlC wedi ymrwymo i greu sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 ac i gydlynu camau er mwyn helpu meysydd eraill yr economi i roi’r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil.  Roedd Deddf Yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i LlC leihau allyriadau nwyon t? gwydr (GHG) yng Nghymru o 80% o leiaf erbyn 2050, gyda system o dargedau allyriadau interim a chyllidebau carbon.  Byddai’n ofynnol i’r Cyngor sicrhau bod ei gartrefi yn cyflawni’r lefel uchaf posibl o ran effeithiolrwydd thermol a pherfformiad ynni (EPC lefel A) erbyn 2030.  Fel rhan o’r WHQS, ar hyn o bryd mae’n ofynnol i eiddo’r Cyngor fodloni isafswm o SAP 65 (EPC Lefel D).  Mae trafodaethau â LlC yn parhau ynghylch y gofyniad i gaffael a chyflawni rhaglen ôl-osod fawr.  Yn ystod y 12 mis nesaf bydd swyddogion yn darparu cynlluniau fel rhan o’r rhaglen reoli asedau  ...  view the full Cofnodion text for item 48.

49.

Adroddiad Diweddaru Digartrefedd pdf icon PDF 428 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wneir i atal digartrefedd ar draws Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai ac Atal adroddiad er mwyn darparu diweddariad ar y gwaith sydd wedi cael ei wneud i atal digartrefedd ledled Sir y Fflint.  Darparodd wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at effaith pandemig Covid.  Dywedodd bod yna dri cham i’r ymateb i ddigartrefedd a bod y Cyngor ar hyn o bryd ar gam 3, sef y symud i’r ‘Normal Newydd’ a dywedodd bod yna rai agweddau cadarnhaol a heriau o’n blaenau.  Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth gyflwyniad oedd yn cynnwys y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Cam 1 Ymateb

·         Cam 2 Cynllunio

·         Cam 2 Arian Cyfalaf

·         Cam 3 Y Normal Newydd

·         Galw am wasanaethau

·         Ymateb y tu allan i oriau

·         Tai mewn achos brys

·         Rhain sy’n cysgu ar y strydoedd

·         Cefnogaeth tai

·         Cofrestr tai

·         Yr Holl dai cymdeithasol a osodir

·         50% enwebiadau Covid

·         Teithiau pobl

·         Hyb digartrefedd

·         Gwasanaethau cymorth newydd

·         Edrych i’r dyfodol                                                                                                   

 

Diolchodd y cadeirydd i’r Rheolwr Gwasanaeth am ei adroddiad a’i gyflwyniad llawn gwybodaeth a siaradodd yn gefnogol i’r ymrwymiad brwdfrydig a llwyddiant y gwaith sydd wedi cael ei wneud er mwyn mynd i’r afael â phroblem digartrefedd yn y Sir.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Kevin Rush cytunodd y rheolwr Gwasanaeth i rannu’r rhif ffôn digartrefedd y tu allan i oriau i Aelodau yn dilyn cyfarfod.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson a oedd yna gynlluniau i ymestyn cyfleusterau a thai i bobl ddigartref i ardaloedd eraill yn y Sir yn ychwanegol i’r ardaloedd yr adroddwyd arnynt eisoes.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod angen cynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol a llety rhent dros dro.  Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y strategaeth hirdymor ac at waith ar y rhaglen SHARP er mwyn adeiladu capasiti a hefyd er mwyn lleihau rhestrau aros am dai.    

 

Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Ron Davies ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mared Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:

 

(A)  Nodi’r adroddiad; a

 

(B)  Bod y gwaith sydd yn cael ei wneud gan y gwasanaeth yn parhau i gael ei gefnogi.

 

50.

Diweddariad Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad er mwyn darparu trosolwg o’r cynlluniau adfer ar gyfer portffolios perthnasol y Pwyllgor.  Cyfeiriodd at y gofrestr risg portffolio a’r camau lliniaru risg a atodwyd i’r adroddiad, ac adroddodd ar y risgiau coch canlynol:  CF14, HA04, HA06, CP03, HA27, HA30, a HA33.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at risg CP11 (costau a chymhlethdodau ynghylch dychwelyd ac adsefydlu Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy o ganlyniad i gyfnod estynedig o’i defnyddio fel ysbyty brys) a gofynnodd a fyddai’r gost o adsefydlu yn cael ei ariannu gan y Cyngor neu’r Gwasanaeth Iechyd.  Eglurodd y Prif Swyddog bod yr Ysbyty Enfys yn cael ei symud i gam cynllunio ar gyfer adsefydlu wrth i’r rhaglen frechu ranbarthol ddirwyn i ben.  Fel rhan o’r rhaglen adsefydlu byddai’r Cyngor yn archwilio’r opsiynau fydd ar gael ar gyfer darparu ei wasanaethau hamdden a gwasanaethau eraill yn y dyfodol ar y safle.   

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson a ellid ystyried defnydd ar y cyd o’r safle gan y Cyngor Sir a BCUHB petai’r angen am ganolfan hamdden a gwasanaethau ysbyty yn parhau i’r dyfodol.   Dywedodd y Prif Swyddog mai’r bwriad oedd adsefydlu Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy i’r un sefyllfa a darpariaeth gwasanaethau hamdden ag oedd yn bodoli cyn creu’r Ysbyty Enfys ar y safle.

 

Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Geoff Collett. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Gofrestr Risg ddiweddariedig a'r Camau Lliniaru Risg, fel yr amlinellwyd hynny yn yr adroddiad.

 

51.

AELODAU'R WASG OEDD YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yna un aelod o’r wasg yn bresennol.