Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Ceri Shotton 01352 702305 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor mai Gr?p Llafur a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor hwn.  Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Ian Dunbar yw Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn ddinesig hon.

 

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Llafur.  Cafodd y Pwyllgor wybod fod y Cynghorydd Ian Dunbar wedi cael ei benodi i’r rôl ar gyfer blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi penodiad y Cynghorydd Ian Dunbar fel Cadeirydd y Pwyllgor.

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Ron Davies y Cynghorydd Ray Hughes fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Rush. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill. O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Ray Hughes yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

4.

Cofnodion pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 7 Gorffennaf 2020.

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2020, fel y cawsant eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Ron Davies a Dennis Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

5.

Briffio ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar)

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

Cofnodion:

Fe eglurodd y Prif Weithredwr fod y sefyllfa bresennol yn un ansefydlog. Byddai’r Prif Weithredwr a’i Uwch Swyddogion yn sicrhau bod Aelodau yn cael diweddariad byr ar lafar ar ddechrau cyfarfodydd. Dywedodd hefyd y gallai fod yn angenrheidiol ailgyflwyno’r briffiau o’r sefyllfa a gafodd eu rhoi i  Aelodau yn ystod chwe mis cyntaf yr argyfwng.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad ar lafar.

6.

Cylch Gorchwyl y Pwyllgor pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Cael cylch gorchwyl y Pwyllgor newydd fel a gytunwyd gan y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Hwylusydd Pwyllgor Craffu a Throsolwg Cymuned ag Addysg yr adroddiad i dderbyn cylch gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor fel y cytunwyd gan y Cyngor. Yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor, penodwyd Cadeiryddion i’r pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu o fewn y strwythur newydd gyda chylch gorchwyl diwygiedig. Newidiadau i gylch gorchwyl y Pwyllgor hwn yn cynnwys cael gwared ar eitemau adfywio i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd ac Adfywio ac ychwanegu’r eitemau canlynol:

 

  • Ymgynghoriaeth Eiddo a Dylunio
  • Prisio ac Ystadau
  • Gwasanaethau Cyfleusterau
  • Asedau Cymunedol
  • Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol
  • NEWydd

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cylch gorchwyl, fel y cytunwyd gan y Cyngor ac sydd yn atodiad i’r adroddiad, yn cael ei nodi.

7.

Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor ac ailadeiladu’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21 gyda chanolbwynt penodol ar gynllunio adferiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg i’r Pwyllgor o gynllunio adferiad ar gyfer ei feysydd portffolio yn rhan o’r strategaeth er mwyn ailgychwyn y broses lywodraethu ddemocrataidd llawn. Byddai adborth gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am y cofrestru risg, y blaenoriaethau adferiad a thargedau dangosydd perfformiad diwygiedig ar gyfer eu meysydd yn cael eu hadrodd i’r Cabinet cyn cyhoeddi’r Strategaeth Adferiad llawn.

 

Cafwyd cyflwyniad oedd yn dangos y trosglwyddiad o ymateb i adferiad am y pwyntiau canlynol:

 

·         Argymhellion gan y Cabinet

·         Amcanion y Strategaeth Adferiad

·         Amcanion yr ymateb

·         Enghreifftiau o gyflawniadau lleol wrth ymateb

·         Adferiad – trefniadau trosglwyddo

·         Strwythurau adferiad rhanbarthol a lleol

·         Amcanion adferiad - Gwasanaethau

·         Gweithgareddau adferiad

·         Adferiad cymunedol

·         Cynllun a pherfformiad y Cyngor

·         Llywodraethu adferiad yn ddemocrataidd

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r Uwch Reolwyr gyflwyniad manwl ar y gofrestr risg ar gyfer y portffolio gwasanaeth oedd yn cynnwys y canlynol:

 

·         Risgiau Asedau a Thai

·         Dyrannu Risg

·         Tuedd Risg

·         Ariannol

·         Gweithlu

·         Eiddo ac Asedau

·         Llywodraethu a’r Gyfraith

·         Gwasanaethau Atal Digartrefedd

 

Fe awgrymodd yr Hwylusydd fod Aelodau yn ystyried risgiau o bryder parhaus a sut orau i’w hadrodd i’r Pwyllgor er mwyn dylanwadu ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol. Dywedodd y byddai’n cysylltu â’r Cadeirydd, Prif Swyddog a’r Uwch Dîm Rheoli i gyfrannu at y rhaglen waith i’r dyfodol i’w gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. 

 

Wrth ymateb i gwestiwn am eiddo gwag fe gynghorodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau fod yna ystod eang o eiddo gwag ar draws y Sir, eiddo 1 a 2 lofft yn bennaf.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am grantiau cyfleusterau i’r anabl fe gynghorodd y Rheolwr Budd-daliadau fod gwaith wedi ail-ddechrau ar brosiectau canolig a mawr. Fe sicrhaodd y Pwyllgor fod yr achosion mwyaf brys wedi parhau yn ystod y sefyllfa o argyfwng ond fe amlinellodd pa mor betrusgar oedd rhai pobl o gael gweithwyr yn gweithio ar eu cartrefi felly roedden nhw’n cydweithio’n agos gyda’r bobl hyn. Hefyd darparodd ddiweddariad ar y gwaith sydd wedi’i wneud â’r Tîm Caffael i sicrhau mwy o ymrwymiad gyda chontractwyr cyn dechrau ar y gwaith ar yr eiddo.      

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor gefnogi’r argymhellion yn cynnwys y blaenoriaethau adferiad nesaf a nodwyd yn yr adroddiad, ochr yn ochr â chytuno â’r dadansoddiad risg a chamau gweithredu lliniaru. Cafodd y rhain eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’u heilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y gyfres lawn o flaenoriaethau strategol nesaf ar gyfer adfer y portffolio fel y nodwyd yn yr adroddiad yn cael eu nodi, ynghyd â’r dadansoddiad risg a chamau gweithredu lliniaru ar gyfer y rhai presennol a’r rhai sydd wedi’u cynllunio; a

 

 (b)      Bod rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor yn cael ei ail-lunio ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor ar gyfer 2020/21, gyda chynllunio adferiad yn ganolbwynt.

Recovery Strategy - Presentation slides pdf icon PDF 423 KB

8.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.