Rhaglen a chofnodion

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 

Eitemau
Rhif eitem

10.

Datgan Cysylltiad

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet, dan God Ymddygiad y Cynghorwyr, nad oedd ganddo gysylltiad â’r adroddiad.

11.

Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 - Cario Cyllid Ymlaen i 2020/21 pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo cynigion penodol ar gyfer cario cyllid ymlaen i 2020/21.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ac eglurwyd fod Rheolau’r Weithdrefn Gyllid yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cario ceisiadau cyllid ymlaen i gwrdd â chost ymrwymiadau i’r dyfodol.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion nifer o geisiadau cario ymlaen a argymhellir, sydd wedi’u cyflwyno gan bortffolios ac wedi bod yn destun proses herio i sicrhau bod y diben yn rhesymol a phriodol. Mae'r tabl yn yr adroddiad yn crynhoi swm y ceisiadau cario ymlaen ac fe geir rhagor o fanylion yn yr atodiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Banks, fel Aelod Cabinet Cyllid, ei fod yn fodlon ar y manylion a ddarparwyd iddo yn dilyn cyflwyno cwestiynau i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol.   

 

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, gwnaeth y Cynghorydd Carver y sylwadau canlynol:

 

“Yn fy marn i, fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, mae’r ceisiadau cario ymlaen yn rhesymol ac felly nid oes gen i unrhyw wrthwynebiad i’r ceisiadau sydd wedi’u cynnwys yn Nhabl 1 ac Atodiad 1 yr adroddiad.”

 

Roedd y Cynghorydd Mackie wedi cyflwyno’r sylw canlynol i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd:

 

“Derbyniwyd incwm o £0.060 miliwn gan Gyngor Tref y Fflint yn 2019/20 tuag at adfywio canol y dref.Bydd hyn yn canolbwyntio mwy ar ymyraethau mewn eiddo ac yn cynnwys recriwtio i swydd newydd yn 20120/21.”

 

Roedd y Cynghorydd Banks, fel Aelod Cabinet Cyllid, yn cefnogi’r argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r ceisiadau cario ymlaen yn Nhabl 1 ac Atodiad 1.

12.

Hyd Y Cyfarfod

Cofnodion:

Dechreuodd y cyfarfod am 12.45pm a daeth i ben am 13.00pm.