Rhaglen a chofnodion
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet, dan God Ymddygiad y Cynghorwyr, nad oedd ganddo gysylltiad â’r adroddiad. |
|
Penodi Cyfarwyddwyr ar y Bwrdd NEW Homes PDF 118 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad ac eglurodd fod angen cymeradwyo penodi tri chyfarwyddwr annibynnol i Fwrdd North East Wales (NEW) Homes.
Ym mis Ionawr a mis Chwefror 2020 cynhaliodd NEW Homes ymarfer recriwtio. Cafwyd wyth ymgeisydd a chrëwyd rhestr fer o bedwar, gyda thri yn derbyn y gwahoddiad i ddod i gyfweliad.
Yn dilyn y cyfweliadau, mae’r ymgeiswyr canlynol wedi cael cynnig lle ar y Bwrdd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet:
· Geoff Davies - Swyddog Arweiniol, Tai Cymunedol, Cyngor Sir Ddinbych · Richard Weigh - Prif Swyddog Cyllid / Swyddog Adran 151, Cyngor Dosbarth Craven · Simon Finlay - Cyfarwyddwr Datblygu, Macbryde Homes
Gyda’i gilydd bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus, sydd oll yn lleol, yn dod ag arbenigedd strategol a gweithredol sylweddol i’r Bwrdd yn ogystal â phrofiad mewn meysydd allweddol fel y nodwyd yn y Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd, gan gynnwys:
· Rheoli tai · Rheoli asedau · Ymgysylltu â phreswylwyr · Rheoli prosiect · Datblygu a chaffael cyn adeiladu (preswyl) · Darparu rhaglenni tai · Arweinyddiaeth llywodraeth Leol strategol · Darparu strategaeth ariannol tymor canolig a hirdymor y Cyngor; datblygu mentrau masnachol o fewn amgylchedd llywodraeth leol, gan gynnwys datblygu cynlluniau tai cyd-berchnogaeth
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Simon Finlay wedi’i gyflogi fel datblygwr tai i Macbryde Homes sy’n gweithio gyda NEW Homes.Yn ystod y broses recriwtio cadarnhawyd nad oedd gwrthdaro buddiannau rhwng y ddwy rôl.Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y byddai adran wahanol yn delio â'r gwaith petai NEW Homes yn delio gyda Macbryde Homes yn y dyfodol.Cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglenni Tai gyda phwy yn Macbryde Homes y byddai’n delio ag o yn dilyn penodi Simon Finlay.Eglurodd hefyd y byddai’r trefniant yn cael ei fonitro a bod Mr Finlay yn ymwybodol o hyn.
Roedd y Cynghorydd Ian Dunbar, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter, wedi cyflwyno’r sylwadau canlynol:
‘Hoffaf ofyn, os gwelwch yn dda:-
Rwyf yn llwyr gefnogi penodi’r tri unigolyn uchod, fel y nodir yn adran 1.04 yr adroddiad a theimlaf y bydd eu harbenigedd yn help. Rwyf hefyd yn llwyr gefnogi’r Aelod Cabinet, y Cynghorydd Dave Hughes yn ei benderfyniad unigol’.
Cydnabuwyd fod y pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Dunbar wedi derbyn sylw yn ystod cyflwyniad yr adroddiad.
Roedd y Cynghorydd Hughes, fel Aelod Cabinet Tai, yn cefnogi’r argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo penodi’r tri chyfarwyddwr annibynnol newydd yn Aelodau Bwrdd North East Wales Homes. |
|
Hyd Y Cyfarfod Cofnodion: Dechreuodd y cyfarfod am 12.30pm a daeth i ben am 12.45pm. |