Rhaglen a chofnodion
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet, o dan God Ymddygiad y Cynghorwyr, nad oedd ganddo gysylltiad â’r adroddiad. |
|
Ymgynghoriad ar Ryddhad Ardrethi Elusennol i Ysgolion ac Ysbytai PDF 109 KB Pwrpas: Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am eich barn ar ryddhad ardrethi elusennol i ysgolion ac ysbytai yng Nghymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw adroddiad a oedd yn gofyn am farn o ran a oedd angen diwygio Rhyddhad Ardrethi Elusennol i rai ysgolion ac ysbytai i sicrhau bod y gefnogaeth yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei darparu drwy’r cynlluniau rhyddhad ardrethi yn cael ei thargedu’n gywir. Roedd cyfnod yr ymgynghoriad wedi’i ymestyn i 29 Mai o ganlyniad i’r mesurau brys cenedlaethol a’r pwysau sylweddol ar fudd-ddeiliaid allweddol.
Roedd gan Sir y Fflint 13 o Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru neu Ysgolion Catholig Rhufeinig a oedd yn gymwys am Ryddhad Ardrethi Elusennol o 80% sy’n gyfanswm o £185k o ryddhad ardrethi'r flwyddyn. Roedd hefyd tri safle addysg bellach yn y Sir a oedd hefyd yn gymwys am ryddhad ardrethi o £556K y flwyddyn.
Yng Nghymru, roedd 30 eiddo wedi’u categoreiddio fel ysbytai preifat, doedd dim un yn Sir y Fflint.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, fe wnaeth y Cynghorydd Carver, y sylw canlynol:
‘Rydw i fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cytuno’n llwyr â’r argymhelliad yn yr adroddiad, sef “y dylid gohirio unrhyw ddiwygiad arfaethedig o Ryddhad Ardrethi Elusennol i ysgolion ac ysbytai oherwydd effeithiau economaidd y sefyllfa argyfwng hon, oherwydd efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru adolygu cynaliadwyedd y cynllun ardrethi cyfan ar ei ffurf bresennol’.
Cefnogodd y Cynghorydd Mullin, yr Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau, yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Gohirio unrhyw ddiwygiad arfaethedig o Ryddhad Ardrethi Elusennol i ysgolion ac ysbytai oherwydd effeithiau economaidd y sefyllfa argyfwng hon, oherwydd efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru adolygu cynaliadwyedd y cynllun ardrethi cyfan ar ei ffurf bresennol. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Gwerthu Newtech Square, Parc Busnes Glannau Dyfrdwy, Glannau Dyfrdwy, CH5 2NT Pwrpas: Cymeradwyo gwerthu Newtech Square, Parc Busnes Glannau Dyfrdwy, Glannau Dyfrdwy, CH5 2NT. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad ac esboniodd fod y Cyngor yn berchen ar y rhydd-ddaliad i Newtech Square. Nid oedd y tenant diweddaraf yno mwyach ac roedd yn dymuno arfer ei gymal terfynu yn 2021.
Yn dilyn prisiad annibynnol, ystyriwyd cynnig a wnaed i’r Cyngor yn un derbyniol ac argymhellwyd ei gymeradwyo.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, cyflwynodd y Cynghorydd Carver, y sylwadau canlynol:
‘Rydw i fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn credu:
(1) bod tenant 1 Newtech Square wedi arfer ei gymal terfynu ac er gwaethaf yr ymdrech i farchnata’r eiddo er mwyn aseinio neu isosod heb lwyddiant. Dangosodd gwmni fferyllol, sydd eisoes wedi’i leoli ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, ddiddordeb yn yr eiddo ac ystyriwyd cynnig y cwmni yn dderbyniol.
(2) Mae gan y Cyngor adeilad i gael gwared ohono, mae ganddo brynwr sydd wedi gwneud cynnig derbyniol a fydd yn arbed y Cyngor rhag gorfod talu Tâl Gwasanaeth o £8,000 y flwyddyn ac Ardrethi Annomestig o oddeutu £6,875 y flwyddyn os nad yw’r cynnig yn cael ei dderbyn a’r eiddo yn aros yn wag.
Felly, o dan yr amgylchiadau, nid oes gennyf wrthwynebiad i’r cynnig i dderbyn y cynnig’.
Cefnogodd y Cynghorydd Mullin, yr Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau, yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn cefnogi gwerthiant Newtech Square, swyddfa a gofod labordy 22,500 troedfedd sgwâr ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. |
|
Gwerthu Hope Hall Farm, yr Hôb Pwrpas: I gefnogi gwerthiant Hope Hall Farm, yr Hôb sy’n cynnwys 101 erw o dir amaethyddol, t? a thai allan cysylltiedig. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad ac esboniodd fod y Cyngor yn berchen ar y rhydd-ddaliad i Hope Hall Farm, Yr Hôb.
Roedd y fferm wedi’i rhannu i dair llain:
· Y fferm a 101 erw o dir; · Llain 7 erw sy’n cael ei gwaredu ar wahân; a · Thir a gedwir sy’n wynebu’r briffordd pe bai modd ei ddatblygu yn y dyfodol.
Byddai gwerthu yn amodol ar gymal adfachu a fyddai’n aros mewn grym am y 25 mlynedd nesaf.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, fe wnaeth y Cynghorydd Carver y sylwadau canlynol:
‘Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, rwy’n ei gweld hi’n od bod y mater o werthu Hope Hall Farm yn cael ei gyflwyno ger bron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Cabinet, rai misoedd ar ôl gwerthu. Yn ôl yr adroddiad, yn dilyn cefnogaeth Bwrdd y Rhaglen Asedau Cyfalaf i gael gwared ar y fferm ym mis Chwefror 2018, cafodd ei gwerthu drwy dendr anffurfiol ym mis Tachwedd 2019.
Rwy’n derbyn er y byddai wedi bod yn well petai’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Cabinet wedi cael eu cynnwys yn gynt, yn sicr yn y sefyllfa bresennol mae’n bosib y buasai cyflwr y farchnad wedi gwaethygu a’r prynwr wedi ailfeddwl y swm a gynigiwyd. Felly, o dan yr amgylchiadau, nid oes gennyf wrthwynebiad i’r argymhelliad bod y Cabinet yn cefnogi gwerthu Hope Hall Farm, Yr Hôb, sy’n cynnwys 101 erw o dir amaethyddol, t? a thai allan cysylltiedig.’
Cefnogodd y Cynghorydd Mullin, yr Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau, yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn cefnogi gwerthiant Hope Hall Farm, Yr Hôb sy’n cynnwys 101 erw o dir amaethyddol, t? a thai allan cysylltiedig. |
|
Hyd Y Cyfarfod Cofnodion: Dechreuodd y cyfarfod am 1.00pm a daeth i ben am 1.30pm. |