Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter / Sharon Thomas - 01352 702322/ 702324 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

i benodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Gofynnodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd am enwebiadau am Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD

 

Penodi’r Cynghorydd Ray Hughes yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw Datganiadau a chynghori’r Aeolodau yn unol a hynny

 

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o gysylltiad.

3.

Ymgynghoriad ar Adolygu Ffioedd Meysydd Parcio pdf icon PDF 84 KB

Ymgynghori ar yr Adolygiad Ffioedd Parcio Ceir

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad gan esbonio pam bod yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal drwy gyd-gyfarfod o ddau Bwyllgor Trosolwg a Chraffu (Adnoddau Corfforaethol ac Amgylchedd). Gan fod i’r adolygiad o ffioedd meysydd parcio’r ochr gyllidebol ac ochr gweithredu’r meysydd parcio, a gan fod yr adolygiad o’r ffioedd yn fater nad oedd wedi cael sylw gan gyfarfodydd cyllideb y Cyngor llawn, roedd cyfarfod ar y cyd yn briodol – Adnoddau Corfforaethol oedd y pwyllgor arweiniol dros graffu ar gyllidebau a’r Amgylchedd oedd y pwyllgor arweiniol dros bolisi a gweithrediadau’r meysydd parcio.

 

            Atgoffodd y Prif Weithredwr yr Aelodau y cafwyd, yn ystod y cyfarfod o’r Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2018, gydgytundeb i gynyddu’r targed incwm ar gyfer parcio ceir £450,000 ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19. Cydnabyddai y ceid, o bosibl, safbwyntiau gwahanol yngl?n â sut i gyrraedd y targed ac atgoffodd yr aelodau bod cyrraedd y targed yn gyfrifoldeb i bawb.

 

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) y ffioedd diwygiedig, ynghyd â’r trefniadau a’r dyddiad dechrau gohiriedig ar gyfer cyflwyno ffioedd parcio yn Fflint. Roedd ffioedd parcio ceir wedi cael ei drafod yn flaenorol gan Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a oedd yn agored i holl Aelodau’r Cyngor ar 16 Ionawr 2018. Yn ystod y cyfarfod, gwnaeth yr Aelodau nifer o awgrymiadau ar yr opsiynau, ac roedd esboniadau manwl o ba rai o’r awgrymiadau a dderbyniwyd a’r rhesymau pam na fwriwyd ymlaen ag eraill wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog fod y cyfle i gynnig rhoi cyfleoedd i barcio am ddim ar y stryd, yn agos i ganol trefi, wedi cael ei archwilio a bod y Cyngor wrthi’n ymgynghori gyda dau Gyngor Tref yngl?n â’r potensial o ddileu gorchmynion parthau cerddwyr a fyddai’n caniatáu i gerbydau ddychwelyd i’r Stryd Fawr. Gallai cynghorau tref ystyried sybsideiddio ffioedd parcio yn eu hardaloedd. Byddai angen i unrhyw gynigion sicrhau bod y targedau incwm parcio ceir corfforaethol yn cael eu cyrraedd. Byddai’r system codi tâl am barcio ceir yn cael ei hadolygu’n rheolaidd.

 

            Ymddiheurodd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad fod awgrym a wnaed gan y Cynghorydd Mike Peers yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2018 i gynyddu’r arhosiad lleiaf i 1 awr am 30c wedi’i hepgor o’r adroddiad. Sicrhaodd yr Aelodau fod yr awgrym hwn wedi cael ei ystyried ond y gwelwyd nad oedd yn fforddiadwy. Dywedodd pa mor bwysig oedd sicrhau hyfywedd canol trefi gan esbonio y byddai codi’r ffioedd parcio ceir yn talu’r gost o ofalu am y meysydd parcio ar draws Sir y Fflint.      

 

            Croesawodd Arweinydd y Cyngor y broses graffu wrth ystyried y ffioedd parcio ceir arfaethedig gan ddweud y byddai’r Cabinet yn rhoi ystyriaeth i’r sylwadau o’r cyfarfod yn ei gyfarfod ef ar 20 Mawrth 2018. Cyfeiriodd at y broses heriol o bennu’r gyllideb a’i bryder, pe na chodid ffioedd parcio ceir i dalu costau llawn darparu’r gwasanaeth, y byddai’n rhaid dod  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Y Cyhoedd a'r Wasg a Oedd yn Bresennol

Cofnodion:

Nid oedd dim un aelod o’r cyhoedd yn bresennol a dim ond un aelod o’r wasg.