Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting Delyn Committee Room, County Hall, Mold

Cyswllt: Nicola Gittins / Maureen Potter / Sharon Thomas / 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk / E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk / E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

20.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Attridge gysylltiad personol gan fod ei wraig a'i ddwy ferch yn gweithio i'r Awdurdod ym maes gofal cymdeithasol.

 

            Datganodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst gysylltiad personol gan fod ei wraig yn gweithio fel goruchwyliwr amser cinio yn yr ysgol leol.

 

Datganodd y Cynghorydd Ted Palmer gysylltiad personol gan fod ei bartner a'i ferch yn gweithio i'r Awdurdod.

 

Datganodd y Cynghorydd Roz Mansell gysylltiad personol gan fod ei chwaer yn gweithio i’r Gwasanaethau Stryd.

 

Datganodd y Cynghorydd Gillian Brockley gysylltiad personol gan fod ei brawd yn gweithio i'r Awdurdod.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Palmer a oedd y cysylltiad personol hwn wedi'i ddatgan ar y ffurflen Cofrestru Cysylltiadau pan gafodd Cynghorwyr eu penodi gyntaf, a fyddai angen ei ddatgan o hyd.  Mewn ymateb eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd y ffurflen hon yn cynnwys cwestiwn ynghylch a oedd aelod o'r teulu yn gweithio i'r Cyngor Sir.  Roedd hon yn ffurflen benodedig ond i'r mwyafrif helaeth, ni chafodd unrhyw effaith ar unigolion na'r sefydliad.  Darparodd wybodaeth am y digwyddiadau posibl lle byddai angen hyn, a dyna pam ei fod wedi'i gynnwys yn y Cod. Nid oedd rôl partneriaid yr Aelodau hynny a oedd wedi datgan cysylltiad wedi amharu ar eu rôl fel Cynghorydd.

21.

Cofnodion pdf icon PDF 104 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 8 Tachwedd 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2023 i’w cymeradwyo.  

 

Materion yn codi

 

Gofynnodd y Cynghorydd Antony Wren i’r newidiadau canlynol gael eu gwneud:

Tudalen 5, paragraff 4 – newid y gair basis yn y Saesneg i basic.

Tudalen 7, paragraff cyntaf – newid y gair employees yn y Saesneg i employers.

Tudalen 8  Cwestiwn 3 - roedd enw’r Cynghorydd Paul Johnson wedi ei sillafu'n anghywir.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Wren am ddiweddariad ar y Cynllun Beicio i'r Gwaith. Cytunodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd i ddosbarthu’r wybodaeth yn dilyn y cyfarfod.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am ddiweddariad ar yr ymgynghoriad ar Lwfansau i bob Aelod etholedig a chyfetholedig. Roedd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn deall bod hyn wedi'i gwblhau ond cytunodd i wirio hynny ac adrodd yn ôl.

 

            Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwywyd y cofnodion yn rhai cywir gan y Cynghorydd Ted Palmer ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Linda Thew.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiadau, fod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

22.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:  Cytuno ar eitemau o fusnesau i gael eu trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Waith i'w hystyried, a rhoddodd wybodaeth am yr eitemau rheolaidd ynghyd â'r rhai a drefnwyd ar gyfer y cyfarfodydd sydd i ddod ym mis Mawrth a mis Mehefin.  Wrth symud ymlaen, awgrymwyd cynnwys adroddiad olrhain camau gweithredu, tebyg i bwyllgorau eraill i gynorthwyo aelodau'r pwyllgor.

 

Cymeradwywyd yr argymhellion yn yr adroddiad fel y'u cynigiwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Waith ddrafft a chymeradwyo / newid yn ôl yr angen.

(b)      Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio'r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

 

 

23.

Adolygiad Treigl o God Ymddygiad yr Aelodau pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:  Cymeradwyo’r newidiadau a argymhellwyd gan y Pwyllgor Safonau i’r Cod Ymddygiad i Gynghorwyr fel rhan o adolygiad parhaus o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Adolygiad Penn wedi argymell bod Cynghorau ledled Cymru yn ystyried a ddylent gysoni'r lefel yr oedd yn ofynnol i Aelodau ei datgan ynghylch derbyn rhoddion a lletygarwch.  Eglurwyd bod y Cynghorau ar hyn o bryd yn dewis eu ffigyrau eu hunain, a oedd yn amrywio o £0 hyd at £50. Yn dilyn trafodaeth yn Fforwm Cenedlaethol Cadeiryddion y Pwyllgor Safonau, cytunwyd y byddent yn ceisio cysoni'r lefelau i tua £25.  Nid oedd y Fforwm yn gorff gwneud penderfyniadau, ac roedd yn ofynnol i'r Cyngor benderfynu a ddylid mabwysiadu'r ffigur a argymhellwyd yn ffurfiol ai peidio.  Roedd hyn wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Safonau, a oedd yn hapus i dderbyn y ffigwr hwn.  Roedd angen penderfyniad gan y pwyllgor hwn cyn ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bernie Attridge ar nifer y datganiadau a wnaed gan Aelodau, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ei fod wedi cael dau neu dri yn y 12 mis diwethaf.  Eglurodd fod Richard Penn wedi'i benodi gan Lywodraeth Cymru (LlC) i adolygu gweithrediad y Fframwaith Moesegol, a gwnaeth yr argymhelliad i geisio cysoni'r ffigur a sicrhau cysondeb ledled Cymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn eglurhad gan y Cynghorydd Gillian Brockley ynghylch derbyn sawl rhodd gan yr un ffynhonnell, cyfeiriodd y Prif Swyddog at baragraff 17.2 o'r Cod a oedd yn amlygu'r gwerth presennol.  Roedd hyn yn ymwneud ag aelod yn derbyn cyfres o roddion neu letygarwch, a oedd yn is na'r trothwy i'w datgan, ond a allai gynyddu dros amser.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Johnson pam y byddai cynghorwyr yn derbyn unrhyw rodd gan eu bod yn cael eu talu i wneud eu swydd. Roedd yn ddigon hapus i gadw'r lefel ar £10. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst fod hyn wedi cael ei drafod gan y Pwyllgor Safonau, a theimlai nad oedd y ffigwr o £25 gyda therfyn o £100 yn afresymol o ystyried y cynnydd mewn chwyddiant ers penderfynu ar y ffigur blaenorol o £10.   Teimlai ei bod yn bwysig pe bai Aelodau'n cael cynnig neu'n derbyn rhoddion o unrhyw swm, yna y dylid datgelu'r rhain ac anfon nodyn atgoffa at yr Aelodau o'r gweithdrefnau i sicrhau y cydymffurfir yn llawn â'r Polisi hwn.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at y paragraff yn y Cod a oedd yn nodi bod yn rhaid i Aelodau wrthod unrhyw rodd neu letygarwch, beth bynnag fo'r gwerth, pe bai'n ymddangos eu bod yn cael eu gosod dan unrhyw rwymedigaeth.

 

Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn dymuno cynnig bod y swm yn aros yr un fath, ar £10, ac y dylid ei ddatgan.   Roedd yn rhaid i'r aelodau fod yn sicr nad oeddent yn derbyn unrhyw beth a allai eu rhoi mewn sefyllfa anodd.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cynghorydd Attridge wedi gwneud cynnig i beidio â dilyn argymhelliad y swyddog i'r swm aros yr un fath.

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Paul Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cytuno bod gwerth  ...  view the full Cofnodion text for item 23.

24.

Adolygiad Treigl o God Ymddygiad y Gweithwyr pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:  Fel rhan o’r adolygiad treigl o’r Cyfansoddiad, mae angen i ni ystyried a oes angen unrhyw ddiwygiadau i’r Cod Ymddygiad y Gweithwyr i’w ddiweddaru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Codau a'r Protocolau o fewn y Cyfansoddiad yn cael eu hadolygu'n barhaus i sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn berthnasol.  Roedd y ddogfen hon yn rhan o Gontract Cyflogaeth y Gweithwyr a byddai'n cael ei gorfodi drwy gamau disgyblu.  Eglurwyd bod y Cod Ymddygiad statudol ar gyfer gweithwyr yn wahanol i God Ymddygiad yr Aelodau.  Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog at yr adroddiad ac eglurodd mai'r testun mewn print trwm oedd y testun statudol, gyda'r testun annelwig yn cyfeirio at wybodaeth ychwanegol neu ofynion a ychwanegwyd gan y Cyngor Sir dros y blynyddoedd.  Cafodd y Cod ei adolygu, ac argymhellwyd nifer o newidiadau yn dilyn trafodaeth gan y Pwyllgor Safonau. Maent wedi’u crynhoi ym mhwynt 1.04 yr adroddiad.  Darparwyd gwybodaeth am y newidiadau a'r ychwanegiadau a oedd yn ymwneud ag ymddygiad, sefyll mewn etholiad, datganiadau cyhoeddus yn beirniadu'r Awdurdod, defnydd o TG a chod gwisg, a oedd hefyd wedi'u cynnwys.   

 

  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ar adran 2.3 o’r cod arfaethedig, awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y dylid cynnwys y frawddeg ganlynol.  

 

 “Gallai cynefindra personol agos rhwng gweithwyr a chynghorwyr unigol yn y gweithle niweidio'r berthynas a phrofi’n embaras i weithwyr eraill.”    Awgrymwyd y dylid cynnwys brawddeg arall ar gyfer sefyllfa pan mae Cynghorwyr a gweithwyr mewn perthynas, yn nodi ei bod yn ddyletswydd ar y gweithiwr i ddatgan hynny i'w rheolwr atebol.

 

Mewn ymateb i ail bwynt y Cynghorydd Ibbotson ynghylch adran 5.01, teimlai’r Prif Swyddog ei bod yn briodol trafod yn llawn yr holl faterion a sylwadau a oedd gan yr aelodau.  Cadarnhawyd y byddai sylwadau’r pwyllgor hwn yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor llawn.  Cadarnhaodd hefyd, pe ceid unrhyw bryderon neu angen gwirio ddwywaith gydag aelodau'r pwyllgor, yna byddai hyn yn cael ei wneud drwy e-bost i sicrhau bod yr holl sylwadau'n cael eu cynnwys cyn cwblhau'r adroddiad terfynol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bernie Attridge ar y mecanwaith adrodd ar gyfer Cod Ymddygiad Swyddogion, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod paragraff 8 y Cod yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion ddatgan cysylltiad lle gallai eu bywydau preifat wrthdaro â'u dyletswydd gyhoeddus.  Amlinellodd y gwahaniaethau rhwng Cod y Swyddogion a Chod yr Aelodau ac eglurodd sut yr ymdriniwyd â hyn ym mharagraff 8.  Roedd yn ymwneud â’r posibilrwydd rhag ofn y byddai’r angen yn codi.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson yr argymhelliad gyda newid bach - “bod y Pwyllgor yn nodi’r newidiadau sy’n cael eu hargymell gan y Pwyllgor Safonau i’r Cyngor Llawn i’w mabwysiadu.”

 

            Awgrymodd y Prif Swyddog fod hyn yn cael ei newid yn dilyn y cyfarfod i ymgorffori'r newidiadau a awgrymwyd ym mharagraffau 2.3 a 5.1.

 

Cymeradwywyd yr argymhellion yn yr adroddiad fel y'u cynigiwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson, a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r newidiadau sy'n cael eu hargymell gan y Pwyllgor Safonau i'r Cyngor Llawn i'w mabwysiadu.

 

25.

Adolygu Meintiau Pwyllgorau pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:  Ystyried gosod odrif o faint Pwyllgorau ac ail-gyfrifo Cydbwysedd Gwleidyddol i adlewyrchu'r meintiau newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno'r adroddiad, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at y sylwadau a wnaed ynghylch maint pwyllgorau yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Llawn y llynedd.  Darparwyd gwybodaeth am y gwaith a wnaed a chyfeiriwyd y pwyllgor at y tabl ym mharagraff 1.06 o'r adroddiad.  Amlinellodd y Prif Swyddog ei resymeg a’r anawsterau a gafodd yn ceisio sicrhau bod yr holl grwpiau’n cael eu cynrychioli.   Amlinellwyd cymhlethdodau cynyddu neu leihau nifer y seddau ar bwyllgorau, tra'n sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Rheolau Cydbwysedd Gwleidyddol.  Eglurwyd hefyd fod rhai pwyllgorau, megis y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a’r Pwyllgor Cynllunio a Safonau, wedi'u diystyru gan fod yr aelodaeth ar gyfer y rhain yn wahanol.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge y byddai’n pleidleisio i hyn aros fel y mae.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson at yr enghraifft a gofynnodd tybed a fyddai o gymorth pe bai’r blaid Lafur yn colli un sedd ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedol a Thai, yr oedd ganddi 6 sedd ar ei gyfer. Byddai wedyn yn ennill sedd ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, lle'r oedd gan y gr?p Llafur ddwy sedd a'r Gr?p Annibynnol 3.  Byddai hyn yn sicrhau nad oedd unrhyw newidiadau yn nyraniad y Gr?p Llafur, gan ddileu’r mwyafrif ar unrhyw bwyllgor. Byddai’r sedd ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedol a Thai yn dod ar gael ar gyfer y gr?p hwnnw a fyddai’n colli sedd ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

 

            Mewn ymateb dywedodd y Prif Swyddog fod hyn yn gyfreithlon ac na allai weld problem gydag o.  Os oedd yr Aelodau'n dymuno lleihau'r maint i 11 yna roedd yn hapus i ddechrau gweithio ar hyn.  Teimlai fod y drefn bresennol yn gweithio oherwydd y ffordd yr oedd aelodau'n dewis gweithredu'r rheolau, gyda seddau'n cael eu dyrannu i bobl oedd â diddordeb mewn gwaith pwyllgor penodol.  Dyna pam yr oedd yr Aelodau’n hapus gyda’r sefyllfa bresennol.  

 

            Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson ei fod yn teimlo bod y ffordd yr oedd y seddi'n cael eu dyfarnu ar gydbwysedd gwleidyddol yn gweithio'n dda, ac ni allai weld unrhyw reswm i newid y sefyllfa bresennol.

 

            Teimlai’r Cynghorydd Arnold Woolley hefyd nad oedd angen newid y system bresennol gan ei bod yn gweithio’n dda. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ted Palmer yr argymhelliad ac fe’i heiliwyd gan y

Cynghorydd Paul Johnson

PENDERFYNWYD:

Bod meintiau pwyllgorau yn aros fel ag y maen nhw.

26.

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Weithdai Aelodau, Briffiadau a Seminarau pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:  Diweddariad ar Seminarau, Sesiynau Briffio a Gweithdai Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad, gan roi trosolwg o'r cynllun hyfforddi a datblygu i Aelodau a oedd yn seiliedig ar y Canllawiau Statudol ac Anstatudol ar gyfer Prif Gynghorau Cymru, gydag Atodiad 1 yn amlygu gwybodaeth berthnasol ar hyn.  Esboniodd fod y wybodaeth wedi'i rhannu'n ddwy adran, a hyfforddiant gorfodol mewn perthynas â rôl Cynghorydd ar Bwyllgorau Cynllunio a Thrwyddedu. Byddai adroddiadau dilynol yn cael eu cyflwyno i'r pwyllgor ynghylch presenoldeb yn y sesiynau hyfforddi gorfodol hyn.  Byddai'r rhan fwyaf o'r sesiynau hyfforddi'n cael eu cyflwyno'n fewnol, a byddai'r opsiwn i'w cynnal wyneb yn wyneb neu o bell. Darparodd CLlLC hefyd sesiynau o bell i Aelodau, ynghyd â sesiynau o bell gan Adnoddau Dynol i Aelodau eu cwblhau yn eu hamser eu hunain, ar bynciau megis hyfforddiant Cyber ??Ninja.  

 

            Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y rhestr ar gyfer sesiynau gorfodol yn seiliedig ar y modiwlau yr oedd yn ofynnol i weithwyr eu cyflawni.  Awgrymwyd y dylid eu hail-enwi fel bod yr Aelodau'n cwblhau Hyfforddiant Seiberddiogelwch a Chydraddoldeb, er enghraifft.  Gallai ehangu’r pynciau leihau'r nifer yr oedd yn ofynnol i aelodau eu cwblhau.   Awgrymodd y dylid cynnwys Lleihau Carbon ac Ymwybyddiaeth Amgylcheddol, sef sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni statws carbon niwtral erbyn 2030.   Roedd gan y Cyngor Bolisi Lleihau Carbon a Phwyllgor Newid Hinsawdd ond ni ellid cyfyngu hyn i waith un pwyllgor. Roedd yn bwysig bod yr holl Aelodau yn ymwybodol o'r hyn sydd ei angen i’w gyflawni.

 

            Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y Canllawiau yn caniatáu ar gyfer cynnwys mwy o sesiynau.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Bernie Attridge at dudalen 77, Technoleg Gwybodaeth Cyffredinol, a dywedodd fod aelodau'r Pwyllgor Cynllunio wedi gofyn am hyfforddiant ychwanegol ar y system TG. Byddai pob aelod yn elwa o hyn a dywedodd ei fod yn flaenoriaeth.  Roedd y Pwyllgor Safonau ac yntau wedi gwneud cais am Gyfryngau Cymdeithasol a Chyfathrebu.  Roedd hefyd yn meddwl tybed a allai rhywun o Swyddfa’r Ombwdsmon fod yn bresennol i roi arweiniad ynghylch yr hyn y gallai Aelodau ei rannu ar eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol preifat.  Cyfeiriodd at y rheolau a’r rheoliadau ynghylch rhyddid i lefaru ar sylwadau a wnaed gan Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad na chaniateir i Gynghorwyr Sir eu gwneud.  Roedd angen canllawiau clir ar gyfer Cyfryngau Cymdeithasol, a darparwyd yr hyfforddiant hwnnw gan Swyddfa’r Ombwdsmon

            Cadarnhaodd y Prif Swyddog ei fod wedi siarad â'r hyfforddwyr cyn y Nadolig ynghylch Cyfathrebu â Pharch, yn enwedig ynghylch sut i drin pobl â pharch hyd yn oed pan fyddwch yn anghytuno â nhw.  Roedd wedi bod ar eu holau eto.  Cyfeiriodd at y Cod Ymddygiad ar gyfer San Steffan a'r Senedd, a oedd yn is na'r safonau a ddisgwylir ar gyfer cynghorwyr lleol. Yna rhoddodd drosolwg o'r rhesymau dros ffurfio Pwyllgor Nolan.   Darparwyd amlinelliad o’r rolau gwahanol rhwng Aelodau Seneddol, Aelodau’r Senedd a chynghorwyr lleol.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson y cynigion a gyflwynwyd gan y Prif Swyddog, yn arbennig y rhai ynghylch Newid Hinsawdd.  Fodd bynnag, roedd ganddo bryderon ynghylch nifer y  ...  view the full Cofnodion text for item 26.

27.

Aelodau'r Cyhoedd a'r wasg hefyd yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.