Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Jan Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

14.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cofnodwyd cysylltiad personol ar gyfer holl Aelodau'r Pwyllgor a oedd yn bresennol ar gyfer eitem 5 ar y rhaglen - Adroddiad Blynyddol Drafft IRPW 2024/25.

15.

Cofnodion pdf icon PDF 62 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 28 Medi 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi 2023, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Ted Palmer a Steve Copple.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â’r Cynllun Datblygu drafft gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai'r Cynllun yn barod o fewn y pythefnos nesaf ac y byddai'n cael ei ddosbarthu i aelodau'r pwyllgor.

 

            Cafodd y cofnodion eu cynnig fel cofnod cywir gan y Cynghorydd Ted Palmer a’u heilio gan y Cynghorydd Steve Copple.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

 

16.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 82 KB

Cytuno ar eitemau o fusnesau i gael eu trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y rhaglen waith i’w hystyried. Yna rhoddodd drosolwg o'r eitemau rheolaidd a oedd yn gynwysedig ynghyd â'r eitemau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfodydd i ddod ym mis Ionawr, mis Mawrth a mis Mehefin.

 

            Cymeradwywyd yr argymhellion yn yr adroddiad fel y'u cynigiwyd gan y Cynghorydd Arnold Woolley ac eiliwyd gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Waith ddrafft a chymeradwyo / newid yn ôl yr angen.

(b)      Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio'r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

 

17.

Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2024/25 pdf icon PDF 117 KB

Cael yr Adroddiad Blynyddol Drafft ar gyfer 2024/2025.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) ac eglurodd ei fod wedi'i ddosbarthu i bob Awdurdod Lleol a Chynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o'r prif bwyntiau yn yr Adroddiad Blynyddol, gan fod yr IRPW yn gyfrifol am osod cyfraddau taliadau arfaethedig ar gyfer aelodau etholedig a chyfetholedig Awdurdodau Lleol Cymru ar gyfer 2024/25. Darparwyd gwybodaeth am y cynnydd sylfaenol i £18,666 ar gyfer Aelodau o 1 Ebrill 2024, ac mae'r tabl ym mhwynt 1.03 yn yr adroddiad yn amlygu'r newidiadau eraill a gynigir. Roedd yr holl gyflogau wedi'u hadolygu o dan y Cynllun Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) gyda fforddiadwyedd a thaliadau aelodau cyfetholedig yn ffocws ar gyfer eleni. Roedd y newidiadau a awgrymwyd wedi’u hamlygu ym mhwynt 1.06 yn yr adroddiad gyda'r holl benderfyniadau eraill megis costau teithio a gofal yn aros yr un fath. Rhoddwyd trosolwg hefyd o'r newidiadau i ddulliau adrodd ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Yna cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd at y goblygiadau o ran adnoddau a dywedodd ei fod yn gofyn i unrhyw Aelod nad yw’n dymuno derbyn y cynnydd ysgrifennu ato'n uniongyrchol. Roedd pwynt 1.10 yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y cwestiynau oedd yn cael eu gofyn gan yr IRPW gyda gwybodaeth gefndir wedi'i hamlygu i'r aelodau. I gloi, esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod barn y Pwyllgor yn cael ei geisio cyn i’r Cyngor gyflwyno ymateb i’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol erbyn 8 Rhagfyr 2023. Roedd yn ofynnol i’r IRPW ystyried unrhyw sylwadau a wneir am yr adroddiad drafft cyn cyhoeddi’r adroddiad terfynol ym mis Chwefror 2024.

 

Roedd gan y Cynghorydd Ted Palmer bryderon ynghylch y pwysau gan gyfoedion ar Aelodau i dderbyn y cynnydd hwn a soniodd ei fod wedi mynychu cyfarfod Cymdeithas Cynghorau Lleol Gogledd Cymru lle'r oedd cynrychiolwyr IRPW yn bresennol. Wrth ofyn yr un cwestiwn iddyn nhw, cadarnhawyd nad oeddent wedi’u deddfu i orfodi’r cynnydd hwn ond y gallai awdurdodau lleol lobïo Llywodraeth Cymru i newid y sefyllfa. Gofynnodd sut yr oedd yr awdurdod yn lobïo'r llywodraeth i newid y broses.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod modd cysylltu â'r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru ond awgrymwyd hefyd y dylid cynnwys hyn fel rhan o'r adborth i'r adroddiad hwn.  Pe bai'r farn hon yn cael ei mynegi ar draws holl Gynghorau Cymru, yna byddai'n cael ei chynnwys yn yr adroddiad adborth.  Cytunodd hefyd i gysylltu â CLlLC i weld a oeddent wedi derbyn adborth tebyg.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Palmer at bwysau gan gyfoedion a gofynnodd a oedd yn hysbys p’un a oedd unrhyw bwysau sgorio pwyntiau gwleidyddol yn berthnasol, oherwydd mae’n bosibl bod rhai pobl yn dibynnu ar y lwfans uwch a bod ei angen arnynt.  Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod yna thema a geiriad yn yr adroddiad a oedd yn adlewyrchu hynny.  Roedd yr IRPW yn ceisio annog a chynyddu amrywiaeth o fewn Cynghorau ac mae’n bosibl bod cydnabyddiaeth ariannol yn unig incwm i  ...  view the full Cofnodion text for item 17.

18.

Cartrefi Gofal Preswyl pdf icon PDF 105 KB

I ddiweddaru Aelodau o’r camau gweithredu hyd yma yn dilyn Rhybudd o Gynnig yn ymwneud â thrwyddedu cartrefi symudol preswyl.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes yr adroddiad a oedd yn dilyn y Rhybudd o Gynnig a basiwyd yn y Cyngor Llawn ar 20 Mehefin 2023 mewn perthynas â thrwyddedu cartrefi symudol preswyl, gyda'r penderfyniadau yn cael eu hamlygu ym mhwynt 1.01 o'r adroddiad.   Rhoddwyd trosolwg o ddiben a chraffu ceisiadau trwyddedu a oedd yn caniatáu i drigolion y safleoedd gyflwyno sylwadau.  Ar hyn o bryd y pwyllgor trwyddedu oedd yn gyfrifol am ddirprwyo, ond yn ymarferol roedd y rhain wedi'u dirprwyo i swyddogion.  Trafodwyd hyn yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Trwyddedu ar 4 Hydref a phenderfynwyd y dylai unrhyw benderfyniadau ynghylch ceisiadau yn y dyfodol gael eu gwneud gan y pwyllgor trwyddedu llawn.  Roedd hwn yn argymhelliad yr oedd y Pwyllgor Trwyddedu yn dymuno ei wneud yn hytrach na’i fod yn cael ei ddirprwyo i is-bwyllgor neu i swyddogion a chytunwyd i ystyried pob cais o dan y broses hon.  Gan fod hwn yn newid sylweddol roedd hyfforddiant gorfodol arbenigol wedi'i drefnu ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor Trwyddedu a oedd bellach wedi'i agor i'r holl Aelodau petaent yn dymuno mynychu a byddai hyn yn darparu dirprwyon i'r Pwyllgor Trwyddedu pe bai angen. 

 

Yna esboniodd y Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes y byddai angen paratoi Polisi ar safonau ymgynghori gofynnol ar gyfer aelodau ward a thrigolion ac y byddai angen cymeradwyaeth y Cyngor Llawn maes o law.  Darparwyd gwybodaeth am y penderfyniadau allweddol ar gyfer ceisiadau a oedd yn cynnwys natur y penderfyniad a'r cyfnod ymgynghori 21 diwrnod arfaethedig a roddwyd i drigolion ar y safleoedd ac aelodau wardiau.   Ni chyfeiriwyd at y cyfnod ymgynghori yn neddfwriaeth 2013 ond yr hyn y cyfeiriwyd ato oedd y cyfnod yr oedd yn ofynnol i'r awdurdod wneud y penderfyniad os nad oedd y ddwy ochr yn cytuno o fewn amserlen o ddau fis.  Wrth gyflwyno'r cyfnod ymgynghori 21 diwrnod, teimlwyd bod hon yn amserlen gyraeddadwy a fyddai'n galluogi'r adroddiadau angenrheidiol a'r dogfennau ategol i gynorthwyo'r aelodau i fod yn barod.  I gloi, croesawodd y Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes arweiniad y Pwyllgor ar hyn ac anogodd unrhyw aelodau a hoffai fynychu’r hyfforddiant i wneud hynny.  

 

Cadarnhaodd y Cynghorwyr Antony Wren, Ted Palmer ac Ian Hodge y byddai ganddynt ddiddordeb mewn mynychu'r hyfforddiant. 

 

            Cadarnhaodd y Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes fod yr hyfforddiant ar-lein ar fore 4 Rhagfyr 2023.

 

 Adroddodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson mai ef oedd eilydd y Rhybudd o Gynnig gwreiddiol a'i fod yn dymuno cynnig argymhellion 1 a 3 yn yr adroddiad. Yna roedd yn dymuno gwneud mân ddiwygiad i argymhelliad 2. 

 

“I’r Aelodau gefnogi cyfnod ymgynghori o 21 diwrnod ar gyfer Aelodau Ward a thrigolion y safleoedd hyn a bod yr holl hysbysiadau yn cael eu hanfon trwy lythyr at bob eiddo a restrwyd ar gyfer Treth y Cyngor ar y safleoedd a bod y rhain yn amodol ar y penderfyniadau trwyddedu”.

 

Eglurodd y Cynghorydd Ibbotson fod nifer anghymesur o drigolion ar y safleoedd hyn wedi'u heithrio’n ddigidol o’i gymharu â thrigolion eraill yn y sir.  ...  view the full Cofnodion text for item 18.

19.

Aelodau'r Cyhoedd a'r Wasg Hefyd yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.