Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

21.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

 

22.

Cofnodion pdf icon PDF 67 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 27 Tachwedd 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2019.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Peers fod penderfyniad (c) yng nghofnod rhif 18 yn y fersiwn Saesneg yn dweud ‘That the Committee’s view is that is would be more practical for any increases...’etc. Yn seiliedig ar hyn, cafodd y cofnodion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Arnold Woolley a Jean Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

23.

Adolygiad Pwyllgor pdf icon PDF 126 KB

Pwrpas:        I roi adroddiad cynnydd a galluogi’r pwyllgor i ystyried nifer o opsiynau a gwneud argymhellion i’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad am adolygiad o’r pwyllgorau a arweiniodd at yr argymhellion canlynol yn dilyn ymgynghoriad gydag Arweinwyr Gr?p:

 

·           Lleihau niferoedd Aelodau ar Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu o 15 i 12 a lleihau nifer y pwyllgorau hynny o chwech i bump drwy wahanu cylch gwaith presennol y Pwyllgor Trosolwg Chraffu Newid Sefydliadol. Roedd Arweinwyr Gr?p wedi gofyn fod pedwar opsiwn dros rannu’r llwyth gwaith ymysg y pum pwyllgor sy’n weddill yn cael eu rhoi gerbron yr Aelodau ac aelodau cyfetholedig.

 

·           Lleihau nifer yr aelodau ar y Pwyllgor Cynllunio o 21 (yr uchafswm cyfreithiol) i 17.

 

·           Lleihau niferoedd ar Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd o 21 i 16 (nid 18 fel sydd i’w weld yn yr adroddiad).

 

Cytunodd bawb y byddai newidiadau yn cael eu hargymell i’r Chyngor ar 27 Chwefror 2020 er mwyn cael effaith ar ôl y Cyfarfod Blynyddol.

 

Yn sgil cyfradd ymateb isel a heb unrhyw ddewis amlwg yn cael ei ffafrio, gofynnwyd i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd benderfynu ar ddewis a ffafrir o’r pedwar yn yr adroddiad.

 

Fe eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Arweinwyr Gr?p wedi cydnabod yr angen i wella presenoldeb a chyfranogiad mewn cyfarfodydd, gyda chynrychiolaeth deg o bob plaid wleidyddol ar y pwyllgorau mwy.  Cafodd pwyntiau eraill a gafodd eu codi gan Arweinwyr Gr?p eu cydnabod gan yr Arweinydd a gytunodd i leihau nifer Aelodau’r Cabinet ar y Pwyllgor Cynllunio. 

 

Cafodd copïau o drefniadau cydbwysedd gwleidyddol presennol eu dosbarthu, ynghyd â diwygiad yn dangos y newidiadau arfaethedig ac eithrio’r tri phwyllgor bach o’r cyfrifiad i sicrhau nad yw’r pleidiau gwleidyddol llai dan anfantais. Yn ôl y Prif Swyddog, o dan y ddeddfwriaeth, byddai unrhyw Aelod sy’n pleidleisio yn erbyn y cynigion cydbwysedd gwleidyddol yn y Cyfarfod Blynyddol yn arwain at ail gyfrifo i gynnwys y tri phwyllgor bach roedd pob plaid wleidyddol yn eu cynrychioli ar hyn o bryd.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad a fyddai’n helpu rhai pleidiau gwleidyddol i lenwi eu dyraniadau ar bwyllgorau. O ran lleihau niferoedd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, dywedodd ei fod yn cefnogi Dewis 4 gyda’r theatr yn symud ochr yn ochr ag Addysg a Hamdden a bod Awdurdod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn symud i Cymuned a  Menter.

 

Roedd y Cynghorydd Peers yn cefnogi Dewis 1 ar ôl derbyn y nifer uchaf o bleidleisiau yn yr ymgynghoriad. Dywedodd y dylai’r theatr barhau gydag Adnoddau Corfforaethol ac y byddai Datblygu Economaidd yn parhau gyda Cymuned a Menter, gyda meysydd Gwarchod y Cyhoedd – yn cynnwys Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cynllunio Rhag Argyfwng ac ati - yn dod o dan yr Amgylchedd er mwyn adlewyrchu strwythur portffolio.

 

Wrth ddiolch i swyddogion am yr adroddiad, siaradodd y Cynghorydd Heesom i gefnogi Dewis 1 sef llai o aelodaeth, ond awgrymodd y dylai’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Amgylchedd gadw 15 aelod yr un ar sail eu cylch gwaith estynedig.

 

Croesawodd y Cynghorydd Johnson yr adolygiad a’r gostyngiad mewn aelodaeth allai help i  ...  view the full Cofnodion text for item 23.

24.

Datblygu ac Ymgysylltu Aelodau pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad i’r pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad cynnydd diweddaraf am ddigwyddiadau Datblygu ac Ymgysylltu ag Aelodau sydd wedi cael eu cynnal ers y diweddariad diwethaf ym mis Hydref.  Fel diweddariad ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, cafodd Aelodau eu gwahodd i weithdy Newid Hinsawdd ar fore 25 Chwefror neu sesiwn fin nos ar 5 Mawrth 2020. Byddai rhagor o weithdai’n cael eu trefnu ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf, Cynllun y Cyngor, Trais Domestig a Gwerth Cymdeithasol. Cafodd aelodau eu hannog i gyflwyno argymhellion ar gyfer hyfforddiant a datblygu ar destunau eraill.

 

Cynigiodd y Cynghorydd David Healey weithdy ar rwymedigaethau Adran 106 a Lleoliadau Diwydiannol Strategol (SILS) i roi eglurder i Aelodau ar gyfraniadau datblygwyr. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bithell. Siaradodd y Cynghorwyr Hessom a Peers o blaid y gweithdai, ac fe awgrymodd y Cynghorydd Peers fod mwy o ffocws ar waith cynllunio cyn ymgeisio megis ymgynghoriad gyda’r adran Priffyrdd.

 

Fe soniodd y Cynghorydd Peers am weithdy diweddar oedd yn ymdrin â Llinellau Sirol, ond mynegodd bryderon am bresenoldeb isel o ystyried pwysigrwydd y pwnc. Gofynnodd i’r Cynghorydd David Healey ystyried rhannu sleidiau’r cyflwyniad gyda Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a’i ddosbarthu i Benaethiaid Ysgolion Uwchradd.

 

Roedd y Cynghorydd Healey hefyd yn bresennol yn y gweithdy, roedd yn croesawu’r cyfle i godi ymwybyddiaeth a gofynnodd i’r eitem gael ei hychwanegu at Raglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Johnson recordio’r sesiynau hyfforddi er mwyn i’r Aelodau oedd methu bod yn bresennol allu elwa. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r Gweithdy Llinellau Sirol yn cael ei ailadrodd ar sawl achlysur ac y byddai pob Aelod yn cael gwahoddiad. Mewn cysylltiad ag awgrym y Cynghorydd Smith ar gyfer sesiwn min nos, dywedodd y byddai’n holi Heddlu Gogledd Cymru pwy oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r gweithdy.

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts oedd yn bresennol yn yr oriel gyhoeddus, fod Llinellau Sirol yn bryder mawr ymhob cymuned, ac roedd disgyblion yn cael eu gwahardd yn barhaol o ysgolion mewn perygl.  Gofynnodd fod yr adroddiad a gafodd ei ystyried yng nghyfarfod Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus diweddar yn cael ei wneud yn ddi-enw a’i rannu gydag Aelodau er mwyn tynnu sylw at y ffaith fod hyn yn effeithio ar bawb.

 

Roedd y Cynghorydd Jones hefyd yn bresennol, ac fe soniodd am nifer o sesiynau hyfforddi Llinellau Sirol oedd wedi bod yn boblogaidd iawn a dywedodd y gellir gwneud cais am ragor trwy Fiona Mocko.  Dywedodd fod dolen am y sesiwn hyfforddi ar gael gan Fiona i’w rannu gydag Aelodau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bithell fod Llinellau Sirol/cam-fanteisio’n rhywiol ar blant yn broblem oedd yn lledaenu o ddinasoedd i drefi a phentrefi.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Heesom ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi cynnydd y digwyddiadau Datblygu ac Ymgysylltu ag Aelodau a gynhaliwyd ers yr adroddiad diwethaf;

 

 (b)      Bod yr hyfforddiant awgrymedig ar gyfraniadau Adran 106 a Llinellau Sirol yn cael eu gweithredu; a

 

 (c)      Os oes gan Aelodau unrhyw awgrymiadau ar gyfer Datblygu ac Ymgysylltu  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.