Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Jan Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Nodyn: moved from 7th March 2019 

Eitemau
Rhif eitem

21.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

22.

Cofnodion pdf icon PDF 70 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 29th Tachwedd 2018.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2018.   

 

Materion yn codi:

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dunbar i’r cofnodion adlewyrchu ymddiheuriadau ganddo ef a’r Cynghorydd Paul Shotton. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

23.

Adolygiad o God Ymarfer Cynllunio'r Cyngor. pdf icon PDF 75 KB

Fel rhan o’r adolygiad treigl y Cyfansoddiad, mae’r Pwyllgor Safonau wedi argymell diweddariadau i God Ymddygiad Cynllunio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro a oedd yn darparu gwybodaeth am yr adolygiad a gynhaliwyd gan Bwyllgor Safonau Cod Ymarfer Cynllunio’r Cyngor.  Roedd y ddogfen hon yn ffurfio rhan o Gyfansoddiad y Cyngor ac yn cwmpasu amrywiaeth o faterion yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio’r Cyngor. Cyfrifoldeb y Pwyllgor Safonau oedd adolygu’r holl brotocolau yn y Cyfansoddiad i sicrhau eu bod yn gyfredol.  Gwallau teipograffyddol oedd yr argymhellion yn bennaf ac roeddent wedi cael eu hamlygu. Y newid mawr cyntaf oedd newid “gall y cynghorydd” i “mae’n rhaid i’r cynghorydd” trwy gydol y ddogfen. Yr ail newid oedd ym mharagraff newydd 4.07 y Cod i amlinellu ymgysylltiad Aelodau’r Cabinet â’r Pwyllgor Cynllunio a’r goblygiadau i fuddiannau personol a rhagfarnol. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Dunbar at 5.5. yn yr adroddiad a cheisiodd eglurhad i p’un a ddylai ef fel aelod lleol geisio cyngor cyn cyfarfod gyda phreswylwyr i drafod cais cynllunio lle byddai gofyn iddo ddarparu cyngor neu ymateb i gwestiynau.   Mewn ymateb, cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod yr egwyddor yn parhau yr un fath sef, os yw Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio yn ochri ag un ochr fel Aelod lleol ac yn penderfynu gwrthwynebu datblygiad, yna ni ddylai eistedd fel Aelod o'r Pwyllgor a dim ond ymddangos fel Aelod lleol.


           
Holodd y Cynghorydd Mike Peers sut y cofnodir hyfforddiant aelodau ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio i sicrhau bod seddi gwag yn cael eu llenwi’n brydlon o bob plaid wleidyddol. Awgrymodd ef y byddai’n ddarbodus i fwy o Aelodau gael eu hyfforddi i eistedd ar y Pwyllgor ac nid fel dirprwyon yn unig.Yna cyfeiriodd at y newidiadau a wnaethpwyd gan y Pwyllgor Safonau a gofynnodd a ddylai'r ddogfen gael ei rhoi i'r Gr?p Strategol Cynllunio cyn y Cyngor Sir rhag ofn bod mwy o newidiadau yr hoffent eu gwneud. Awgrymodd y dylid newid argymhelliad rhif 2 i ddweud y dylai’r Cod Ymarfer Cynllunio gael ei adrodd wrth y Gr?p Strategol Cynllunio cyn y Cyngor Sir.  Mewn ymateb i hynny, cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro ei fod yn syniad da i’r Gr?p Strategol Cynllunio ystyried y Cod Ymarfer ond roedd yr adroddiad hwn yn rhan o adolygiad y Pwyllgor Safonau ar faterion yn ymwneud â chod ymddygiad o fewn y Cod Ymarfer a dyna pam y daeth at y Pwyllgor hwn cyn y Cyngor Sir. Awgrymodd ef, pe bai adroddiad ar wahân yn cael ei roi i’r Gr?p Strategol Cynllunio i edrych ar newidiadau eraill, gallai hynny achosi oedi cyn i’r adroddiad fynd i’r Cyngor Sir.

 

Cytunodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd gyda sylwadau'r Cynghorydd Peers ond dywedodd mai newidiadau bach oedd y rhain. Cyfeiriodd at bwynt 4.7 yn yr adroddiad.  Roedd ef wedi gofyn yn bersonol i'r pwynt hwn gael ei gynnwys i ddarparu eglurhad i Aelodau'r Cabinet ac Aelodau. Nid oedd unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’r Polisi ond penderfyniad y Pwyllgor oedd a ddylai’r ddogfen gael ei rhoi i’r Gr?p Strategol Cynllunio cyn y Cyngor Sir.

 

            Holodd y Cynghorydd Ian  ...  view the full Cofnodion text for item 23.

24.

Cod Ymddygiad Swyddogion pdf icon PDF 81 KB

Fel rhan o’r adolygiad treigl y Cyfansoddiad, mae’r Pwyllgor Safonau wedi argymell diweddariadau i God Ymddygiad Swyddogion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) a eglurodd bod y ddogfen yn cael ei hadolygu gan y Pwyllgor Safonau am yr un rhesymau â’r Cod Ymarfer Cynllunio.   Roedd y prif adolygiad yn ymwneud â’r ffordd y caiff cysylltiadau eu datgan a'r angen i ddarparu cyfres gyson o ffurflenni a chanllawiau i swyddogion.   Edrychodd yr adolygiad ar ffyrdd ymarferol o ymdrin â gwrthdaro.  Roedd y ddogfen hon wedi cael ei rhoi i’r Pwyllgor Safonau a’r undebau a oedd yn gefnogol i’r ffurflen newydd a’r canllawiau.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Bithell bod hwn yn adroddiad defnyddiol ac yna darparodd senario lle’r oedd swyddog cynllunio yn gweithio’n breifat y tu allan i’r cyngor yn creu cynlluniau ac ati ar gyfer cais cynllunio a gofynnodd sut y byddai'r gwrthdaro hwn yn cael ei nodi?   Cyfeiriodd wedyn at Ddatgan Cysylltiadau Aelodau ac awgrymodd y dylid atgoffa Aelodau i wirio eu ffurflenni a'u diweddaru yn ôl yr angen. Cyfeiriodd hefyd at y rhodd o £10 yr anogir Aelodau i’w gyfrannu at elusen y Cadeirydd a gofynnodd a oedd y rhoddion hynny’n cael eu cofnodi.

 

            Cytunodd y Cynghorydd Heesom bod hwn yn adroddiad defnyddiol a chyfeiriodd at gwestiwn a oedd yn arfer bod ar y ffurflen yn gofyn i aelod a oedd yn aelod o gymdeithas neu borthdy a gofynnodd a oedd datganiad tebyg ar gyfer Swyddogion y Cyngor.

 

            Mewn ymateb i hyn cyfeiriodd y Prif Swyddog at gwestiwn y Cynghorydd Bithell a dywedodd y byddai’n amhriodol i swyddog cynllunio greu cynlluniau a fyddai’n cael eu cyflwyno i’r Cyngor i’w cymeradwyo yn enwedig os yw’r swyddog hwnnw yn gysylltiedig â’r broses gymeradwyo, byddai hynny’n amlwg yn gwrthdaro. Pe bai pensaer sy’n gweithio i’r Cyngor yn creu cynlluniau ni fyddai hynny’n achosi gwrthdaro.Yn yr un modd gallai swyddogion trwyddedu neu gyfreithwyr ddod yn rhan o wrthdaro uniongyrchol.  O ran ail-gylchredeg Datganiadau Cysylltiadau Aelodau, cytunodd y gellid anfon nodyn atgoffa at bob Aelod

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog wedyn at roddion a dderbyniwyd gan weithwyr a bod y rhain gan gynnwys rhoddion o werth tybiannol yn cael eu cofnodi fel ‘gwrthodwyd’ neu ‘derbyniwyd a rhoddwyd i elusen y Cadeirydd’ er mwyn darparu trywydd archwilio.    O ran aelodaeth o sefydliadau allanol, roedd gofyn i uwch swyddogion neu deiliaid swyddi a gyfyngir yn wleidyddol i gofrestru eu cysylltiadau ond cofrestr wirfoddol oedd hon, nid un orfodol, oherwydd hawliau preifatrwydd o dan y Ddeddf Hawliau Dynol. Roedd yn orfodol fodd bynnag i ddatgan cysylltiad pe bai modd profi bod gwrthdaro yn bodoli. Roedd deddfwriaeth yn ei gwneud yn orfodol i swyddogion wneud hynny a oedd yn wahanol i’r un a ddilynir gan Aelodau.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Banks a oedd hyn wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Safonau.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod hynny wedi digwydd ym mis Ionawr a'u bod wedi ei gymeradwyo cyn belled a bo’r undebau yn cefnogi hynny. Roedd y newidiadau wedi cael eu cefnogi gan yr Undebau ym mis Mawrth er mwyn gallu rhoi’r adroddiad i’r Pwyllgor hwn

 

            Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Aelodau at y wefan  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

Datblygu ac Ymgysylltu Aelodau pdf icon PDF 76 KB

Darparu diweddariad i’r pwyllgor.

 

Cofnodion:

                        Adroddiad cynnydd oedd hwn a gyflwynwyd gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn darparu gwybodaeth am ddigwyddiadau Datblygu ac Ymgysylltu ag Aelodau a oedd wedi cael eu cynnal ers yr adroddiad diwethaf i’r Pwyllgor ar 17 Hydref 2018.  Cyfeiriodd yr Aelodau at bwynt 1.02 yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r gweithdai a’r sesiynau briffio a oedd wedi cael eu cynnal ers mis Hydref. Cwmpaswyd amrywiaeth o bynciau ac roedd y lefelau presenoldeb yn well mewn rhai gweithdai nag eraill ac yn anffodus bu’n rhaid canslo dau allan o dri o'r sesiynau’r Iaith Gymraeg gan nad oedd digon o Aelodau yn mynychu i gyfiawnhau cynnal tri sesiwn.  Roedd y Gweithdy Deall Adroddiadau Perfformiad wedi’i ail-drefnu ar gyfer 29 Ebrill am 10.00 am.

 

            Roedd y Cynghorydd Bithell yn siomedig ag ymateb Aelodau i’r Sesiynau Iaith Gymraeg gan fod hon yn fenter genedlaethol i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg. Dywedodd ei fod yn gyflwyniad ardderchog i’r saith Aelod a fynychodd ond dywedodd nad oedd yn adlewyrchiad da o’r Cyngor.

 

            Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod 63 allan o 70 Aelod wedi llenwi Holiadur yr Iaith Gymraeg yn hydref y llynedd a oedd yn uwch na’r rhan fwyaf o awdurdodau.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Healey am wybodaeth yngl?n â’r broses ar gyfer awgrymu gweithdai yn y dyfodol a dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y gallai unrhyw Aelod awgrymu gweithdy ac y byddai'n cael ei ystyried. Cyfeiriodd y Cynghorydd Healey wedyn at fformiwla ariannu Cymru sy’n cael ei rannu’n 70 o ddangosyddion a dywedodd bod angen trafodaethau i ddatblygu strategaeth ar gyfer hyn. Mewn ymateb cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd gyfeirio hyn at y gweithgor trawsbleidiol ar gyfer cyllid llywodraeth leol a gafodd ei gyfarfod cyntaf yn ddiweddarach yn y mis. Gallai ragweld gweithdai yn dod o’r gweithgor hwn yn y dyfodol. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at gyfarfod Arweinwyr Gr?p lle trafodwyd lefelau presenoldeb gwael mewn gweithdai. Awgrymodd ef y byddai’n fanteisiol pe bai Aelodau yn deall pam fod y gweithdy’n cael ei gynnal, pwy oedd wedi gofyn iddo gael ei gynnal a’r nod a’r budd o’i gynnal. Daeth y gweithdai o gyfarfodydd cyllideb neu gyfarfodydd Pwyllgor a byddai’n fuddiol i Aelodau gael y wybodaeth hon. O ran y sesiynau Iaith Gymraeg, teimlai mai dewis personol i Aelodau fyddai hynny i benderfynu a fyddent o gymorth iddynt yn eu rôl fel Cynghorydd. Pe bai Aelodau yn deall yr hyn sy’n ofynnol ganddynt fel Cynghorwyr a’u rhwymedigaethau i Lywodraeth Cymru (LlC) o dan Ddeddf yr Iaith, efallai y byddai mwy ohonynt wedi mynychu.

 

            Mewn ymateb i hyn dywedodd y Prif Swyddog bod rhwymedigaethau’r Cyngor yn cael eu gosod allan ym mholisi'r Cyngor a gobeithiai y byddai Aelodau’n cefnogi'r Cyngor i ddeall y materion sy'n gysylltiedig ag iaith a'r effeithiau hyd yn oed os nad oeddent yn dymuno dysgu'r iaith fel gwneuthurwyr polisi.   Ychwanegodd y Cynghorydd Peers bod hyn yn atgyfnerthu ei sylw cynharach bod angen darparu mwy o wybodaeth i Aelodau yngl?n â phwrpas y Gweithdy. Dywedodd y Cynghorydd Bithell nad sesiynau Cymraeg  ...  view the full Cofnodion text for item 25.

26.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.