Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

15.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

 

16.

Cofnodion pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 17 Hydref 2018.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2018.  Cyflwynodd yr Aelodau sawl awgrym i wirio gwallau teipio.  Derbyniwyd y rhain.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

17.

Cylch Gorchwyl a Siarter y Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        Gofyn i'r Aelodau gytuno i'r newidiadau i Gylch Gorchwyl a Siarter y Pwyllgor Archwilio, Erthygl Saith o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd Rheolwr Archwilio Mewnol Gylch Gorchwyl a Siarter y Pwyllgor Archwilio.  Roedd y rhain wedi’u diweddaru yn dilyn gweithdy ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Archwilio a’u halinio gyda chanllawiau CIPFA.   Cyfeiriodd yr aelodau at ddau gopi o’r Cylch Gorchwyl  ynghlwm, un gyda newidiadau wedi'u nodi ac amlinellodd y newidiadau i'r ddogfen a'r unig gyfrifoldeb ychwanegol oedd cynhyrchu Adroddiad Blynyddol i’r Cyngor Llawn.

 

                        Wrth gyfeirio at y Siarter, cadarnhaodd bod hyn yn elfen newydd ar gyfer yr Awdurdod ac roedd yn cynnwys mwy o fanylion ar y cylch gorchwyl, rolau a chyfrifoldebau y Pwyllgorau Archwilio a Chraffu a'r cysylltiadau gyda Gr?p Cyswllt y Cadeiryddion a'r Is-Gadeiryddion.   Cyflwynir y rhain i'w hystyried gan y pwyllgor ac wedi hynny byddent yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor Llawn eu cymeradwyo.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at y Mesur ac aelodaeth y Pwyllgor Archwilio.   Gwnaeth sylwadau ar lwyth gwaith helaeth y Pwyllgor ac awgrymu y dylid cynyddu maint y pwyllgor yn unol â’r pwyllgorau eraill.   Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gallai unrhyw newidiadau i faint Pwyllgorau gael eu hystyried yn y Cyfarfod Blynyddol, lle byddai hyn yn cael ei drafod.   O ran Mesur 2011, roedd y  cynigion yn yr adroddiad yn unol â gofynion a chanllawiau CIPFA.  Awgrymodd y Cynghorydd Heesom y dylid gofyn i’r Pwyllgor Archwilio a oeddent yn fodlon â chyfansoddiad y pwyllgor.  

           

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at Adran 8 (materion ariannol) a gofyn a ddylai'r Aelodau ystyried hyfywedd diwedd blwyddyn y cyngor.  Ychwanegodd bod cyfarfodydd Cyllideb yn cael eu cynnal ond cyfrifoldeb yr aelodau oedd adolygu a darparu sylwadau ar y wybodaeth a ddarparwyd iddynt.   Teimlai y byddai’n ddefnyddiol pe bai’r Pwyllgor Archwilio yn cynhyrchu adroddiad o’r wybodaeth y maent yn ei derbyn.    Cyfeiriodd hefyd at Atodiad A ar dudalen 55, y saeth o’r Pwyllgor Archwilio i’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a’r Datganiad Cyfrifon a gofyn a ddylid cael saeth deuffordd.   

 

            Mewn ymateb amlinellodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y meysydd sy’n rhan o reoli’r trysorlys a’u cyfrifoldebau o ran benthyca darbodus.   Roedd iechyd ariannol y cyngor yn cael ei ddarparu yn yr adroddiadau monitro cyllideb, ac yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ac yn y Cyngor wrth osod y gyllideb.   Mae'r Swyddog Adran 151 yn rhoi cyngor i’r aelodau wrth osod y gyllideb.    O ran y diagram yn Atodiad A teimla’r Prif Swyddog na fyddai’r Pwyllgor Archwilio yn atgyfeirio’r Datganiad Cyfrifon yn ôl i’r Cyngor ond argymell ei gymeradwyaeth i’r Cyngor.

 

Roedd Cynghorydd Peers yn deall sut yr oedd y broses yn gweithio ond yn teimlo y gallai’r Pwyllgor Archwilio wneud ail wiriad a darparu sicrwydd.   Ychwanegodd bod y diagram yn edrych fel nad oedd y Datganiad Cyfrifon a'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor Archwilio ond bod gofyn iddynt gyflwyno sylwadau arnynt.   Eglurodd y Prif Swyddog bod y dogfennau hyn yn deillio o'r Pwyllgor Archwilio ac eleni roedd Aelodau'r Pwyllgor Archwilio wedi cyfrannu mwy at baratoi'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.     O ran hyfywedd ariannol, roedd y Cabinet yn cynnig y gyllideb, yna byddai'n cael  ...  view the full Cofnodion text for item 17.

18.

Darpariaeth Gweddarlledu pdf icon PDF 95 KB

Pwpras:        Penderfynu pa un ai i barhau i weddarlledu cyfarfodydd y Cyngor Sir a’r Pwyllgor Cynllunio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a darparu cefndir i'r Pwyllgor ar gyllid ar gyfer darpariaeth gweddarlledu, gyda cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a'r Cyngor Llawn yn cael eu nodi ar gyfer gweddarlledu.   

 

                        Cyfeiriwyd y pwyllgor at dudalen 15 a oedd yn amlinellu’r ffigyrau gwylio.   Roedd yr aelodau’n gallu rhoi cyswllt ar eu blogiau i weddarllediadau y Cyngor Sir neu ‘r Pwyllgor Cynllunio.   Yna aeth y Swyddog ymlaen i egluro’r trefniadau cyllid.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Clive Carver at y ffigyrau gwylio a oedd yn galonogol ac at y datganiad ar dudalen 4 gan Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi bod gweddarlledu wedi gwella mynediad at fusnes y Cyngor.   Roedd archifo’r gweddarllediadau am gyfnod amhenodol yn ddefnyddiol iawn ond gofynnwyd am eglurhad ar y 60 awr o gynnwys wedi'i gynnal.   Cefnogodd hyn fel modd o “fuddsoddi i arbed” yn y dyfodol ac awgrymu bod y cyngor yn cytuno i 5 mlynedd.    Mewn ymateb eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd bod y 60 awr o gynnwys wedi’i gynnal yn cyfeirio at ddarllediadau o fewn blwyddyn ac nid oeddent yn cyfeirio at gynnal yr archif.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Carver at y cynnig bod cyfarfod cyllideb y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cael ei weddarlledu, a gobeithir y byddai hyn yn digwydd.    Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y byddai'r cyfarfod yn cael ei gynnal yn Siambr y Cyngor.   Awgrymodd y Cynghorydd Mike Peers y dylai cyfarfodydd cyllideb pwyllgorau Trosolwg a Chraffu eraill gael eu darlledu hefyd, gan ei fod yn sicr y byddai diddordeb gan y cyhoedd yn hyn.   Roedd yn credu pe na bai cyllid Llywodraeth Cymru yn parhau gallai hyn roi pwysau ar y gyllideb a cheisiodd sicrwydd o ran sut byddai’r pwysau’n cael ei ariannu a gofyn a ddylai'r penderfyniad gael ei wneud gan y Cyngor Sir.  

 

            Nododd y Cynghorydd Heesom bod peidio â chael cofnod ysgrifenedig gyda Chynllunio yn anodd pan fo ceisiadau’n mynd i apêl.   Roedd yn ei gefnogi ond ychwanegodd na ellir hepgor cofnod ysgrifenedig.     Mewn ymateb nododd y Prif Swyddog bod ansawdd y cofnodwyr yn rhagorol ond roedd recordio yn well mewn sawl achos gan ei fod yn rhoi mwy o wybodaeth gan na ellir nodi popeth o’r cyfarfod yn y cofnodion.   

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Banks a oedd Llywodraeth Cymru yn nodi bod hwn yn wasanaeth gorfodol ac os mai dyma’r achos a fyddai cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer hyn.   Cadarnhawyd bod Sir y Fflint yn cydweithio gyda’n pum cymydog i gael yr un gwasanaeth gan yr un darparwr.

 

            Holodd y Cynghorydd Banks a ellir tynnu mwy o sylw at weddarlledu ar y wefan i gynorthwyo’r cyhoedd i’w ganfod ac roedd yn teimlo y byddai'n well cyflawni cytundeb 5 mlynedd.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod y ddolen ar y dudalen flaen o dan Cyngor a Democratiaeth ond y gellir ystyried hyn fel rhan o'r gwaith o fewn y strategaeth ddigidol.

           

            PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi parhad y ddarpariaeth gweddarlledu, gyda hyd contract o 5 mlynedd.  

19.

Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2017/18 pdf icon PDF 72 KB

Pwpras:        Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Atgoffodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Pwyllgor bod Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu'n cael ei gyflwyno'n flynyddol.   Eleni roedd mwy o Flaenoriaethau Cynllun y Cyngor wedi’u nodi yn sylwadau’r Cadeirydd.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Mike Peers bod y teitl ar dudalen 65 "sut mae galw i mewn yn gweithio" yn cael ei newid i'r "broses o alw i mewn".   Cefnogodd y Pwyllgor yr awgrym hwn.

 

Diolchodd y Cynghorydd Patrick Heesom i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd a’i dîm am yr adroddiad ond cododd bryder bod cyfarfodydd y Cabinet yn cael eu cynnal yn y boreau a'r Cyngor Llawn yn y prynhawn gan ei fod yn teimlo bod angen mwy o fwlch rhwng cyfarfodydd y Cabinet a'r Cyngor Llawn er mwyn gallu hwyluso galw i mewn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn cyflwyno sylwadau ar ddrafft Adroddiad   Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2017/18: bydd y sylwadau’n cael            eu defnyddio i ddarparu rhagair i'r Adroddiad Blynyddol; ac

 

(b)       Os yw’r pwyllgor yn cymeradwyo’r adroddiad ei fod yn cael ei gyflwyno      i’r Cyngor yn y cyfarfod nesaf.

 

20.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.